Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mehefin 2019

Cyhoeddwyd 14 August 2019

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2019

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£163,768

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

4.4%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

1.2%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

120.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2019 am 9.30am ddydd Mercher 18 Medi 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 4.4% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019, i lawr o 4.6% yn y flwyddyn hyd at Fai 2019. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 0.9% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.2% rhwng Mai 2019 a Mehefin 2019, o’i gymharu â chynnydd o 1.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai 2018 a Mehefin 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Mai 2019 a Mehefin 2019.

Dangosodd Ystadegau Treth Trafodion Tir, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Fehefin 2019, mai nifer y trafodion eiddo ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru oedd 13,100. Mae hyn i lawr 0.8% o’i gymharu â’r 3 mis hyd at Fehefin 2018.

Yng Nghymru, dangosodd yr holl fathau o eiddo gynnydd mewn prisiau cyfartalog ym Mehefin 2019 o’i gymharu â’r un mis y flwyddyn flaenorol. Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai teras, gan godi 5.0% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019 i £127,000. Y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 0.8% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019 i £114,000.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 20 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Roedd y cynnydd mwyaf mewn prisiau yn sir Fynwy, lle y cynyddodd prisiau gan 13.6% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019 i £284,000. Cofnodwyd y gostyngiad mwyaf yng Ngheredigion, lle y gostyngodd prisiau cyfartalog dros y flwyddyn gan 2.8% i £175,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh).

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 4.4% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019 (i lawr o 4.6% ym Mai 2019).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mehefin 2019 Mehefin 2018 Gwahaniaeth
Abertawe £148,593 £144,141 3.1%
Blaenau Gwent £90,377 £85,332 5.9%
Bro Morgannwg £235,874 £215,247 9.6%
Caerdydd £206,149 £202,848 1.6%
Caerffili £136,494 £126,710 7.7%
Casnewydd £182,039 £174,795 4.1%
Castell-nedd Port Talbot £122,088 £112,754 8.3%
Ceredigion £174,644 £179,685 -2.8%
Conwy £163,050 £159,257 2.4%
Gwynedd £159,360 £150,446 5.9%
Merthyr Tudful £105,543 £102,033 3.4%
Pen-y-bont ar Ogwr £155,277 £146,786 5.8%
Powys £181,787 £177,196 2.6%
Rhondda Cynon Taf £112,033 £108,245 3.5%
Sir Benfro £176,906 £166,216 6.4%
Sir Ddinbych £151,693 £152,147 -0.3%
Sir Fynwy £283,736 £249,820 13.6%
Sir y Fflint £170,443 £163,181 4.5%
Sir Gaerfyrddin £147,785 £138,762 6.5%
Tor-faen £153,451 £140,505 9.2%
Wrecsam £160,844 £156,116 3%
Ynys Mon £177,374 £165,340 7.3%
Cymru £163,768 £156,864 4.4%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

A heat map showing the average price by local authority for Wales (Welsh)

Ym Mehefin 2019, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £284,000. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £90,000.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mehefin 2019 Mehefin 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £246,123 £236,211 4.2%
Tŷ pâr £159,061 £151,609 4.9%
Tŷ teras £127,172 £121,143 5.0%
Fflat neu fflat deulawr £113,974 £113,053 0.8%
Holl £163,768 £156,864 4.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Ebrill 2019 Ebrill 2018
Abertawe 215 257
Blaenau Gwent 77 65
Bro Morgannwg 148 158
Caerdydd 314 363
Caerffili 168 158
Casnewydd 162 196
Castell-nedd Port Talbot 150 130
Ceredigion 68 71
Conwy 157 140
Gwynedd 136 123
Merthyr Tudful 58 38
Pen-y-bont ar Ogwr 175 202
Powys 123 131
Rhondda Cynon Taf 242 308
Sir Benfro 145 142
Sir Ddinbych 119 100
Sir Gaerfyrddin 181 201
Sir Fynwy 80 103
Sir y Fflint 170 185
Tor-faen 86 76
Wrecsam 111 129
Ynys Mon 79 91
Cymru 3,181 3,367

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ebrill 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ebrill 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ebrill 2019, cynyddodd nifer y trafodion gan 5.9% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 2.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Ebrill 2015 3,150
Ebrill 2016 2,822
Ebrill 2017 3,490
Ebrill 2018 3,367
Ebrill 2019 3,181

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Ebrill 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £215,497 1.1% 5.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £158,410 1.0% 5.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mehefin 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £141,234 1.2% 4.2%
Cyn berchen-feddiannydd £190,104 1.3% 4.6%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Mehefin 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £158,359 0.6% 3.9%
Morgais £166,938 1.5% 4.7%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ebrill 2019
Cymru 40

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317