Anerchiad

Cymru Mewn Undeb sy'n Newid

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, draddododd ddarlith flynyddol Athrofa Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
" "

(Gwirio’r cyflwyniad)

Diolch Yr Athro McMahon.

Diolch yn fawr iawn.

Rydw i’n falch iawn o fod yma heno ym Mhrifysgol Aberystwyth.

I rai, Aberystwyth yw gwir brifddinas Cymru, ac mae’n ddiamheuol yn ganolfan unigryw o ddysg, diwylliant a chelfyddyd Gymreig.

Mae’n lleoliad i un o’n hallforion darlledu mwyaf poblogaidd diweddar, Y Gwyll / Hinterland, a ddenodd ddiddordeb rhyngwladol ym maes drama drosedd ‘Nordic Noir’, ac a helpodd i roi proffil newydd ehangach i’r Gymraeg fel yr iaith fodern fyw Ewropeaidd ag ydyw - yn ogystal ag arddangos y dref hon hefyd.

Ond cefais gipolwg ar yr hyn oedd ar y gorwel i Aberystwyth 14 mlynedd yn ôl pan gyhoeddodd Malcolm Pryce ei nofel drosedd Saesneg hynod ac anarferol ‘Aberystwyth Mon Amour’ a leolwyd yma yn y dref ond mewn realiti gwahanol. Bu i fy athro Cymraeg ar y pryd anfon copi cynnar ataf, gan iddo synhwyro’n gywir bod angen rhywbeth gwahanol arnaf i’r ymrafael rheolaidd â threigladau heriol a chystrawen mamiaith Cymru.

Yn ôl yn y byd real, mae Prifysgol Aberystwyth wrth gwrs yn un o brifysgolion hanesyddol Cymru, a bron i ganrif a hanner ers ei sefydlu, mae ganddi gyrhaeddiad byd-eang - gydag enw da am ragoriaeth academaidd a rhagoriaeth ymchwil. Mae’r adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ble’r ydym heno, yn enwog o gwmpas y byd.

Rwyf wedi cael y pleser o gefnogi Cynllun Lleoli Seneddol yr adran ers rhai blynyddoedd, a gallaf dystio’n ddidwyll i safon a chymhelliant myfyrwyr Aber sydd wedi treulio rhan o’u hafau’n gweithio yn fy swyddfa yn Nhŷ’r Cyffredin. A bu’n bleser eu gweld yn symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus ym meysydd y Gyfraith, polisi cyhoeddus a chysylltiadau cyhoeddus.

Mae rhwydwaith alumni y brifysgol yn wirioneddol drawiadol.

Ar ymweliad â Rwanda 4 blynedd yn ôl rwy’n cofio cyfarfod â’r gwas sifil oedd yn gyfrifol am holl wasanaeth addysg y wlad honno ac i’w lygaid befrio pan glywodd fy mod yn Gymro gan ofyn a oeddwn yn gwybod am Aberystwyth. Ac wrth gwrs, cefais wybod ei fod yn un o’ch alumni, gan y bu iddo ymgymryd â’i astudiaethau ôl-radd yma.

Mae’n deg dweud bod cariad mawr at Aber a Chymru wedi aros gydag ef ers hynny - ac mae hyn yn nodweddu’r miloedd sy’n cyrraedd ac yn gadael y brifysgol bob blwyddyn.

Roedd Aberystwyth hefyd yn gartref am nifer o flynyddoedd i’r hanesydd a’r darlledwr Dr John Davies a fu’n dysgu yma yn y Brifysgol ac a fu farw’r mis diwethaf.

Mae’n debyg y bu i’w Hanes Cymru ddylanwadu’n fwy nag unrhyw lyfr arall ar fy ffordd o feddwl am Gymru - cenedligrwydd Cymreig. Mae yna 8 mlynedd erbyn hyn ers cyhoeddi’r fersiwn Saesneg…

…8 mlynedd o newidiadau mawr i’r cyd-destun economaidd a gwleidyddol y mae’r cenedligrwydd hwnnw yn cael ei fynegi drwyddo ac y rhoddir bywyd ac ystyr iddo.

A hynny mewn gwirionedd yw thema fy sgwrs i heno.

Cyflwyniad:

Mae hi bron yn union 3 blynedd yn ôl ers i mi siarad ddiwethaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, pryd y bu i mi annerch y Ganolfan Astudiaethau Ewropeaidd am yr achos o blaid cymorth tramor mewn oes o gyni.

[dilëwyd y cynnwys gwleidyddol]

Bu llawer o newid ers hynny, ac erbyn hyn rwyf yn cael yr anrhydedd fawr o wasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth i gyfnod y Llywodraeth Glymbleidiol hon ddirwyn i ben.

Wrth i’r Llywodraeth ryfeddol a hanesyddol hon ddirwyn i ben hoffwn edrych yn ôl ar rai o newidiadau gwleidyddol a chyfansoddiadol y pum mlynedd diwethaf a’r hyn maent wedi ei olygu i Gymru; ond gan edrych ymlaen hefyd, er mwyn ystyried yr hyn yr wyf yn credu yw’r prif heriau fydd yn wynebu llywodraethu Cymru yn effeithiol fel cenedl.

Cymru drwy lygaid Sir Benfro: Myfyrdod Personol

Ond i ddechrau hoffwn gynnig myfyrdod personol ar Gymru.

Cymru drwy lygaid Sir Benfro: Myfyrdod Personol

Rwyf yn Gymro i’r carn. Cefais fy magu yn Sir Benfro - yng nghalon yr etholaeth yr wyf nawr yn ei chynrychioli - a bu i’r sir hanesyddol hardd hon ar un o eithafoedd gorllewinol pellaf Prydain, sy’n ymestyn i mewn at gefnwlad garw Cymru ond sy’n edrych hefyd allan dros erwinder gogledd yr Iwerydd, ddylanwadu’n fawr ar fy mlynyddoedd ffurfiannol gan siapio’r ffordd yr wyf yn edrych ar Gymru a’r byd.

Mae Sir Benfro wedi cyfrannu’n sylweddol at ddrama hanes Cymru a Phrydain.

Bu’n gartref wrth gwrs i Dewi Sant, nawddsant Cymru o’r 6ed ganrif ac eicon cenedlaethol. Dyn o ddefosiwn a ffydd ryfeddol a sefydlodd nifer fawr o eglwysi, ac a gysylltwyd erbyn y 10fed ganrif â’r frwydr faith am fwy o annibyniaeth i Eglwys Cymru ond hefyd - yn fwy gwleidyddol - â brwydr pobl Cymru - y Cymry - yn erbyn y bobl y mae rhai erbyn hyn yn eu disgrifio, a hynny ddim yn gwbl gywir, fel y Saeson.

