Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Hydref 2019

Cyhoeddwyd 18 December 2019

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2019

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£166,245

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

3.3%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

0.7%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

122.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2019 am 9.30am ddydd Mercher 15 Ionawr 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 3.3% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019, i fyny o 3.1% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2019. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 0.7% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.7% rhwng Medi 2019 a Hydref 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Medi 2018 a Hydref 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Medi 2019 a Hydref 2019.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 2.5% yng Nghymru. Gostyngodd nifer trafodion y DU gan 3.4% dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd 20 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog yn Hydref 2019 o’i gymharu â’r un mis y flwyddyn flaenorol. Gwelwyd y twf cryfaf ym Merthyr Tudful ac Ynys Môn, gyda chynnydd o 11.8% i £117,000 a 9.8% i £188,000 yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019.

Dangosodd tai teras a thai pâr y twf mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gyda’r ddau yn codi gan 3.8% yn y flwyddyn i £129,000 a £161,000 yr un. Y twf lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd fflatiau a fflatiau deulawr, gyda gostyngiad o 2.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019 i £112,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh).

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 3.3% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019 (i fyny o 3.1% ym Medi 2019).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Hydref 2019 Hydref 2018 Gwahaniaeth
Abertawe £151,071 £148,831 1.5%
Blaenau Gwent £88,742 £91,685 -3.2%
Bro Morgannwg £234,274 £225,367 4%
Caerdydd £211,395 £208,338 1.5%
Caerffili £136,270 £136,200 0.1%
Casnewydd £184,298 £182,693 0.9%
Castell-nedd Port Talbot £122,659 £118,307 3.7%
Ceredigion £182,196 £185,484 -1.8%
Conwy £173,023 £159,558 8.4%
Gwynedd £171,328 £157,894 8.5%
Merthyr Tudful £116,650 £104,315 11.8%
Pen-y-bont ar Ogwr £160,348 £150,341 6.7%
Powys £191,073 £190,486 0.3%
Rhondda Cynon Taf £119,290 £110,754 7.7%
Sir Benfro £183,099 £167,078 9.6%
Sir Ddinbych £158,745 £152,217 4.3%
Sir Fynwy £276,506 £264,551 4.5%
Sir y Fflint £171,248 £168,409 1.7%
Sir Gaerfyrddin £151,778 £145,846 4.1%
Tor-faen £154,087 £148,712 3.6%
Wrecsam £160,027 £158,652 0.9%
Ynys Môn £188,228 £171,476 9.8%
Cymru £166,245 £160,955 3.3%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

A heat map showing the average price by local authority for Wales (Welsh).

Yn Hydref 2019, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £277,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £89,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Hydref 2019 Hydref 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £252,594 £243,578 3.7%
Tŷ pâr £161,273 £155,410 3.8%
Tŷ teras £128,934 £124,220 3.8%
Fflat neu fflat deulawr £112,018 £114,523 -2.2%
Holl £166,245 £160,955 3.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Awst 2019 Awst 2018
Abertawe 296 324
Blaenau Gwent 76 101
Bro Morgannwg 224 235
Caerdydd 485 584
Caerffili 200 250
Casnewydd 215 277
Castell-nedd Port Talbot 189 189
Ceredigion 88 108
Conwy 185 241
Gwynedd 168 177
Merthyr Tudful 53 70
Pen-y-bont ar Ogwr 206 244
Powys 172 190
Rhondda Cynon Taf 327 385
Sir Benfro 133 209
Sir Ddinbych 133 145
Sir Gaerfyrddin 273 275
Sir Fynwy 104 150
Sir y Fflint 207 209
Tor-faen 112 163
Wrecsam 159 174
Ynys Môn 81 110
Cymru 4,168 4,811

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Awst 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 2.5% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 3.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Awst 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Awst 2015 3,918
Awst 2016 4,122
Awst 2017 4,572
Awst 2018 4,811
Awst 2019 4,168

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £222,470 -1.4% 4.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £165,315 2.5% 4.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £143,234 0.5% 3.1%
Cyn berchen-feddiannydd £193,185 0.8% 3.5%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Hydref 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £162,145 1.0% 3.7%
Morgais £168,690 0.5% 3.1%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Awst 2019
Cymru 41

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317