Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2019

Cyhoeddwyd 16 October 2019

1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2019

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£234,853

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.3%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.8%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

123.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2019 am 9.30am ddydd Mercher 13 Tachwedd 2019. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 1.3% yn y flwyddyn hyd at Awst 2019, i fyny o 0.8% yng Ngorffennaf 2019. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.8% rhwng Gorffennaf 2019 ac Awst 2019, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf 2018 ac Awst 2018).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle y cynyddodd prisiau gan 4.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2019, i fyny o 3.8% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2019. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle y gostyngodd prisiau gan 1.4% dros y flwyddyn hyd at Awst 2019, wedi ei ddilyn gan Dde Ddwyrain Lloegr lle y gostyngodd prisiau gan 0.6% dros y flwyddyn.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Awst 2019 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod tuedd wastad yn y galw (ymholiadau gan brynwyr newydd) ar lefel genedlaethol, yn dilyn rhai misoedd lle roedd ymholiadau wedi cynyddu’n gymedrol. Symudodd gwerthiannau newydd eu cytuno ychydig ymhellach i dir negyddol. Ochr yn ochr â hyn, roedd cyfarwyddiadau newydd i werthu yn ddigyfnewid yn fras am y trydydd adroddiad yn olynol.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes – 2019 Chwarter 3 Asiantau Banc Lloegr fod y farchnad dai yn parhau i feddalu, gan adlewyrchu’r dirywiad yn y cyflenwad a’r galw. Adroddodd asiantau tai fod galw mwy meddal yn y farchnad eilaidd, er bod y galw am eiddo pris is yn fwy gwydn.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Awst 2019 ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai 99,890 oedd y nifer amcanestynedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 0.9% yn uwch na blwyddyn yn ôl. Rhwng Gorffennaf 2019 ac Awst 2019, cynyddodd trafodion gan 15.8%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd benthyca yn y dyfodol) wedi gostwng yn Awst 2019 i 65,500. Mae hyn i lawr o’r brig blaenorol a welwyd yng Ngorffennaf 2019 o 67,000, ond mae’n parhau o fewn yr amrediad cul a welwyd dros y tair blynedd diwethaf.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

A chart showing the annual price change for the UK by country over the past 5 years (Welsh).

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.3% yn y flwyddyn hyd at Awst 2019, i fyny o 0.8% yng Ngorffennaf 2019.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru, lle y cynyddodd gan 4.5% dros y flwyddyn hyd at Awst 2019.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 1.6% dros y 12 mis diwethaf.

Roedd y twf blynyddol arafaf yn Lloegr lle y cynyddodd prisiau gan 1.1% yn y flwyddyn hyd at Awst 2019.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 3.5% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2019.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £168,318 2.3% 4.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2019) £136,767 0.8% 3.5%
Lloegr £251,233 0.8% 1.1%
Yr Alban £154,549 0.3% 1.6%
De Ddwyrain Lloegr £326,232 0.8% -0.6%
De Orllewin Lloegr £260,901 0.7% 0.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £197,682 1.8% 2.6%
Dwyrain Lloegr £294,192 0.3% 0.1%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £201,510 1.5% 2.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £134,736 3.1% 3.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £168,221 1.3% 3.1%
Llundain £472,753 -1.3% -1.4%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £165,767 0.2% 1.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

A heat map showing price changes by country and government office region (Welsh).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.8% rhwng Gorffennaf 2019 ac Awst 2019, o’i gymharu â chynnydd o 0.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf 2018 ac Awst 2018). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.6% rhwng Gorffennaf 2019 ac Awst 2019.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Awst 2019 Awst 2018 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £360,661 £350,964 2.8%
Tŷ pâr £223,275 £218,970 2.0%
Tŷ teras £190,614 £187,871 1.5%
Fflat neu fflat deulawr £203,452 £207,243 -1.8%
Holl £234,853 £231,898 1.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mehefin 2019 Mehefin 2018
Lloegr 59,975 79,056
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2019) 5,210 6,189
Yr Alban 9,020 10,558
Cymru 3,584 4,344

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mehefin 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 5.8% yn Lloegr, 13.4% yn yr Alban, 4.5% yng Nghymru ac 1.8% yng Ngogledd Iwerddon.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 13.7% yn Lloegr, 27.1% yn yr Alban, a 6.4% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2015 i 2019 yn ôl gwlad: Mehefin

A chart showing sales volumes by country for June 2015, June 2016, June 2018, June 2018 and June 2019 (Welsh)

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mehefin 2019 wedi ei gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2019 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mehefin 2018 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mehefin 2019, lleihaodd nifer y trafodion gan 6.4%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 14.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2019.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mehefin 2019 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £282,051 0.4% 1.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £227,595 0.6% 1.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Awst 2019 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £196,921 0.4% 0.7%
Cyn berchen-feddiannydd £273,680 1.2% 1.8%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Awst 2019 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £223,593 0.9% 1.1%
Morgais £244,851 0.8% 1.4%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919570915