Ystadegau Swyddogol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Awst 2017

Cyhoeddwyd 17 October 2017

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2017

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£150,258

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

3.4%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

-0.1%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Chwefror 2015 = 100) oedd

110.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Newid mewn prisiau

2.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

welsh Annual price change for Wales over the past 5 years

Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.4% yn y flwyddyn hyd at Awst 2017 (i fyny o 2.7% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2017).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at anghysondeb yn y gyfres. Er y gwneir pob ymdrech i ddarparu ar gyfer anghysondeb, gall y newid mewn prisiau ar y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo mewn unrhyw gyfnod arbennig.

Awdurdodau lleol Awst 2017 Awst 2016 Gwahaniaeth
Abertawe £140,661 £138,400 1.6%
Blaenau Gwent £81,988 £78,357 4.6%
Bro Morgannwg £207,463 £207,675 -0.1%
Caerdydd £196,625 £191,836 2.5%
Caerffili £130,238 £121,212 7.4%
Casnewydd £157,343 £152,044 3.5%
Castell-nedd Port Talbot £107,837 £106,503 1.3%
Ceredigion £177,548 £173,297 2.5%
Conwy £159,398 £148,207 7.6%
Gwynedd £154,915 £142,866 8.4%
Merthyr Tudful £95,253 £97,064 -1.9%
Pen-y-bont ar Ogwr £148,930 £137,384 8.4%
Powys £176,216 £168,288 4.7%
Rhondda Cynon Taf £101,675 £104,973 -3.1%
Sir Benfro £164,798 £154,160 6.9%
Sir Ddinbych £145,371 £143,156 1.5%
Sir Fynwy £227,293 £222,086 2.3%
Sir y Fflint £162,291 £157,097 3.3%
Sir Gaerfyrddin £133,397 £136,217 -2.1%
Tor-faen £134,792 £125,310 7.6%
Wrecsam £150,615 £148,627 1.3%
Ynys Môn £158,685 £155,494 2.1%
Cymru £150,258 £145,382 3.4%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

welsh Average price by local authority for Wales

Yn Awst 2017, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Trefynwy, lle mai £227,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £82,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Awst 2017 Awst 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £228,756 £216,982 5.4%
Tŷ pâr £144,390 £139,249 3.7%
Tŷ teras £115,786 £113,876 1.7%
Fflat neu fflat deulawr £106,935 £105,233 1.6%
Holl £150,258 £145,382 3.4%

3. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Mehefin 2017 Mehefin 2016 Gwahaniaeth
Abertawe 306 293 4.4%
Blaenau Gwent 66 59 11.9%
Bro Morgannwg 188 242 -22.3%
Caerdydd 467 411 13.6%
Caerffili 254 186 36.6%
Casnewydd 214 260 -17.7%
Castell-nedd Port Talbot 152 137 10.9%
Ceredigion 90 55 63.6%
Conwy 176 191 -7.9%
Gwynedd 118 141 -16.3%
Merthyr Tudful 77 68 13.2%
Pen-y-bont ar Ogwr 184 195 -5.6%
Powys 165 118 39.8%
Rhondda Cynon Taf 309 342 -9.6%
Sir Benfro 126 130 -3.1%
Sir Ddinbych 129 112 15.2%
Sir Gaerfyrddin 235 257 -8.6%
Sir Fynwy 115 135 -14.8%
Sir y Fflint 171 182 -6.0%
Tor-faen 87 97 -10.3%
Wrecsam 163 125 30.4%
Ynys Môn 63 75 -16.0%
Cymru 3,867 3,812 1.4%

3.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mehefin 2013 3,183
Mehefin 2014 3,849
Mehefin 2015 4,052
Mehefin 2016 3,812
Mehefin 2017 3,867

4. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru: Awst 2017

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £204,442 1.3% 10.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £147,204 -0.1% 2.9%

5. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru: Awst 2017

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £129,456 -0.4% 2.7%
Cyn berchen-feddiannydd £174,605 0.3% 4.0%

6. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru: Awst 2017

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £146,648 0.1% 3.4%
Morgais £152,403 -0.1% 3.3%

7. Nifer yr adfeddiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer yr adfeddiannau yn ôl rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mehefin 2017
Cymru 64

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084.