Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 21: defnyddio ffurflenni trosglwyddo ar gyfer trafodion cymhlethach

Diweddarwyd 2 March 2020

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EM wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Llenwi ffurflenni trosglwyddo

1.1 Pryd i ddefnyddio mwy nag un ffurflen

Gallwch ddefnyddio ffurflen drosglwyddo unigol ar gyfer:

  • trosglwyddo amryw deitlau (gan gynnwys teitlau rhannol, os oes rhai)
  • teitlau rhydd-ddaliol a phrydlesol
  • eiddo cofrestredig a digofrestredig
  • gwerthiant ac iswerthiant a gwblhawyd ar yr un pryd (gweler Gwerthiannau ac iswerthiannau)
  • trosglwyddo ar benodi ail ymddiriedolwr a gwerthiant gan yr ymddiriedolwyr. Cewch hefyd, os dymunwch, ddefnyddio ffurflenni trosglwyddo ar wahân (gweler Trafodion yn cynnwys ymddiriedolwyr)

Defnyddiwch ffurflenni trosglwyddo ar wahân ar gyfer:

1.2 Pa ffurflen drosglwyddo i’w defnyddio

Sefyllfa Ffurflen drosglwyddo Ffurflen(ni) cais
Mae’r eiddo a drosglwyddwyd yn ddigofrestredig. Os yw’r trosglwyddo: yn eiddo cyfan yn nheitl y trosglwyddwr, defnyddiwch ffurflen TR; yn neu’n cynnwys rhan yn unig o’r eiddo yn nheitl y trosglwyddwr, defnyddiwch ffurflen TP. Sylwer: Gallwch ddefnyddio unrhyw ffurf ar drawsgludiad sy’n cydymffurfio â Deddf Cyfraith Eiddo 1925 yn lle ffurflen drosglwyddo. Defnyddiwch ffurflen FR1, gyda ffurflen DL yn ddyblyg.
Mae’r eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys un teitl cofrestredig cyfan neu fwy. Defnyddiwch ffurflen TR. Defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel ‘cyfan’.
Mae’r eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys rhan o un teitl cofrestredig neu fwy. Defnyddiwch ffurflen TP. Sylwer: Os yw’r trosglwyddiad o eiddo cyfan mewn trosglwyddiad blaenorol, prydles, arwystl neu fudd arall sy’n gallu cael cofrestriad cyntaf defnyddiwch ffurflen TR yn hytrach na ffurflen TP. Defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel ‘rhan’.
Mae’r eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys: un teitl cofrestredig cyfan neu fwy a; rhan o un teitl cofrestredig neu fwy. Defnyddiwch ffurflen TP, ond gweler Sylwer isod. O ran ffurflen TP1 a ffurflen TP2, nodwch ym mhanel 1 a yw’r teitlau cyfan yn cael eu trosglwyddo neu ran, er enghraifft CB123 (cyfan), CB345 (rhan). Sylwer: Os yw’r trosglwyddiad o eiddo cyfan mewn trosglwyddiad blaenorol, prydles, arwystl neu fudd arall sy’n gallu cael cofrestriad cyntaf defnyddiwch ffurflen TR yn hytrach na ffurflen TP. Defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel ‘rhan’.
Mae’r eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys: un teitl cofrestredig cyfan neu fwy a; thir digofrestredig. Defnyddiwch ffurflen TR2 neu ffurflen TP2 ar gyfer trosglwyddiad gan arwystlai. Ar gyfer trosglwyddiadau eraill, mae’n haws defnyddio ffurflen TR5. Sylwer: Os yw’r trosglwyddiad o eiddo cyfan mewn trosglwyddiad blaenorol, prydles, arwystl neu fudd arall sy’n gallu cael cofrestriad cyntaf defnyddiwch ffurflen TR yn hytrach na ffurflen TP. Ar gyfer y teitl(au) cofrestredig defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel ‘cyfan’. Ar gyfer yr eiddo digofrestredig defnyddiwch ffurflen FR1, gyda ffurflen DL yn ddyblyg.
Mae’r trosglwyddiad yn cynnwys: rhan o un teitl cofrestredig neu fwy ac; eiddo digofrestredig. Defnyddiwch ffurflen TP1, ffurflen TP2 neu ffurflen TR5. Ar gyfer y teitl(au) cofrestredig defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel ‘rhan’. Ar gyfer yr eiddo digofrestredig defnyddiwch ffurflen FR1, gyda ffurflen DL yn ddyblyg.
Mae’r eiddo a drosglwyddwyd yn cynnwys: un teitl cofrestredig cyfan neu fwy a; rhan o un teitl cofrestredig neu fwy ac; eiddo digofrestredig. Defnyddiwch ffurflen TP1, ffurflen TP2 neu ffurflen TR5. O ran ffurflenni TP1 a TP2, nodwch ym mhanel 1 a yw’r teitlau cyfan yn cael eu trosglwyddo neu ran, er enghraifft CB123 (cyfan), CB345 (rhan). Ar gyfer y teitl(au) cofrestredig defnyddiwch ffurflen AP1, a llenwch banel 3 fel ‘rhan’. Ar gyfer yr eiddo digofrestredig defnyddiwch ffurflen FR1, gyda ffurflen DL yn ddyblyg.

