Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Awst 2018

Cyhoeddwyd 17 October 2018

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2018

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£162,374

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

6.2%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

1.9%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

119.3%

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2018 am 9.30am ddydd Mercher 14 Tachwedd 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 6.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018, i fyny o 5.5% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018. Mae prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 3.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.9% rhwng Gorffennaf 2018 ac Awst 2018, o’i gymharu â chynnydd o 1.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach. Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.3% rhwng Gorffennaf 2018 ac Awst 2018.

Dangosodd ystadegau Treth Trafodion Tir, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 3 mis hyd at Awst 2018, mai nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru oedd 15,020. Mae hyn i lawr 1.0% o’i gymharu â’r 3 mis hyd at Awst 2017 fel a gyhoeddir yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall methodolegau ychydig yn wahanol gael eu cymhwyso gan y sefydliadau gwahanol.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai teras, gan godi 7.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018 i £127,000. Dangosodd pris cyfartalog fflatiau a fflatiau deulawr gynnydd o 4.6% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018 i £117,000, y cynnydd isaf o’r holl fathau o eiddo.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 19 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Roedd y twf cryfaf yn Sir Fynwy a Chasnewydd gyda chynnydd o 14.0% i £272,000 ac 13.7% i £181,000 yn y flwyddyn hyd at Awst 2018.

Yn yr un modd â’r dangosyddion eraill yn y Farchnad Dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years welsh

Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 6.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018 (i fyny o 5.5% yng Ngorffennaf 2018).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Awst 2018 Awst 2017 Gwahaniaeth
Abertawe £147,949 £144,428 2.4%
Blaenau Gwent £87,546 £83,386 5%
Bro Morgannwg £229,132 £210,618 8.8%
Caerdydd £210,975 £197,441 6.9%
Caerffili £134,286 £125,978 6.6%
Casnewydd £181,354 £159,446 13.7%
Castell-nedd Port Talbot £114,506 £109,461 4.6%
Ceredigion £178,427 £184,236 -3.2%
Conwy £157,815 £160,103 -1.4%
Gwynedd £149,355 £148,280 0.7%
Merthyr Tudful £102,503 £97,603 5%
Pen-y-bont ar Ogwr £145,980 £147,439 -1%
Powys £182,258 £174,810 4.3%
Rhondda Cynon Taf £112,598 £106,121 6.1%
Sir Benfro £169,262 £161,119 5.1%
Sir Ddinbych £157,688 £144,066 9.5%
Sir Fynwy £272,170 £238,659 14%
Sir y Fflint £167,867 £161,134 4.2%
Sir Gaerfyrddin £144,119 £136,699 5.4%
Tor-faen £145,480 £130,003 11.9%
Wrecsam £156,349 £153,246 2%
Ynys Môn £170,690 £162,123 5.3%
Cymru £162,374 £152,859 6.2%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales welsh

Yn Awst 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynyw, lle mai £272,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £88,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Awst 2018 Awst 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £241,030 £229,969 4.8%
Tŷ pâr £157,283 £146,810 7.1%
Tŷ teras £126,861 £118,292 7.2%
Fflat neu fflat deulawr £117,111 £111,972 4.6%
Holl £162,374 £152,859 6.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Mehefin 2018 Mehefin 2017 Gwahaniaeth
Abertawe 289 359 -19.5%
Blaenau Gwent 76 71 7.0%
Bro Morgannwg 173 258 -32.9%
Caerdydd 442 561 -21.2%
Caerffili 184 285 -35.4%
Casnewydd 211 357 -40.9%
Castell-nedd Port Talbot 187 171 9.4%
Ceredigion 74 102 -27.5%
Conwy 165 201 -17.9%
Gwynedd 139 134 3.7%
Merthyr Tudful 47 85 -44.7%
Pen-y-bont ar Ogwr 184 235 -21.7%
Powys 171 175 -2.3%
Rhondda Cynon Taf 289 357 -19.0%
Sir Benfro 132 169 -21.9%
Sir Ddinbych 116 135 -14.1%
Sir Gaerfyrddin 204 291 -29.9%
Sir Fynwy 117 154 -24.0%
Sir y Fflint 157 213 -26.3%
Tor-faen 119 115 3.5%
Wrecsam 115 191 -39.8%
Ynys Môn 79 70 12.9%
Cymru 3,753 4,691 -20.0%

Sylwer: Bydd y ganran newid blynyddol yn y golofn ‘Gwahaniaeth’ yn cael ei dylanwadu’n bennaf gan lefel cyflawnrwydd data’r mis diweddaraf a adroddwyd, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu’r tueddiadau gwirioneddol.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mehefin 2014 3,849
Mehefin 2015 4,052
Mehefin 2016 3,812
Mehefin 2017 4,691
Mehefin 2018 3,753

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mehefin 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £212,007 3.4% 10.2%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £153,947 1.3% 4.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Awst 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £140,634 2.3% 6.5%
Cyn berchen-feddiannydd £187,598 1.4% 6.0%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Awst 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £156,605 1.2% 4.9%
Morgais £165,809 2.3% 7.0%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mehefin 2018
Cymru 57

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317