Skip to main content
Canllawiau

Ychwanegu lleoliadau at awdurdodiad anfonydd neu dderbynnydd

Rhowch wybod i CThEF am leoliadau newydd yr hoffech eu defnyddio i ddechrau neu ddod â’ch symudiadau cludo i ben.

Cyn i chi ychwanegu lleoliadau

Os ydych eisoes yn dechrau neu’n dod â symudiadau cludo i ben o’ch safle eich hun, gallwch ychwanegu rhagor o leoliadau at eich awdurdodiad presennol. Gallwch ddysgu am y mathau o safleoedd y gallwch eu defnyddio i ddechrau neu ddod â symudiadau cludo i ben (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen i chi gael y math cywir o awdurdodiad cyn ychwanegu lleoliadau. Er enghraifft, ni allwch ychwanegu lleoliad ar gyfer anfonydd awdurdodedig os mai derbynnydd awdurdodedig yn unig ydych chi.

Bydd unrhyw leoliadau yr ydych yn eu hychwanegu yn gweithredu o dan yr un telerau ac amodau a’ch awdurdodiad presennol. Os ydych am ddiweddaru telerau ac amodau eich awdurdodiad, bydd angen i chi wneud hyn cyn ychwanegu rhagor o leoliadau.

Anfonwch e-bost at cctonational-simplifications@hmrc.gov.uk i ofyn am ddiweddaru’ch awdurdodiad.

Faint o leoliadau gallwch chi eu hychwanegu

Nid oes terfyn ar nifer y lleoliadau y gallwch eu cael o dan un awdurdodiad anfonydd neu dderbynnydd. Gallwch ychwanegu hyd at 20 lleoliad i bob ffurflen.

Gofynion i ychwanegu lleoliadau ar gyfer anfonydd awdurdodedig

Dylech wirio’ch swm cyfeirnod gwarant (yn agor tudalen Saesneg) cyn ychwanegu unrhyw leoliadau ar gyfer awdurdodiad anfonydd. Mae hyn er mwyn sicrhau y bydd eich gwarant yn cwmpasu’r symudiadau cludo rydych yn bwriadu eu gwneud o’ch safle newydd.

Mae angen i chi gadarnhau ar gyfer pob lleoliad newydd ar gyfer yr anfonydd awdurdodedig, ei fod:

  • yn safle masnachol addas a ddefnyddir ar gyfer gweithgarwch busnes cyfreithlon ac sy’n gallu cynnal rheolaethau tollau, gan gynnwys:

    • yn storio nwyddau’n ddiogel
    • yn cael trefniadau priodol ar gyfer cadw cofnodion
  • yn cael cyfleusterau addas sy’n galluogi swyddogion tollau i gael mynediad diogel er mwyn cynnal archwiliadau, archwilio nwyddau a’u hystyried pan fo angen

  • yn cael rheolaethau effeithiol ar waith i gydymffurfio â’r telerau ac amodau yn eich awdurdodiad

  • yn gallu cydymffurfio â’r gweithdrefnau a’r amserlenni penodol a bennir gan y swyddfa ymadael ddynodedig

  • gall cadw cofnodion cywir a chyfredol, gan gynnwys manylion am drafnidiaeth  a llwythi, a sicrhau eu bod ar gael i swyddogion tollau os ydynt yn gofyn amdanynt

Eich cyfrifoldeb chi hefyd yw profi eich bod yn gallu cadw rheolaeth effeithiol dros y nwyddau sy’n cael eu symud o dan y drefn gludo o bob lleoliad, pan fydd swyddogion tollau yn gofyn i chi wneud hynny.

Mae’n rhaid i bob lleoliad allu rhoi Cyfeirnod Symud (MRN) i yrwyr. Pan fydd gyrwyr yn gofyn amdano, dylai pob lleoliad hefyd allu rhoi copi papur o’r Ddogfen Ategol ar gyfer Cludo (TAD).

