Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Rhagfyr 2019
Cyhoeddwyd 19 Chwefror 2020
1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2019
pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd
£234,742
y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
2.2%
y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd
0.3%
y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd
123.0
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2020 am 9.30am ddydd Mercher 25 Mawrth 2020. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai y DU gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019, i fyny o 1.7% yn Nhachwedd 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Tachwedd 2019 a Rhagfyr 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Tachwedd 2018 a Rhagfyr 2018).
Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Iwerddon lle y cynyddodd prisiau gan 2.5% dros y flwyddyn. Roedd y twf blynyddol isaf yn Ne Ddwyrain Lloegr, lle y cynyddodd prisiau gan 1.2% dros y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019, wedi ei ddilyn gan Orllewin Canolbarth Lloegr lle y cynyddodd prisiau gan 1.4% dros y flwyddyn.
Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Rhagfyr 2019 fod y mwyafrif o ardaloedd yn y DU wedi gweld cynnydd yn y galw gan brynwyr. Mae ymholiadau wedi cynyddu gan nodi newid amlwg yn dilyn y darlleniadau negyddol yn y mis blaenorol.
Adroddodd Crynodeb o amodau busnes – 2019 Chwarter 4 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai yn parhau i fod yn dawel. Roedd hyn i’w briodoli’n bennaf i ddyddiad cau Brexit yn Hydref ac Etholiad Cyffredinol 2019.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Rhagfyr 2019 mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion wedi eu haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 104,670. Mae hyn 6.8% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Tachwedd 2019 a Rhagfyr 2019, cynyddodd trafodion gan 6.2%.
Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer rhoi benthyg yn y dyfodol) wedi codi yn Rhagfyr i 67,200 sy’n uwch na’r cyfartaledd o 65,900 yn y chwe mis blaenorol.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019, i fyny o 1.7% yn Nhachwedd 2019.
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Ngogledd Iwerddon, lle y cynyddodd gan 2.5% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2019.
Yn Lloegr, yr Alban a Chymru cynyddodd prisiau tai gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2019.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
| Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Cymru | £165,735 | -2.0% | 2.2% |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2019) | £140,190 | 0.2% | 2.5% |
| Lloegr | £251,711 | 0.6% | 2.2% |
| Yr Alban | £151,603 | -1.5% | 2.2% |
| De Ddwyrain Lloegr | £325,050 | -0.3% | 1.2% |
| De Orllewin Lloegr | £262,286 | 1.3% | 2.2% |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £197,048 | 0.5% | 2.8% |
| Dwyrain Lloegr | £297,714 | 2.1% | 2.4% |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | £201,343 | -0.4% | 1.4% |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | £130,977 | 0.5% | 1.8% |
| Gogledd Orllewin Lloegr | £166,003 | -0.6% | 2.0% |
| Llundain | £483,922 | 1.6% | 2.3% |
| Swydd Gaerefrog a’r Humber | £168,382 | 1.7% | 3.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Tachwedd 2019 a Rhagfyr 2019, o’i gymharu â gostyngiad o 0.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Tachwedd 2018 a Rhagfyr 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Tachwedd 2019 a Rhagfyr 2019.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
| Math o eiddo | Rhagfyr 2019 | Rhagfyr 2018 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £359,542 | £347,744 | 3.4% |
| Tŷ pâr | £223,053 | £217,796 | 2.4% |
| Tŷ teras | £189,326 | £185,429 | 2.1% |
| Fflat neu fflat deulawr | £206,083 | £205,194 | 0.4% |
| Holl | £234,742 | £229,729 | 2.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
| Gwlad | Hydref 2019 | Hydref 2018 |
|---|---|---|
| Cymru | 3,880 | 4,387 |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 – 2019) | 6,021 | 6,765 |
| Lloegr | 66,051 | 76,864 |
| Yr Alban | 9,250 | 9,127 |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Hydref 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 0.8% yn Lloegr a Chymru, cynyddodd gan 2.7% yn yr Alban a chynyddodd gan 5% yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 2.4% yn Lloegr a’r Alban a chynyddu gan 0.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Hydref
A chart showing sales volumes by country for October 2015, October 2016, October 2018, October 2018 and October 2019 (in Welsh).