Sir Benfro hefyd oedd man geni Harri Tudur, y darpar Frenin Harri VII, mab i deulu o grachfonheddwyr Eingl-Gymreig a lwyddodd i gyflawni’r gamp annhebygol o roi terfyn ar Ryfel y Rhosynnau a sefydlu brenhinlin - ac yn ystod y broses hon y ffurfiwyd rhai o’r cysylltiadau cyfansoddiadol, cyfreithiol a chrefyddol allweddol rhwng Cymru a Lloegr - cysylltiadau a siapiodd le Cymru yn yr Undeb yn sylweddol ac sy’n dal i fodoli heddiw.

Sir Benfro hefyd oedd man geni’r croniclydd o’r 12fed ganrif, Gerallt Gymro. Caiff ei ddisgrifio gan rai fel dyn mwyaf dysgedig ei oes, ac mae ei waith yn dweud llawer wrthym am hanes a daearyddiaeth Cymru, a’r berthynas ddiwylliannol rhwng y Cymry a’r Saeson yn yr Oesoedd Canol.

O ystyried Gerallt - ni all rhywun fod yn sicr ar ochr pwy y mae - y Cymry neu’r unbeniaid Normanaidd - roedd ganddo rieni cymysg wedi’r cyfan - ond roedd ef hefyd yn rhannu’r angerdd hwnnw am fwy o annibyniaeth i Eglwys Cymru - ac i weld rhyddhau esgobaeth Tŷ Ddewi oddi wrth Caergaint, a’i dyrchafu i’r un statws â hi. Mewn oes oedd yn rhagflaenu strwythurau gwleidyddol gwladwriaeth y genedl unedig, efallai mai’r achos eglwysig hwn oedd y peth agosaf a gawn at ddyhead am annibyniaeth Gymreig.

Mae fy sir yn enwog am gael ei rhannu gan Linell Landsger, ffin ddiwylliannol ac ieithyddol sydd wedi bodoli ers bron i fil o flynyddoedd ac wedi ei nodweddu â chadwyn o gestyll. Hon yw’r llinell a wahanodd lefydd megis Crymych a Mynachlog Ddu yn y Gogledd oddi wrth bentrefi’r iseldir megis Jeffreyston a Bosherston gyda’u henwau Saesneg a’u heglwysi Normanaidd.

Mae’r llinell ddychmygol yn esiampl amlwg o sut y gall cymunedau sydd o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd gael hanes gwahanol, cefndiroedd diwylliannol gwahanol, sydd efallai hyd yn oed eisiau pethau gwahanol o ran y ffordd y’u llywodraethir.

Mae’r amrywiaeth diwylliannol ac ieithyddol hwn yn rhan o’r clytwaith cyfoethog sy’n gwneud Cymry yn lle mor rhyfeddol.

Ac mae hyn wedi helpu i ffurfio fy hunaniaeth Gymreig: hunaniaeth Gymreig sy’n bodoli’n gyfforddus gyda’r hunaniaeth arall sydd yr un mor gryf ac a ddaw o fod yn aelod o deulu ehangach - hynny yw, y teulu o genhedloedd sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig.

Roedd cael rhiant o’r Alban yn helpu hefyd wrth gwrs.

Roedd yr Undeb yn fy DNA.

Ac i’r rhai sydd eisiau deall mwy am fy nhaith bersonol o fod yn ddrwgdybus a gwrthwynebus i ddatganoli Cymreig, fel un oedd yn gweld hynny fel rhywbeth oedd yn gwbl gyferbyniol ac yn fygythiad i fy malchder yn yr Undeb, buaswn i ddechrau yn cyfeirio at fy nghefndir fy hun yn Sir Benfro. Bu i’r sir hon bleidleisio’n gryf yn erbyn datganoli yn refferendwm 1997. Yn y refferendwm 14 mlynedd yn ddiweddarach bu i Sir Benfro - fel gweddill Cymru ar wahân i Sir Fynwy - bleidleisio gyda mwyafrif amlwg o blaid pwerau deddfu llawn i Gymru.

Bu pob un ohonom ar dipyn o daith yn ystod y blynyddoedd diweddar…

…nid oedd yn foment ffordd Damascus i mi gymaint â hynny, ond yn broses o fyfyrio a meddwl a ddechreuodd gyda fersiwn Saesneg o Hanes Cymru John Davies yn 2008, ac a ddiweddodd gydag ymweliad i Senedd Yr Alban yn Holyrood y llynedd wrth i stormydd y Refferendwm chwyrlio o’n cwmpas…

…proses o ddeall dyfnder hen ddyheadau ymysg cenhedloedd Prydain - yr awydd hwnnw am fwy o annibyniaeth; ond hefyd dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r diogelwch a’r buddion sy’n deillio o gyfuno risgiau a chydweithredu a ddarparodd sylfeini ein Hundeb i ddechrau - yr undeb gwleidyddol mwyaf llwyddiannus a welodd y byd erioed.

Ac felly, fy nghanlyniad o hyn oedd bod datganoli o fewn fframwaith Teyrnas Unedig gref efallai’n cynnig y ffordd orau a’r unig ffordd o fodloni’r grymoedd tectonig yma sydd â’r potensial o fod yn gystadleuol.

A thrwy gyd-ddigwyddiad hapus rwyf wedi canfod fy hun yn ystod y misoedd diwethaf yn cyfrannu at y ddadl ynglŷn â beth ddylai datganoli llwyddiannus ei olygu i Gymru yn y blynyddoedd sydd i ddod - gan gyfrannu nid â gwrthwynebiad diwyro i ddatganoli na’r eiddgarwch a’r emosiwn angerddol y buasech yn ei ddisgwyl gan un wedi cael tröedigaeth, ond yn hytrach fel datganolwr pragmatig a rhesymol - a hon yw’r ymagwedd briodol i unrhyw Ysgrifennydd Gwladol Cymru rwy’n credu.

Rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Wrth weithio yn Swyddfa Cymru ers 2012, i ddechrau fel Is-ysgrifennydd Seneddol ac yna fel Ysgrifennydd Gwladol, rwyf wedi dilyn yn ôl traed rhagflaenwyr enwog - a’r mwyaf nodedig i mi oedd Arglwydd Crucywel, sef Nicholas Edwards ac AS Sir Benfro, a wasanaethodd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 1979 i 1987, y cyfnod hiraf i unrhyw un ddal y swydd honno.

Llynedd nodwyd 50 mlynedd ers creu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, carreg filltir yr oedd rhai yn credu byddai’n anodd ei chyrraedd yn dilyn datganoli llawer o swyddogaethau gweithredol blaenorol Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r Senedd newydd a etholwyd.

[dilëwyd y cynnwys gwleidyddol]

‘Pam ddim cael un swydd ar gyfer y tair tiriogaeth oherwydd bod bron y cyfan o’r hen swyddogaethau gweithredol wedi’u datganoli?’ gofynnodd nifer o sylwedyddion yn ddigon rhesymol.

