Llwybr Glyndŵr: Llwybr Cenedlaethol
Cyhoeddwyd 24 Mehefin 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (217km) o hyd yng nghanolbarth Cymru yw Llwybr Glyndŵr. Mae’n llwybr bryniog sy’n mynd dros rostir agored, tir sy’n cael ei ffermio, dros goetiroedd a thrwy goedwigoedd.
Cafodd y llwybr ei enwi ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru ac arweinydd cenedlaetholgar Cymru yn yr Oesoedd Canol a gynullodd wrthryfel yn erbyn brenin Lloegr, Harri IV yn 1400.
Ynglŷn â’r llwybr
Mae’r llwybr rhwng:
- Trefyclo, Powys
- Machynlleth, Powys
- Y Trallwng, Powys
Gallwch ddewis cerdded y llwybr cyfan, un neu ddwy o rannau penodol, neu gael hyd i lwybrau cylchol lleol sy’n cynnwys rhannau o’r llwybr.
Cewch hyd i deithiau cerdded cylchol a llinol ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.
Pryd i ymweld
Mae’r llwybr ar agor drwy gydol y flwyddyn. Dylech fod yn barod am law ac eira yn y gaeaf.
Arwyddbyst ar y llwybr
Mae’r holl Lwybrau Cenedlaethol wedi’u marcio â symbol mesen neu enw’r llwybr. Byddwch yn gweld y rhain ar hyd y llwybr, er enghraifft ar gatiau ac arwyddbyst.
Ar Lwybr Glyndŵr fe welwch ddraig ar yr arwyddion hefyd, sef symbol Cyngor Sir Powys ar gyfer y llwybr.
Cerdded y llwybr cyfan
- Hyd 135 milltir (217km)
- Amser i’w gwblhau: tua 9 diwrnod - os ydych chi’n cerdded tua 15 milltir y dydd
Gallwch gerdded i’r naill gyfeiriad neu’r llall ar hyd y llwybr. Mae arwyddbyst yn dangos y llwybr i’r ddau gyfeiriad er mwyn ichi allu dewis.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dechrau’r llwybr wrth gloc y dref yn Nhrefyclo ac yn gorffen wrth y gamlas yn y Trallwng.
Gallwch hefyd gerdded yn syth rhwng Trefyclo a’r Trallwng ar Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Hygyrchedd ar y llwybr
Mae Llwybr Glyndŵr yn fryniog iawn.
Mae rhai rhannau o’r llwybr yn arw ac yn anghysbell. Efallai y bydd angen ichi ddefnyddio cwmpawd os yw hi’n niwlog yn yr ardaloedd hyn.
Yr hyn y gallwch ei brofi ar y llwybr
Gallwch brofi llawer o bethau ar hyd Llwybr Glyndŵr, gan gynnwys:
- bywyd gwyllt – e.e. yn Llyn Efyrnwy a’r merlod gwyllt ger Pencoed
- safleoedd hanesyddol a threftadaeth - fel y gwaith hynafol ar dir Castell y Blaidd
- gwarchodfeydd natur – fel Glaslyn
- diwylliant, bwyd ac adloniant lleol
Ar y llwybr gallwch hefyd ymweld â threfi a phentrefi bach, gan gynnwys:
- Llanbrynmair
- Llanwddy
- Llanidloes
- Machynlleth
Rhannau o’r llwybr
Gallwch dorri’r llwybr yn rhannau y gallwch gerdded ar eu hyd mewn diwrnod, neu sy’n rhoi amser ichi ymweld â phethau penodol ar y llwybr neu gerllaw.
Ceir enghraifft isod, ond mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein ac mewn arweinlyfrau er mwyn helpu i gynllunio eich taith.
Trefyclo i Felindre – 15 milltir (24km)
Mae’r llwybr yn esgyn allan o Drefyclo a thrwy goetir a chefn gwlad. Mae’n mynd tuag at rostir Beacon Hill cyn troi i lawr i Felindre.
Felindre i Abaty Cwm-hir – 15.5 milltir (25km)
Mae’r llwybr yn esgyn i dir pori uchel a heibio fferm wynt Garreg Lwyd a Chastell y Blaidd. Yna mae’n mynd i rostir eang, agored Ysgwd Ffordd ac yna drwy goetir i Abaty Cwm-hir.