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r amcangyfrif ar gyfer Hydref 2019 wedi ei gyfrifo yn seiliedig ar oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2019, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 0.2%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 2.3% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2019.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £290,328 | -0.2% | 0.8% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £229,842 | -0.1% | 1.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £197,384 | 0.4% | 1.9% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £272,412 | 0.1% | 2.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
| Statws ariannu | Pris cyfartalog Rhagfyr 2019 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £223,465 | 0.4% | 2.0% |
| Morgais | £244,518 | 0.2% | 2.3% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Dosbarthiadau trafodion tai
Rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2019, cafwyd 253,453 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
- Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,757 o eiddo
- Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,194 o eiddo
- Lloegr oedd £150,000 i £174,999 – prynwyd 16,748 o eiddo
- yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 3,280 o eiddo
Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 3 (Gorffennaf i Medi) 2019 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.
Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i fwy o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
Trafodion tai Lloegr
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 70 |
| £25,000 i £49,999 | 1,198 |
| £50,000 i £74,999 | 4,965 |
| £75,000 i £99,999 | 9,424 |
| £100,000 i £124,999 | 12,376 |
| £125,000 i £149,999 | 15,716 |
| £150,000 i £174,999 | 16,748 |
| £175,000 i £199,999 | 16,382 |
| £200,000 i £224,999 | 14,256 |
| £225,000 i £249,999 | 14,274 |
| £250,000 i £274,999 | 12,831 |
| £275,000 i £299,999 | 11,664 |
| £300,000 i £324,999 | 9,863 |
| £325,000 i £349,999 | 8,548 |
| £350,000 i £374,999 | 7,583 |
| £375,000 i £399,999 | 6,738 |
| £400,000 i £424,999 | 5,515 |
| £425,000 i £449,999 | 4,557 |
| £450,000 i £474,999 | 3,887 |
| £475,000 i £499,999 | 3,736 |
| £500,000 i £524,999 | 2,650 |
| £525,000 i £549,999 | 2,501 |
| £550,000 i £574,999 | 2,235 |
| £575,000 i £599,999 | 2,115 |
| £600,000 i £624,999 | 1,810 |
| £625,000 i £649,999 | 1,507 |
| £650,000 i £674,999 | 1,320 |
| £675,000 i £699,999 | 1,204 |
| £700,000 i £724,999 | 957 |
| £725,000 i £749,999 | 881 |
| £750,000 i £774,999 | 840 |
| £775,000 i £799,999 | 677 |
| £800,000 i £824,999 | 624 |
| £825,000 i £849,999 | 511 |
| £850,000 i £874,999 | 532 |
| £875,000 i £899,999 | 498 |
| £900,000 i £924,999 | 418 |
| £925,000 i £949,999 | 364 |
| £950,000 i £974,999 | 354 |
| £975,000 i £999,999 | 287 |
| £1,000,000 i £1,249,999 | 1,841 |
| £1,250,000 i £1,499,999 | 1,024 |
| £1,500,000 i £1,749,999 | 526 |
| £1,750,000 i £1,999,999 | 304 |
| £2,000,000 i £4,999,999 | 659 |
| £5,000,000 i £9,999,999 | 56 |
| Mwy na £10,000,000 | 17 |
Trafodion tai Gogledd Iwerddon
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 22 |
| £25,000 i £49,999 | 175 |
| £50,000 i £74,999 | 655 |
| £75,000 i £99,999 | 975 |
| £100,000 i £124,999 | 1002 |
| £125,000 i £149,999 | 1194 |
| £150,000 i £174,999 | 807 |
