Ffurflen

Gwneud cais i ymuno â Chynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW

Defnyddiwch ffurflen VAT600AA i wneud cais ar-lein i ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol.

Dogfennau

Gwneud cais ar-lein (mewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Cais i ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol (VAT600AA)

Manylion

Fel arfer, mae busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW yn cyflwyno’u Ffurflenni TAW a’u taliadau i CThEM 4 gwaith y flwyddyn. Gyda’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol rydych:

  • yn gwneud taliadau TAW ymlaen llaw tuag at eich bil TAW, yn seiliedig ar eich Ffurflen TAW ddiwethaf, neu ar amcangyfrif os ydych yn newydd i TAW
  • yn cyflwyno un Ffurflen TAW y flwyddyn

Bydd yn rhaid i chi gyflwyno pob Ffurflen TAW sydd heb ei chyflwyno cyn i chi gael eich derbyn i’r cynllun, a bydd yn rhaid i chi ddarparu’ch rhif cofrestru TAW.

Cyn i chi ddechrau

Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i phostio i CThEM

Os byddwch yn gwneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch.

Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.

Os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.

Cyn i chi ddechrau defnyddio’r ffurflen bost

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen bost, ac mae’ch porwr yn un hŷn, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Ffurflenni ac arweiniadau cysylltiedig

Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW
Defnyddiwch y canllaw hwn er mwyn gweld a allai’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol fod yn addas ar gyfer eich busnes.

Hysbysiad TAW 732: annual accounting
Mae’r hysbysiad hwn yn esbonio’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol, pwy all ei ddefnyddio a sut i wneud cais i ymuno ag ef.

TAW: cais i ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol â’r Cynllun Cyfradd Unffurf (VAT600AA/FRS)
Defnyddiwch ffurflen VAT600AA/FRS i ymuno â’r Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol a’r Cynllun Cyfradd Unffurf gyda’i gilydd.

TAW: cais i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf (VAT600FRS)
Defnyddiwch ffurflen VAT600FRS i ymuno â’r Cynllun Cyfradd Unffurf.

Cyhoeddwyd ar 8 September 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 December 2018 + show all updates
  1. The Welsh version of this page has been updated.

  2. An online forms service is now available.

  3. Welsh version of the form VAT600AA has been added to this page.

  4. Added translation