Cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF gan ddefnyddio GOV.UK One Login
Cael gwybod sut y bydd GOV.UK One Login yn berthnasol i chi, a phryd y gallwch ddisgwyl dechrau ei ddefnyddio.
Beth yw GOV.UK One Login
Ffordd newydd o fewngofnodi i wasanaethau’r Llywodraeth yw GOV.UK One Login. Mae’n cynnig ffordd syml i chi fewngofnodi a phrofi pwy ydych gan ddefnyddio e-bost a chyfrinair.
Yn y pen draw, bydd GOV.UK One Login yn disodli’r holl ffyrdd eraill o fewngofnodi, gan gynnwys Porth y Llywodraeth — sef y ffordd y mae sawl cwsmer a busnes yn mewngofnodi ar hyn o bryd.
Yr hyn y mae’n ei olygu i chi
Ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol er mwyn cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF, hyd nes y byddwn yn gofyn i chi.
Pan fyddwch yn defnyddio GOV.UK neu ap CThEF i fewngofnodi i wasanaethau CThEF, bydd opsiwn i chi ddewis y naill neu’r llall o’r canlynol:
- Porth y Llywodraeth
- GOV.UK One Login — ar hyn o bryd, ni allwch fewngofnodi gan ddefnyddio cyfrif a grëwyd ar gyfer gwasanaeth arall y llywodraeth
- creu manylion mewngofnodi newydd
Pryd y bydd angen i chi ddefnyddio GOV.UK One Login
Gofynnir i chi greu cyfrif GOV.UK One Login yn awtomatig. Ni fydd hyn yn digwydd i bawb ar yr un pryd, a does dim angen i chi wneud unrhyw beth oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny.
Bydd y cwsmeriaid hynny sydd heb fanylion mewngofnodi presennol ar gyfer CThEF ar-lein ymhlith y cyntaf i greu cyfrif GOV.UK One Login.
Pan ofynnir i chi greu cyfrif GOV.UK One Login, mae’n bosibl y bydd angen i chi fodloni proses newydd o awdurdodi a phrofi pwy ydych, felly sicrhewch fod gennych ddogfennau adnabod wrth law, megis pasbort neu drwydded yrru.
Updates to this page
-
Updated to include information about the HMRC app sign in options.
-
If you do not already have access to GOV.UK One Login for HMRC services, you will need to sign in using Government Gateway.
-
Added Welsh translation.
-
First published.