| £175,000 i £199,999 | 537 |
| £200,000 i £224,999 | 343 |
| £225,000 i £249,999 | 254 |
| £250,000 i £274,999 | 189 |
| £275,000 i £299,999 | 107 |
| £300,000 i £324,999 | 67 |
| £325,000 i £349,999 | 66 |
| £350,000 i £374,999 | 53 |
| £375,000 i £399,999 | 37 |
| £400,000 i £424,999 | 21 |
| £425,000 i £449,999 | 20 |
| £450,000 i £474,999 | 10 |
| £475,000 i £499,999 | 7 |
| Mwy na £500,000 | 46 |
Trafodion tai yr Alban
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 132 |
| £25,000 i £49,999 | 959 |
| £50,000 i £74,999 | 2,329 |
| £75,000 i £99,999 | 3,171 |
| £100,000 i £124,999 | 2,963 |
| £125,000 i £149,999 | 3,280 |
| £150,000 i £174,999 | 2,810 |
| £175,000 i £199,999 | 2,465 |
| £200,000 i £224,999 | 1,811 |
| £225,000 i £249,999 | 1,729 |
| £250,000 i £274,999 | 1,324 |
| £275,000 i £299,999 | 1,058 |
| £300,000 i £324,999 | 758 |
| £325,000 i £349,999 | 609 |
| £350,000 i £374,999 | 420 |
| £375,000 i £399,999 | 373 |
| £400,000 i £424,999 | 285 |
| £425,000 i £449,999 | 212 |
| £450,000 i £474,999 | 184 |
| £475,000 i £499,999 | 129 |
| £500,000 i £524,999 | 93 |
| £525,000 i £549,999 | 89 |
| £550,000 i £574,999 | 66 |
| £575,000 i £599,999 | 64 |
| £600,000 i £624,999 | 51 |
| £625,000 i £649,999 | 48 |
| £650,000 i £674,999 | 49 |
| £675,000 i £699,999 | 44 |
| £700,000 i £724,999 | 34 |
| £725,000 i £749,999 | 13 |
| £750,000 i £774,999 | 18 |
| £775,000 i £799,999 | 20 |
| £800,000 i £824,999 | 13 |
| £825,000 i £849,999 | 12 |
| £850,000 i £874,999 | 6 |
| £875,000 i £899,999 | 13 |
| £900,000 i £924,999 | 13 |
| £925,000 i £949,999 | 5 |
| £950,000 i £974,999 | 8 |
| £975,000 i £999,999 | 7 |
| £1,000,000 i £1,249,999 | 36 |
| £1,250,000 i £1,499,999 | 25 |
| £1,500,000 i £1,749,999 | 8 |
| £1,750,000 i £1,999,999 | 3 |
| £2,000,000 i £4,999,999 | 6 |
Trafodion tai Cymru
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 0 |
| £25,000 i £49,999 | 133 |
| £50,000 i £74,999 | 620 |
| £75,000 i £99,999 | 1223 |
| £100,000 i £124,999 | 1473 |
| £125,000 i £149,999 | 1757 |
| £150,000 i £174,999 | 1523 |
| £175,000 i £199,999 | 1256 |
| £200,000 i £224,999 | 839 |
| £225,000 i £249,999 | 777 |
| £250,000 i £274,999 | 518 |
| £275,000 i £299,999 | 499 |
| £300,000 i £324,999 | 305 |
| £325,000 i £349,999 | 254 |
| £350,000 i £374,999 | 200 |
| £375,000 i £399,999 | 151 |
| £400,000 i £424,999 | 108 |
| £425,000 i £449,999 | 80 |
| £450,000 i £474,999 | 70 |
| £475,000 i £499,999 | 54 |
| £500,000 i £524,999 | 56 |
| £525,000 i £549,999 | 27 |
| £550,000 i £574,999 | 25 |
| £575,000 i £599,999 | 28 |
| £600,000 i £624,999 | 14 |
| £625,000 i £649,999 | 20 |
| £650,000 i £674,999 | 9 |
| £675,000 i £699,999 | 9 |
| £700,000 i £724,999 | 8 |
| £725,000 i £749,999 | 7 |
| £750,000 i £774,999 | 3 |
| £775,000 i £799,999 | 6 |
| £800,000 i £824,999 | 1 |
| £825,000 i £849,999 | 8 |
| £850,000 i £874,999 | 5 |
| £875,000 i £899,999 | 3 |
| £925,000 i £949,999 | 1 |
| £950,000 i £974,999 | 1 |
| £1,000,000 i £1,249,999 | 5 |
| £1,500,000 i £1,749,999 | 1 |
| £2,000,000 i £4,999,999 | 1 |
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cysylltu
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317
Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost
ceri.lewis@ons.gov.uk
Ffôn
01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn
028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk
Ffôn
07919570915