1.3 Pryd i ddefnyddio’r ffurflenni argraffedig

Does dim rhaid defnyddio’r ffurflenni argraffedig, ond os byddwch yn atgynhyrchu’r ffurflen mewn dull electronig, rhaid ichi naill ai ddefnyddio pecyn ffurflenni masnachol neu eu llwytho i lawr o’n gwefan.

Rhaid argraffu eich ffurflenni trosglwyddo ar bapur gwydn maint A4 a rhaid eu hatgynhyrchu yn ôl gofynion rheol 210 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae hyn yn dangos y gofynion o ran geiriad, cynllun, llinellau, ffont a maint pwynt y ffurflen. Fodd bynnag, wrth baratoi’r ffurflenni ar eich CP neu brosesydd geiriau, mae rheol 211 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gadael ichi:

  • newid dyfnder y paneli
  • rhannu panel ar doriad tudalen
  • gadael allan
    • nodiadau ymylol
    • tystysgrifau a datganiadau amherthnasol
    • paneli fyddai’n cynnwys dim ond rhif a phennawd y panel os oes un (ond peidiwch ag ailrifo paneli dilynol)
    • blychau ‘X’ mewn panel darpariaethau ychwanegol
    • llinellau fertigol sy’n diffinio ochr chwith ac ochr dde unrhyw banel
  • newid unigol yn lluosog ac i’r gwrthwyneb
  • ychwanegu at, newid ac ail-leoli isbenawdau yn y panel darpariaethau ychwanegol
  • newid ‘trosglwyddwr’ yn ‘gwerthwr’ a ‘trosglwyddai’ yn ‘prynwr’ mewn trosglwyddiad trwy werthu
    • cofiwch ddefnyddio ‘gwerthwr’ a ‘prynwr’ drwy’r cyfan, hynny yw, ym mhenawdau’r paneli, testun y ffurflen ei hun (gan gynnwys y panel trosglwyddo) a’ch testun eich hun

1.4 Blychau ‘X’

Does dim rhaid defnyddio blychau ‘X’. Os yw eich meddalwedd yn caniatáu, gallwch ddewis yr un priodol a hepgor y gweddill.

1.5 Pwy i’w ddangos fel y trosglwyddwr neu drosglwyddwyr

Ffurflen TR1, ffurflen TR5, ffurflen TP1

Os yw’r eiddo wedi ei gofrestru, rhowch y perchnogion cofrestredig presennol neu, os bu trosglwyddiad ers diweddaru’r gofrestr ddiwethaf, y rhai sydd â hawl i’w cofrestru fel perchnogion. Os yw heb ei gofrestru, rhowch berchnogion presennol yr ystad. Mae ychydig o ddarpariaethau statudol yn rhoi pŵer gwerthu i rywun heblaw perchennog neu arwystlai.

Ffurflen TR2 a ffurflen TP2

Rhowch yr arwystlai sy’n ymarfer ei bŵer gwerthu.

1.6 Sut i gyflwyno parti ychwanegol

Gallwch roi enw, cyfeiriad a manylion eraill partïon eraill yn y panel ‘darpariaethau ychwanegol’. Os oes mwy nag un cyfeiriad at y parti, defnyddiwch derm disgrifiadol fel ‘yr is-werthwr’. Mewn rhai achosion bydd y parti yn cyflawni’r trosglwyddiad, felly bydd yn ymddangos eto yn y panel cyflawni.

1.7 Newidiadau i’r panel trosglwyddo

Ar ffurflenni argraffedig rhaid gadael y geiriau gweithredol yn y panel trosglwyddo yn union fel y maent: ‘Mae’r trosglwyddwr yn trosglwyddo’r eiddo i’r trosglwyddai.’ Os byddwch yn paratoi’r trosglwyddiad mewn dull electronig gallwch newid y naill neu’r 2 ochr i’r lluosog: ‘Mae’r trosglwyddwr/trosglwyddwyr yn trosglwyddo’r eiddo i’r trosglwyddai/trosglwyddeion’. Os yw’n drosglwyddiad trwy werthu gallwch roi ‘gwerthwr/gwerthwyr’ yn lle ‘trosglwyddwr/trosglwyddwyr’ a ‘prynwr/prynwyr’ yn lle ‘trosglwyddai/trosglwyddeion’.

1.8 Ble i ddiffinio’r termau a ddefnyddir

Gwnewch hyn yn y panel ‘darpariaethau ychwanegol’. Peidiwch ag ailddiffinio termau a ddefnyddir yn y panel trosglwyddo gan y gall hyn newid effaith y geiriau gweithredol

1.9 Sut i gwblhau trosglwyddiad o eiddo digofrestredig

Llenwch y ffurflen fel y byddech gydag eiddo cofrestredig ond:

  • gadewch banel rhif y teitl yn wag
  • yn y panel eiddo cynhwyswch ddisgrifiad a rhowch gynllun lle bo ei angen sy’n ddigon da i alluogi nodi’r eiddo yn llawn ar fap yr Arolwg Ordnans. Os yw’r trosglwyddiad o deitl cyfan y trosglwyddwr cewch gynnwys cyfeiriad at y weithred olaf oedd yn cynnwys disgrifiad o’r fath
  • cyfeiriwch yn y panel darpariaethau ychwanegol at unrhyw lyffetheiriau sydd ar yr eiddo wrth ei drosglwyddo, fel hawddfreintiau neu gyfamodau cyfyngu

Gallwch wrth gwrs ddefnyddio trawsgludiad yn lle trosglwyddiad os bydd yn well gennych.