I nodi’r 50fed pen-blwydd bu i mi wahodd pob cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru sy’n dal yn fyw i ddigwyddiad yn Nhŷ Gwydyr mis Hydref diwethaf - yn cynnwys Peter Hain, William Hague, Arglwydd Crucywel, a’r Arglwydd Hunt. Roeddwn hefyd yn falch iawn o weld bod Arglwydd Morris Aberafan wedi dod hefyd. Bu John Morris, a anwyd ychydig filltiroedd o’r fan hon ac un arall o’ch alumni enwog, yn Ysgrifennydd Gwladol yn ôl ym 1974-79. Mae ei hunangofiant yn gyfrol bwysig i unrhyw un sy’n dymuno deall proses ddatganoli anwadal Cymru.

Ar ôl mwynhau derbyniad diodydd aeth John ati i roi cyfweliad teledu yn fy ystafell yn Nhŷ Gwydyr gan ddatgan yn bendant bod oes swydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi darfod ac y dylid ei dileu.

Ond yno hefyd ar y noson honno roedd y cyn Ysgrifennydd Gwladol o gyfnod y datganoli - Paul Murphy, fydd yn gadael ei swydd yn y Senedd ymhen pythefnos. Bu i Paul ddefnyddio ei araith yr wythnos diwethaf yn y ddadl Dydd Gŵyl Dewi flynyddol yn Nhŷ’r Cyffredin i annog yn gryf y dylid cadw swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Senedd nesaf - a bod datganoli yn golygu bod mwy o bwysigrwydd i’r swydd ac nid llai.

Nid wyf yn credu y dylem bryderu gormod am bensaernïaeth llywodraeth neu am deitlau swydd y Cabinet, ac nid wyf yn un sy’n credu y dylai swydd yr Ysgrifennydd Gwladol barhau o reidrwydd am 50 mlynedd arall dim ond oherwydd ei bod wedi bodoli am 50 mlynedd.

Ond os yw’r 5 mlynedd diwethaf - yn arbennig y flwyddyn ddiwethaf - wedi dangos unrhyw beth i ni, mae wedi dangos bod gan Ysgrifenyddion y tiriogaethau gyfraniad pwysig i’w wneud wrth i ni geisio gwireddu trefniadau datganoli parhaol ac effeithiol o fewn y Deyrnas Unedig. Pe na bai’r swyddi yn bodoli ar hyn o bryd, byddai’n rhaid i chi ddyfeisio rhywbeth tebyg iawn iddynt.

Ond ers diwrnod cyntaf y Llywodraeth Glymbleidiol hon, mae pwysigrwydd Ysgrifennydd llawn amser ar gyfer Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael ei gydnabod - ac mewn ystyr ehangach na’r hyn a ragwelwyd yn syth ar gyfer y swyddi yn dilyn datganoli ym 1999.

Gall rhywun ddisgrifio rôl Ysgrifennydd Gwladol yn y Llywodraeth hon fel

• Gweithredu fel pont sy’n croesi’r rhaniad yn dilyn datganoli i Lywodraeth Cymru • Bod yn llais Cymru wrth fwrdd Cabinet y DU • Bod yn brif wyneb Llywodraeth y DU yng Nghymru • Ac, yng ngeiriau’r Prif Weinidog ei hun, “bod yn hyrwyddwr adfywiad economaidd Cymru”.

Pan gefais fy mhenodi dywedodd y Prif Weinidog yn eglur iawn ei fod yn disgwyl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru lefaru a chael ei glywed er budd Cymru. Mae’r Prif Weinidog yn credu yn nefnyddioldeb Ysgrifennydd Gwladol Cymru ym mheiriant y Llywodraeth.

Roeddwn i wrth gwrs yn ffodus eithriadol o dderbyn y swydd ar adeg unigryw yn hanes ein cyfansoddiad ac ar adeg gyffrous i Gymru. Amser da i geisio gwneud pethau ddigwydd o blaid Cymru.

Yn bersonol, mae 3 uchafbwynt allweddol yn amlygu eu hunain yn ystod yr 8 mis olaf:

I ddechrau, Cynhadledd NATO ym mis Medi, y casgliad mwyaf erioed o arweinwyr byd-eang i ddod i’r DU. Roedd Cymru yn ganolbwynt y llwyfan byd-eang. Ni allai ein proffil rhyngwladol fod yn fwy, a bu’r Gynhadledd yn llwyddiant ysgubol. Gwnaeth y Prif Weinidog y penderfyniad amlwg i ddefnyddio brand Cymru - fel cenedl - ar gyfer y Gynhadledd, yn hytrach na dinas benodol fel yr oedd yr arferiad mewn cynadleddau NATO blaenorol. Yn briodol, credai bod hyn yn gyfle unigryw i Gymru ddangos ei hun ar ei gorau, a bu’n esiampl wych o weithio mewn partneriaeth rhwng 10 Stryd Downing, Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dau fis ar ôl hyn cynhaliwyd cynhadledd fuddsoddi’r DU, pan ddaeth dros 150 o fuddsoddwyr byd-eang i Gymru i weld drostynt eu hunain pam fod Cymru yn lle mor wych i fuddsoddi ynddo - gan ddefnyddio’r un model o weithio mewn partneriaeth unwaith eto.

Yr ail uchafbwynt oedd atgyfodi a chadarnhau’r ddêl â Llywodraeth Cymru i drydanu’r brif linell i Abertawe a holl rwydwaith rheilffordd Cledrau’r Cymoedd: rhan o fuddsoddiad £2bn y mae’r Llywodraeth hon yn ei roi tuag at reilffyrdd Prydain; y buddsoddiad mwyaf mewn seilwaith rheilffordd ers oes Fictoria. Byddai Isambard Kingdom Brunel ei hun yn falch!

Ond daeth y mater o drydanu De Cymru yn rhyw fath o achos prawf i ddatganoli - a allai dwy weinyddiaeth oedd yn perthyn i ddwy blaid wahanol weithio gyda’i gilydd i gyflawni seilwaith strategol sylweddol neu a fyddai ffiniau datganoli, llinellau cyllid adrannol, cweryla biwrocrataidd… a diffyg ymddiriedaeth wleidyddol hen ffasiwn yn golygu y byddai hyn yn arwain at golli cyfle anferthol i Gymru?

Bu’n adeg i rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Swyddfa Cymru amlygu ei hun a phrofi ei gwerth.

Y trydydd uchafbwynt y buaswn yn cyfeirio ato yw i’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog, yn gynharach y mis hwn gyhoeddi carreg filltir o becyn datganoli i Gymru. Bydd yn sylfaen y gallwn adeiladu datganoliad newydd i Gymru arni, fydd yn fwy eglur, cryfach a thecach na’r setliad presennol. Byddaf yn dweud mwy am y pecyn Dydd Gŵyl Dewi hwnnw ymhen ychydig.

Y Llywodraeth Glymbleidiol: 5 Mlynedd o Lwyddiant:

Felly, rydym yn dod i ddiwedd y Senedd hon gan ddangos yn rymus, ryw’n credu, y gall datganoli weithio er budd strategol Cymru. Ond llwyddwyd hefyd i ffurfio gweledigaeth newydd ynglŷn â beth ddylai datganoli ei olygu yn y dyfodol.

