Ystadegau Swyddogol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mehefin 2018

Cyhoeddwyd 15 August 2018

Applies to Wales

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2018

pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd

£156,886

y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd

4.3%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd

1.65%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd

115.2%

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2018 am 9.30am ddydd Mercher 19 Medi 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai Cymru gan 4.3% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018, i lawr o 4.7% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018. Mae prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018. Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.8% rhwng Mai 2018 a Mehefin 2018, o’i gymharu â chynnydd o 1.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai 2017 a Mehefin 2017).

Dangosodd Ystadegau Treth Trafodion Tir: Ebrill i Fehefin 2018 ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn Chwarter 2 2018, mai 12,910 oedd nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy yng Nghymru. Mae hyn i lawr 6.5% o’i gymharu â Chwarter 2 2017 fel a gyhoeddir yn Ystadegau Trafodion Eiddo y DU. Mae angen bod yn ofalus wrth gymharu’r gyfres hon dros y cyfnod hwn oherwydd gall methodolegau ychydig yn wahanol gael eu cymhwyso gan y sefydliadau gwahanol.

Yng Nghymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn tai pâr, gan godi 5.6% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018 i £152,000. Dangosodd pris cyfartalog fflatiau a fflatiau deulawr gynnydd o 2.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin i £114,000, y cynnydd lleiaf o’r holl fathau o eiddo.

Mae prisiau tai wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf mewn 21 o’r 22 ardal awdurdod lleol. Mae Casnewydd yn parhau i ddangos twf cryf, gan gynyddu gan 10.2% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018 i 174,000.

Yn yr un modd â’r dangosyddion eraill yn y Farchnad Dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years welsh

Yng Nghrymu, cynyddodd y pris cyfartalog gan 4.3% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018 (i lawr o 4.7% ym Mai 2018).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mehefin 2018 Mehefin 2017 Gwahaniaeth
Abertawe £144,630 £140,357 3%
Blaenau Gwent £83,631 £80,710 3.6%
Bro Morgannwg £217,692 £207,458 4.9%
Caerdydd £201,701 £196,146 2.8%
Caerffili £126,074 £123,926 1.7%
Casnewydd £173,922 £157,759 10.2%
Castell-nedd Port Talbot £112,821 £106,822 5.6%
Ceredigion £181,183 £174,728 3.7%
Conwy £164,518 £154,324 6.6%
Gwynedd £150,410 £148,924 1%
Merthyr Tudful £103,151 £97,064 6.3%
Pen-y-bont ar Ogwr £149,212 £144,412 3.3%
Powys £174,469 £169,401 3%
Rhondda Cynon Taf £107,968 £103,621 4.2%
Sir Benfro £167,872 £165,121 1.7%
Sir Ddinbych £152,415 £145,467 4.8%
Sir Fynwy £244,332 £232,651 5%
Sir y Fflint £163,543 £161,566 1.2%
Sir Gaerfyrddin £138,775 £132,722 4.6%
Tor-faen £144,364 £128,494 12.4%
Wrecsam £155,312 £153,748 1%
Ynys Môn £157,959 £164,943 -4.2%
Cymru £156,886 £150,394 4.3%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales welsh

Ym Mehefin 2018, yr ardal ddrutaf i fyw oedd Sir Fynwy, lle mai £244,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £84,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mehefin 2018 Mehefin 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £234,339 £225,439 3.9%
Tŷ pâr £151,991 £143,947 5.6%
Tŷ teras £121,586 £116,907 4.0%
Fflat neu fflat deulawr £114,043 £110,994 2.7%
Holl £156,886 £150,394 4.3%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Ebrill 2018 Ebrill 2017 Gwahaniaeth
Abertawe 234 235 -0.4%
Blaenau Gwent 62 60 3.3%
Bro Morgannwg 135 197 -31.5%
Caerdydd 318 391 -18.7%
Caerffili 152 184 -17.4%
Casnewydd 140 184 -23.9%
Castell-nedd Port Talbot 120 152 -21.1%
Ceredigion 63 74 -14.9%
Conwy 126 170 -25.9%
Gwynedd 109 123 -11.4%
Merthyr Tudful 37 68 -45.6%
Pen-y-bont ar Ogwr 179 182 -1.6%
Powys 117 136 -14.0%
Rhondda Cynon Taf 290 298 -2.7%
Sir Benfro 126 144 -12.5%
Sir Ddinbych 95 87 9.2%
Sir Gaerfyrddin 179 235 -23.8%
Sir Fynwy 89 97 -8.2%
Sir y Fflint 155 180 -13.9%
Tor-faen 62 91 -31.9%
Wrecsam 118 126 -6.3%
Ynys Môn 78 76 2.6%
Cymru 3,005 3,490 -13.9%

Sylwer: Bydd y ganran newid blynyddol yn y golofn ‘Gwahaniaeth’ yn cael ei dylanwadu’n bennaf gan lefel cyflawnrwydd data’r mis diweddaraf a adroddwyd, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu’r tueddiadau gwirioneddol.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Ebrill 2014 3,360
Ebrill 2015 3,150
Ebrill 2016 2,822
Ebrill 2017 3,490
Ebrill 2018 3,005

5. Statws eiddo

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Ebrill 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £210,429 2.1% 7.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £150,819 -0.3% 2.5%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mehefin 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £135,691 1.9% 4.2%
Cyn berchen-feddiannydd £181,538 1.4% 4.4%

7. Statws ariannu

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Mehefin 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £152,601 1.8% 4.0%
Morgais £159,428 1.6% 4.5%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ebrill 2018
Cymru 54

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

Mae amcangyfrif Mai 2018 ar gyfer Cymru wedi cael ei ddiwygio i fyny gan £5,400 a’r gyfradd twf blynyddol gan 3.7 pwynt canran fel rhan o’r datganiad hwn. Wrth lunio ein hamcangyfrif cyntaf ar gyfer mis, rydym yn ystyried yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif ar gyfer y mis blaenorol. Disodlwyd Treth Tir Toll Stamp y DU gan Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru o Ebrill 2018 a chafodd hyn effaith ar y cymysgedd o ddata a drafodwyd yn y cyfnod hwnnw. Yna cafodd hyn effaith ar ein hamcangyfrif gyntaf ar gyfer Mai 2018 a oedd yn seiliedig ar 40% o’r trafodion oedd ar gael. Mae’r amcangyfrif hwn wedi ei ddiwygio erbyn hyn wrth i fwy o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317