1.10 Yr hyn i’w wneud os nad yw’r dderbynneb argraffedig yn briodol

Os nad oes unrhyw gydnabyddiaeth am y trosglwyddiad, dewiswch yr ail ddewis yn y panel ‘cydnabyddiaeth’. Os oes cydnabyddiaeth ond na chaiff unrhyw arian ei dalu na dim o werth arian yn newid dwylo, er enghraifft, bod y trosglwyddiad er mwyn rhyddhau dyled, anwybyddwch y panel ‘cydnabyddiaeth’ yn gyfan gwbl. Fel arall, dewiswch y trydydd dewis a llenwi’r gofod testun rhydd fel bo angen. Er enghraifft:

  • arian prynu wedi’i gymhwyso yn ôl cyfarwyddyd y trosglwyddwyr – ‘Mae’r trosglwyddwyr wedi cyfarwyddo’r trosglwyddai i gymhwyso pris prynu’r eiddo, sef swm o …, tuag at…’
  • arian prynu wedi ei dalu i drydydd parti – ‘mae AB a CD wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddeion am yr eiddo’r swm o …’
  • arian prynu wedi ei dalu gan drydydd parti – ‘mae’r trosglwyddwr wedi derbyn oddi wrth EF am yr eiddo’r swm o…’

1.11 Gofynion o ran cyflawni

Rhaid ichi ddefnyddio’r ffurfiau cyflawni yn Atodlen 9 i Reolau Cofrestru Tir 2003 lle byddant yn berthnasol neu mae modd eu haddasu. Gallwch ddod o hyd i ffurfiau cyflawni eraill yng nghyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd, sydd ar gael yn ddi-dâl o unrhyw un o swyddfeydd Cofrestrfa Tir EM neu i’w lwytho i lawr o’n gwefan. Rhaid ichi sicrhau bod pob parti angenrheidiol yn cyflawni’r trosglwyddiad yn y panel cyflawni priodol, gan ei ehangu yn ôl yr angen. Peidiwch â defnyddio ffurflen CS i gyflawni gweithredoedd, oni bai eich bod yn llenwi ffurflen bapur â llaw neu trwy deipio ac wedi rhedeg allan o le. Lle bydd y trosglwyddwr neu drosglwyddwyr yn cyflawni trosglwyddiad, yn gyffredinol ni fyddwn yn ei ddychwelyd i’w gyflawni gan bartïon eraill.

2. Gwerthiannau ac iswerthiannau

Os byddwch am ddefnyddio un ffurflen drosglwyddo ar gyfer gwerthiant ac iswerthiant:

  • rhowch y gwerthwr/perchennog cofrestredig fel y trosglwyddwr
  • rhowch yr is-brynwr fel y trosglwyddai
  • enwch yr is-werthwr yn y panel ‘darpariaethau ychwanegol’, er enghraifft: ‘Yr is-werthwr yw (enw a rhif cofrestredig y cwmni, os oes un)’
  • yn y panel ‘cydnabyddiaeth’, dewiswch y trydydd dewis a rhowch y dderbynneb a fynnwch, er enghraifft: ‘Mae’r trosglwyddwr wedi derbyn oddi wrth yr is-werthwr am yr eiddo’r swm o … ac mae’r is-werthwr wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddai am yr eiddo’r swm o..’
  • yn y panel ‘gwarant teitl’, dewiswch warant y teitl, os oes un, sydd i’w rhoi gan y trosglwyddwr ac ychwanegwch unrhyw addasiadau angenrheidiol at y warant honno
  • os yw’r is-werthwr hefyd i roi gwarant teitl, cynhwyswch hi yn y panel darpariaethau ychwanegol, er enghraifft: ‘Ymhlyg yn y trosglwyddiad hwn mae’r cyfamodau fyddai ymhlyg mewn trosglwyddiad o’r eiddo gan yr is-werthwr a wnaeth y trosglwyddai gyda gwarant teitl [llawn] [cyfyngedig]’
  • peidiwch â cheisio cynnwys geiriau trosglwyddo oddi wrth yr is-werthwr i’r trosglwyddai.
    • os dymunwch weithredu trosglwyddiad o’r fath bydd angen ichi ddefnyddio 2 drosglwyddiad ar wahân – un oddi wrth y gwerthwr i’r is-werthwr a’r llall oddi wrth yr is-werthwr i’r prynwr

Ar gyfer gofynion Treth Tir Toll Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) pre-completion transactions rules – GOV.UK.

Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler Treth Trafodiadau Tir – LLYW.CYMRU.

3. Cyfnewidiau

Os yw’r trosglwyddiad yn gyfnewid, rhaid ichi ddefnyddio ffurflen drosglwyddo ar wahân ar gyfer pob rhan o’r cyfnewid. Llenwch y paneli derbyn a darpariaethau ychwanegol gan ddilyn yr enghreifftiau isod.

