Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2019

Cyhoeddwyd 17 July 2019

Yn berthnasol i England and Gymru

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2019

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£159,428

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

3.0%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

-1.4%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

117.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2019 am 9.30am ddydd Mercher 14 Awst 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2019, i lawr o 5.3% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.4% rhwng Ebrill 2019 a Mai 2019, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill 2018 a Mai 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.0% rhwng Ebrill 2019 a Mai 2019.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Tir y DU, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Fai 2019, mai nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru oedd 12,900. Mae hyn i fyny 2.1% o’i gymharu â’r tri mis hyd at Fai 2018 fel a gyhoeddwyd yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall sefydliadau gwahanol ddefnyddio methodolegau ychydig bach yn wahanol.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai pâr, gan godi 3.9% yn y flwyddyn hyd at Fai 2019 i £155,000. Mae fflatiau a fflatiau deulawr yn ddigyfnewid (0.0%) yn y flwyddyn hyd at Fai 2019 ar £111,000.

Mae prisiau tai wedi codi dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Gwelwyd y twf cryfaf yng Nghaerffili a Chasnewydd, gan gynyddu 8.5% i £139,000,000 a 8.4% i £188,000 yn y flwyddyn hyd at Fai 2019.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (graph in Welsh).

Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2019 (i lawr o 5.3% yn Ebrill 2019).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mai 2019 Mai 2018 Gwahaniaeth
Abertawe £143,920 £143,134 0.5%
Blaenau Gwent £87,586 £85,912 1.9%
Bro Morgannwg £219,985 £218,358 0.7%
Caerdydd £209,153 £202,207 3.4%
Caerffili £138,656 £127,758 8.5%
Casnewydd £188,180 £173,525 8.4%
Castell-nedd Port Talbot £117,877 £111,668 5.6%
Ceredigion £186,719 £180,326 3.5%
Conwy £164,655 £158,885 3.6%
Gwynedd £158,900 £147,705 7.6%
Merthyr Tudful £102,713 £99,692 3%
Pen-y-bont ar Ogwr £149,114 £145,983 2.1%
Powys £182,308 £179,206 1.7%
Rhondda Cynon Taf £111,604 £105,121 6.2%
Sir Benfro £176,001 £165,379 6.4%
Sir Ddinbych £152,882 £149,485 2.3%
Sir Fynwy £257,152 £249,433 3.1%
Sir y Fflint £169,335 £160,703 5.4%
Sir Gaerfyrddin £145,179 £138,169 5.1%
Tor-faen £145,099 £136,805 6.1%
Wrecsam £155,832 £155,983 -0.1%
Ynys Mon £172,492 £166,839 3.4%
Cymru £159,428 £154,756 3%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

A heat map showing the average price by local authority for Wales (in Welsh)

Ym Mai 2019 yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £257,000. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £88,000.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mai 2019 Mai 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £239,603 £232,980 2.8%
Tŷ pâr £154,847 £149,003 3.9%
Tŷ teras £123,738 £120,055 3.1%
Fflat neu fflat deulawr £111,213 £111,177 0.0%
Holl £159,428 £154,756 3.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Mawrth 2019 Mawrth 2018
Abertawe 242 269
Blaenau Gwent 71 59
Bro Morgannwg 181 230
Caerdydd 367 503
Caerffili 193 181
Casnewydd 169 221
Castell-nedd Port Talbot 148 145
Ceredigion 76 64
Conwy 146 175
Gwynedd 158 143
Merthyr Tudful 49 42
Pen-y-bont ar Ogwr 164 176
Powys 110 146
Rhondda Cynon Taf 269 280
Sir Benfro 127 149
Sir Ddinbych 105 104
Sir Gaerfyrddin 195 241
Sir Fynwy 69 140
Sir y Fflint 192 182
Tor-faen 98 125
Wrecsam 115 146
Ynys Mon 79 79
Cymru 3,329 3,800

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mawrth 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 1.2% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 0.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mawrth 2015 3,274
Mawrth 2016 5,744
Mawrth 2017 3,909
Mawrth 2018 3,800
Mawrth 2019 3,329

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mawrth 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £214,778 -0.8% 4.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £156,950 0.7% 3.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mai 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £137,900 -1.2% 3.2%
Cyn berchen-feddiannydd £184,456 -1.7% 2.9%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Mai 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £154,369 -1.8% 2.6%
Morgais £162,401 -1.2% 3.2%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2019
Cymru 50

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317