Abaty Cwm-hir i Lanidloes – 15.5 milltir (25km)
Byddwch yn esgyn ac yn disgyn droeon ar y rhan fryniog yma. Mae’r llwybr yn mynd drwy dir fferm uchel, coedwigoedd, dyffrynnoedd a choetiroedd hynafol i dref Llanidloes.
Llanidloes i Ddylife – 14.5 milltir (23.5km)
Mae’r rhan yma o’r llwybr yn dechrau drwy groesi pont dros afon Hafren. Mae’r llwybr yn parhau drwy goetir a phorfa i fwynglawdd Bryntail ac argae Clywedog. Mae’n codi’n uchel uwchben cronfa ddŵr Clywedog ac ymlaen i’r hen ffordd Rufeinig i Ddylife.
Dylife i Fachynlleth – 14.5 milltir (23.5km)
Mae’r llwybr yn dychwelyd i’r ffordd Rufeinig, yna i rostir uchel a heibio i lyn Glaslyn. Mae’n parhau i dref Machynlleth.
Machynlleth i Lanbrynmair – 16 milltir (25.5km)
Mae’r llwybr yn esgyn o Fachynlleth gan ddilyn trywydd y grib. Mae’n parhau wedyn dros y bryniau uwchben Afon Twymyn cyn mynd i lawr i Lanbrynmair.
Llanbrynmair i Lanwddyn – 18 milltir (29km)
Mae’r llwybr yn mynd drwy dref Pencoed ac i mewn i goedwig Dyfnant. Yna mae’r llwybr yn mynd i mewn i Lanwddyn gyda golygfeydd o Lyn Efyrnwy a’r argae.
Llanwddyn i Feifod – 15 milltir (24km)
Mae’r llwybr yn gadael y gronfa ddŵr ac yn parhau ar hyd rhannau o Afon Efyrnwy, gan fynd drwy ychydig o bentrefi cyn cyrraedd Meifod.
Meifod i’r Trallwng – 11 milltir (17.5km)
Mae’r llwybr yn cychwyn mewn coetir ac yn mynd drwy dirwedd dawel tuag at y pwynt trig ar fryn mawr Y Golfa. Mae wedyn yn disgyn yn raddol ac yn rhwydd drwy dir parc Plas Llanerchydol i dref y Trallwng.
Mapiau ar gyfer y llwybr
Cewch hyd i:
- fap ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol – gallwch hefyd lawrlwytho data GPX
- mapiau ac arweinlyfrau eraill ar-lein ac mewn print
- teithiau cerdded cylchol a llinol ar-lein a gan eich cyngor lleol
Dyma fapiau Explorer yr Arolwg Ordnans (OS) sy’n cynnwys Llwybr Glyndŵr:
- 201 Trefyclo a Llanandras
- 214 Llanidloes a’r Drenewydd
- 215 Y Drenewydd a Machynlleth
- OL23 Cadair Idris a Llyn Tegid
- 239 Llyn Efyrnwy a Llanfyllin
- 216 Y Trallwng a Threfaldwyn
Gwyro neu gau rhannau o’r llwybr
Efallai y byddwch yn dod ar draws mân wyriadau neu newidiadau i’r llwybr yn unol â’r tymor neu’r llanw. Bydd y rhain wedi’u dangos yn glir, a dylech ddilyn yr arwyddbyst ar y llwybr bob tro.
Paratowch am eich ymweliad
Darllenwch ganllawiau ar sut i baratoi ar gyfer eich ymweliad i gael gwybodaeth am:
- wirio’r llwybr – gan gynnwys gwybodaeth am wyriadau neu rannau o’r llwybr sydd wedi cau
- cynllunio eich taith
- beth i’w baratoi cyn ichi gychwyn
- beth i’w wneud ar y llwybr
Manylion cyswllt
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein Llwybrau Cenedlaethol berthnasol i:
- roi gwybod am broblem
- gofyn cwestiwn am hygyrchedd ar y llwybr
- canfod cyfleoedd i wirfoddoli
Cysylltwch â’r cyngor lleol i roi gwybod am broblem ar y llwybr, er enghraifft rhwystrau, diffyg cynnal a chadw neu arwydd camarweiniol.