Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2018

Cyhoeddwyd 19 September 2018

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2018

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£157,368

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

4.2%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

-0.2%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

115.6%

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2018 am 9.30am ddydd Mercher 17 Hydref 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 4.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018, i lawr o 4.8% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018. Mae prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 3.1% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018. Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, lleihaodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Mehefin 2018 a Gorffennaf 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin 2017 a Gorffennaf 2017).

Dangosodd ystadegau Treth Trafodion Tir, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Orffennaf 2018, mai 13,820 oedd nifer y trafodion eiddo ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru. Mae hyn i lawr 4.6% o’i gymharu â’r 3 mis hyd at Orffennaf 2017 fel y cyhoeddir yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall methodolegau ychydig yn wahanol gael eu cymhwyso gan y sefydliadau gwahanol.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai ar wahân, gan godi 6.0% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018 i £241,000. Dangosodd pris cyfartalog fflatiau a fflatiau deulawr gynnydd o 2.0% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018 i £113,000, y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae Casnewydd yn parhau i ddangos twf cryf, gan gynyddu 11.1% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018 i 175,000.

Yn yr un modd â’r dangosyddion eraill yn y Farchnad Dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years- Welsh

Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018 (i lawr o 4.8% ym Mehefin 2018).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Gorffennaf 2018 Gorffennaf 2017 Gwahaniaeth
Abertawe £144,982 £141,496 2.5%
Blaenau Gwent £82,298 £80,268 2.5%
Bro Morgannwg £218,683 £207,722 5.3%
Caerdydd £204,962 £196,451 4.3%
Caerffili £128,462 £125,464 2.4%
Casnewydd £175,099 £157,663 11.1%
Castell-nedd Port Talbot £114,366 £107,582 6.3%
Ceredigion £188,036 £179,740 4.6%
Conwy £162,499 £156,796 3.6%
Gwynedd £148,417 £146,601 1.2%
Merthyr Tudful £99,601 £95,832 3.9%
Pen-y-bont ar Ogwr £146,739 £144,777 1.4%
Powys £188,949 £172,358 9.6%
Rhondda Cynon Taf £110,138 £104,443 5.5%
Sir Benfro £165,890 £163,156 1.7%
Sir Ddinbych £148,936 £143,622 3.7%
Sir Fynwy £255,767 £235,918 8.4%
Sir y Fflint £167,936 £159,805 5.1%
Sir Gaerfyrddin £136,419 £133,162 2.4%
Tor-faen £137,335 £130,560 5.2%
Wrecsam £159,025 £153,470 3.6%
Ynys Môn £182,716 £160,860 13.6%
Cymru £157,368 £151,028 4.2%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales in welsh

Yng Ngorffennaf 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £256,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £82,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Gorffennaf 2018 Gorffennaf 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £240,704 £226,982 6.0%
Tŷ pâr £150,370 £145,234 3.5%
Tŷ teras £121,100 £116,835 3.7%
Fflat neu fflat deulawr £112,941 £110,704 2.0%
Holl £157,368 £151,028 4.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Mai 2018 Mai 2017 Gwahaniaeth
Abertawe 233 266 -12.4%
Blaenau Gwent 87 81 7.4%
Bro Morgannwg 129 172 -25.0%
Caerdydd 373 415 -10.1%
Caerffili 204 229 -10.9%
Casnewydd 155 287 -46.0%
Castell-nedd Port Talbot 155 159 -2.5%
Ceredigion 77 80 -3.8%
Conwy 160 198 -19.2%
Gwynedd 131 128 2.3%
Merthyr Tudful 71 69 2.9%
Pen-y-bont ar Ogwr 167 210 -20.5%
Powys 118 149 -20.8%
Rhondda Cynon Taf 284 305 -6.9%
Sir Benfro 130 166 -21.7%
Sir Ddinbych 120 111 8.1%
Sir Gaerfyrddin 199 225 -11.6%
Sir Fynwy 90 125 -28.0%
Sir y Fflint 160 173 -7.5%
Tor-faen 94 148 -36.5%
Wrecsam 133 149 -10.7%
Ynys Môn 73 88 -17.0%
Cymru 3,368 3,933 -14.4%

Sylwer: Bydd y ganran newid blynyddol yn y golofn ‘Gwahaniaeth’ yn cael ei dylanwadu’n bennaf gan lefel cyflawnrwydd data’r mis diweddaraf a adroddwyd, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu’r tueddiadau gwirioneddol.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mai 2014 3,848
Mai 2015 3,580
Mai 2016 3,125
Mai 2017 3,933
Mai 2018 3,368

5. Statws eiddo

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £208,490 1.3% 8.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £151,817 0.7% 4.9%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £135,390 -0.5% 3.6%
Cyn berchen-feddiannydd £183,161 0.2% 4.9%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Gorffennaf 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £154,022 0.5% 4.5%
Morgais £159,349 -0.6% 4.0%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mai 2018
Cymru 44

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317