Skip to main content
Ffurflen

Bwyd anifeiliaid sw: cais i ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Ffurflen i wneud cais am gymeradwyaeth i fwydo anifeiliaid sw â sgil-gynhyrchion anifeiliaid categori 1.

Dogfennau

ABPR27: Cais am Awdurdodiad i Fwydo Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid Categori 1 i Anifeiliaid Sw

Gwneud cais am fformat hygyrch
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch contentteam@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r ffurflen hon yn rhan o’r canllaw ar ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid i fwydo anifeiliaid cigysol mewn llety cŵn a sŵau. 

Rhaid i chi ei chwblhau os ydych chi am ddefnyddio un o’r canlynol fel bwyd anifeiliaid yn eich sw: 

  • deunydd sgil-gynhyrchion anifeiliaid categori 1 i’w roi i anifeiliaid cigysol (o ddofednod a llygod mawr i garnolion mwy o faint) 

  • anifeiliaid fferm marw lle mae’r deunydd risg penodedig yn yr anifail o hyd 

Darllenwch y canllaw ar beth yw deunydd sgil-gynhyrchion anifeiliaid categori 1.  

Rhaid i chi gadw cofnodion manwl o unrhyw ddeunydd sgil-gynhyrchion anifeiliaid categori 1 sy’n cael ei roi i anifeiliaid cigysol. 

Dylai cwsmeriaid yn Lloegr ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i APHA Customer Service Centre Worcester. 

Dylai cwsmeriaid yng Nghymru ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i swyddfa APHA yng Nghaernarfon. 

Dylai cwsmeriaid yn yr Alban ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i’w Swyddfa Gwasanaeth Maes APHA leol.

Argraffu'r dudalen hon