Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Gorffennaf 2018

Cyhoeddwyd 19 September 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£231,422

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

3.1%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.2%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

121.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2018 am 9.30am ddydd Mercher 17 Hydref 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cododd prisiau tai y DU gan 3.1% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018, i lawr ychydig o 3.2% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018. Dyma’r gyfradd flynyddol isaf yn y DU er Awst 2013 pan roedd yn 3.0%.

Tyfodd prisiau tai gyflymaf yng Ngogledd-orllewin Lloegr, gyda chynnydd o 5.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018, wedi’i ddilyn gan Dde-orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr, gyda’r ddwy ardal yn gweld cynnydd o 4.4% dros y flwyddyn. Cwympodd prisiau tai yn Llundain gan 0.7% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018, i lawr o gynnydd o 0.3% yn y mis blaenorol.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU ar gyfer Gorffennaf 2018 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ei weddill net newydd ei gytuno ar gyfer gwerthiannau wedi parhau’n agos at sero am y pedwerydd mis yn olynol, sy’n cyfateb â marchnad dai sy’n sefydlog ar y cyfan pan edrychir arni ar lefel genedlaethol. Mae disgwyliadau pris yn parhau’n gadarnhaol am y deuddeg mis nesaf. Mae ei gyfres disgwyliadau gwerthiannau deuddeg mis yn negyddol, ac ar ei lefel isaf er Hydref y llynedd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Gorffennaf 2018, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, mai 99,270 oedd nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 3.2% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Mehefin a Gorffennaf 2018, lleihaodd trafodion gan 0.8%.

Lleihaodd nifer y morgeisi a gymeradwywyd i brynu tai ryw ychydig yng Ngorffennaf 2018, i 65,000, sy’n agos i’r cyfartaledd dros y chwe mis diwethaf, ond bu lleihad o 6.1% o’i gymharu â Gorffennaf 2017. Rhagwelir y bydd y morgeisi a gymeradwyir yn parhau’n sefydlog yn y dyfodol agos fel yr adroddir yn adroddiad Chwyddiant Awst Banc Lloegr. Ystyrir bod y morgeisi a gymeradwyir, fel y cyhoeddir yn adroddiad Arian a Chredyd Banc Lloegr, yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past 5 years (Welsh)

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.1% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018 (i lawr ychydig o 3.2% ym Mehefin 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru, lle y cynyddodd prisiau tai gan 4.2% dros y flwyddyn hyd at Orffennaf 2018.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 3.2% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.0% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.4% dros y flwyddyn hyd at chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £157,368 -0.2% 4.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2018) £132,795 -1.0% 4.4%
Lloegr £248,611 1.2% 3.0%
Yr Alban £152,245 1.4% 3.2%
De Ddwyrain Lloegr £327,002 0.4% 1.8%
De Orllewin Lloegr £259,971 2.4% 4.4%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £188,716 -0.2% 3.0%
Dwyrain Lloegr £294,603 1.3% 2.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £195,447 0.6% 4.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £131,505 2.6% 2.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £165,529 3.4% 5.6%
Llundain £484,926 0.6% -0.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £161,712 0.4% 3.3%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region (Welsh)

Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Mehefin 2018 a Gorffennaf 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin 2017 a Gorffennaf 2017).

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Gorffennaf 2018 Gorffennaf 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £352,138 £336,591 4.6%
Tŷ pâr £216,785 £209,936 3.3%
Tŷ teras £187,247 £181,158 3.4%
Fflat neu fflat deulawr £207,639 £206,308 0.6%
Holl £231,422 £224,554 3.1%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mai 2018 Mai 2017 Gwahaniaeth
Cymru 3,368 3,933 -14.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2018) 5,308 6,099 -13.0%
Lloegr 58,073 69,176 -16.1%
Yr Alban 7,993 8,529 -6.3%

Sylwer: Bydd y ganran newid blynyddol yn y golofn ‘Gwahaniaeth’ yn cael ei dylanwadu’n bennaf gan lefel cyflawnrwydd data’r mis diweddaraf a adroddwyd, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu’r tueddiadau gwirioneddol.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mai 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 1.4% yn Lloegr, 3.3% yn yr Alban a 3.6% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fai 2018.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Mai

Sales volumes for 2014 to 2018 by country: May (Welsh)

Ym Mai 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 14.8% o’i gymharu â Mai 2017. O’i gymharu ag Ebrill 2018, cynyddodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 6.2%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mai 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygio am ragor o wybodaeth.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 0.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £290,728 1.2% 7.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £223,349 0.7% 3.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £195,057 1.1% 2.6%
Cyn berchen-feddiannydd £268,850 1.3% 3.4%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Gorffennaf 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £221,467 1.6% 3.2%
Morgais £241,068 1.0% 3.0%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk

Ffôn
0131 659 6111 Est. 6387