Sefyllfa 1 Trosglwyddiad A (eiddo gwerth uwch) Trosglwyddiad B (eiddo gwerth is)
Trosglwyddiad A o eiddo sy'n werth £200,000 mewn cydnabyddiaeth am Drosglwyddiad B ac £80,000 Y panel cydnabyddiaeth:
TR1 panel 8(3)
TR1 panel 9(3)
'Mae'r trosglwyddwr wedi derbyn gan y trosglwyddai arian cydraddoldeb o £80,000'

Y panel darpariaethau ychwanegol:
TR1 panel 11
TP1 panel 12 "arall"
'Mewn ad-daliad am y pris prynu o [£200,000] mae'r trosglwyddwr wedi derbyn gan y trosglwyddai ar gyfer yr eiddo y swm o [£80,000]'

neu
'Mae'r trosglwyddiad hwn mewn cydnabyddiaeth am drosglwyddiad o'r un dyddiad sy'n amgaeedig'
Y panel cydnabyddiaeth: Y panel cydnabyddiaeth:
TR1 panel 8
TP1 panel 9
Gadewch yn wag
Y panel darpariaethau ychwanegol:

TR1 panel 11
TP1 panel 12 'arall'
'Mae'r trosglwyddiad hwn yn cael ei wneud mewn cydnabyddiaeth rannol am y pris prynu o [£200,000] sy'n daladwy pan fydd y trosglwyddwr yn prynu gan y trosglwyddai [eiddo A]'

neu
'Mae'r trosglwyddiad yn cael ei wneud mewn cydnabyddiaeth rannol am drosglwyddiad o'r un dyddiad'
Sefyllfa 2 Trosglwyddiad A Trosglwyddiad B
Trosglwyddiad A mewn cydnabyddiaeth am Drosglwyddiad B dim arian cydraddoldeb Y panel cydnabyddiaeth:
TR1 panel 8(3)
TR1 panel 9(3)
'Mae'r trosglwyddiad hwn mewn cydnabyddiaeth am drosglwyddiad o'r un dyddiad sy'n amgaeedig'

neu
'Mewn cydnabyddiaeth am gytundeb dyddiedig […] ac wedi ei wneud rhwng y partïon i hyn'
Sylwer: Nid oes angen rhoi unrhyw beth yn y panel darpariaethau ychwanegol mewn perthynas â'r cyfnewid.
Y panel cydnabyddiaeth:
TR1 panel 8(3)
TR1 panel 9(3)
'Mae'r trosglwyddiad hwn mewn cydnabyddiaeth am drosglwyddiad o'r un dyddiad sy'n amgaeedig'

neu
'Mewn cydnabyddiaeth am gytundeb dyddiedig […] ac wedi ei wneud rhwng y partïon i hyn'
Sylwer: Nid oes angen rhoi unrhyw beth yn y panel darpariaethau ychwanegol mewn perthynas â'r cyfnewid.

Bydd Treth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy fel arfer ar werth ar y farchnad pob eiddo a gafwyd trwy gyfnewid (oni bai bod rhyddhad) a rhaid ichi gyflwyno ffurflen trafodiad tir i Gyllid a Thollau EM neu Awdurdod Cyllid Cymru, fel sy’n briodol.

Ar gyfer gofynion Treth Tir Toll Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) pre-completion transactions rules – GOV.UK.

Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler Treth Trafodiadau Tir – LLYW.CYMRU.

4. Trosglwyddiadau i wahanol bobl

Nid oes modd cyfuno amryw drosglwyddiadau ar un ffurflen. Os yw’r eiddo a drosglwyddwyd i fod ym meddiant gwahanol bobl fel aelodau consortiwm o ddatblygwyr, dylid ei drosglwyddo’n gyntaf i’r consortiwm ar y cyd (neu i ymddiriedolwyr ar ei ran) ac yna ei rannu trwy drosglwyddiadau ar wahân i bob aelod. Ni fydd y budd sy’n cael ei ddal gan bob prynwr cyn rhannu yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy at ddiben Treth Tir Toll Stamp, neu Atodlen 3, paragraff 1 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017..

Fel arall, mae modd dosrannu’r gydnabyddiaeth fel y gall fod trosglwyddiadau ar wahân i bob aelod.

Os oes croes-hawddfreintiau gallant naill ai gael eu rhoi a’u neilltuo yn y trosglwyddiadau rhannu neu gael eu creu trwy weithred grant cilyddol. Fel arfer, bydd gweithred o’r fath yn rhydd o dreth tir toll stamp o dan Atodlen 3, paragraff 1 i Ddeddf Cyllid 2003.

Ar gyfer gofynion Treth Tir Toll Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) linked purchases or transfers – GOV.UK.

Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler Treth Trafodiadau Tir – LLYW.CYMRU.

5. Trosglwyddiadau eiddo mewn perchnogaeth wahanol

Dyluniwyd y ffurflenni trosglwyddo i drosglwyddo eiddo mewn perchnogaeth gyffredin. Os yw’r gwahanol eiddo ym meddiant gwahanol berchnogion gall hyn achosi anawsterau o ran adnabod pa elfennau o’r trosglwyddiad sy’n berthnasol i bob trosglwyddwr ac wrth sicrhau bod ffïoedd a a Threth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tirwedi cael eu talu’n gywir. I osgoi hyn, dylid defnyddio ffurflen drosglwyddo ar wahân.

