Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ionawr 2019

Cyhoeddwyd 20 March 2019

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2019

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£160,232

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

4.6%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

-1.3%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

117.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2019 am 9.30am ddydd Mercher 17 Ebrill 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 4.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019, i lawr o 5.6% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2018. Mae prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 1.7% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.3% rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019.

Dangosodd Ystadegau Treth Trafodion Tir, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Ionawr 2019, fod nifer y trafodion eiddo ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru yn 14,190. Mae hyn i fyny 1.6% o’i gymharu â’r 3 mis hyd at Ionawr 2018 fel a gyhoeddwyd yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall sefydliadau gwahanol ddefnyddio methodolegau ychydig bach yn wahanol.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai ar wahân, gan godi 5.4% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019 i £244,000. Y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 4.0% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019 i £116,000.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf ym mhob un o’r 22 ardal awdurdod lleol. Gwelwyd y twf cryfaf yn Nhorfaen a Sir Fynyw, gan gynyddu 12.3% i £147,000,000 a 9.5% i £269,000 yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019. Mae’r twf blynyddol cryf yn ne ddwyrain Cymru yn debygol o fod yn gysylltiedig â diddymu tollau Pont Hafren.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years (Welsh)

Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.6% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2019 (i lawr o 5.6% yn Rhagfyr 2018).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ionawr 2019 Ionawr 2018 Gwahaniaeth
Abertawe £144,786 £143,017 1.2%
Blaenau Gwent £86,125 £82,618 4.2%
Bro Morgannwg £225,924 £212,590 6.3%
Caerdydd £210,803 £200,350 5.2%
Caerffili £138,962 £127,439 9%
Casnewydd £179,306 £166,005 8%
Castell-nedd Port Talbot £113,006 £112,024 0.9%
Ceredigion £185,807 £179,855 3.3%
Conwy £166,689 £161,640 3.1%
Gwynedd £157,831 £148,824 6.1%
Merthyr Tudful £101,106 £94,938 6.5%
Pen-y-bont ar Ogwr £151,372 £145,964 3.7%
Powys £191,940 £178,569 7.5%
Rhondda Cynon Taf £112,021 £106,925 4.8%
Sir Benfro £174,334 £163,523 6.6%
Sir Ddinbych £152,020 £147,950 2.8%
Sir Fynwy £269,446 £246,072 9.5%
Sir y Fflint £168,641 £165,908 1.6%
Sir Gaerfyrddin £145,935 £140,694 3.7%
Tor-faen £146,852 £130,724 12.3%
Wrecsam £156,245 £154,482 1.1%
Ynys Môn £177,797 £168,542 5.5%
Cymru £160,232 £153,132 4.6%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales (Welsh)

Yn Ionawr 2019, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £269,000. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle roedd pris tŷ cyfartalog yn £86,000.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ionawr 2019 Ionawr 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £244,321 £231,777 5.4%
Tŷ pâr £153,933 £148,028 4.0%
Tŷ teras £122,763 £117,311 4.6%
Fflat neu fflat deulawr £116,136 £111,683 4.0%
Holl £160,232 £153,132 4.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Tachwedd 2018 Tachwedd 2017
Abertawe 302 345
Blaenau Gwent 93 103
Bro Morgannwg 191 225
Caerdydd 465 486
Caerffili 220 227
Casnewydd 212 298
Castell-nedd Port Talbot 209 202
Ceredigion 95 105
Conwy 250 233
Gwynedd 180 162
Merthyr Tudful 76 72
Pen-y-bont ar Ogwr 226 193
Powys 196 172
Rhondda Cynon Taf 337 334
Sir Benfro 190 173
Sir Ddinbych 163 157
Sir Gaerfyrddin 252 260
Sir Fynwy 127 124
Sir y Fflint 184 219
Tor-faen 151 109
Wrecsam 158 171
Ynys Môn 114 104
Cymru 4,506 4,474

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Tachwedd 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2018, cynyddodd nifer y trafodion gan 16.4% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 13.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Tachwedd 2014 3,613
Tachwedd 2015 4,064
Tachwedd 2016 4,084
Tachwedd 2017 4,474
Tachwedd 2018 4,506

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £211,384 -2.2% 7.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £157,392 -0.4% 4.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £137,820 -1.6% 4.4%
Cyn berchen-feddiannydd £186,545 -1.0% 4.9%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Ionawr 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £156,391 -1.2% 5.0%
Morgais £162,508 -1.4% 4.4%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Tachwedd 2018
Cymru 57

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317