Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Chwefror 2020

Cyhoeddwyd 22 April 2020

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2020

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£230,332

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.1%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

-0.6%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

120.8

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2020 am 9.30am ddydd Mercher 20 Mai 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020, i lawr o 1.5% yn Ionawr 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.6% rhwng Ionawr 2020 a Chwefror 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr 2019 a Chwefror 2019).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle y cynyddodd prisiau gan 3.4% dros y flwyddyn hyd at Chwefror 2020, i fyny o 2.5% yn Ionawr 2020. Gwelwyd y twf blynyddol uchaf o fewn rhanbarthau Lloegr yn Llundain, lle y tyfodd prisiau tai cyfartalog gan 2.3%, ac roedd hyn oherwydd y gostyngiad mewn prisiau tai cyfartalog rhwng Ionawr 2019 a Chwefror 2019. Gwelwyd y twf blynyddol isaf, a’r unig dwf blynyddol negyddol, yn Nwyrain Lloegr lle y gostyngodd prisiau gan 1.0% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Chwefror 2020 fod galw, gwerthiannau a chyfarwyddiadau i gyd wedi cynyddu am y trydydd adroddiad yn olynol.

Adroddodd Crynodeb o Amodau Busnes 2020 Chwarter 1 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai wedi gweld dirywiad amlwg oherwydd yr ansicrwydd economaidd o ganlyniad i’r pandemig Covid-19. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cynnwys ychydig o wybodaeth ym mwletin ystadegol y Mynegai Prisiau Tai sy’n cyfeirio at fesur Mynegai Prisiau Tai y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod hwn.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Chwefror 2020 mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 103,870. Mae hyn 6.0% yn uwch na blwyddyn yn ôl. Rhwng Ionawr 2020 a Chwefror 2020, cynyddodd trafodion gan 4.5%.

mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 104,670.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer benthyca yn y dyfodol) wedi cynyddu yn Chwefror i 73,500.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020, i lawr o 1.5% yn Ionawr 2020.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 3.4% dros y flwyddyn hyd at Chwefror 2020, i fyny o 2.5% yn Ionawr 2020.

Cynyddodd prisiau tai yn Lloegr gan 0.8% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2020.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 2.5% dros y 12 mis diwethaf.

Cynyddodd prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon gan 2.5% dros Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2019.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £164,435 1.2% 3.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2019) £140,190 0.2% 2.5%
Lloegr £246,341 -0.6% 0.8%
Yr Alban £150,524 -1.6% 2.5%
De Ddwyrain Lloegr £321,329 -0.4% 0.4%
De Orllewin Lloegr £258,044 0.5% 1.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £192,244 -1.5% 0.7%
Dwyrain Lloegr £286,869 -0.7% -1.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £198,658 -1.3% 0.7%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £125,053 -1.3% 0.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £163,602 -0.5% 0.9%
Llundain £476,972 0.2% 2.3%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £162,334 -1.0% 1.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Nid yw’r map gwres ar gael oherwydd yr effaith y mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) cyfredol wedi ei chael ar wasanaethau gweithredol.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.6% rhwng Ionawr 2020 a Chwefror 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr 2019 a Chwefror 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Ionawr 2020 a Chwefror 2020.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Chwefror 2020 Chwefror 2019 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £350,021 £347,442 0.7%
Tŷ pâr £219,042 £215,763 1.5%
Tŷ teras £186,737 £183,453 1.8%
Fflat neu fflat deulawr £202,545 £202,169 0.2%
Holl £230,332 £227,738 1.1%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Rhagfyr 2019 Rhagfyr 2018
Lloegr 61,189 69,841
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2019) 6,021 6,765
Yr Alban 7,984 7,486
Cymru 3,610 4,255

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Rhagfyr 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 0.4% yn Lloegr, gostyngodd gan 3.1% yng Nghymru, cynyddodd gan 8.0% yn yr Alban a chynyddodd gan 5.0% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 3.6% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 3.3% yn yr Alban, ac wedi lleihau gan 1.0% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Rhagfyr

A chart showing sales volumes by country for December 2015, December 2016, December 2018, December 2018 and December 2019.

Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Rhagfyr 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2019, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 0.7%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 3.1% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £284,936 2.9% 1.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £229,132 -0.2% 1.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2020 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £193,479 -0.6% 0.9%
Cyn berchen-feddiannydd £267,314 -0.7% 1.3%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Chwefror 2020 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £219,326 -0.3% 1.2%
Morgais £239,757 -0.8% 1.1%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919570915