Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2018

Cyhoeddwyd 16 January 2019

1. Prif ystadegau ar gyfer Tachwedd 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£230,630

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

2.8%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.1%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

121.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Rhagfyr 2018 am 9.30am ddydd Mercher 13 Chwefror 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 2.8% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018, i fyny ychydig o 2.7%, yn y flwyddyn hyd at Hydref 2018. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Hydref 2018 a Thachwedd 2018, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref 2017 a Thachwedd 2017).

Gwelwyd y twf blynyddol cryfaf mewn prisiau tai yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, gyda chynnydd o 4.6% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018. Gostyngodd prisiau tai yn Llundain gan 0.7% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018. Mae prisiau tai Llundain wedi bod yn gostwng dros y flwyddyn bob mis er Gorffennaf 2018.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer 2018 Chwarter 4 bod cyflenwad isel o dai ynghyd â llai o alw am dai. Roedd gweithgarwch tai yn ne Lloegr yn dawel oherwydd ansicrwydd, gyda thrafodion yn cael eu gohirio tan ar ôl i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Parhaodd y galw am dai newydd yn gryfach y tu allan i Lundain, yn rhannol oherwydd bod adeiladwyr tai yn cynnig mwy o gymhelliant i gwblhau gwerthiannau.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Tachwedd 2018 duedd gwannach yng ngweithgarwch y farchnad gwerthiannau, gyda’r prif ddangosyddion ar alw a chyflenwad yn symud ymhellach i dir negyddol. Adroddodd fod llai o weithgarwch ym mron pob ardal yn y DU, wedi’i ysgogi’n bennaf gan yr ansicrwydd ynghylch Brexit a diffyg stoc newydd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Tachwedd 2018, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai 100,930 oedd nifer yr eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy, sy’n 0.5% yn is o’i gymharu â’r un cyfnod flwyddyn yn ôl. Rhwng Hydref 2018 a Thachwedd 2018, cynyddodd trafodion gan 0.1%.

Dangosodd datganiad diweddaraf Arian a Chredyd Banc Lloegr fod nifer y morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai wedi lleihau dros y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018 gan 1.7% i 63,700. Ystyrir bod nifer y morgeisi a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past 5 years (Welsh)

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.8% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018 (i fyny ychydig o 2.7% yn Hydref 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 5.5% dros y flwyddyn hyd at Dachwedd 2018.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 2.9% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 2.6% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.8% dros y flwyddyn hyd at chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £161,499 0.2% 5.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2018) £135,060 2.3% 4.8%
Lloegr £247,430 -0.1% 2.6%
Yr Alban £150,638 -0.7% 2.9%
De Ddwyrain Lloegr £323,876 -0.1% 1.1%
De Orllewin Lloegr £260,177 1.1% 4.3%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £192,061 0.3% 4.4%
Dwyrain Lloegr £294,530 0.8% 2.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £197,387 -0.4% 4.6%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £132,257 1.2% 4.0%
Gogledd Orllewin Lloegr £162,717 -0.6% 3.1%
Llundain £472,901 -1.2% -0.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £160,155 -1.3% 2.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region (Welsh)

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Hydref 2018 a Thachwedd 2018, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Hydref 2017 a Thachwedd 2017). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Hydref 2018 a Thachwedd 2018.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Tachwedd 2018 Tachwedd 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £350,317 £337,928 3.7%
Tŷ pâr £217,986 £210,691 3.5%
Tŷ teras £188,131 £180,977 4.0%
Fflat neu fflat deulawr £202,663 £203,530 -0.4%
Holl £230,630 £224,287 2.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Medi 2018 Medi 2017
Cymru 3,494 4,424
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2018) 5,722 6,533
Lloegr 59,691 78,082
Yr Alban 8,472 9,603

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei thynnu ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r misoedd diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Medi 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2018, lleihaodd nifer y trafodion gan 7.9% yn Lloegr, 9.1% yn yr Alban, 7.7% yng Nghymru a chynyddodd gan 4.9% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 10.6% yn Lloegr, 10.6% yn yr Alban a 9.4% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Medi

Sales volumes for 2014 to 2018 by country (Welsh)

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Medi 2018 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Medi 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

O gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Medi 2017 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Medi 2018, lleihaodd nifer y trafodion gan 7.2%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 10.6% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2018.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Medi 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £290,434 -2.0% 5.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £228,052 -0.1% 3.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Tachwedd 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £194,324 -0.1% 2.5%
Cyn berchen-feddiannydd £267,764 -0.2% 3.0%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Tachwedd 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £219,896 -0.2% 2.6%
Morgais £240,489 -0.1% 2.9%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk

Ffôn
0131 659 6111 Est. 6387