Yn sicr, mae’r Senedd bresennol wedi bod yn un hanesyddol yn hanes ein Teyrnas Unedig:

…gyda’r llywodraeth glymbleidiol gyntaf ers yr ail ryfel byd yn cael ei ffurfio i wynebu her economaidd anferth: yr argyfwng economaidd mwyaf ers saith deg o flynyddoedd, a’r diffyg ariannol mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.

…gyda strwythur y Deyrnas Unedig ei hun o dan fygythiad fel nas gwelwyd o’r blaen oherwydd twf mewn cenedlaetholdeb Albanaidd, a’r refferendwm fis Medi diwethaf ynglŷn ag annibyniaeth lawn.

…a gyda realaeth wleidyddol newydd yn y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gyda gweinyddiaethau o liwiau gwleidyddol gwahanol y naill ben o’r M4 am y tro cyntaf erioed.

Pan fu i ni ffurfio’r Glymblaid yn 2010, nid oedd yna brinder amheuwyr a ddywedodd “ni fydd yn para”; y byddai Llywodraeth glymbleidiol yn gynhenid ansefydlog; ac y byddai amheuaeth ddwy ffordd yn drech na’r angen am lywodraethu da.

Ni allent fod wedi bod ymhellach o’r gwir.

Clymblaid: Llywodraeth radical sy’n diwygio

Yr hyn nad oedd neb wedi ei ragweld ychwaith oedd pa mor radical fyddai’r llywodraeth mewn perthynas â’r cyfansoddiad, a datganoli. Mae’r radicaliaeth wedi ei amlygu ei hun fel ymateb i ddigwyddiadau allanol - megis Refferendwm Yr Alban a chydnabyddiaeth o’r angen i gydbwyso’r economi o’r newydd oddi wrth Lundain a De Ddwyrain Lloegr sydd hyd yn oed yn fwy pwerus nag erioed; ac oherwydd bod hynny’n rhan gynhenid o athroniaethau a thraddodiadau gwleidyddol allweddol y ddwy blaid yn y Glymblaid.

Ond yn ôl yn 2010 y prif ffocws oedd yr argyfwng economaidd. Bu i ni ffurfio cynllun, y cytunwyd arno ar draws y glymblaid, er mwyn lleihau’r diffyg, adfer trefn i’n cyllid cenedlaethol a gosod sylfaeni ar gyfer twf iachach a mwy cytbwys.

Pum mlynedd yn ddiweddarach mae’r cynllun yn dwyn ffrwyth gwirioneddol er lles Cymru.

Does dim amheuaeth bod yr economi yn adfywio. Y DU yw’r economi fawr sy’n tyfu gyflymaf. A Chymru yw’r rhan o’r DU sy’n tyfu gyflymaf.

Eisoes eleni mae gwir gyflogau yn tyfu ac mae aelwydydd yn elwa o lefel chwyddiant sydd ar ei isaf erioed. Mae ein heconomi yn cael ei chydbwyso o’r newydd, gyda’r dirywiad mewn cynhyrchu yn cael ei wrthdroi ac adferiad cryf yn cael ei arwain gan fusnesau. Erbyn hyn mae’r raddfa o greu busnesau yng Nghymru ar ei chyflymaf ers mwy na degawd.

Bydd angen seilwaith sy’n perthyn i’r 21ain ganrif er mwyn creu ffyniant mewn economi sydd wedi cydbwyso ei hun o’r newydd. Felly rydym yn cywiro’r tanwariant cronig mewn seilwaith a welwyd o dan lywodraethau’r gorffennol, gan fuddsoddi cyfran uwch o gyfoeth y genedl mewn seilwaith nag a wnaed drwy gydol cyfnod y Llywodraeth flaenorol.

Buddsoddi mewn trydanu rheilffyrdd Cymru y cyfeiriais ato eisoes. Buddsoddi mewn band eang fel y gall cartrefi a busnesau yng Nghymru fanteisio ar rai o’r cyflymderau band eang cyflymaf yn y byd. A phrosiectau seilwaith ynni mawr fydd yn helpu i ddarparu ynni glanach a mwy diogel yn y dyfodol.

Ond i mi, nid yw twf economaidd yn ddiben ynddo’i hun. Rwyf yn credu y dylai twf alluogi adfywiad cymdeithasol ac mai hynny yw gwir brawf polisi economaidd.

Felly, mae trawsnewid diwylliant ble mae diffyg gwaith wedi dod yn norm mewn gormod o gymunedau yng Nghymru wedi bod yn un o brif lwyddiannau’r Glymblaid hon. Yn 2010, pan ein hetholwyd, roedd yna 200,000 o bobl yng Nghymru nad oedd erioed wedi gweithio diwrnod yn eu bywydau. Roedd yna 92,000 o blant yn cael eu magu mewn cartrefi ble nad oedd neb yn gweithio.

Nawr mae gennym 46,000 yn llai o aelwydydd heb waith yng Nghymru nag yr oedd yna yn 2010 ac, yn allweddol, mae yna 39,000 yn llai o blant sydd â thad a mam nad ydynt yn gweithio.

Felly mae Cymru ar lwybr o adferiad, yn economaidd a chymdeithasol. Mae yna fynydd i’w ddringo - peidied neb â chymryd arnynt nad ydym yn sownd ar waelod tabl cynghrair economaidd y DU - ond rydym yn benderfynol o greu’r amodau priodol i greu twf yng Nghymru. Ac rwyf yn credu bod y cynllun economaidd yr ydym wedi ei lunio yn cynrychioli cyfle gorau Cymru o gau’r bwlch ffyniant rhyngddi â gweddill y DU.

Ond rydym wedi dangos fel Clymblaid nad yw gosod yr economi fel ffocws creiddiol ein rhaglen - ein prif genhadaeth - wedi atal cynnydd mewn nifer o feysydd eraill, yn cynnwys datrys problemau datganoli Cymru.

Hanes da o Ddatganoli:

Erbyn diwedd cyfnod y Llywodraeth ddiwethaf, y gwir yw nad oedd Cymru’n cael ystyriaeth deg yn Whitehall.

[dilëwyd y cynnwys gwleidyddol]

Roedd y cyfathrebu rhwng y gweinyddiaethau yn Llundain a Chaerdydd wedi troi i fod yn anffurfiol, ac yn aml gwnaethpwyd hynny drwy’r blaid yn hytrach na thrwy sianelau priodol y llywodraeth.

Nid oedd y strwythurau datganoli wedi’u hadeiladu i barhau. Ac ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i’r gwahanol bleidiau gwleidyddol oedd mewn Llywodraeth y naill ben a’r llall i’r M4.

