Canllawiau

Rhoi gwybod am incwm a threuliau eich busnes i Gredyd Cynhwysol os ydych chi'n hunangyflogedig

Diweddarwyd 9 April 2024

Trosolwg

Rhaid i chi roi gwybod am incwm a threuliau eich busnes i Gredyd Cynhwysol pob mis os ydych yn hunangyflogedig.

Rhaid i chi wneud hwn hyd yn oed os:

Cadw cofnodion busnes

Gallwch gadw cofnod ar gyfer Credyd Cynhwysol a CThEF mewn ffordd debyg.

Bydd angen i chi gadw cofnod cywir o:

  • incwm, neu unrhyw daliadau i’ch busnes

  • treuliau, neu unrhyw daliadau rydych wedi eu gwneud o’ch busnes

Darllenwch fwy am gadw cofnodion busnes.

Dangos tystiolaeth o incwm a threuliau eich busnes

Efallai y gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o unrhyw incwm a threuliau busnes rydych yn roi gwybod am, er enghraifft:

  • derbynebau

  • anfonebau

  • cyfrifon banc

Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn dal i gael y swn cywir o Gredyd Cynhwysol bob mis.

Os nad ydych yn dangos tystiolaeth pan ofynnir i chi, ni allwn gymryd hyn i ystyriaeth wrth gyfrifo’ch taliad. Bydd hyn yn golygu y gallech gael gormod o Gredyd Cynhwysol a bydd yn rhaid i chi wneud ad-daliad. Darganfyddwch am dalu gor-daliad yn ôl

Sut i roi gwybod i Gredyd Cynhwysol am eich incwm a’ch treuliau

Rhaid i chi roi gwybod am eich incwm a threuliau hunangyflogedig i Gredyd Cynhwysol unwaith y mis. Fel arfer byddwch yn gwneud hwn yn eich cyfrif ar-lein. Byddwn yn anfon neges testun neu e-bost atoch pan mae’n rhaid i chi roi gwybod am hwn.

Ni fyddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol tan eich bod wedi roi gwybod am incwm a threuliau eich busnes. Os ydych yn rhoi gwybod yn hwyr, efallai bydd eich taliad yn cael ei oedi.

 

I roi gwybod am eich incwm a threuliau, mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.

Os na allwch roi gwybod ar-lein, bydd angen i chi gysylltu â Chredyd Cynhwysol.

Roi gwybod am incwm eich busnes

Rhaid i chi roi gwybod am eich holl incwm busnes hunangyflogaeth ar gyfer y dyddiadau y gofynnwn i chi amdanynt. Rhowch wybod am bopeth y cawsoch eich talu yn yr amser hwnnw, ni waeth pryd y gwnaethoch y gwaith i’w ennill.

Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw daliadau am nwyddau neu wasanaethau a wnaed  trwy gerdyn credyd neu ddebyd, arian parod, siec neu drosglwyddiad banc

  • unrhyw nwyddau neu wasanaethau fel taliad (rhowch faint fyddwch wedi cael eich talu os oedd y cwsmer wedi talu am eich gwaith gydag arian)

  • unrhyw gildwrn neu roddion

  • unrhyw ad-daliadau treth incwm neu Yswiriant Gwladol sy’n berthnasol i’ch busnes hunangyflogedig.

  • unrhyw grantiau neu gymorthdaliadau, os cawn eu trin fel incwm trethadwy gan CThEF

  • y gwerthiant neu drosglwyddiad o asedau busnes oedd yn flaenorol wedi cael eu datgan fel traul

Dylech ond roi gwybod am incwm sy’n gysylltiedig â’ch busnes yn uniongyrchol.

Rhoi gwybod am incwm os ydych mewn partneriaeth busnes

Os ydych mewn partneriaeth busnes, dylech ond roi gwybod am eich rhan chi o incwm y busnes.

Cyfrifwch incwm gwirioneddol y busnes, yna rhannwch er mwyn adlewyrchu eich rhan.