Os nad ydych yn berchen ar leoliad yr anfonydd

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • darparu copi o’r cytundeb masnachol rhyngoch chi a’r perchennog, sy’n nodi’r amodau sy’n caniatáu i chi ddefnyddio’r lleoliad pan fydd CThEF yn gofyn amdano

  • sicrhau bod yr amodau a nodir yn Atodiad V i’ch awdurdodiad wedi’u cynnwys yn y contract rhyngoch chi a pherchennog y lleoliad

Gofynion i ychwanegu lleoliadau ar gyfer derbynnydd awdurdodedig

Os ydych yn ychwanegu lleoliadau ar gyfer derbynnydd awdurdodedig, mae angen iddynt gael caniatâd gan CThEF neu Lu’r Ffiniau i weithredu storfa dros dro.

Gall lleoliad weithredu fel un o’r ddau opsiwn canlynol:

Dylech ddarllen yr arweiniad a phenderfynu pa fath o storfa dros dro yr ydych yn bwriadu ei gweithredu ym mhob lleoliad.

Ni allwch weithredu fel ACTS ac ETSF yn yr un lleoliad ar yr un pryd.

Os yw’ch cyfleuster storio dros dro yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi wneud cais am warant gynhwysfawr y tollau (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn bwriadu gweithredu lleoliad fel cyfleuster storio dros dro allanol

Os oes gan leoliad yr hoffech ei ychwanegu gymeradwyaeth ETSF eisoes, gallwch wneud cais i ychwanegu’r lleoliad hwnnw i’ch awdurdodiad fel derbynnydd awdurdodedig. Bydd angen i chi roi’r cyfeirnod cymeradwyo ETSF yn ystod y broses o wneud cais. 

Os ydych yn bwriadu gweithredu ETSF mewn lleoliad ond nid oes gan y lleoliad gymeradwyaeth ar hyn o bryd, mae angen i chi gael cymeradwyaeth ETSF cyn gwneud cais i ychwanegu’r lleoliad newydd at eich awdurdodiad.

Os ydych yn bwriadu gweithredu lleoliad fel cyfleuster storio dros dro ar gyfer derbynnydd awdurdodedig

Os nad ydych yn bwriadu gweithredu lleoliad fel ETSF, bydd angen iddo weithredu fel ACTS. Gallwch roi gwybod i ni eich bod yn bwriadu gweithredu fel ACTS ar yr un pryd ag y byddwch yn gwneud cais i ychwanegu’r lleoliad newydd. Bydd angen i chi ddangos bod eich lleoliad newydd yn bodloni gofynion ACTS.

Darllenwch am y gofynion llawn ar gyfer gweithredu ACTS yn adran 6.4.7 o Atodiad i’r Llawlyfr Cludiant (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes gennych ACTS eisoes ar gyfer lleoliadau presennol o dan eich awdurdodiad fel derbynnydd awdurdodedig, nid yw hyn yn ddigon i gynnwys eich lleoliadau newydd. Rhoddir cymeradwyaeth ACTS i bob lleoliad yn unigol.

Sut i ychwanegu rhagor o leoliadau

Ar-lein

Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i CThEF eich bod am ychwanegu rhagor o leoliadau i’ch awdurdodiad, os ydynt yn naill neu’r llall o’r canlynol:

  • lleoliadau ar gyfer anfonydd awdurdodedig yn unig

  • lleoliadau ar gyfer derbynnydd awdurdodedig a fydd yn gweithredu fel ETSF

I ychwanegu lleoliadau a fydd yn gweithredu fel ACTS, bydd angen i chi gwneud cais drwy’r post neu drwy e-bost. Mae hyn oherwydd y bydd angen i chi roi rhagor o wybodaeth i CThEF am y lleoliadau newydd, megis:

  • cynlluniau llawr y cyfleuster

  • copi o’ch slip yswiriant rhwymedigaeth 

  • ardystiadau ar gyfer trin mathau penodol o nwyddau

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r ffurflen ar-lein. Mae angen i chi ddefnyddio’r cyfrif sy’n gysylltiedig â’r rhif Cofrestru ac Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EORI) a ddefnyddiwyd gennych i wneud cais am eich awdurdodiad fel anfonydd neu dderbynnydd.

Mae’r ffurflen ar-lein ar gael yn Saesneg yn unig.

