Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Hydref 2018

Cyhoeddwyd 19 December 2018

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2018

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£160,874

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

3.8%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

-0.3%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

118.2%

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2018 am 9.30am ddydd Mercher 16 Ionawr 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 3.8% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018, i lawr o 5.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018. Mae prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 2.7% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Medi a Hydref 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynt. Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Medi a Hydref 2018.

Dangosodd Ystadegau Treth Trafodion Tir, ar sail heb eu haddasu’n dymhorol, yn y tri mis hyd at Hydref 2018, mai 14,920 oedd nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru. Mae hyn i lawr 1.6% o’i gymharu â’r tri mis hyd at Hydref 2017 fel y cyhoeddwyd yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall sefydliadau gwahanol ddefnyddio methodolegau ychydig bach yn wahanol.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, a gynyddodd gan 4.3% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018 i £117,000. Y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd tai teras, gyda chynnydd o 3.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018 i £124,000.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 19 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Gwelwyd y twf cryfaf yn Nhorfaen a Chasnewydd, lle y cynyddodd gan 18.9% i £155, 000 ac 14.5% i £186,000 yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y Farchnad Dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh)

Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.8% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018 (i lawr o 5.3% ym Medi 2018).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Hydref 2018 Hydref 2017 Gwahaniaeth
Abertawe £148,394 £143,572 3.4%
Blaenau Gwent £92,515 £86,620 6.8%
Bro Morgannwg £225,823 £216,280 4.4%
Caerdydd £210,022 £199,422 5.3%
Caerffili £139,218 £127,301 9.4%
Casnewydd £185,951 £162,400 14.5%
Castell-nedd Port Talbot £118,007 £114,053 3.5%
Ceredigion £187,057 £182,446 2.5%
Conwy £159,784 £161,572 -1.1%
Gwynedd £160,894 £152,819 5.3%
Merthyr Tudful £102,586 £97,980 4.7%
Pen-y-bont ar Ogwr £148,690 £148,880 -0.1%
Powys £197,226 £177,389 11.2%
Rhondda Cynon Taf £107,975 £106,413 1.5%
Sir Benfro £166,731 £165,988 0.4%
Sir Ddinbych £151,781 £147,608 2.8%
Sir Fynwy £265,261 £244,221 8.6%
Sir y Fflint £164,605 £166,970 -1.4%
Sir Gaerfyrddin £147,517 £138,579 6.4%
Tor-faen £155,174 £130,548 18.9%
Wrecsam £155,836 £153,693 1.4%
Ynys Môn £179,162 £166,050 7.9%
Cymru £160,874 £155,033 3.8%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales (Welsh)

Yn Hydref 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £265,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £93,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Hydref 2018 Hydref 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £243,427 £234,474 3.8%
Tŷ pâr £155,121 £149,237 3.9%
Tŷ teras £123,641 £119,515 3.5%
Fflat neu fflat deulawr £117,007 £112,187 4.3%
Holl £160,874 £155,033 3.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Awst 2018 Awst 2017
Abertawe 297 323
Blaenau Gwent 91 70
Bro Morgannwg 213 235
Caerdydd 480 523
Caerffili 226 255
Casnewydd 238 274
Castell-nedd Port Talbot 176 196
Ceredigion 97 100
Conwy 214 242
Gwynedd 157 164
Merthyr Tudful 63 81
Pen-y-bont ar Ogwr 210 232
Powys 168 174
Rhondda Cynon Taf 353 347
Sir Benfro 185 185
Sir Ddinbych 128 150
Sir Gaerfyrddin 243 253
Sir Fynwy 124 133
Sir y Fflint 174 252
Tor-faen 138 106
Wrecsam 159 163
Ynys Môn 93 113
Cymru 4,273 4,572

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei thynnu ymaith o’r tabl hwn gan nad yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Awst 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Awst 2014 4,084
Awst 2015 3,918
Awst 2016 4,122
Awst 2017 4,572
Awst 2018 4,273

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £221,671 4.6% 12.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £158,119 1.4% 5.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £138,743 -0.4% 3.7%
Cyn berchen-feddiannydd £186,743 -0.2% 3.9%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Hydref 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £156,980 0.0% 3.8%
Morgais £163,181 -0.5% 3.8%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Awst 2018
Cymru 52

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317