Canllawiau

Hawlio Credyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig

Diweddarwyd 9 April 2024

Rhoi gwybod eich bod yn hunangyflogedig

Yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol, rhowch wybod eich bod yn hunangyflogedig os ydych yn:

  • masnachu trwy gwmni cyfyngedig

  • is-gontractwr neu gontractwr

  • gweithio i chi’ch hunan

  • yn yr ‘economi gig’, fel contractau tymor byr a thros dro

Mae angen i chi roi gwybod am eich statws gwaith fel eich bod yn cael y swm cywir o Gredyd Cynhwysol.

Gofalwyr maeth

Nid yw Credyd Cynhwysol yn ystyried gofal maeth fel hunangyflogaeth. Nid oes angen i chi roi gwybod i ni am eich lwfans gofal maeth fel incwm hunangyflogedig. Nid ydym yn defnyddio’ch lwfans gofal maeth i gyfrifo faint o Gredyd Cynhwysol a gewch.

Cyfweliad hunangyflogaeth

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni eich bod yn hunangyflogedig, byddwn yn gofyn i chi fynychu cyfweliad hunangyflogaeth gydag anogwr gwaith.

Yn y cyfweliad hwn byddwn yn penderfynu os:

Os nad ydych yn dod i’r cyfweliad hwn, efallai na fyddwch yn gallu cael Credyd Cynhwysol.

Beth mae bod yn ‘hunangyflogedig â thâl’ yn ei olygu

Yn eich cyfweliad hunangyflogaeth, byddwn yn penderfynu os ydych yn ‘hunangyflogedig â thâl’.

Rydych yn ‘hunangyflogedig â thâl‘ os mae eich gwaith hunangyflogedig:

  • yn eich prif swydd neu brif ffynhonnell incwm

  • yn drefnus, er enghraifft rydych yn cadw cofnodion o’ch gweithgarwch busnes

  • wedi ei ddatblygu, er enghraifft mae gennych gynllun busnes neu rydych yn hysbysebu y gwaith rydych yn ei wneud

  • yn rheolaidd, er enghraifft mae gennych waith sefydlog nawr ac yn y dyfodol

  • yn disgwyl gwneud elw

Os allwch brofi’r holl bethau hyn, byddwch yn cael eich ystyried fel ‘hunangyflogedig â thâl’. Mae hwn yn golygu nid oes angen i chi chwilio am waith arall.

Os na allwch brofi’r holl bethau hyn, efallai bydd angen i chi chwilio am waith arall os ydych am hawlio Credyd Cynhwysol.

Beth sydd angen i chi ddod gyda chi

Dewch â gymaint o dystiolaeth ag y gallwch i’ch apwyntiad. Gall y rhain fod yn gopïau papur neu ddigidol.

Manylion busnes

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o fanylion eich busnes.

Gall hyn gynnwys:

  • enw’r busnes

  • cyfeiriad y busnes

  • y dyddiad wnaethoch ddechrau gwneud busnes

  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) gan CThEF, os oes gennych un

  • rhif cofrestru TAW, os ydych wedi cofrestru am TAW

Cofnodion busnes

Bydd angen i chi ddod â’ch cofnodion busnes gyda chi.

Gall hyn gynnwys:

  • anfonebau

  • derbynebau

  • datganiadau banc

  • ffurflenni treth

  • cofnodion cwsmeriaid, cyflenwyr neu gontractau

Gweithgarwch busnes

Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o weithgarwch eich busnes. Gall hyn gynnwys:

  • gwefan eich busnes

  • cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich busnes

  • unrhyw weithgarwch neu ddeunyddiau marchnata

  • cynllun neu bortffolio busnes

Tystiolaeth arall i gefnogi’ch cais

Gallwch hefyd ddod â thystiolaeth arall i’ch apwyntiad a all gefnogi eich gwaith hunangyflogedig.

Gall hyn gynnwys:

  • lythyrau gan CThEF a ffynonellau swyddogol eraill

  • slipiau cyflog, os ydych yn gweithio i rywun arall yn ogystal â bod yn hunangyflogedig

  • tystysgrifau busnes, fel ar gyfer yswiriant neu achrediad proffesiynol

Beth yw ystyr ‘llawr isafswm incwm’ os ydych yn hunangyflogedig â thâl

Y llawr isafswm incwm yw’r swm o arian bydd person cyflogedig mewn sefyllfa debyg i chi yn ei ennill ar y Cyflog Byw Cenedlaethol neu Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ar ôl tynnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Byddwch yn darganfod beth yw eich llawr isafswm incwm yn eich cyfweliad hunangyflogaeth.

