Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2018

Cyhoeddwyd 17 October 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£232,797

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

3.2%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.25%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

122.1

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2018 am 9.30am ddydd Mercher 14 Tachwedd 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cododd prisiau tai y DU gan 3.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018, i lawr o 3.4% yn y flwyddyn hyd at Gorffennaf 2018. Mae’r twf blynyddol mewn prisiau tai wedi parhau’n sefydlog ar y cyfan ar lefel genedlaethol er Ebrill 2018.

Tyfodd prisiau tai gyflymaf yn Nwyrain Canolbarth Lloegr gan gynyddu 6.5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018, wedi’i ddilyn gan Orllewin Canolbarth Lloegr a gynyddodd gan 5.1% dros y flwyddyn. Gostyngodd prisiau tai yn Llundain gan 0.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018. Mae’r twf blynyddol ym mhrisiau tai Llundain wedi bod oddeutu sero am y 6 mis diwethaf.

Mae Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Awst 2018 yn adrodd bod ei weddill net gwerthiannau sydd newydd ei gytuno yn negyddol, ac ar ei lefel isaf er pum mis, gan awgrymu gostyngiad mewn trafodion gwerthu. Yn unol â hyn, roedd ei ddisgwyliadau ar gyfer gwerthiannau 12 mis yn negyddol, wedi’i ysgogi gan Lundain yn bennaf. Gan edrych ar y galw am dai, mae’r gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd yn gyson gyda thuedd gwastad yn y galw gan brynwyr.

Yn y crynodebau o amodau busnes AsiantauBanc Lloegr ar gyfer 2018 Chwarter 3, adroddodd asiantau fod y farchnad dai yn meddalu gyda llai o drafodion a chwyddiant gwannach mewn prisiau mewn sawl ardal. Mae’n adrodd bod y farchnad adeiladau newydd wedi parhau’n gryfach na’r farchnad eilaidd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Awst 2018, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol mai 99,120 yw nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 2.6% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Gorffennaf ac Awst 2018, cynyddodd trafodion gan 1.3%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr fod nifer y morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tŷ wedi cynyddu yn Awst 2018, i 66,440 o forgeisi, yn uwch na’r cyfartaledd dros y 6 mis diwethaf, ond lleihad o 0.4% o’i gymharu ag Awst 2017. Ystyrir bod nifer y morgeisiau a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past 5 years welsh

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.2% yn y flwyddyn hyd at Awst 2018 (i lawr o 3.4% yng Ngorffennaf 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yng Nghymru, lle y cynyddodd prisiau tai gan 6.2% dros y flwyddyn hyd at Awst 2018.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 4.1% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 2.9% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.4% dros y flwyddyn hyd at chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £162,374 1.9% 6.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2018) £132,795 -1.0% 4.4%
Lloegr £249,748 0.2% 2.9%
Yr Alban £153,309 0.3% 4.1%
De Ddwyrain Lloegr £329,264 0.1% 1.9%
De Orllewin Lloegr £257,659 -0.4% 2.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £194,718 1.5% 6.5%
Dwyrain Lloegr £292,107 -1.1% 1.6%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £199,000 0.5% 5.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £133,538 1.4% 2.9%
Gogledd Orllewin Lloegr £163,487 0.0% 3.3%
Llundain £486,304 -0.5% -0.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £163,964 1.2% 3.7%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Gorffennaf 2018 ac Awst 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Gorffennaf 2017 ac Awst 2017). Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.3% rhwng Gorffennaf 2018 ac Awst 2018.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Awst 2018 Awst 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £350,354 £338,099 3.6%
Tŷ pâr £220,736 £210,739 4.7%
Tŷ teras £188,889 £182,873 3.3%
Fflat neu fflat deulawr £207,512 £206,009 0.7%
Holl £232,797 £225,572 3.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mehefin 2018 Mehefin 2017 Gwahaniaeth
Lloegr 63,673 84,327 -24.5%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2018) 5,308 6,099 -13.0%
Yr Alban 10,419 10,888 -4.3%
Cymru 3,753 4,691 -20.0%

Sylwer: Bydd y ganran newid blynyddol yn y golofn ‘Gwahaniaeth’ yn cael ei dylanwadu’n bennaf gan lefel cyflawnrwydd data’r mis diweddaraf a adroddwyd, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu’r tueddiadau gwirioneddol.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mehefin 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 5.9% yn Lloegr, 3.0% yn yr Alban a 7.1% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Mehefin

Sales volumes for 2014 to 2018 by country: May welsh

Ym Mehefin 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 21.5% o’i gymharu â Mehefin 2017. O’i gymharu â Mai 2018, cynyddodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 5.1%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mehefin 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 2.8% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mehefin 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £291,882 2.1% 8.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £224,782 0.7% 3.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Awst 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £196,572 0.4% 3.1%
Cyn berchen-feddiannydd £270,059 0.1% 3.3%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Awst 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £221,866 0.2% 3.0%
Morgais £243,021 0.3% 3.3%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk

Ffôn
0131 659 6111 Est. 6387