Os defnyddir ffurflen drosglwyddo unigol ar gyfer mwy nag un trosglwyddiad, mae ffïoedd ar wahân yn daladwy ar gyfer pob trosglwyddiad. At ddibenion asesu’r ffi sy’n daladwy (o dan erthyglau 3 a 4 o’r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EM: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru), ‘trosglwyddo’ yw’r gwaredu (y weithred o drosglwyddo), nid y weithred neu ffurflen a ddefnyddir i beri’r gwarediad. Felly mae ffïoedd ar wahân yn ofynnol ar gyfer yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn warediadau lluosog. Mae’n bosibl y bydd yr enghreifftiau canlynol o gymorth.

Senario Ffi
1. Yr un trosglwyddwr a throsglwyddai, ond ystadau cofrestredig gwahanol (Mae A yn trosglwyddo Whiteacre a Blackacre i C.) Un ffi
2. Yr un trosglwyddwr, ond trosglwyddai ac ystadau cofrestredig gwahanol (Mae A yn trosglwyddo Whiteacre i C a Blackacre i D.) Ffïoedd ar wahân ar gyfer trosglwyddiadau gan A i C ac A i D
3. Yr un trosglwyddai, ond trosglwyddwr ac ystadau cofrestredig gwahanol (Mae A yn trosglwyddo Whiteacre a B yn trosglwyddo Blackacre i C.) Ffïoedd ar wahân ar gyfer trosglwyddiadau gan A i C a B i C
4. Trosglwyddwr, trosglwyddai ac ystad gofrestredig gwahanol (Mae A yn trosglwyddo Whiteacre i C a B yn trosglwyddo Blackacre i D.) Ffïoedd ar wahân ar gyfer trosglwyddiadau gan A i C a B i D

Ar gyfer gofynion Treth Tir Toll Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) linked purchases or transfers – GOV.UK.

Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler Treth Trafodiadau Tir – LLYW.CYMRU.

6. Trafodion yn cynnwys ymddiriedolwyr

6.1 Sut i ddelio â gwerthiant pan fo cyfyngiad Ffurf A ar warediadau gan unig berchennog ar y gofrestr a dim ond un perchennog

Gall yr unig berchennog drosglwyddo’n uniongyrchol i’r prynwr naill ai:

  • os daeth yr ymddiried tir o dan warchodaeth y cyfyngiad i ben (bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth o’r teitl ecwitïol, fel arfer mewn datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd ar gyfer hyn)
  • os yw’r perchennog yn gorfforaeth ymddiried

Fel arall bydd rhaid penodi ymddiriedolwr newydd. Gallwch ddefnyddio naill ai trosglwyddiad unigol neu 2 drosglwyddiad ar wahân i’r diben hwn, fel y bo’n briodol i’ch amgylchiadau.

6.2 Defnyddio un trosglwyddiad

Dylech gwblhau trosglwyddiad unigol fel a ganlyn.

  • rhowch unig berchennog A ac ymddiriedolwr newydd B yn y panel ‘trosglwyddwr’
  • rhowch benodiad B fel ymddiriedolwr newydd yn y panel ‘darpariaethau ychwanegol’. Geiriau penodiad addas yw: ‘Fel bod y trosglwyddwr yn gallu rhoi derbynneb dda am y pris prynu, mae [A] wrth ymarfer [ei bŵer][ei phŵer] statudol yn penodi [B] i fod yn ymddiriedolwr yr eiddo gydag [A] yn lle [yr ymddiriedolwr blaenorol]’
  • rhowch brynwr C yn y panel ‘trosglwyddai’

6.3 Defnyddio 2 drosglwyddiad

Dylech gwblhau trosglwyddiadau ar wahân trwy benodi’r ymddiriedolwr newydd yn y cyntaf ac yna cwblhau’r gwerthiant i’r prynwr yn yr ail fel a ganlyn.

Y trosglwyddiad cyntaf

  • rhowch unig berchennog A yn y panel ‘trosglwyddwr’
  • rhowch berchennog A ac ymddiriedolwr B yn y panel ‘trosglwyddai’
  • yn y panel ‘cydnabyddiaeth’, dewiswch yr ail ddewis
  • yn y panel ‘datganiad o ymddiried’, dylech gwblhau’r trydydd dewis trwy ychwanegu ‘ar yr ymddiriedau presennol’ neu eiriau tebyg

Yr ail drosglwyddiad

Dylai A a B gyflawni’r trosglwyddiad trwy werthu i brynwr C yn y ffordd arferol. Yn y 2 achos, pan fydd y trosglwyddiad trwy werthu wedi ei gofrestru bydd y cyfyngiad Ffurf A presennol yn cael ei ddileu.

Ar gyfer gofynion Treth Tir Toll Stamp, gweler Stamp Duty Land Tax (SDLT) Stamp Duty Land Tax: transactions that don’t need a return – GOV.UK.

Ar gyfer gofynion Treth Trafodiadau Tir, gweler Treth Trafodiadau Tir – LLYW.CYMRU.

7. Trosglwyddiad ag arwystl arno

Yn y panel ‘cydnabyddiaeth’ dewiswch y dewis cyntaf, os oes cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi; fel arall anwybyddwch y panel cydnabyddiaeth yn gyfan gwbl.

