Ystadegau Swyddogol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mai 2018

Cyhoeddwyd 18 July 2018

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2018

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£148,894

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

1.0%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

-3.0%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

109.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2018 am 9.30am ddydd Mercher 15 Awst 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 1.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018, i lawr o 2.4% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018. Mae prisiau tai Cymru yn tyfu yn arafach na chyfradd flynyddol y DU sef 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018. Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.5% rhwng Ebrill 2018 a Mai 2018, o’i gymharu â gostyngiad o 1.5% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill 2017 a Mai 2017).

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mai 2018, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn Chwarter 1 2018, mai nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru oedd 11,780. Mae hyn i lawr 5.4% o’i gymharu â Chwarter 1 2017.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai ar wahân, gan godi 2.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018 i £226,000. Gostyngodd pris fflatiau a fflatiau deulawr gan 3.6% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018 i £106,000. Dyma’r unig fath o eiddo lle y gostyngodd prisiau dros y flwyddyn.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 18 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Yr awdurdod lleol a ddangosodd y twf mwyaf yn y flwyddyn hyd at Fai 2018 oedd Casnewydd, lle y cynyddodd prisiau gan 9.9% i £173,000.

Caerdydd a Bro Morgannwg oedd yr unig awdurdodau lleol yng Nghymru i gofnodi cynnydd yn nifer eu trafodion yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018. O Ebrill 2018, mae Treth Trafodiadau Tir wedi cymryd lle Treth Tir Toll Stamp y DU yng Nghymru. Mae Treth Trafodiadau Tir yn gyson yn fras â Threth Tir Toll Stamp, fodd bynnag, mae’r cyfraddau trethi preswyl yn wahanol. Yn gyffredinol, ar gyfer trafodion rhwng £125,000 a £400,000, mae Treth Trafodiadau Tir yn is na Threth Till Toll Stamp, tra bod Treth Trafodiadau Tir yn uwch na Threth Till Toll Stamp ar gyfer trafodion uwch na £400,000. Ar gyfer eiddo rhatach, byddai’r dreth wedi bod yn is pe bai oedi o ran y trafodiad, yn agored i Dreth Trafodiadau Tir. Ar gyfer trafodion uwch na £400,000, byddai’r dreth wedi bod yn is pe bai’r trafodiad yn cael ei dynnu ymlaen fel bod Treth Tir Toll Stamp yn cael ei thalu. Gall y cynnydd yn nifer y gwerthiannau ym Mawrth 2018 mewn rhai awdurdodau lleol gael ei briodoli i’r rheiny sy’n prynu eiddo drutach ac sydd am gwblhau cyn i’r system newydd gael ei chyflwyno. Yn gyffredinol, gan fod mwy o drafodion yng Nghymru’n dueddol o fod yn y bandiau pris is, gall hyn leihau trafodion cyn Ebrill 2018 ac efallai eu cynyddu yn syth ar ôl hynny.

Yn yr un modd â’r dangosyddion eraill yn y Farchnad Dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y data prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

nnual price change for Wales over the past 5 years welsh

Yng Nghymru, cynyddodd y pris cyfartalog gan 1.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018 (i lawr o 2.4% yn Ebrill 2018).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mai 2018 Mai 2017 Gwahaniaeth
Abertawe £140,886 £138,521 1.7%
Blaenau Gwent £82,630 £80,183 3.1%
Bro Morgannwg £217,949 £206,523 5.5%
Caerdydd £201,233 £193,612 3.9%
Caerffili £127,566 £124,648 2.3%
Casnewydd £172,770 £157,163 9.9%
Castell-nedd Port Talbot £107,230 £106,800 0.4%
Ceredigion £177,366 £177,169 0.1%
Conwy £150,049 £154,963 -3.2%
Gwynedd £141,784 £148,802 -4.7%
Merthyr Tudful £95,258 £94,104 1.2%
Pen-y-bont ar Ogwr £150,668 £141,842 6.2%
Powys £184,822 £168,827 9.5%
Rhondda Cynon Taf £102,684 £102,722 -0%
Sir Benfro £159,647 £163,639 -2.4%
Sir Ddinbych £145,380 £143,480 1.3%
Sir Fynwy £245,648 £231,411 6.2%
Sir y Fflint £164,152 £159,268 3.1%
Sir Gaerfyrddin £138,499 £134,193 3.2%
Tor-faen £133,253 £126,828 5.1%
Wrecsam £157,356 £153,307 2.6%
Ynys Môn £167,453 £167,111 0.2%
Cymru £148,894 £147,428 1%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

average price by local authority for Wales welsh

Ym Mai 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £246,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £83,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mai 2018 Mai 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £225,804 £221,407 2.0%
Tŷ pâr £144,379 £141,980 1.7%
Tŷ teras £114,329 £113,598 0.6%
Fflat neu fflat deulawr £105,580 £109,576 -3.6%
Holl £148,894 £147,428 1.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Mawrth 2018 Mawrth 2017 Gwahaniaeth
Abertawe 233 295 -21.0%
Blaenau Gwent 58 61 -4.9%
Bro Morgannwg 177 171 3.5%
Caerdydd 450 446 0.9%
Caerffili 167 194 -13.9%
Casnewydd 179 258 -30.6%
Castell-nedd Port Talbot 131 175 -25.1%
Ceredigion 60 65 -7.7%
Conwy 153 195 -21.5%
Gwynedd 131 150 -12.7%
Merthyr Tudful 41 65 -36.9%
Pen-y-bont ar Ogwr 150 211 -28.9%
Powys 127 157 -19.1%
Rhondda Cynon Taf 259 297 -12.8%
Sir Benfro 132 169 -21.9%
Sir Ddinbych 97 116 -16.4%
Sir Gaerfyrddin 217 247 -12.1%
Sir Fynwy 121 122 -0.8%
Sir y Fflint 161 171 -5.8%
Tor-faen 110 120 -8.3%
Wrecsam 126 137 -8.0%
Ynys Môn 72 87 -17.2%
Cymru 3,368 3,909 -13.8%

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mawrth 2014 3,214
Mawrth 2015 3,274
Mawrth 2016 5,744
Mawrth 2017 3,909
Mawrth 2018 3,368

5. Statws eiddo

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mawrth 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £208,824 0.6% 7.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £151,650 1.0% 4.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mai 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £128,339 -3.2% 0.6%
Cyn berchen-feddiannydd £172,940 -2.7% 1.5%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Mai 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £143,896 -3.6% 0.1%
Morgais £151,866 -2.6% 1.5%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mawrth 2018
Cymru 57

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317