Ac roedd y broses ddatganoli yng Nghymru wedi rhewi’n gorn….yn parhau i ddibynnu ar y Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol llafurus a chlogyrnaidd (y drwg-enwog LCOs!) er mwyn trosglwyddo pwerau tameidiog i Fae Caerdydd.

Roedd popeth wedi cloffi i bob pwrpas.

Bu i Raglen Lywodraethu’r Glymblaid newid hynny. Fe’n gosododd ni yn y rheng flaen. Roedd yn cynnwys tri ymrwymiad eglur i Gymru. I ddechrau bu i ni gwblhau’r LCO olaf - ynglŷn â thai - yn ystod y misoedd cyntaf.

Yn ail, ac yn llawer pwysicach, bu i ni gynnal refferendwm Cynulliad 2011. Refferendwm a arweiniodd at bleidlais ‘ie’ ysgubol o blaid rhoi pwerau deddfu llawn i’r Cynulliad. Roedd hyn yn drobwynt i nifer ohonom oedd yn parhau i amau a oedd pobl Cymru’n wirioneddol wedi cofleidio datganoli neu beidio.

Yn drydydd, yn dilyn y refferendwm bu i ni sefydlu Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru - sy’n adnabyddus i bob un ohonom fel Comisiwn Silk - er mwyn edrych ar drefniadau ariannol a chyfansoddiadol Cymru.

Bu i’r Comisiwn gynhyrchu dau adroddiad. Bu i’r cyntaf edrych ar ddatganoli cyllidol, gan argymell rhoi pwerau trethu i’r Cynulliad , a phwerau benthyca i Weinidogion Cymru, am y tro cyntaf. Bu i Ddeddf Cymru 2014, y bu i mi helpu i’w chyflwyno drwy’r Senedd, weithredu bron y cyfan o argymhellion Silk.

Mae’n ddeddfwriaeth fechan ond arloesol, sy’n datganoli pwerau i’r Cynulliad o ran treth dir y dreth stamp a threth tirlenwi; gan alluogi’r Cynulliad i sbarduno refferendwm ar ddatganoli peth treth incwm, a datganoli cyfraddau busnes yn llawn; a galluogi Gweinidogion Cymru i fenthyg a helpu ariannu prosiectau cyfalaf.

Cyhoeddodd y Comisiwn Silk ei ail adroddiad ychydig dros flwyddyn yn ôl, gydag argymhellion amrywiol ar gyfer addasu datganoli Cymreig a gwella cysylltiadau rhynglywodraethol. Pan gychwynnais yn fy swydd roedd yr adroddiad hwnnw mewn perygl o hel llwch ar silff.

Yn y cyfamser, roedd y setliad datganoli dan bwysau nas gwelwyd o’r blaen, gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ffraeo ynglŷn â chymhwysedd Y Goruchaf Lys. Bu i’r achosion hyn, yn arbennig gorchfygiad Llywodraeth y DU mewn perthynas â Chyflogau Amaethyddol mis Gorffennaf diwethaf, amlygu gwir natur setliad datganoli Cymru, amwys, diffygiol ynglŷn â llawer o feysydd allweddol, ansefydlog, dros dro - cyfle i wneud pres i gyfreithwyr.

Yn olaf, ychwanegwch at hyn y newid syfrdanol yng ngwleidyddiaeth Yr Alban a’r ymgyrch dros annibyniaeth y llynedd a gododd dymheredd y ddadl yng Nghymru, ac roedd hynny’n golygu bod angen ateb y cwestiwn “Beth mae hyn yn ei olygu i ddatganoli yng Nghymru?”

Cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi:

Y bore ar ôl refferendwm Yr Alban ar 19 Medi dywedodd y Prif Weinidog ei fod eisiau i Gymru fod yn rhan ganolog o drafodaeth newydd ynglŷn â datganoli yn y Deyrnas Unedig.

Y gwir yw, hyd yn oed cyn bod ymgyrch y refferendwm ar ben, roeddem yn gwybod na fyddai’r ddadl ynglŷn â datganoli fyth yr un fath eto, a bod rhaid i ni weithredu i ddatrys problemau datganoli yng Nghymru.

Felly, penderfynais ddefnyddio’r achlysur cyfansoddiadol hwn i fwndelu’r holl ymrysonau hir ynglŷn â datganoli yng Nghymru a cheisio dod â’r holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru at ei gilydd er mwyn ystyried y materion hyn mewn modd bragmataidd a phositif.

Ac felly y cychwynnodd ein proses Dydd Gŵyl Dewi gyda’r amcan o gytuno ar setliad datganoli eglurach, cryfach a thecach i Gymru.

Bu i ni ddechrau drwy archwilio argymhellion Silk II er mwyn dynodi pa argymhellion oedd yn destun consensws gwleidyddol, a chytuno ar set o ymrwymiadau i’w cyhoeddi erbyn Dydd Gŵyl Dewi ynglŷn â dyfodol datganoli yng Nghymru. Ond bu i ni hefyd edrych ar fater ariannu teg i Gymru ac ystyried sut allai’r newidiadau presennol yn Yr Alban effeithio hefyd ar ddatganoli yng Nghymru.

Roedd y pecyn terfynol, a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog bythefnos yn ôl yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd, yn achlysur pwysig i Gymru.

Mae yna dair elfen allweddol sy’n ganolog i’r pecyn a gyhoeddodd y Prif Weinidog, y blociau adeiladu ar gyfer ailosod y setliad datganoli yng Nghymru; er mwyn ceisio terfynu’r dadleuon di-ben-draw ynglŷn â phwerau a phwy sy’n gwneud beth; a chyflwyno datganoli eglur a sefydlog i Gymru ar gyfer y tymor hir:

I ddechrau, er mwyn gwell eglurder, model datganoli newydd i Gymru.

Yn Yr Alban, ble ceir yr hyn a elwir yn fodel Pwerau a Gedwir, y sefyllfa ddiofyn yw bod popeth yn ddatganoledig ac eithrio’r pethau hynny a gedwir yn San Steffan.

Yng Nghymru, y gwrthwyneb a fu’n bodoli. Nid oes dim wedi ei ddatganoli ac eithrio’r hawliau penodol hynny y mae San Steffan yn deddfu i’w gollwng.

Ond fel y gwelsom yn y Goruchaf Lys, mae’r setliad presennol yn amwys ac anghyflawn. Mae hyn yn arwain at ddryswch ynglŷn â ble’n union mae ffiniau datganoli.

Bydd cytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn newid hyn. Mae cyflwyno model pwerau a gedwir yn creu platfform mwy sefydlog er mwyn galluogi gwell eglurder ynglŷn â chyfrifoldebau’r Senedd a’r Cynulliad, a’r ddwy Lywodraeth. Bydd hyn yn golygu y bydd llywodraethu Cymru yn broses fwy tryloyw, a haws ei deall i’r bobl hynny sy’n ei hethol.

Yn ail, yn ogystal â newid sylfeini datganoli yng Nghymru, mae cytundeb Dydd Gŵyl Dewi hefyd yn datganoli pwerau ychwanegol eang ac amrywiol i’r Cynulliad.

