Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2020
Cyhoeddwyd 22 Ebrill 2020
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2020
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£164,435
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
3.4%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
1.2%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd
120.8
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2020 am 9.30am ddydd Mercher 20 Mai 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 3.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020, i fyny o 2.5% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 1.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.2% rhwng Ionawr 2020 a Chwefror 2020, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr 2019 a Chwefror 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.3% rhwng Ionawr 2020 a Chwefror 2020.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 3.1% yng Nghymru, o 3,727 i 3,610. Cynyddodd nifer y trafodion y DU gan 0.7% o 78,279 i 78,806 dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau cyfartalog yn Chwefror 2020 o’i gymharu â Chwefror 2019. Gwelwyd y twf cryfaf ym Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot, gan godi 11.5% i £133,643 a 9.3% i £122,557 yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf, gan godi 4.5% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020 i £128,518. Y twf blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 0.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020 i £113,397.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 3.4% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020 (i fyny o 2.5% yn Ionawr 2020).
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Chwefror 2020 | Chwefror 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £150,318 | £148,252 | 1.4% |
Blaenau Gwent | £93,785 | £90,610 | 3.5% |
Bro Morgannwg | £237,911 | £225,478 | 5.5% |
Caerdydd | £208,329 | £207,985 | 0.2% |
Caerffili | £136,507 | £134,601 | 1.4% |
Casnewydd | £190,758 | £180,687 | 5.6% |
Castell-nedd Port Talbot | £122,557 | £112,104 | 9.3% |
Ceredigion | £192,655 | £187,129 | 3% |
Conwy | £164,653 | £165,177 | -0.3% |
Gwynedd | £159,481 | £155,659 | 2.5% |
Merthyr Tudful | £113,643 | £101,917 | 11.5% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £155,020 | £147,886 | 4.8% |
Powys | £177,931 | £187,027 | -4.9% |
Rhondda Cynon Taf | £118,029 | £110,756 | 6.6% |
Sir Benfro | £177,136 | £171,900 | 3% |
Sir Ddinbych | £154,351 | £154,352 | -0% |
Sir Fynwy | £266,882 | £273,378 | -2.4% |
Sir y Fflint | £177,678 | £164,414 | 8.1% |
Sir Gaerfyrddin | £151,886 | £145,279 | 4.5% |
Tor-faen | £147,514 | £144,191 | 2.3% |
Wrecsam | £152,741 | £155,543 | -1.8% |
Ynys Môn | £181,660 | £173,657 | 4.6% |
Cymru | £164,435 | £159,018 | 3.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Nid yw’r map gwres ar gael oherwydd yr effaith y mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) cyfredol wedi ei chael ar wasanaethau gweithredol.
Yn Chwefror 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £267,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £94,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Chwefror 2020 | Chwefror 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £247,282 | £240,555 | 2.8% |
Tŷ pâr | £158,811 | £153,069 | 3.8% |
Tŷ teras | £128,518 | £122,989 | 4.5% |
Fflat neu fflat deulawr | £113,397 | £113,459 | -0.1% |
Holl | £164,435 | £159,018 | 3.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2019 | Rhagfyr 2018 |
---|---|---|
Abertawe | 247 | 284 |
Blaenau Gwent | 69 | 90 |
Bro Morgannwg | 186 | 192 |
Caerdydd | 419 | 504 |
Caerffili | 199 | 199 |
Casnewydd | 164 | 239 |
Castell-nedd Port Talbot | 146 | 170 |
Ceredigion | 85 | 75 |
Conwy | 158 | 187 |
Gwynedd | 146 | 141 |
Merthyr Tudful | 66 | 71 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 187 | 272 |
Powys | 136 | 176 |
Rhondda Cynon Taf | 283 | 290 |
Sir Benfro | 180 | 203 |
Sir Ddinbych | 116 | 122 |
Sir Gaerfyrddin | 236 | 255 |
Sir Fynwy | 94 | 129 |
Sir y Fflint | 179 | 229 |
Tor-faen | 124 | 175 |
Wrecsam | 118 | 154 |
Ynys Môn | 71 | 89 |
Cymru | 3,610 | 4,255 |
Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Rhagfyr 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 3.1% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 1.0% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Rhagfyr 2015 | 4,129 |
Rhagfyr 2016 | 4,581 |
Rhagfyr 2017 | 4,659 |
Rhagfyr 2018 | 4,255 |
Rhagfyr 2019 | 3,610 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Rhagfyr 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £217,423 | 0.5% | 1.7% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £163,423 | -1.7% | 2.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Chwefror 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £142,019 | 1.4% | 3.4% |
Cyn berchen-feddiannydd | £190,543 | 0.9% | 3.4% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws ariannu | Pris cyfartalog Chwefror 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £159,685 | 1.6% | 3.4% |
Morgais | £167,277 | 0.9% | 3.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2019 |
---|---|
Cymru | 46 |
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317