Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2019

Cyhoeddwyd 22 May 2019

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2019

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£158,696

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

3.0%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

-0.02%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

116.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2019 am 9.30am ddydd Mercher 19 Mehefin 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019, i lawr o 3.6% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2019. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 1.4% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, nid oedd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru wedi newid rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2019, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynt. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2019.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Tir, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Fawrth 2019, mai nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru oedd 11,740. Mae hyn i lawr 0.3% o’i gymharu â’r 3 mis hyd at Fawrth 2018 fel a gyhoeddir yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall sefydliadau gwahanol ddefnyddio methodolegau ychydig bach yn wahanol.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai pâr, gan godi 3.8% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019 i £154,000. Y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 1.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019 i £113,000.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Torfaen a Rhondda Cynon Taf ddangosodd y twf cryfaf, yn cynyddu gan 11.4% i £148,000 a 10.5% i £109,000 yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (graph presented in Welsh).

Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019 (i lawr o 3.6% yn Chwefror 2019).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mawrth 2019 Mawrth 2018 Gwahaniaeth
Abertawe £146,712 £145,321 1.0%
Blaenau Gwent £89,637 £83,129 7.8%
Bro Morgannwg £226,868 £223,046 1.7%
Caerdydd £207,531 £202,454 2.5%
Caerffili £136,475 £130,124 4.9%
Casnewydd £179,301 £167,856 6.8%
Castell-nedd Port Talbot £116,082 £110,701 4.9%
Ceredigion £175,237 £182,204 -3.8%
Conwy £157,695 £159,164 -0.9%
Gwynedd £153,195 £145,433 5.3%
Merthyr Tudful £97,214 £96,712 0.5%
Pen-y-bont ar Ogwr £147,188 £145,448 1.2%
Powys £187,208 £181,859 2.9%
Rhondda Cynon Taf £109,297 £98,923 10.5%
Sir Benfro £171,864 £163,759 4.9%
Sir Ddinbych £149,911 £150,293 -0.3%
Sir Fynwy £270,103 £252,744 6.9%
Sir y Fflint £162,525 £165,045 -1.5%
Sir Gaerfyrddin £144,146 £135,783 6.2%
Tor-faen £148,129 £132,962 11.4%
Wrecsam £152,964 £157,179 -2.7%
Ynys Mon £174,364 £171,050 1.9%
Cymru £158,696 £154,022 3.0%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

A heat map showing the average price by local authority for Wales (presented in Welsh)

Ym Mawrth 2019, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £270,000. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £90,000.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mawrth 2019 Mawrth 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £240,276 £233,243 3.0%
Tŷ pâr £154,015 £148,362 3.8%
Tŷ teras £121,871 £118,488 2.9%
Fflat neu fflat deulawr £112,847 £111,686 1.0%
Holl £158,696 £154,022 3.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Ionawr 2019 Ionawr 2018
Abertawe 228 254
Blaenau Gwent 60 63
Bro Morgannwg 123 155
Caerdydd 353 337
Caerffili 150 148
Casnewydd 152 218
Castell-nedd Port Talbot 106 126
Ceredigion 62 78
Conwy 108 156
Gwynedd 99 117
Merthyr Tudful 46 47
Pen-y-bont ar Ogwr 147 143
Powys 96 120
Rhondda Cynon Taf 268 227
Sir Benfro 118 156
Sir Ddinbych 103 100
Sir Gaerfyrddin 178 183
Sir Fynwy 64 96
Sir y Fflint 153 169
Tor-faen 83 89
Wrecsam 98 107
Ynys Mon 57 79
Cymru 2,852 3,170

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ionawr 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 0.6% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi gostwng gan 2.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Ionawr 2015 2,730
Ionawr 2016 2,788
Ionawr 2017 3,056
Ionawr 2018 3,170
Ionawr 2019 2,852

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £208,740 -2.1% 3.0%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £155,748 -1.9% 3.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £136,904 -0.1% 3.0%
Cyn berchen-feddiannydd £184,151 0.1% 3.1%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Mawrth 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £153,882 -0.2% 2.7%
Morgais £161,532 0.1% 3.2%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2019
Cymru 40

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317