Os ydych yn ennill mwy na’r llawr isafswm incwm, byddwn yn cyfrifo’ch taliad Credyd Cynhwysol gan ddefnyddio eich incwm gwirioneddol.

Os ydych yn ennill llai na’r llawr isafswm incwm, byddwn yn cyfrifo’ch taliad gan ddefnyddio’r llawr isafswm incwm. Byddwn dim ond yn gwneud hyn os ydych:

  • yn hunangyflogedig â thâl, ac

  • nid ydych mewn cyfnod cychwyn busnes

Os yw’r llawr isafswm incwm yn berthnasol i chi, ac mae’ch incwm yn is na’r llawr, yna bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn is nag y bydd os byddwn wedi seilio’r taliad ar eich incwm gwirioneddol. Gallai hyn olygu y bydd angen i chi chwilio am waith ychwanegol.

Os ydych yn gymwys am ‘gyfnod cychwyn busnes’

Yn eich cyfweliad hunangyflogaeth, byddwn yn penderfynu a ydych yn gymwys am gyfnod cychwyn busnes.

Mae cyfnod cychwyn busnes am hyd at 12 mis, lle gallwch ganolbwyntio ar dyfu eich busnes.

Byddwch yn gymwys am gyfnod cychwyn busnes os:

  • nad ydych wedi bod yn hunangyflogedig â thâl yn flaenorol tra’n hawlio Credyd Cynhwysol, ac

  • rydych yn cymryd camau gweithredol i gynyddu eich incwm hunangyflogaeth

Yn ystod eich cyfnod cychwyn busnes:

  • ni fydd angen i chi chwilio am, na fod ar gael am, waith arall

  • byddwn yn cyfrifo’ch taliad Credyd Cynhwysol drwy ddefnyddio’ch enillion misol gwirioneddol

  • byddwch yn cael cefnogaeth gan anogwr gwaith sydd wedi’u hyfforddi i weithio gyda phobl hunangyflogedig

Rhaid i chi:

  • ddod i gyfarfodydd gyda’ch anogwr gwaith bob ychydig o fisoedd

  • dangos tystiolaeth eich bod yn cymryd camau gweithredol i gynyddu eich enillion hunangyflogedig

Os na fyddwch yn dod i’r cyfarfodydd hyn, neu os na allwch ddangos y dystiolaeth hyn, gellid dod â’ch cyfnod cychwyn i ben yn gynnar.

Os bydd eich gwaith hunangyflogedig yn newid, mae gennych hawl i gyfnod cychwyn busnes arall os:

  • mae’n fwy na 5 mlynedd ers eich cyfnod cychwyn busnes diwethaf, a

  • mae eich busnes hunangyflogedig newydd ar gyfer masnach, proffesiwn neu alwedigaeth wahanol

Os yw eich enillion hunangyflogaeth yn is na’r llawr isafswm incwm pan ddaw eich cyfnod cychwyn busnes i ben, caiff eich taliad Credyd Cynhwysol ei leihau.

Rhoi gwybod am incwm a threuliau busnes

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am incwm a threuliau i Gredyd Cynhwysol bob mis.

Rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os:

  • nid hunangyflogaeth yw eich prif waith neu brif ffynhonnell incwm

  • nid yw Credyd Cynhwysol yn eich ystyried yn ‘hunangyflogedig â thâl’

  • nid oes gennych unrhyw incwm na threuliau

Mae mwy o arweiniad am roi gwybod am eich incwm a threuliau o hunangyflogaeth. Mae hyn yn cynnwys sut i gyfrifo’ch incwm, a’r treuliau y gallwch eu cynnwys.

Cadw cofnodion busnes

Bydd angen i chi gadw cofnod cywir o:

  • incwm, neu unrhyw daliadau i’ch busnes

  • treuliau, neu unrhyw daliadau a wnaethoch o’ch busnes

Darllenwch fwy am gadw cofnodion at ddibenion treth.