Dechrau nawr

Drwy e-bost neu drwy’r post

Gallwch anfon yr wybodaeth hon atom drwy e-bost neu drwy’r post os yw’r naill neu’r llall yn wir:

  • hoffech ychwanegu lleoliadau ar gyfer derbynnydd awdurdodedig a fydd yn gweithredu fel ACTS — bydd angen i chi lenwi ffurflenni C1343d a C1343b

  • ni allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein i ychwanegu lleoliad ar gyfer anfonydd neu dderbynnydd awdurdodedig a fydd yn gweithredu fel ETSF — dim ond ffurflen C1343d y bydd angen i chi ei lenwi

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwythwch a chadwch gopi o’r ffurflenni sydd angen arnoch.

  2. Agorwch y ffurflenni gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.

  3. Llenwch y ffurflenni.

  4. Anfonwch y ffurflenni sydd wedi’u cwblhau i’r cyfeiriad ar y ffurflen, gydag unrhyw waith papur ychwanegol.

Consignee questionnaire (C1343b)

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Consignor and consignee additional locations (C1343d)

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Anfonwch e-bost at CThEF i ofyn am gael y ffurflen hon yn Gymraeg.

Ar ôl i chi anfon y ffurflen

Byddwn yn adolygu’r wybodaeth rydych wedi’i hanfon. Os caiff ei gymeradwyo, byddwn yn diweddaru’ch awdurdodiad er mwyn caniatáu i chi wneud datganiadau ar y Gwasanaeth System Gludo Gyfrifiadurol Newydd (NCTS) gan ddefnyddio’r lleoliadau newydd. 

Cewch e-bost yn cadarnhau’r canlynol:

  • cyfeirnodau’r lleoliad newydd

  • dyddiad y gellir eu defnyddio ar NCTS

Byddwn hefyd yn anfon copi wedi’i ddiweddaru o waith papur eich awdurdodiad atoch drwy e-bost.

Dylech gadw copi o’r awdurdodiad wedi’i ddiweddaru ar gyfer eich cofnodion.

Mae angen i chi ymateb i’n e-bost, naill ai drwy e-bost neu drwy’r post, i roi gwybod i ni ei fod wedi dod i law. Os nad ydych yn ymateb, efallai ni fyddwch yn gallu defnyddio’r lleoliadau yn y dyfodol.

Os ydych wedi gwneud cais am leoliadau ar gyfer derbynnydd awdurdodedig ac nad ydym wedi’u cymeradwyo, byddwn yn anfon e-bost atoch i esbonio’r rhesymau pam, a’r broses ar gyfer adolygiadau ac apeliadau.

Pryd y byddwch yn cael ymateb

Fel arfer, caiff lleoliadau newydd ar gyfer anfonydd awdurdodedig eu rhoi ar waith cyn pen 3 diwrnod gwaith ar ôl i CThEF gael yr hyn rydych wedi’i gyflwyno. 

Fel arfer, caiff lleoliadau newydd ar gyfer derbynnydd awdurdodedig sydd eisoes â chymeradwyaeth ETSF eu rhoi ar waith cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl i CThEF gael yr hyn rydych wedi’i gyflwyno. 

Os ydych wedi gwneud cais am leoliadau newydd ar gyfer derbynnydd awdurdodedig lle rydych yn bwriadu gweithredu ACTS, bydd angen i ni adolygu’r wybodaeth ategol rydych wedi’i darparu ac mae’n bosibl y byddwn yn cynnal archwiliad ffisegol o’r safle. Gall hyn gymryd sawl wythnos. 

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ofyn i chi am wybodaeth yn yr hyn rydych wedi’i gyflwyno sy’n anghyflawn neu’n anghywir. Os bydd angen i ni wneud hynny, bydd yn cymryd mwy o amser i roi eich lleoliadau newydd ar waith.

Help a chymorth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am statws anfonydd awdurdodedig a derbynnydd awdurdodedig yn yr Atodiad i’r Llawlyfr Cludiant (yn agor tudalen Saesneg).

Os oes angen i chi wneud newidiadau eraill i’ch lleoliadau presennol ar gyfer anfonydd neu dderbynnydd, anfonwch e-bost at: cctonational-simplifications@hmrc.gov.uk.

Argraffu'r dudalen hon