Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Tachwedd 2018

Cyhoeddwyd 16 January 2019

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2018

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£161,499

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

5.5%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

0.2%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

118.6%

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2018 am 9.30am ddydd Mercher 13 Chwefror 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 5.5% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018, i fyny o 3.9% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018. Mae prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 2.8% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Hydref 2018 a Thachwedd 2018, o’i gymharu â gostyngiad o 1.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Hydref a Thachwedd 2018.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Tir y DU, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Dachwedd 2018, mai 15,170 oedd nifer y trafodion eiddo ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru. Mae hyn i fyny 0.6% o’i gymharu â’r 3 mis hyd at Dachwedd 2017 fel a gyhoeddir yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall sefydliadau gwahanol ddefnyddio methodolegau ychydig bach yn wahanol.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai teras, gan godi 6.9% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018 i £126,000. Y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 0.6% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018 i £113,000.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Tor-faen a Merthyr Tudful ddangosodd y twf cryfaf, gan gynyddu 13.4% i £148, 000 ac 13.3% i £111,000 yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh)

Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 5.5% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018 (i fyny o 3.9% yn Hydref 2018).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Tachwedd 2018 Tachwedd 2017 Gwahaniaeth
Abertawe £144,782 £142,286 1.8%
Blaenau Gwent £92,742 £84,623 9.6%
Bro Morgannwg £224,956 £214,907 4.7%
Caerdydd £207,976 £199,929 4%
Caerffili £135,238 £128,028 5.6%
Casnewydd £182,877 £163,079 12.1%
Castell-nedd Port Talbot £118,229 £114,389 3.4%
Ceredigion £183,240 £182,651 0.3%
Conwy £160,803 £162,556 -1.1%
Gwynedd £161,377 £153,448 5.2%
Merthyr Tudful £110,574 £97,608 13.3%
Pen-y-bont ar Ogwr £151,208 £146,156 3.5%
Powys £187,384 £178,792 4.8%
Rhondda Cynon Taf £114,285 £108,013 5.8%
Sir Benfro £168,237 £166,052 1.3%
Sir Ddinbych £154,419 £148,143 4.2%
Sir Fynwy £270,067 £244,056 10.7%
Sir y Fflint £168,498 £166,836 1%
Sir Gaerfyrddin £145,791 £138,903 5%
Tor-faen £147,585 £130,111 13.4%
Wrecsam £157,995 £152,442 3.6%
Ynys Môn £174,223 £167,800 3.8%
Cymru £161,499 £153,109 5.5%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales (Welsh)

Yn Nhachwedd 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £270,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £93,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Tachwedd 2018 Tachwedd 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £243,487 £230,858 5.5%
Tŷ pâr £155,254 £147,383 5.3%
Tŷ teras £126,244 £118,091 6.9%
Fflat neu fflat deulawr £112,551 £111,842 0.6%
Holl £161,499 £153,109 5.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Medi 2018 Medi 2017
Abertawe 238 302
Blaenau Gwent 69 83
Bro Morgannwg 167 240
Caerdydd 416 533
Caerffili 166 247
Casnewydd 171 309
Castell-nedd Port Talbot 156 173
Ceredigion 85 80
Conwy 166 203
Gwynedd 140 175
Merthyr Tudful 49 73
Pen-y-bont ar Ogwr 171 194
Powys 139 182
Rhondda Cynon Taf 256 335
Sir Benfro 168 168
Sir Ddinbych 123 136
Sir Gaerfyrddin 224 279
Sir Fynwy 91 139
Sir y Fflint 157 209
Tor-faen 87 124
Wrecsam 115 148
Ynys Môn 84 92
Cymru 3,494 4,424

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei thynnu ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Medi 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

O gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2018, lleihaodd nifer y trafodion gan 7.7% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 9.4% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Medi 2014 3,654
Medi 2015 3,801
Medi 2016 4,054
Medi 2017 4,424
Medi 2018 3,494

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £213,625 -1.7% 7.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £157,800 -0.2% 4.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £139,568 0.4% 5.4%
Cyn berchen-feddiannydd £187,043 0.1% 5.6%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Tachwedd 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £156,897 0.2% 4.9%
Morgais £164,230 0.3% 5.8%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Medi 2018
Cymru 39

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317