Mae’r rhain yn cynnwys penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pob dydd pobl Cymru - ynglŷn â ph’un a ddylid codi ffermydd gwynt newydd; a ddylid rhoi trwyddedau ffracio; beth ddylai’r terfynau cyflymder fod ar ffyrdd Cymru; sut y dylid rheoleiddio tacsis a bysiau yng Nghymru; a ddylai rhai 16 ac 17 oed gael pleidleisio mewn etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol; a beth ddylai’r Cynulliad ei alw ei hun.

Mae nifer o’r pwerau newydd yma yn seiliedig ar yr argymhellion hynny a geir yn ail adroddiad Silk oedd yn destun consensws gwleidyddol. Mae hyn, os mynnwch, yn sylfaen o ymrwymiadau gan y pedwar prif blaid wleidyddol yng Nghymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai.

Mae’n datgan i bobl Cymru bod hyn yn sylfaen ar gyfer newid datganoli yng Nghymru yng nghyfnod y Senedd nesaf, pwy bynnag fydd yn ffurfio’r Llywodraeth.

Wrth gwrs, nid dyma ddiwedd y stori. Gall a bydd pleidiau gwleidyddol yn cyflwyno eu cynigion eu hunain ynglŷn â datganoli ym maniffestos eu pleidiau.

Ond mae’r cytundeb Dydd Gŵyl Dewi yn gosod y fframwaith y gall pob plaid gyflwyno’u cynigion oddi mewn iddo. Ac mae’n gosod sylfaen gref ar gyfer symud ymlaen gyda Bil Cymru newydd yn y Senedd nesaf.

Yn drydydd, ac mae hyn yn hollbwysig o ran gwleidyddiaeth ehangach Cymru, rydym yn cynnig yr hyn a elwir yn “gyllid gwaelodol” er mwyn gwarchod lefel y cyllid a ddarperir i Gymru o’i gymharu â chyllid cyfatebol i Loegr.

Rwyf yn siŵr bod rhai ohonoch sydd yma heno yn gyfarwydd â nawsau Fformiwla Barnett. Ond os oedd dim ond cyfeirio at yr enw yn ddigon i ddiflasu ambell un ohonoch, gadewch i mi ddweud yn unig bod cyflwyno’r hyn a elwir yn Waelod Barnett yn arwyddocaol iawn, oherwydd bydd yn sicrhau y bydd Cymru yn derbyn mwy o arian na Lloegr, er mwyn gwneud yn iawn am fwy o anghenion economaidd gymdeithasol.

Mae’n wir nad yw Cymru ar hyn o bryd yn cael ei thanariannu. Nid yw “cydgyfeirio” - y broses sy’n golygu bod lefelau ariannu cymharol Cymru yn llithro i lawr i lefelau Lloegr, yn digwydd ar hyn o bryd. Y gwrthwyneb sy’n digwydd mewn gwirionedd. Ac ar hyn o bryd mae cyllid Cymru dros 15% yn uwch na chyllid cyfatebol yn Lloegr; lefel y casglodd Yr Athro Gerry Holtham oedd yn deg pan edrychodd ei Gomisiwn ar faterion cyllid Cymreig tua phum mlynedd yn ôl.

Ond rydym wedi gwneud y penderfyniad hwn nawr i gyflwyno cyllid gwaelodol er mwyn gwarantu bod Cymru bob amser yn derbyn lefel deg o gyllid. Oherwydd rwyf yn gwybod bod hwn yn un o’r materion “datganoli” sy’n canu cloch â phobl Cymru ar y rhiniogau.

Ac felly rwyf yn falch eithriadol o fod yn rhan o Lywodraeth sydd o’r diwedd wedi mynd i’r afael â’r broblem ddiddiwedd hon yng ngwleidyddiaeth Cymru. Setliad cyllido fydd yn darparu sicrwydd i Gymru ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i gynllunio ar gyfer y dyfodol a thyfu’r economi.

Bydd cyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i godi bondiau er mwyn benthyg ar gyfer gwariant cyfalaf. Mae hyn yn ychwanegol at y pecyn o bwerau deddfu a benthyca y mae’r Llywodraeth yn eu datganoli i Gymru drwy Ddeddf Cymru 2014.

Ond mae yna waith anorffenedig sydd yn dal angen ei wneud.

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Mae ymateb Prif Weinidog Cymru i’r cyhoeddiad hanesyddol hwn wedi bod yn siomedig, yn enwedig gan iddo gymryd rhan mor adeiladol yn y broses. Mae wedi disgrifio ein hymrwymiad i gyllid gwaelodol fel “addewid amwys”.

Nid oes dim yn amwys am ymrwymiad y Llywodraeth. Gadewch i mi fod yn gwbl eglur. Fe fydd yna gyllid gwaelodol. Byddwn yn cytuno ar union lefel y cyllid gwaelodol, a’r mecanwaith i’w gyflwyno, ochr yn ochr â’r Adolygiad o Wariant nesaf. Mae’n synhwyrol ein bod yn gwneud y penderfyniadau hyn yng nghyd-destun penderfyniadau ynglŷn â gwariant ar gyfer y DU gyfan.

Dyma’n union y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdano mewn trafodaethau ynglŷn â chyllid a gynhaliwyd fel rhan o broses Dydd Gŵyl Dewi.

Felly pam fod y Prif Weinidog mor llugoer?

Wel, mae’n ymwneud â’r gwaith anorffenedig y cyfeiriais ato’n gynharach.

Wrth ymrwymo i gyllid gwaelodol rydym yn dileu’r rhwystr olaf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru rhag galw refferendwm ar ddatganoli treth incwm - rhan o’r pecyn pwerau trethu a benthyg yn y Ddeddf Cymru newydd.

Nid yw Llywodraeth Cymru eisiau bod yn gyfrifol am ran o’r dreth incwm a godir yng Nghymru; am godi swm sylweddol fwy o’r arian y mae’n ei wario; am gysylltu ei phenderfyniadau ynglŷn â gwariant â’r arian fyddai’n ei gymryd o boced y trethdalwyr. Oherwydd mae hynny’n golygu lefel newydd o atebolrwydd. Y math o atebolrwydd sy’n nodweddu unrhyw lywodraeth aeddfed sy’n atebol i ddeddfwrfa gref.

Yn hytrach, mae’n well ganddi barhau i fodoli fel adran wario i bob pwrpas, ble mai’r esgus bob amser am unrhyw elfen o danberfformio neu ddiffyg cyflenwi yw nad yw’r cyllid fyth yn ddigonol.

Felly mae fy her i Lywodraeth Cymru yn syml: mae’n amser cymryd cyfrifoldeb.

