Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2020

Cyhoeddwyd 20 May 2020

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2020

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £161,684

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 1.1%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -2.8%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 118.8

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Yn dilyn cyhoeddi mynegai Mawrth ar 20 Mai, bydd Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei atal nes clywir yn wahanol. Gweler gwefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn seiliedig ar drafodion tai wedi eu cwblhau. Fel arfer, gall gymryd 6 i 8 wythnos i gwblhau prynu tŷ. Felly, bydd y data prisiau sy’n bwydo i mewn i Fynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2020 yn adlewyrchu’r trafodion a gwblhawyd a ddigwyddodd cyn i fesurau’r llywodraeth i leihau lledaeniad coronafeirws (COVID-19) gael eu gweithredu.

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020, i lawr o 4.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n arafach na chyfradd flynyddol y DU sef 2.1% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.8% rhwng Chwefror 2020 a Mawrth 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror 2019 a Mawrth 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.8% rhwng Chwefror 2020 a Mawrth 2020.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 2.3% yng Nghymru, o 2,852 i 2,917. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 2.5% o 63,387 i 64,979 dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd 18 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog ym Mawrth 2020 o’i gymharu â Mawrth 2019. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mro Morgannwg, gan godi 9.4% i £243,977 yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 2.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020 i £246,051. Y twf blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer tai teras, gyda chynnydd o 0.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020 i £123,624.

Oherwydd y mesurau a gyflwynwyd gan y llywodraeth i leihau lledaeniad coronafeirws ym Mawrth 2020, mae llai o drafodion ar gael na’r hyn a ddisgwylir ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU mis Mawrth. O ganlyniad, gall fod mwy o anwadalrwydd yn amcangyfrifon y mis hwn, yn enwedig ar y lefelau daearyddol is lle mae nifer y trafodion yn llai.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (in Welsh).

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2020 (i lawr o 4.6% yn Chwefror 2020).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mawrth 2020 Mawrth 2019 Gwahaniaeth
Abertawe £146,658 £147,849 -0.8%
Blaenau Gwent £98,745 £93,074 6.1%
Bro Morgannwg £243,977 £223,005 9.4%
Caerdydd £210,909 £208,214 1.3%
Caerffili £138,459 £135,264 2.4%
Casnewydd £191,376 £182,307 5%
Castell-nedd Port Talbot £121,388 £113,449 7%
Ceredigion £190,661 £182,401 4.5%
Conwy £166,935 £164,952 1.2%
Gwynedd £154,601 £154,918 -0.2%
Merthyr Tudful £101,364 £100,478 0.9%
Pen-y-bont ar Ogwr £156,365 £148,573 5.2%
Powys £189,109 £185,306 2.1%
Rhondda Cynon Taf £109,756 £109,178 0.5%
Sir Benfro £181,815 £166,550 9.2%
Sir Ddinbych £165,109 £153,222 7.8%
Sir Fynwy £288,712 £267,725 7.8%
Sir y Fflint £168,513 £164,409 2.5%
Sir Gaerfyrddin £144,251 £144,341 -0.1%
Tor-faen £141,795 £143,038 -0.9%
Wrecsam £158,200 £153,582 3%
Ynys Môn £177,653 £170,147 4.4%
Cymru £161,684 £159,904 1.1%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Nid yw’r map gwres ar gael oherwydd yr effaith y mae’r pandemig coronafeirws cyfredol wedi ei chael ar wasanaethau gweithredol.

Ym Mawrth 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £289,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £99,000 oedd y pris cyfartalog. Oherwydd effeithiau parhaus coronafeirws, mae amcangyfrifon Mawrth 2020 yn seiliedig ar lai o drafodion nag arfer, sy’n golygu y gellir gweld anwadalrwydd yn y data ar lefelau is.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mawrth 2020 Mawrth 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £246,051 £241,228 2.0%
Tŷ pâr £156,492 £154,908 1.0%
Tŷ teras £123,624 £123,345 0.2%
Fflat neu fflat deulawr £116,071 £113,873 1.9%
Holl £161,684 £159,904 1.1%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Ionawr 2020 Ionawr 2019
Abertawe 226 240
Blaenau Gwent 65 62
Bro Morgannwg 157 132
Caerdydd 308 376
Caerffili 170 161
Casnewydd 166 169
Castell-nedd Port Talbot 118 115
Ceredigion 67 71
Conwy 149 119
Gwynedd 123 110
Merthyr Tudful 47 50
Pen-y-bont ar Ogwr 163 153
Powys 126 104
Rhondda Cynon Taf 202 281
Sir Benfro 119 128
Sir Ddinbych 79 108
Sir Gaerfyrddin 144 192
Sir Fynwy 92 74
Sir y Fflint 151 163
Tor-faen 72 93
Wrecsam 108 106
Ynys Môn 63 61
Cymru 2,917 3,070

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ionawr 2020 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2020 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2020, cynyddodd nifer y trafodion gan 2.3% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 6.7% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Ionawr 2016 2,788
Ionawr 2017 3,056
Ionawr 2018 3,170
Ionawr 2019 3,070
Ionawr 2020 2,917

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2020 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £230,600 7.7% 9.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £159,380 -2.5% 2.5%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £139,180 -3.0% 0.7%
Cyn berchen-feddiannydd £188,090 -2.5% 1.5%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Mawrth 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £157,693 -2.3% 1.6%
Morgais £164,150 -2.9% 0.9%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2020
Cymru 52

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317