  • Os yw’r arwystlai yn ymuno yn y trosglwyddo i ryddhau rhywun o ymrwymiad, rhowch y rhyddhad yn y panel ‘darpariaethau ychwanegol’.
  • Os oes rhywun yn mynd i gyfamod yn ymwneud â’r arwystl, rhowch ef yn y panel ‘darpariaethau ychwanegol’.
  • Nid yw Treth Tir Toll Stamp yn daladwy pan nad oes cydnabyddiaeth drethadwy am y trosglwyddiad (Atodlen 3, paragraff 1 i Ddeddf Cyllid 2003 ac Atodlen 3, paragraff 1 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017). Yn achos trosglwyddiad ag arwystl arno (hyd yn oed os yw’r trosglwyddo trwy rodd) neu os trosglwyddwyd eiddo am ddim gwerth a bod rhyddhad cysylltiedig, byddai Cyllid a Thollau EM ac Awdurdod Cyllid Cymru yn gweld hyn fel y prynwr yn ysgwyddo dyled bresennol (Atodlen 4, paragraff 8 i Ddeddf Cyllid 2003 ac Atodlen 4, paragraff 8 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017) a gall Treth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir fod yn daladwy.
  • Os dymunwch, cewch ddatgan yn y panel ‘darpariaethau ychwanegol’: ‘Mae’r trosglwyddiad hwn yn cael ei wneud yn amodol ar arwystl dyddiedig … o blaid …’.

Ar ffurflen AP1, disgrifiwch y trosglwyddiad fel ‘trosglwyddo ecwiti’ i gynorthwyo staff Cofrestrfa Tir EM.

8. Trosglwyddo cyfran

8.1 Yr hyn i’w wneud os mai dim ond cyfran o’r eiddo sy’n newid dwylo

Cewch weithredu neilltuad y gyfran a throsglwyddiad dilynol yr ystad gyfreithiol trwy offerynnau ar wahân. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio trosglwyddiad Cofrestrfa Tir EM i weithredu’r trafodiad cyfan os dymunwch.

  • Os yw arian yn newid dwylo, dewiswch y trydydd dewis yn y panel ‘cydnabyddiaeth’ a rhowch dderbynneb addas, er enghraifft: ‘Mae’r trosglwyddwr/trosglwyddwyr (neu rhowch enw(au) os yw’n briodol) wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddai (neu rhowch enw os yw’n briodol) am [ei gyfran][hanner cyfran] yn yr eiddo’r swm o …’. Fel arall naill ai dewiswch ddewis 3 neu anwybyddwch y panel ‘cydnabyddiaeth’ yn gyfan gwbl.
  • Os yw’r trosglwyddiad i gydberchnogion, llenwch y panel ‘datganiad o ymddiried’ fel bo angen.
  • Os nad oes cydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer creu neu neilltuo’r gyfran, mae’r trosglwyddiad yn rhydd o Dreth Tir Toll Stamp o dan Atodlen 3, paragraff 1 i Ddeddf Cyllid 2003 ac o Dreth Trafodiadau Tir o dan Atodlen 3, paragraff 1 o Ddeddf Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Fel arall bydd y dreth tir toll stamp briodol yn dibynnu ar y pris a dalwyd am y gyfran, os talwyd rhywbeth, ac unrhyw gydnabyddiaeth arall (er enghraifft unrhyw drosglwyddo cyfrifoldeb dros ran neu’r cyfan sydd ar ôl i’w dalu o dan arwystl sy’n effeithio ar yr ystad gyfreithiol gofrestredig).
  • Ar ffurflen AP1, disgrifiwch y trosglwyddiad fel ‘trosglwyddo cyfran’ i gynorthwyo staff Cofrestrfa Tir EM.

9. Trosglwyddo portffolios morgeisi neu eiddo

Mae cyfarwyddyd ymarfer 33: ceisiadau ar raddfa fawr a chyfrifo ffïoedd yn rhoi gwybodaeth am sut i lenwi’r ffurflenni trosglwyddo ar gyfer trosglwyddo portffolios. Maent hefyd yn rhoi cyfarwyddyd ar ein trefnau ac ymarfer ar gyfer y math hwn o drafodiad.

10. Trosglwyddiadau mewn cysylltiad â chwalfa priodas neu bartneriaeth sifil

Yn y panel ‘cydnabyddiaeth’ dewiswch yr opsiwn cyntaf, rhoddir cydnabyddiaeth ariannol os yw’n werth trosglwyddo (am arian neu werth arian); anwybyddwch y panel ystyried yn gyfan gwbl fel arall.

Os yw’r trosglwyddiad yn ddarostyngedig i arwystl a bod yr arwystlai’n ymuno yn y trosglwyddiad i ryddhau rhywun rhag atebolrwydd, rhowch y gollyngiad yn y panel ‘darpariaethau ychwanegol’. Os yw rhywun yn ymrwymo i gyfamod yn ymwneud â’r arwystl, nodwch hyn yn y panel ‘darpariaethau ychwanegol’.

