Llwybr Clawdd Offa: Llwybr Cenedlaethol
Cyhoeddwyd 24 Mehefin 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Llwybr Cenedlaethol 177 milltir (285km) ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Llwybr Clawdd Offa. Cafodd ei enwi ar ôl y Clawdd a adeiladodd y Brenin Offa yn yr 8fed ganrif, ac mae rhannau o’r llwybr yn dal i ddilyn y clawdd hwnnw.
Mae’r llwybr yn cychwyn ger Clogwyn Sedbury yn ymyl Cas-gwent, ar lannau aber Hafren, ac yn gorffen yn nhref arfordirol Prestatyn, ar lannau Môr Iwerddon.
Mae’r llwybr yn mynd drwy 3 Tirwedd Genedlaethol – Dyffryn Gwy, Bryniau Swydd Amwythig a Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Mae hefyd yn mynd drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Ynglŷn â’r llwybr
Mae’r llwybr rhwng:
- Clogwyn Sedbury ger Cas-gwent
- Prestatyn
Gallwch ddewis cerdded y llwybr cyfan, un neu ddwy o rannau penodol, neu gael hyd i lwybrau cylchol lleol sy’n cynnwys rhannau o’r llwybr.
Cewch hyd i deithiau cerdded cylchol a llinol ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol.
Pryd i ymweld
Mae’r llwybr ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Arwyddbyst ar y llwybr
Mae pob Llwybr Cenedlaethol wedi’i farcio â symbol mesen neu enw’r llwybr. Byddwch yn gweld y rhain ar hyd y llwybr, er enghraifft ar gatiau ac arwyddbyst.
Cerdded y llwybr cyfan
- Hyd 177 milltir (285km)
- Amser i’w gwblhau: tua 2 wythnos
Gallwch gerdded i’r naill gyfeiriad neu’r llall ar hyd y llwybr. Mae arwyddbyst yn dangos y llwybr i’r ddau gyfeiriad er mwyn ichi allu dewis.
Hygyrchedd ar y llwybr
Mae llawer o’r camfeydd ar y llwybr wedi cael eu tynnu ymaith.
Mae’r llwybr yn mynd dros wahanol fathau o dirwedd. Y darn mwyaf gwastad yw’r darn rhwng Pont Buttington a Llanymynech, y mae’r rhan fwyaf ohoni’n dilyn Afon Hafren a Chamlas Maldwyn.
Gall rhai rhannau o’r llwybr fod yn heriol, fel:
- ardal o Fryniau Swydd Amwythig rhwng Trefyclo a Chroesffordd Brompton lle mae’r tir yn esgyn a disgyn droeon
- rhannau o ucheldir Bannau Brycheiniog a Bryniau Clwyd, yn enwedig mewn tywydd neu welededd gwael
Yr hyn y gallwch chi ei brofi ar y llwybr
Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu profi ar Lwybr Clawdd Offa, gan gynnwys:
- bywyd gwyllt – fel y grugiar ddu ger Coedwig Llandegla
- safleoedd hanesyddol a threftadaeth – fel Pont Mynwy, bryngaerau Oes yr Haearn a Chlawdd Offa ei hun
- gwarchodfeydd natur – fel Creigiau Llanymynech a Choed Highbury
- diwylliant, bwyd ac adloniant lleol
Ar y llwybr gallwch hefyd ymweld â dinasoedd, trefi a phentrefi bach, gan gynnwys:
- Trefynwy
- Llangollen
- Y Gelli Gandryll
- Trefaldwyn
Rhannau o’r llwybr
Gallwch dorri’r llwybr yn rhannau y gallwch eu cerdded mewn diwrnod, neu sy’n rhoi amser ichi ymweld â phethau penodol ar y llwybr neu gerllaw.
Ceir enghraifft isod, ond mae mwy o wybodaeth ar gael ar-lein ac mewn arweinlyfrau er mwyn helpu i gynllunio eich taith.