Mae’r Cynulliad wedi dangos erbyn hyn ei fod yn ddeddfwrfa aeddfed a chyfrifol sy’n pasio deddfau ynglŷn ag amrywiaeth cwbl newydd o bynciau arloesol, megis rhoddi organau. Ac mae cytundeb Dydd Gŵyl Dewi wedi adlewyrchu hyn drwy ddatganoli rheolaeth lwyr i’r Cynulliad ar sut y mae’n cynnal ei fusnes, beth ddylai ei alw ei hun, pa mor fawr ddylai fod, pa fath o system etholiadol ddylid ei defnyddio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad a phwy ddylai gael yr hawl i bleidleisio yn yr etholiadau hynny.

Bydd y Cynulliad yn gyfrifol am ei benderfyniadau mawr.

Mae’n bryd i Lywodraeth Cymru hefyd ddangos ei bod yn Llywodraeth aeddfed, sy’n barod i dderbyn y cyfrifoldeb o wneud penderfyniadau anodd ynglŷn â chodi refeniw, ac nid ei wario yn unig.

Drwy gyflwyno cyllid gwaelodol er mwyn gwarchod yn erbyn y ffordd y mae fformiwla Barnett yn gweithredu yng Nghymru, rydym wedi egluro ein bod yn disgwyl i Lywodraeth Cymru alw refferendwm ar bwerau treth incwm yn y Senedd nesaf. Mae’n golygu y gall pobl gymryd rhan yn y refferendwm hwnnw yn gwybod bod yna gyllid wedi ei warantu i Gymru.

Mae hynny’n ddatganoli cyfrifol ac mae hynny yn ddatganoli gwirioneddol.

Symud tuag at gyfrifoldeb rhannol am dreth incwm yw’r cam nesaf i Gymru.

Heriau’r Dyfodol:

Rydym yn byw mewn cyfnod rhyfeddol. Mae natur gwleidyddiaeth yn newid, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae yna nifer o heriau yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod Cymru yn cael ei llywodraethu’n dda a’i bod yn wynebu heriau byd-eang yr unfed ganrif ar hugain.

I mi, mae tair her yn arbennig o berthnasol i Gymru.

Gwneud Penderfyniadau Lleol:

I ddechrau, rydym yn dystion i newid sylweddol yn y ffordd y mae pobl yn ystyried beth yw llywodraeth. Nid ydynt bellach eisiau gweld llywodraeth “fawr” sy’n penderfynu beth sydd orau iddynt hwy. Maent eisiau i benderfyniadau gael eu gwneud yn fwy lleol, a theimlo’n rhan o’r broses benderfynu honno.

Rwyf yn credu mewn llywodraeth ddatganoledig gryfach a llywodraeth leol gryfach - datganoli cyn belled â phosibl, i’r lefel leol fwyaf priodol.

Dyna beth yr ydym yn ei wneud yn Lloegr. Rydym yn creu ‘Pwerdy’r Gogledd’, menter o dan arweiniad pobl fel y Canghellor George Osborne a’r Arglwydd Heseltine er mwyn cyflwyno datganoli radical oddi wrth San Steffan i Ogledd Lloegr.

Mae hyn yn ymwneud â chydbwyso economi’r DU o’r newydd, adfywio cryfder economaidd a dinesig dinasoedd y Gogledd er mwyn darparu swyddi, buddsoddiad a ffyniant.

Mae Manceinion Fwyaf yn arwain y ffordd gyda phecyn datganoli sy’n cynnwys sgiliau, trafnidiaeth a thai, gydag awdurdod cyfun o dan arweiniad maer gaiff ei ethol yn uniongyrchol. Hwn hefyd fydd y rhanbarth cyntaf yn Lloegr i gael rheolaeth lwyr ar ei chyllid Iechyd - cyllid o £6 biliwn.

Ac nid yn ninasoedd gogledd Lloegr yn unig y mae hyn yn digwydd. Rydym yn datganoli pwerau i gynghorau lleol ac ardaloedd o ddinasoedd ar hyd a lled Lloegr, ac ar draws y GIG yn Lloegr. Ac mewn ardaloedd nad ydynt yn ddatganoledig, rydym wedi datblygu pwerau yng Nghymru a Lloegr - gan sefydlu Comisiynwyr Heddlu a Throseddu gaiff eu hethol yn uniongyrchol er enghraifft.

Rydym mewn oes newydd o wleidyddiaeth. Oes pan fo pobl yn mynnu mwy o lais ar lefel leol ynglŷn â phenderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt. Rwy’n credu bod hyn yn ganlyniad uniongyrchol i lobaleiddio. Oes pan fo pobl yn gwrthod yr egwyddor o un math o wleidyddiaeth i bawb, ac yn chwilio am atebion sydd wedi eu teilwra’n well i amgylchiadau lleol.

Dyma yw datganoli yn yr 21ain ganrif. Datganoli mewn oes ddigidol a byd-eang.

Ond mae’n ymddangos nad yw’r pwerau yr ydym yn eu datganoli i Lywodraeth Cymru yn mynd dim ymhellach na hynny. Mae pwerau yn cael eu casglu a’u dal yn dynn ym Mae Caerdydd gydag ychydig iawn o arwyddion bod datganoli yn cael ei drosglwyddo i’r cymunedau ar draws Cymru.

Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru eisiau casglu pwerau fel petai rhywun yn casglu stampiau; at ddiben arddangos yn unig. Nid ydynt yn cael eu defnyddio. Ac nid ydynt yn cael eu datganoli ymhellach i lawr yng Nghymru i’r cymunedau lleol allai wneud defnydd da ohonynt.

Dylai datganoli fod ynglŷn â grymuso cymunedau, nid sefydliadau.

Mae hyn yn elfen bwysig o’r ddadl ynglŷn â datganoli nad yw prin wedi cychwyn yma yng Nghymru, ble treuliwyd y 15 mlynedd diwethaf yn trafod model datganoli oedd yn perthyn i’r 20fed ganrif.

Rwyf eisiau gweld pwerau yn llifo i lawr i ddinasoedd a chymunedau lleol Cymru, fel ag y maent yn Lloegr, fel y gall cymunedau lleol wneud penderfyniadau ynglŷn â materion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt, ac y gall amrywiaeth Cymru gael ei fynegi yn llwyr a phriodol yn y modd yr ydym yn cael ein llywodraethu.

Y Bragmatiaeth Newydd:

Yr ail her yw harneisio’r bragmatiaeth newydd sy’n ymddangos mewn gwleidyddiaeth er lles Cymru.

Pragmatiaeth sy’n golygu bod yr hen ideolegau’n cael eu rhoi i’r neilltu er mwyn gweithio gyda’n gilydd er lles cyffredin. A phan fo’r weledigaeth unllygeidiog ynglŷn â gwleidyddiaeth bleidiol yn cael ei disodli gan gyd-ddealltwriaeth a chyfaddawdu er mwyn cyflawni’r gwaith.

Nid yw hyn yn golygu ildio hen egwyddorion. Ond mae’n golygu bod yn barod i dderbyn syniadau a safbwyntiau, a chydweithio i wireddu amcanion cyffredin.

