Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ionawr 2020

Cyhoeddwyd 25 March 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Ionawr 2020

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£231,185

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.3%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-1.1%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

121.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Chwefror 2020 am 9.30am ddydd Mercher 22 Ebrill 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 1.3% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020, i lawr o 1.7% yn Rhagfyr 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon lle y cynyddodd prisiau gan 2.5% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2019. Roedd y twf blynyddol isaf yn Nwyrain Lloegr, lle y gostyngodd prisiau gan 0.6% dros y flwyddyn hyd at Ionawr 2020, wedi ei ddilyn gan Dde Ddwyrain Lloegr lle y gostyngodd prisiau gan 0.5% dros y flwyddyn.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ionawr 2020 fod y mwyafrif o ardaloedd yn y DU wedi gweld cynnydd amlwg yn y galw gan brynwyr.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes - 2019 Chwater 4 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai yn parhau’n dawel. Roedd y gweithgarwch araf i’w briodoli’n bennaf i’r ansicrwydd ynghylch dyddiad cau Brexit ym mis Hydref a’r Etholiad Cyffredinol.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Ionawr 2020 mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 102,810. Mae hyn 5.2% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020, cynyddodd trafodion gan 4.1%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) wedi cynyddu yn Ionawr i 70,900, y nifer fwyaf er Chwefror 2016.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.3% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020, i lawr o 1.7% yn Rhagfyr 2019.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Ngogledd Iwerddon, lle y cynyddodd gan 2.5% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2019.

Cynyddodd prisiau tai yn Lloegr gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 1.6% dros y 12 mis diwethaf.

Yng Nghymru cynyddodd prisiau tai gan 2.0% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2020.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £161,719 -2.9% 2.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2019) £140,190 0.2% 2.5%
Lloegr £247,355 -1.2% 1.1%
Yr Alban £152,121 0.6% 1.6%
De Ddwyrain Lloegr £320,700 -1.2% -0.5%
De Orllewin Lloegr £254,320 -1.8% -0.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £195,707 -0.4% 2.3%
Dwyrain Lloegr £286,999 -2.2% -0.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £200,628 0.4% 2.6%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £126,592 -2.6% 0.9%
Gogledd Orllewin Lloegr £164,769 -1.5% 2.1%
Llundain £476,588 -1.1% 1.4%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £165,383 -0.9% 3.1%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% rhwng Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.6% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Rhagfyr 2018 ac Ionawr 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Rhagfyr 2019 ac Ionawr 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ionawr 2020 Ionawr 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £347,990 £349,197 -0.3%
Tŷ pâr £222,604 £216,342 2.9%
Tŷ teras £188,303 £183,361 2.7%
Fflat neu fflat deulawr £200,721 £202,876 -1.1%
Holl £231,185 £228,314 1.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Tachwedd 2019 Tachwedd 2018
Lloegr 67,814 81,610
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2019) 6,021 6,765
Yr Alban 9,846 10,102
Cymru 4,046 5,057

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Tachwedd 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 5.6% yn Lloegr, gostyngodd gan 10.2% yng Nghymru, cynyddodd gan 1.5% yn yr Alban a chynyddodd gan 5.0% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 5.2% yn Lloegr a’r Alban, ac wedi gostwng gan 9.8% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Tachwedd

A chart showing sales volumes by country for November 2015, November 2016, November 2018, November 2018 and November 2019 (in Welsh)

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Tachwedd 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Tachwedd 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Tachwedd 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Tachwedd 2019, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 4.8%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 5.4% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2019.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Tachwedd 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £278,473 -4.8% 0.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £229,875 0.2% 1.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Ionawr 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £194,464 -1.2% 1.4%
Cyn berchen-feddiannydd £267,973 -1.0% 1.0%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Ionawr 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £218,524 -1.7% 0.4%
Morgais £241,399 -0.9% 1.5%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919570915