Rhoi gwybod am dreuliau eich busnes

Rhaid i chi roi gwybod am yr holl dreuliau busnes hunangyflogedig ar gyfer y dyddiadau y gofynnwn ichi amdanynt.

Gallwch hawlio treuliau busnes sydd:

  • yn angenrheidiol a’n berthnasol i’ch busnes

  • ddim yn eithriadol neu’n ormodol

Gelwir y rhain yn ‘treuliau a ganiateir’. Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw dreuliau a ganiateir mae’ch busnes wedi eu talu allan pob mis.

Ni allwch hawlio treuliau busnes am:

  • asedau sydd ddim yn colli eu gwerth dros amser, fel eiddo neu gyfraniadau

  • lletygarwch digwyddiadau neu ddiddanu cleientiaid, cyflenwyr neu gwsmeriaid

  • rhoddion i elusennau

  • ffioedd aelodaeth nad ydynt yn berthnasol i’ch busnes

Dylech ond rhoi gwybod am incwm sy’n gysylltiedig â’ch busnes yn uniongyrchol.

Darllenwch fwy am ba dreuliau busnes gallwch roi gwybod amdanynt i Gredyd Cynhwysol os ydych yn hunangyflogedig

Rhoi gwybod am dreuliau os ydych mewn partneriaeth fusnes

Os ydych mewn partneriaeth fusnes, rhowch wybod am eich cyfran o’r costau busnes yn unig.

Cyfrifwch gostau gwirioneddol y busnes, yna ei rannu i adlewyrchu’ch cyfran.

Rhoi gwybod am TAW

Os ydych chi wedi cofrestru am TAW, gallwch ddewis a ddylech gynnwys TAW wrth roi gwybod am eich incwm a’ch treuliau.

Rhaid i chi fod yn gyson. Os dewiswch gynnwys TAW, dylech bob amser roi gwybod am unrhyw TAW rydych wedi:

  • codi ar eich cleientiaid

  • talu i CThEF

  • ad-dalu i’ch busnes

Os dewiswch beidio cynnwys TAW, ni ddylech fyth roi gwybod am yr eitemau hyn.

Sut i gyfrifo treuliau eich busnes hunangyflogedig

Treuliau syml neu gostau gwirioneddol

Gallwch osgoi defnyddio cyfrifiadau cymhleth i gyfrifo rhai o’ch treuliau busnes trwy ddefnyddio treuliau syml.

Mae treuliau syml yn defnyddio ‘cyfraddau safonol’ (mae cyfraddau safonol yn swm penodol a ddefnyddiwn i gyfrifo’r gost), felly nid oes raid i chi gyfrifo eich costau gwirioneddol.

Gallwch ddefnyddio treuliau syml ar gyfer:

  • chostau i rai cerbydau (gan roi gwybod am sawl milltir y gwnaethoch deithio ar fusnes)

  • defnyddio’ch cartref ar gyfer busnes (roi gwybod am faint o oriau y buoch chi’n gweithio gartref)

  • byw yn eich man busnes (roi gwybod am faint o bobl oedd yn byw yno)

Os dewiswch gyfrifo’ch costau gwirioneddol yn hytrach na chyfraddau safonol, bydd angen i chi ychwanegu cyfanswm eich costau a ganiateir ar gyfer y cyfnod, yna gyfrifwch pa ran o gyfanswm eich costau a ddefnyddiwyd ar gyfer eich busnes yn unig.

Costau busnes a phersonol

Os yw traul ar gyfer defnydd busnes a phersonol, dim ond y rhan o’r costau a wariwyd ar ddefnydd busnes y gallwch ei hawlio.

Er enghraifft, mae eich bil ffôn symudol yn £100. O hyn, mae £70 yn ddefnydd personol a £30 i’ch busnes. Dim ond y £30 y gallwch hawlio fel traul busnes.

Rhowch wybod i ni os bydd rhywbeth yn newid

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym os bydd rhywbeth yn newid sy’n effeithio ar eich busnes hunangyflogedig.