Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2017

Cyhoeddwyd 17 October 2017

Applies to England and Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£225,956

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

5.0%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.5%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

118.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 5% yn y flwyddyn hyd at Awst 2017, gyda chynnydd o 0.5 pwynt canran o’r mis blaenorol.

O ran y galw am dai nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Awst 2017 fod y prif ddisgwyliadau pris yn parhau’n isel yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, wrth edrych ar y cyfnod 12 mis, canol Llundain yw’r unig ardal lle mae disgwyliadau pris yn negyddol. O ran galw, nid oedd llawer o newid yn nifer yr ymholiadau gan brynwyr yn ystod Awst, gan barhau â’r gyfres o ddarlleniadau digyfnewid neu weddol negyddol am y nawfed mis yn olynol.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU fod nifer y trafodion wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu fwy wedi cynyddu gan 6.6% rhwng Awst 2016 ac Awst 2017. Fodd bynnag, rhwng Gorffennaf 2017 ac Awst 2017, lleihaodd nifer y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol gan 0.5%.

Wrth edrych yn fwy manwl ar lefelau rhanbarthol y DU, gwelwyd y twf blynyddol mwyaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr, sef 6.5%. Dilynwyd hyn gan Dde Orllewin Lloegr, Dwyrain Lloegr a Dwyrain Canolbarth Lloegr, gyda chyfradd twf o 6.4% ym mhob un o’r ardaloedd hyn yn y flwyddyn hyd at Awst 2017. Y twf blynyddol isaf oedd yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 2.6% dros y flwyddyn. Dyma’r 9fed mis yn olynol i’r twf mewn prisiau tai yn Llundain barhau’n is na chyfartaledd y DU.

Ar yr ochr gyflenwi, adroddodd RICS mai -1% oedd gweddill net y cyfarwyddiadau gwerthiannau newydd ar gyfer Awst 2017, o’i gymharu â -11% yng Ngorffennaf 2017 – dyma’r darlleniad lleiaf negyddol er Chwefror 2016. Adroddodd RICS hefyd fod gweddill net y cyfarwyddiadau gwerthiannau newydd wedi troi’n llai negyddol yn raddol ym mhob un o’r tri mis diwethaf.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Welsh Annual price change for UK by country over the past five years

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 5.0% yn y flwyddyn hyd at Awst 2017 (i fyny o 4.5% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2017).

Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai y DU o Loegr, lle y cynyddodd prisiau gan 5.3% dros y flwyddyn hyd at Awst 2017.

Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn prisiau tai o 3.4% dros y 12 mis diwethaf.

Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.9% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.4% dros y flwyddyn i Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £150,258 -0.1% 3.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2017) £128,650 3.1% 4.4%
Lloegr £243,520 0.7% 5.3%
Yr Alban £146,354 -0.7% 3.9%
De Ddwyrain Lloegr £324,983 1.1% 4.8%
De Orllewin Lloegr £251,984 0.6% 6.4%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £183,762 0.3% 6.4%
Dwyrain Lloegr £288,440 0.0% 6.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £188,447 0.6% 5.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £130,731 1.4% 3.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £159,865 2.3% 6.5%
Llundain £484,362 -1.0% 2.6%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £158,689 1.4% 4.8%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

welsh Price changes by country and government office region

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Awst 2017 Awst 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £341,167 £322,484 5.8%
Tŷ pâr £211,236 £201,559 4.8%
Tŷ teras £183,969 £175,233 5.0%
Fflat neu fflat deulawr £203,205 £194,478 4.5%
Holl £225,956 £215,143 5.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn effeithio ar nifer y gwerthiannau ar gyfer adeiladau newydd yn y misoedd mwy diweddar. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mehefin 2017 Mehefin 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 66,082 74,259 -11.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2017) 5,106 4,865 5.0%
Yr Alban 10,473 8,782 19.3%
Cymru 3,867 3,812 1.4%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Mehefin 2017

welsh Sales volumes for 2013 to 2017 by country: May 2017

Ym Mehefin 2017 lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 6.7% o’i gymharu â Mehefin 2016. O’i gymharu â Mai 2017, cynyddodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 10.5%.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd: Awst 2017

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £287,118 0.5% 11.7%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £221,798 0.5% 4.5%

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd: Awst 2017

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £190,792 0.5% 4.9%
Cyn berchen-feddiannydd £262,156 0.6% 5.3%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais: Awst 2017

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £215,294 0.4% 5.1%
Morgais £235,923 0.6% 5.2%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387