Clogwyn Sedbury i Drefynwy – 17.5 milltir (28km)
Mae Llwybr Clawdd Offa yn dechrau yn Lloegr gan edrych dros aber afon Hafren. Ar ddechrau’r llwybr mae’n cyrraedd Clawdd Offa, ger Clogwyn Sedbury.
Mae’r llwybr yn parhau tua’r gogledd ar ochr ddwyreiniol Afon Gwy ac yn croesi’r ffin i Gymru yn Redbrook. Mae’r rhan hon o’r llwybr yn gorffen yn Nhrefynwy, tref sydd ar y ffin â Chymru.
Trefynwy i Bandy – 16.75 milltir (27km)
Mae’r rhan hon yn croesi tir fferm yn Sir Fynwy, lle gall da byw fod yn pori. Mae’r llwybr yn mynd drwy safle Abaty Grace Dieu a sawl pentref bach cyn cyrraedd Pandy.
Pandy i’r Gelli Gandryll – 17.5 milltir (28.2km)
Mae’r llwybr yn dringo’n gyson o Bandy i ran ucheldirol gyntaf y llwybr yn y Mynydd Du. Dyma bwynt uchaf y llwybr ar 2,300 o droedfeddi (700m). Mae’r rhan hon yn ymestyn dros y ffin genedlaethol ar Ddarren y Gader.
Mae’r llwybr yn dilyn taith gerdded grib wedi’i diffinio’n dda am tua 11 milltir i Benybegwn. Mae llawer o gerddwyr yn torri’r daith drwy aros dros nos naill ai ym Mhriordy Llanddewi Nant Hodni neu Longtown. Mae’r llwybr wedyn yn mynd i lawr i’r Gelli Gandryll.
Y Gelli i Geintun – 14.75 milltir (23.3km)
Mae’r rhan hon yn cychwyn ar hyd afon Gwy, cyn mynd drwy dirwedd ar ffin Powys a Swydd Henffordd. Ar ddiwedd y rhan hon mae’r llwybr yn codi’n uwch na 400m ar Gefn Hergest, cyn mynd i dref Ceintun ar y ffin.
Ceintun i Drefyclo – 13.5 milltir (21.7km)
Ar ôl Ceintun, mae’r llwybr yn mynd dros Fryn Bradnor a’i gwrs golff. Ar y rhan hon mae’r llwybr yn ymuno â Chlawdd Offa eto, gan ei ddilyn am y rhan fwyaf o weddill y llwybr i Gastell y Waun.
Mae’r llwybr yn mynd dros y ffin o Swydd Henffordd i Bowys. Mae’n mynd i lawr i Drefyclo (gelwir y dref hefyd yn Dref-y-Clawdd, gan gyfeirio at Glawdd Offa). Dyma bwynt hanner ffordd y llwybr bron iawn.
Trefyclo i Groesffordd Brompton – 15 milltir (24km)
Gellir ystyried mai’r rhan igam ogam hon o’r llwybr yw’r un fwyaf heriol, wrth iddi esgyn a disgyn drwy Fryniau Swydd Amwythig. Ychydig uwchben Castellnewydd mae yna arwyddbost i ddangos pwynt hanner ffordd y llwybr. Ychydig iawn o bentrefi sydd ar y rhan hon o’r llwybr.
Croesffordd Brompton i Bont Buttington – 12.3 milltir (20km)
Mae’r rhan hon o’r llwybr ar dir cymharol wastad ac yn croesi’r ffin sawl gwaith.
Tua’r diwedd, mae’r llwybr yn esgyn at Gaer Digoll. Daw’r rhan hon i ben drwy ddisgyn i Bont Buttington lle mae’n cwrdd ag Afon Hafren.
Pont Buttington i Lanymynech – 10.5 milltir (17km)
Mae’r rhan hon o’r llwybr bron yn gwbl wastad drwyddi draw. Mae’r llwybr yn dilyn rhannau o Gamlas Sir Drefaldwyn ac Afon Hafren cyn cyrraedd tref Llanymynech. Y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw’r brif stryd.
Gall y rhan hon o’r llwybr fod dan lifogydd mewn rhai mannau pan fydd hi’n wlyb iawn, felly dylech wirio a oes llifogydd cyn cychwyn eich taith.