Pan fydd pâr yn ysgaru neu’n diddymu partneriaeth sifil, mae rhai trafodion eiddo wedi eu heithrio rhag Treth Tir Toll Stamp a Threth Trafodiadau Tir. Enghraifft fyddai trosglwyddiad o’r 2 ohonynt i un ohonynt, neu drosglwyddiad eiddo a berchnogir yn llwyr i’r priod neu bartner sifil arall. Bydd trosglwyddiad o’r fath wedi ei eithrio rhag Treth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir os caiff ei wneud yn unol â gorchymyn llys neu gytundeb rhwng y partïon mewn cysylltiad ag ysgariad, dirymu priodas neu wahaniad barnwrol, neu ddiddymu partneriaeth sifil ( Atodlen 3 i Ddeddf Cyllid 2003 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Treth a Phartneriaeth Sifil 2005 neu Atodlen 3, paragraff 3 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017). Cadarnhewch a yw hyn yn wir ym mhanel darpariaethau ychwanegol y ffurflen TR1. Nid oes angen ffurflen trafodiad tir.

Nid yw unrhyw drosglwyddiad sy’n cynnwys parti arall wedi ei eithrio a chodir Treth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir fel ar gyfer unrhyw drosglwyddiad arall.

11. Trafodion yn ymwneud â pherson heb allu meddyliol

11.1 Gwarediadau ar ran person heb allu meddyliol

Gellir rhoi pŵer i ddirprwy a benodir gan y Llys Gwarchod weithredu ar ran unig berchennog.

Rhaid ichi ddarparu copi o’r gorchymyn sy’n penodi’r dirprwy wrth gyflwyno’r gwarediad i’w gofrestru. Os yw’r gorchymyn yn gyfyngedig o ran hyd, rhaid cyflawni’r gwarediad ar ddiwedd cyfnod y penodiad neu cyn hynny, neu bydd angen gorchymyn pellach gan y llys.

Rhaid i ddirprwy beidio â gwneud penderfyniadau mawr lle ceir gwrthdaro rhwng ei fuddion personol a rhai’r person heb allu meddyliol. Er enghraifft, os yw’r dirprwy, neu aelod o’i deulu, yn dymuno prynu eiddo sy’n eiddo i’r person heb allu meddyliol, bydd angen i hyn gael ei awdurdodi gan y llys. Nid yw pŵer mewn gorchymyn llys sy’n penodi’r dirprwy sy’n eu hawdurdodi i wneud penderfyniadau na all y perchennog cofrestredig eu gwneud mewn perthynas â’u hystad gyfan, gan gynnwys y gallu i brynu a gwerthu eiddo, yn mynd y tu hwnt i’r egwyddor hon.

Ni ellir rhoi pŵer i ddirprwy weithredu ar ran person sydd allu meddyliol mewn perthynas ag eiddo ymddiried (adran 20(3) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005). Pan fo rhywun heb allu meddyliol yn gydberchennog/ymddiriedolwr, ni chaiff dirprwy wneud y gwarediad ar ran y person heb allu meddyliol ar y cyd â’r ymddiriedolwr arall/ymddiriedolwyr eraill heb orchymyn gan y Llys (adran 22(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Dylid penodi ymddiriedolwr newydd yn lle’r unigolyn heb allu meddyliol – gweler Defnyddio un trosglwyddiad a Defnyddio 2 drosglwyddiad ar gyfer sut i symud ymlaen.

Fel arall, ymddengys y byddai gorchymyn gan y llys o blaid dirprwy o dan adran 18 (1)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (nid adran 18 (1)(j), a fyddai’n gweithredu ar y budd llesiannol yn unig) yn galluogi’r dirprwy i drosglwyddo budd llesiannol yr unigolyn heb allu ac, ar y cyd ag unrhyw gydberchennog/ymddiriedolwr/ymddiriedolwyr eraill, yr ystad gyfreithiol.

Nid oes ffurf gyflawni benodedig ond mae cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd yn cynnwys enghraifft o ffurf dderbyniol o gyflawni. Rhaid i unrhyw fath o ardystiad a ddefnyddir fodloni adran 1(3) ac 1(4) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989. Gallwch ddod o hyd i’r arweiniad canlynol ar wefan Gwasanaeth Llysoedd a Threthi EM.

11.2 Caffael tir ar ran person sydd heb allu meddyliol

Dylai unrhyw drosglwyddiad fod i’r person heb allu meddyliol oni bai bod gorchymyn llys yn awdurdodi’r dirprwy i brynu’r eiddo yn ei enw ei hun.

Mae angen copi o’r gorchymyn sy’n awdurdodi’r pryniant. Gall hwn fod yn orchymyn pryniant ar wahân neu gellir cynnwys awdurdodiad o’r fath yn y gorchymyn sy’n penodi’r dirprwy. Os nad yw’r gorchymyn sy’n penodi’r dirprwy yn rhoi pŵer i’r dirprwy brynu eiddo ar ran y person heb allu meddyliol, bydd angen gorchymyn llys ar wahân. Sylwch fod gorchymyn a wnaed o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 sy’n rhoi awdurdod cyffredinol i’r dirprwy weithredu ar ran y person heb allu meddyliol yn cynnwys (oni bai ei fod yn amodol fel arall yn y gorchymyn) y pŵer angenrheidiol.