Sut mae eich taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu cyfrifo

I gyfrifo eich taliad Credyd Cynhwysol, byddwn yn defnyddio pa bynnag swm sy’n uwch (oni bai eich bod mewn cyfnod cychwyn busnes):

  • eich llawr isafswm incwm, neu

  • eich cyfanswm incwm ar gyfer y cyfnod adrodd misol

Eich cyfanswm incwm ar gyfer cyfnod adrodd misol yw’r holl arian rydych wedi derbyn yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys unrhyw:

  • enillion cyflogaeth

  • enillion hunangyflogaeth

  • incwm ychwanegol a enillir

  • incwm goddefol, fel pensiwn

Rydym yn cyfrifo’ch incwm hunangyflogedig drwy:

  • ychwanegu cyfanswm yr incwm rydych chi’n ei adrodd o’ch busnes, a

  • thynnu unrhyw dreuliau a ganiateir

Rhaid i chi rhoi gwybod am eich incwm a threuliau’n gywir a rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch sefyllfa. Os nad ydych yn gwneud hyn, gallwch gael sancsiwn.

Darllenwch fwy am sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo.

Elw a cholledion

Efallai y bydd eich enillion hunangyflogaeth yn amrywio bob cyfnod adrodd misol. Bydd Credyd Cynhwysol yn edrych ar eich enillion dros nifer o gyfnodau adrodd i helpu cadw eich taliadau’n gyson.

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud colled, caiff y golled ei gario drosodd tan eich bod yn gwneud elw. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael mwy o Gredyd Cynhwysol tan fod y golled wedi’i adennill.

Bob mis rydych yn rhoi gwybod am elw, byddwn yn defnyddio hyn i gydbwyso unrhyw golledion blaenorol. Byddwn yn parhau i wneud hyn tan:

  • fydd eich elw wedi adennill eich holl golledion, neu

  • rydych yn stopio bod yn hunangyflogedig

Mae terfyn hefyd i’r cyfanswm y gallwch ennill cyn i chi beidio â derbyn Credyd Cynhwysol am y mis. Os ydych yn ennill £2,500 neu fwy dros y terfyn hyn, bydd gennych ‘enillion dros ben’.

Os ydych yn ennill £2,500 neu fwy dros eich terfyn

Os ydych yn ennill £2,500 neu fwy dros eich terfyn yna:

  • ni fyddwch yn cael Credyd Cynhwysol

  • bydd y swm dros £2,500 yn cael ei gyfrif fel enillion yn y cyfnod asesu nesaf

Byddwch yn parhau i gael dim Credyd Cynhwysol nes bod eich enillion (gan gynnwys yr hyn sydd wedi’i gario drosodd) yn gostwng o dan y terfyn ac rydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol eto.

Gallwch ddarllen mwy ar sut mae eich enillion yn effeithio ar eich taliadau

Os ydych yn hawlio gyda phartner

Os ydych yn byw gyda phartner, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch hawlio Credyd Cynhwysol.

Os yw’ch partner yn gweithio

Gall enillion eich partner effeithio ar lefel y llawr isafswm incwm sy’n berthnasol i’ch cais mewn amgylchiadau penodol.

Os yw’ch partner hefyd yn hunangyflogedig â thâl

Bydd gan y ddau ohonoch lawr isafswm incwm eich hun, wedi’i gyfrifo’n dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae’r rhain yn cael eu cyfuno i gyfrifo eich taliad Credyd Cynhwysol ar y cyd.

Rhowch wybod i ni os bydd rhywbeth yn newid

Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw newid i’ch sefyllfa os yw’n effeithio ar eich gwaith hunangyflogedig.

Dywedwch wrthym cyn gynted â phosibl os:

  • ydych yn cau eich busnes

  • rydych yn lleihau faint o waith hunangyflogedig rydych yn ei wneud a faint rydych yn ei ennill yn sylweddol ac yn barhaol

  • rydych yn cynyddu faint o waith hunangyflogedig rydych yn ei wneud a faint rydych yn ei ennill yn sylweddol ac yn barhaol

  • oes gennych newidiadau tymhorol sy’n effeithio ar eich busnes

  • nad ydych yn gallu gweithio mwyach

  • rydych yn dechrau busnes gwahanol

  • rydych yn cymryd gwaith cyflogedig

Os ydych yn cau eich busnes neu’n lleihau faint o waith hunangyflogedig rydych yn ei wneud yn sylweddol, efallai y bydd angen i chi gwrdd â’ch anogwr gwaith i ddangos tystiolaeth o’r newidiadau.

Mae’n rhaid i chi hefyd ddweud wrth CThEF am newid i’ch busnes.

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio eich cyfrif ar-lein neu linell gymorth Credyd Cynhwysol.