Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Hydref 2019

Cyhoeddwyd 18 December 2019

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2019

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£232,944

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.7%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.7%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

122.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2019 am 9.30am ddydd Mercher 15 Ionawr 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 0.7% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019, i lawr o 1.3% ym Medi 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Medi 2019 a Hydref 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Medi 2018 a Hydref 2018).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon lle y cynyddodd prisiau gan 4.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2019. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle y gostyngodd prisiau gan 1.6% dros y flwyddyn hyd at Hydref 2019, wedi ei ddilyn gan Ogledd Ddwyrain Lloegr lle y gostyngodd prisiau gan 1.1% dros y flwyddyn.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Hydref 2019 ostyngiad ym malans net ymholiadau gan brynwyr newydd, gan awgrymu bod dirywiad cymedrol yn y galw gan brynwyr. Mae nifer y cyfarwyddiadau newydd i werthu yn parhau i ostwng, gan adlewyrchu’r dirywiad yn nifer y rhestriadau newydd sy’n dod ar y farchnad. Yn unol â’r dirywiad hwn yn y galw a’r cyflenwad, gostyngodd y gyfres gwerthiannau newydd eu cytuno wrth i weithgarwch leihau ym mron pob rhan o’r DU.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes – 2019 Chwarter 3 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai yn parhau i feddalu, gan adlewyrchu’r dirywiad yn y cyflenwad a’r galw. Adroddodd asiantau tai fod galw mwy meddal yn y farchnad eilaidd, er bod y galw am eiddo pris is yn fwy cadarn.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Hydref 2019 mai 103,680 oedd nifer rhagamcanestynedig y trafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 4.3% yn uwch na blwyddyn yn ôl. Rhwng Medi 2019 a Hydref 2019, cynyddodd trafodion gan 4.3%.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod nifer y morgeisi a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) wedi gostwng ychydig i 65,000, a’u bod yn parhau o fewn yr amrediad cul a welwyd dros y ddwy flynedd diwethaf.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019, i lawr o 1.3% ym Medi 2019.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Ngogledd Iwerddon, lle y cynyddodd gan 4.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2019.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 1.4% dros y 12 mis diwethaf.

Cynyddodd prisiau tai yng Nghymru gan 3.3% dros y flwyddyn hyd at Hydref 2019.

Roedd y twf blynyddol arafaf yn Lloegr lle y cynyddodd prisiau gan 0.5% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £166,245 0.7% 3.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2019) £139,951 2.3% 4.0%
Lloegr £248,939 -0.7% 0.5%
Yr Alban £153,692 -0.9% 1.4%
De Ddwyrain Lloegr £323,438 -0.8% -0.3%
De Orllewin Lloegr £258,372 -0.8% 0.6%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £194,134 -0.7% 1.3%
Dwyrain Lloegr £293,928 -0.1% 0.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £198,345 -1.6% 0.2%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £129,360 -2.3% -1.1%
Gogledd Orllewin Lloegr £166,134 -0.6% 1.4%
Llundain £472,232 -1.7% -1.6%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £166,904 0.9% 3.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Medi 2019 a Hydref 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Medi 2018 a Hydref 2018). Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Medi 2019 a Hydref 2019.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Hydref 2019 Hydref 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £356,046 £351,859 1.2%
Tŷ pâr £223,873 £218,698 2.4%
Tŷ teras £188,983 £186,499 1.3%
Fflat neu fflat deulawr £200,007 £205,987 -2.9%
Holl £232,944 £231,211 0.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Awst 2019 Awst 2018
Lloegr 70,685 84,466
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2019) 6,002 6,563
Yr Alban 9,987 10,536
Cymru 4,168 4,811

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Awst 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2019, gostyngodd nifer y trafodion gan 4.1% yn Lloegr, 4.0% yn yr Alban, 2.5% yng Nghymru a chynyddodd gan 4.9% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 5.6% yn Lloegr, 5.6% yn yr Alban a 3.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Awst 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Awst

A chart showing sales volumes by country for August 2015, August 2016, August 2018, August 2018 and August 2019.

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Awst 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 3.4%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 5.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2019.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £289,027 -2.3% 1.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £230,787 0.8% 1.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £195,225 -1.1% 0.3%
Cyn berchen-feddiannydd £271,152 -0.3% 1.1%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Hydref 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £221,587 -0.9% 0.6%
Morgais £242,671 -0.6% 0.8%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919570915