Pan fydd yr eiddo ym mherchnogaeth lwyr y person heb allu meddyliol, caiff y dirprwy wneud cais ar ffurflen RX1 am gyfyngiad safonol ffurf RR. Bydd hyn yn atal gwaredu’r tir neu arwystl cofrestredig ac eithrio o dan orchymyn y llys o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

12. Gwarediadau gan warcheidwad a benodir ar gyfer person coll yn unol â Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017

Tybir bod rhywun sy’n diflannu yn fyw hyd nes caiff y gwrthwyneb ei ddatgan. Fodd bynnag, er ei fod ar goll, efallai bydd ei eiddo’n cael ei adael yn ‘ddi-berchennog’, gyda goblygiadau difrifol iddo ef neu hi a’r dibynyddion. Er mwyn datrys y broblem hon, mae Deddf Gwarcheidiaeth (Pobl ar Goll) 2017 (‘y Ddeddf ‘) yn darparu fframwaith statudol i berson (gwarcheidwad) gael ei benodi gan yr Uchel Lys i ddelio â materion eiddo ac ariannol yr unigolyn sydd ar goll. Cefnogir y Ddeddf gan Reoliadau a Chod Ymarfer.

Pan fydd gwarcheidwad yn trosglwyddo, yn rhoi prydles gofrestradwy neu’n arwystlo eiddo’r person coll, rhaid i bob un o’r canlynol gael ei gynnwys gyda’r cais i gofrestru:

  • copi ardystiedig o’r gorchymyn llys yn penodi’r gwarcheidwad/gwarcheidwaid
  • os oes angen bond sicrwydd, naill ai (pan fydd trawsgludwr yn cyflwyno’r cais) copi o dystysgrif sicrwydd a gyhoeddwyd gan ddarparwr y bond neu dystysgrif trawsgludwr bod y fath sicrwydd ar waith, neu (ar gais gan ddinesydd) copi o’r dystysgrif sicrwydd a gyhoeddwyd gan ddarparwr y bond
  • datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y gwarcheidwad yn cadarnhau nad oes ganddo unrhyw wybodaeth am benodi unrhyw warcheidwad arall a ddylai weithredu gydag ef mewn perthynas â’r gwarediad.

Os yw’r gorchymyn sy’n penodi’r gwarcheidwad yn hŷn na 12 mis oed ar adeg y gwarediad, bydd angen datganiad statudol arnom hefyd gan y gwaredai (er enghraifft, y trosglwyddai, tenant neu roddwr benthyg morgais) yn cadarnhau nad oeddynt ar adeg cwblhau’r gwarediad yn gwybod am unrhyw amrywiad neu ddirymiad i’r gorchymyn gwarcheidiaeth. Sylwch fod angen datganiad statudol arnom yn yr achos hwn gan fod hyn yn ofynnol yn benodol gan adran 15(3) o’r Ddeddf.

Nid oes angen tystiolaeth hunaniaeth ar gyfer y gwarcheidwad ond rhaid i’r gwarcheidwad a’r person coll gael eu henwi o hyd yn nhystiolaeth paneli hunaniaeth ein ffurflenni cais.

Gweler hefyd adran 9.7 o gyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd sy’n awgrymu math o ddienyddiad y gellir ei ddefnyddio pan fydd gwarcheidwad yn cyflawni gweithred.

13. Trosglwyddiadau a gyflawnir gan farnwr neu swyddog o’r llys yn unol â gorchymyn llys

Rhaid i’r perchnogion cofrestredig gael eu dangos fel trosglwyddwyr gan mai dim ond llofnodi ar ran y perchennog na fydd yn cyflawni’r weithred y bydd y barnwr.Gweler adran 9.8 o gyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd am wybodaeth ar ffurf y cyflawni.

14. Tystiolaeth Treth Tir Toll Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir lle ceir sawl eiddo

14.1 Treth Tir Toll Stamp

Yn y rhan fwyaf o achosion lle ceir sawl eiddo, dim ond y cyfeiriad eiddo cyntaf ar gyfer unrhyw drafodiad y bydd y Dystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir (SDLT5) yn ei ddangos. Lle ceir sawl cyfeiriad, rhaid i chi hefyd gyflwyno copïau o’r Atodlen i’r Dystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir (SDLT5 (CS)).

Weithiau, gall Cyllid a Thollau EM ddefnyddio rhestr a roddir gan gyfreithiwr fel sail i’r atodlen. Caiff yr atodlen ei chymeradwyo gyda stamp swyddogol a rhif y dystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir pan wneir hyn. Dylid cyflwyno hon yn ychwanegol at y ffurflen SDLT5.

14.2 Treth Trafodiadau Tir

Yn y rhan fwyaf o achosion lle ceir sawl eiddo, dylai’r dystysgrif(tystysgrifau) Treth Trafodiadau Tir gynnwys y rhestr lawn o eiddo a/neu rifau teitl a gynhwysir yn y trafodiad.

15. Pethau i’w cofio

Wrth lenwi ffurflenni trosglwyddo, dylech:

  • ddefnyddio’r ffurflen gywir ar gyfer eich trafodiad
  • wirio ei bod hi’n cydymffurfio â’r ffurf benodedig yn ôl rheolau 210 a 211 o Reolau Cofrestru Tir 2003
  • adael geiriau gweithredol heb eu newid
  • sicrhau bod pawb perthnasol wedi cyflawni’r weithred yn gywir
  • wneud y taliadau cywir

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.