Llanymynech i Felin y Waun – 14 milltir (22.5km)
Dyma ran fryniog o’r llwybr, sy’n esgyn Bryn Llanymynech, Moelydd, Coedwig Candy a Hen Gae Ras Croesoswallt. Mae’r llwybr yn esgyn i warchodfeydd natur Creigiau Llanymynech.
Melin y Waun i Landegla – 15.5 milltir (25.7km)
Y rhan yma o’r llwybr yw’r rhan olaf sy’n dilyn Clawdd Offa, hyd at ymyl Camlas Llangollen.
Yn ystod yr haf gellir dilyn y llwybr drwy Gastell y Waun. Mae llwybr arall posib yn croesi Traphont Ddŵr Pontcysyllte.
Ar ôl gadael pentref Trefor mae’r llwybr yn croesi Creigiau Eglwyseg ger Llangollen. Mae’r llwybr yn croesi rhostir cyn mynd i lawr drwy Goedwig Llandegla.
Llandegla i Fodfari – 17.5 milltir (28km)
O Landegla mae’r llwybr yn parhau ar hyd Bryniau Clwyd, gan ddilyn y grib yn bennaf. Mae’r llwybr yn mynd heibio neu drwy gyfres o fryngaerau o’r oesoedd haearn ac efydd ac yna’n esgyn Moel Famau â Thŵr y Jiwbilî ar ei chopa.
Bodfari i Brestatyn – 12 milltir (19km)
Dyma ran fwyaf gogleddol y llwybr, sy’n parhau drwy Fryniau Clwyd, er bod y bryniau yn llai erbyn hyn.
Ceir golygfeydd o Eryri ac arfordir Gogledd Cymru o Fryn Prestatyn cyn i’r llwybr fynd i lawr i Brestatyn. Mae’r llwybr yn mynd i fyny’r stryd fawr ac yn dod i ben wrth y môr. Yn draddodiadol, bydd cerddwyr yn tynnu eu hesgidiau a’u sanau ac yn cerdded i mewn i’r môr i nodi diwedd y llwybr.
Mapiau ar gyfer y llwybr
Cewch hyd i:
- fap ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol – lle gallwch hefyd lawrlwytho data GPX
- mapiau a chanllawiau eraill ar-lein ac mewn print
- teithiau cerdded cylchol a llinol ar-lein a gan eich cyngor lleol
Dyma fapiau Explorer yr Arolwg Ordnans (OS) sy’n cynnwys Llwybr Clawdd Offa:
- 201 Trefyclo a Llanandras
- 216 Y Trallwng a Threfaldwyn
- 240 Croesoswallt
- 256 Wrecsam a Llangollen
- 265 Bryniau Clwyd
- OL13 Ardal ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- OL14 Dyffryn Gwy a Fforest y Ddena
Gwyro neu gau rhannau o’r llwybr
Efallai y byddwch yn dod ar draws mân wyriadau neu newidiadau i’r llwybr yn unol â’r tymor neu’r llanw. Bydd y rhain wedi’u dangos yn glir, a dylech ddilyn yr arwyddbyst ar y llwybr bob tro.
Paratowch am eich ymweliad
Darllenwch ganllawiau ar sut i baratoi ar gyfer eich ymweliad am wybodaeth ynghylch y canlynol:
- gwirio’r llwybr – gan gynnwys gwybodaeth am wyriadau neu rannau o’r llwybr sydd wedi cau
- cynllunio eich taith
- beth i’w baratoi cyn ichi gychwyn
- beth i’w wneud ar y llwybr
Manylion cyswllt
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein Llwybrau Cenedlaethol berthnasol i:
-
roi gwybod am broblem
-
gofyn cwestiwn am hygyrchedd ar y llwybr
-
canfod cyfleoedd i wirfoddoli
Cysylltwch â’r cyngor lleol i roi gwybod am broblem ar y llwybr, er enghraifft rhwystrau, diffyg cynnal a chadw neu arwydd camarweiniol.