Mae Pwerdy’r Gogledd y disgrifiais yn gynharach yn enghraifft wych o gynghorau mewn dinasoedd megis Manceinion, Lerpwl a Leeds yn gweithio’n agos a chydweithredol gyda San Steffan er lles cyffredin.

Rwyf eisiau i’r bragmatiaeth hon nodweddu gwleidyddiaeth newydd yng Nghymru hefyd.

Nid ydym yn byw mewn oes ideolegol.

Rwyf eisiau i lwytholdeb traddodiadol gwleidyddiaeth Cymru gael ei adael yn y gorffennol fel y gallwn ganolbwyntio ar sut y gellir defnyddio’r pwerau newydd fydd yn cael eu datganoli i Gymru er mwyn creu’r effaith ymarferol orau - ac, wrth wneud hynny, disodli’r ddadl ddiddiwedd ynglŷn â datganoli gyda’r ffocws priodol ar dwf economaidd a’r swyddi sydd eu hangen ar Gymru.

Rwyf wedi ymdrechu i gymhwyso’r egwyddor hon i fy ngwaith fy hun fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Ond mae’r bragmatiaeth newydd yn golygu bod angen newid meddylfryd pob gwleidydd yng Nghymru.

Mae Cymru wedi dioddef gormod o ganlyniad i ideoleg yn y gorffennol - o’r Dde ac o’r Chwith fel ei gilydd. Ni ddylai’r rhai sy’n ymfalchïo eu bod wedi’u trwytho mewn dogma sosialaidd Cymreig ymfalchïo wrth deithio drwy rai o’n cymunedau Cymreig.

Rhagdybio Pŵer:

[dilëwyd y cynnwys gwleidyddol]

Dylid cael mwy o ddatganoli na dim ond presgripsiynau am ddim a chodi tâl am fagiau plastig. Mae’r pwerau newydd a ddatganolir o dan becyn Dydd Gŵyl Dewi yn darparu offer sydd i’w ddefnyddio ar gyfer adnewyddu Cymru. Maent yn bwerau at ddiben. Pwerau i’w cofleidio’n ddewr a’u defnyddio’n ddoeth er lles Cymru.

[dilëwyd y cynnwys gwleidyddol]

Ffordd Newydd Ymlaen i Gymru:

Ond mae proses Dydd Gŵyl Dewi wedi dangos y gall pleidiau gwleidyddol gydweithio er lles cyffredin Cymru. Mae pleidiau sydd ag athroniaethau gwahanol iawn ynglŷn â gwneuthuriad cyfansoddiadol y DU yn y dyfodol wedi gweithio gyda’i gilydd er mwyn cytuno ar set o ymrwymiadau sy’n ffurfio blociau adeiladu setliad datganoli newydd i Gymru.

Rwyf eisiau gweld cyflwyno Bil Cymru newydd yn gynnar yn y Senedd nesaf er mwyn cyflwyno setliad datganoli cryfach, eglurach a thecach i Gymru cyn gynted â phosibl.

[dilëwyd y cynnwys gwleidyddol]

Ond rwyf yn credu nad Etholiad Cyffredinol mis Mai fydd yr unig achlysur tyngedfennol i ddyfodol Cymru. Mewn gwirionedd, rwyf yn credu bod gan etholiadau nesaf y Cynulliad ym Mai 2016 botensial i fod yr un mor drawsnewidiol i Gymru. Oherwydd yn 2016 bydd yna gyfle i Lywodraeth Cymru newydd gymryd yr awenau, i wneud y mwyaf o’r pwerau newydd sy’n cael eu datganoli iddi; i’w defnyddio’n synhwyrol er mwyn tyfu economi Cymru, creu swyddi a gwella gwasanaethau cyhoeddus Cymru; ac, yn allweddol, derbyn mwy o atebolrwydd i’r bobl sy’n ei hethol.

[dilëwyd y cynnwys gwleidyddol]

Clymblaid Flaengar:

[dilëwyd y cynnwys gwleidyddol]

Casgliad:

Rydym yn byw mewn oes o newid gwleidyddol a chyfansoddiadol - ac nid ydym wedi crybwyll yr Undeb Ewropeaidd eto.

Ond mae’r flaenoriaeth i’r rhan fwyaf o bobl yn parhau i fod yr un fath. Mae’n ymwneud â safon bywyd, ansawdd a diogelwch eu swyddi, a dyfodol eu teuluoedd.

Mae angen i ni sicrhau bod gwead cyfansoddiadol y wlad hon yn briodol, fel y gall y llywodraethau - ar lefel y DU a lefel datganoledig - barhau â’r gwaith o gyflawni twf economaidd a dyfodol diogel.

Hoffwn weld ffocws y ddadl wleidyddol yn y dyfodol yng Nghymru nid ar bwy ddylai gael pa bwerau, ond yn hytrach ar sut y gellir defnyddio’r pwerau yma er lles pobl Cymru.

Ni ddylai gwleidyddion, a phleidiau gwleidyddol, ymgilio rhag ffurfio cynghreiriau newydd, partneriaethau newydd, os bydd hynny’n helpu i gyflawni pethau i bobl Cymru.

Mae hyn yn ddatganoli gyda phwrpas.

Dyma’r bragmatiaeth newydd.

Gwleidyddiaeth newydd i fywiogi democratiaeth yng Nghymru.

Setliad parhaus sy’n gweithio i Gymru heddiw, yfory ac i genedlaethau’r dyfodol.

Diweddglo:

I gloi, hoffwn ddychwelyd at Gerallt Gymro, sy’n adrodd stori hen ŵr Pencader. Bu i’r Brenin Harri II siarad â’r hen ŵr wrth deithio i Gastell Caerfyrddin i dderbyn gwrogaeth gan y llywodraethwr lleol, Yr Arglwydd Rhys. Roedd eisiau gwybod beth oedd barn y bobl leol am y sefyllfa wleidyddol a sut yr oeddent yn teimlo am y dyfodol.

Atebodd yr hwn ŵr drwy ddweud, er y byddai Lloegr efallai’n ymosod ar Gymry, hyd yn oed yn ei gorchfygu, ni fyddai’r wlad byth yn cael ei dinistrio dim ond gan ddicter dwyfol. Yn bwysicach na hyn, y Cymry eu hunain fyddai’n creu eu tynged eu hunain.

Fel y dywedodd yr hen ŵr:

“ni chaiff y genedl hon fyth ei dinistrio’n llwyr gan gynddaredd dyn, oni bai bod cynddaredd Duw yn ei chosbi ar yr un pryd.”

Ac aeth ymlaen i ddweud:

“Nid wyf yn credu ar Ddydd y Farn y bydd unrhyw genedl ar wahân i’r Cymry….yn atebol i’r Goruchaf Farnwr am y gornel fach hon o’r ddaear.”

Ni allwn fod wedi mynegi’r peth yn well fy hun.

Cyhoeddwyd ar 11 March 2015