Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2020
Cyhoeddwyd 25 Mawrth 2020
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2020
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£161,719
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
2.0%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
-2.9%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd
118.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2020 am 9.30am ddydd Mercher 22 Ebrill 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai yng Nghymru gan 2.0% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020, i lawr o 2.7%, yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 1.3% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.9% rhwng Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 2.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.8% rhwng Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 10.2% yng Nghymru, o 4,506 i 4,046. Lleihaodd nifer y trafodion gan 4.8%, o 92,143 i 87,766 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd 18 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog yn Ionawr 2020 o’i gymharu ag Ionawr 2019. Castell-nedd Port Talbont a Chonwy ddangosodd y twf cryfaf, yn cynyddu gan 8.8% i £123,172 a 7.4% i £178,289 yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai pâr y twf mwyaf, gan godi 4.1% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020 i £159,209. Y twf lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer tai ar wahân, gyda chynnydd o 0.4% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020 i £241,806.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
A chart showing the annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh).
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 2.0% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020 (i lawr o 2.7% yn Rhagfyr 2019).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
| Awdurdodau lleol | Ionawr 2020 | Ionawr 2019 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £152,423 | £147,168 | 3.6% |
| Blaenau Gwent | £87,977 | £88,346 | -0.4% |
| Bro Morgannwg | £225,139 | £225,833 | -0.3% |
| Caerdydd | £216,063 | £207,648 | 4.1% |
| Caerffili | £141,838 | £136,791 | 3.7% |
| Casnewydd | £188,998 | £178,856 | 5.7% |
| Castell-nedd Port Talbot | £123,172 | £113,238 | 8.8% |
| Ceredigion | £177,711 | £186,526 | -4.7% |
| Conwy | £178,289 | £165,971 | 7.4% |
| Gwynedd | £161,210 | £155,505 | 3.7% |
| Merthyr Tudful | £106,332 | £102,105 | 4.1% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £157,004 | £151,093 | 3.9% |
| Powys | £194,237 | £186,859 | 3.9% |
| Rhondda Cynon Taf | £113,747 | £111,787 | 1.8% |
| Sir Benfro | £176,096 | £174,506 | 0.9% |
| Sir Ddinbych | £161,890 | £152,259 | 6.3% |
| Sir Fynwy | £275,656 | £271,113 | 1.7% |
| Sir y Fflint | £177,435 | £166,977 | 6.3% |
| Sir Gaerfyrddin | £152,326 | £144,994 | 5.1% |
| Tor-faen | £148,320 | £144,856 | 2.4% |
| Wrecsam | £154,709 | £155,486 | -0.5% |
| Ynys Môn | £180,505 | £175,192 | 3.0% |
| Cymru | £161,719 | £158,548 | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

A heat map showing the average price by local authority for Wales (in Welsh).
Yn Ionawr 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £276,000 oedd y pris cyfartalog . Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £88,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Ionawr 2020 | Ionawr 2019 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £241,806 | £240,917 | 0.4% |
| Tŷ pâr | £159,209 | £152,999 | 4.1% |
| Tŷ teras | £124,273 | £121,828 | 2.0% |
| Fflat neu fflat deulawr | £114,031 | £113,240 | 0.7% |
| Holl | £161,719 | £158,548 | 2.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
| Awdurdodau lleol | Tachwedd 2019 | Tachwedd 2018 |
|---|---|---|
| Abertawe | 255 | 336 |
| Blaenau Gwent | 72 | 101 |
| Bro Morgannwg | 224 | 233 |
| Caerdydd | 392 | 562 |
| Caerffili | 209 | 235 |
| Casnewydd | 198 | 275 |
| Castell-nedd Port Talbot | 170 | 224 |
| Ceredigion | 68 | 106 |
| Conwy | 196 | 273 |
| Gwynedd | 155 | 203 |
| Merthyr Tudful | 71 | 79 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 220 | 263 |
| Powys | 163 | 214 |
| Rhondda Cynon Taf | 323 | 387 |
| Sir Benfro | 161 | 225 |
| Sir Ddinbych | 134 | 175 |
| Sir Gaerfyrddin | 232 | 308 |
| Sir Fynwy | 132 | 150 |
| Sir y Fflint | 199 | 225 |
| Tor-faen | 96 | 181 |
| Wrecsam | 151 | 176 |
| Ynys Môn | 101 | 125 |
| Cymru | 4,046 | 5,057 |
Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Tachwedd 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 10.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi gostwng gan 9.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
| Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
|---|---|
| Tachwedd 2015 | 4,064 |
| Tachwedd 2016 | 4,084 |
| Tachwedd 2017 | 4,474 |
| Tachwedd 2018 | 5,057 |
| Tachwedd 2019 | 4,046 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Tachwedd 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £217,500 | -2.3% | 4.8% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £166,399 | 2.2% | 5.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Ionawr 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £139,590 | -3.2% | 2.2% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £187,540 | -2.6% | 1.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws ariannu | Pris cyfartalog Ionawr 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £156,396 | -3.5% | 1.3% |
| Morgais | £164,837 | -2.6% | 2.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2019 |
|---|---|
| Cymru | 58 |
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317