Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2017
Cyhoeddwyd 11 Ebrill 2017
Yn berthnasol i Gymru
1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2017
pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd
£145,294
y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd
1.8%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd
-0.9%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru ( Ionawr 2015 = 100) oedd
106.7
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Newid mewn prisiau
2.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Annual price change for Wales over the past 5 years - welsh
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
| Awdurdodau lleol | Chwefror 2017 | Chwefror 2016 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Abertawe | £135,816 | £134,301 | 1.1% |
| Blaenau Gwent | £78,474 | £76,820 | 2.2% |
| Bro Morgannwg | £209,424 | £195,601 | 7.1% |
| Caerdydd | £192,624 | £189,105 | 1.9% |
| Caerffili | £117,227 | £115,283 | 1.7% |
| Casnewydd | £153,338 | £143,820 | 6.6% |
| Castell-nedd Port Talbot | £108,746 | £102,050 | 6.6% |
| Ceredigion | £169,704 | £173,075 | -1.9% |
| Conwy | £154,959 | £143,721 | 7.8% |
| Gwynedd | £141,084 | £141,748 | -0.5% |
| Merthyr Tudful | £96,719 | £90,454 | 6.9% |
| Pen-y-bont ar Ogwr | £144,658 | £130,977 | 10.4% |
| Powys | £170,246 | £162,148 | 5.0% |
| Rhondda Cynon Taf | £97,211 | £99,049 | -1.9% |
| Sir Benfro | £163,352 | £160,972 | 1.5% |
| Sir Ddinbych | £144,265 | £138,089 | 4.5% |
| Sir Fynwy | £228,578 | £220,733 | 3.6% |
| Sir y Fflint | £160,551 | £153,960 | 4.3% |
| Sir Gaerfyrddin | £129,371 | £126,218 | 2.5% |
| Tor-faen | £131,800 | £121,325 | 8.6% |
| Wrecsam | £151,553 | £142,660 | 6.2% |
| Ynys Môn | £153,012 | £162,209 | -5.7% |
| Cymru | £145,293 | £142,712 | 1.8% |
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Average price by local authority for Wales- welsh
2.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
| Math o eiddo | Chwefror 2017 | Chwefror 2016 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £217,801 | £214,386 | 1.6% |
| Tŷ pâr | £139,797 | £137,111 | 2.0% |
| Tŷ teras | £112,022 | £110,868 | 1.0% |
| Fflat neu fflat deulawr | £108,875 | £103,247 | 5.5% |
| Holl | £145,293 | £142,712 | 1.8% |
3. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
3.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol: Rhagfyr 2016
| Awdurdodau lleol | Nifer y gwerthiannau |
|---|---|
| Abertawe | 261 |
| Blaenau Gwent | 75 |
| Bro Morgannwg | 193 |
| Caerdydd | 419 |
| Caerffili | 206 |
| Casnewydd | 219 |
| Castell-nedd Port Talbot | 180 |
| Ceredigion | 94 |
| Conwy | 184 |
| Gwynedd | 149 |
| Merthyr Tudful | 60 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 158 |
| Powys | 148 |
| Rhondda Cynon Taf | 300 |
| Sir Benfro | 146 |
| Sir Ddinbych | 132 |
| Sir Gaerfyrddin | 237 |
| Sir Fynwy | 143 |
| Sir y Fflint | 206 |
| Tor-faen | 94 |
| Wrecsam | 129 |
| Ynys Môn | 112 |
| Cymru | 3,845 |
3.2 Nifer y gwerthiannau: Rhagfyr 2016
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Sales volumes for Wales over the past 5 years- welsh
4. Statws adeiladu
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
| Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £209,707 | 5.9% | 17.9% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £141,906 | -1.2% | 1.0% |
Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
5. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
| Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £125,571 | -0.9% | 1.8% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £168,264 | -1.0% | 1.9% |
6. Statws ariannu
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
| Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £141,497 | -0.9% | 1.6% |
| Morgais | £147,549 | -0.9% | 1.9% |
7. Nifer yr adfeddiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer yr adfeddiannau yn ôl rhanbarth swyddfa’r llywodraeth: Rhagfyr 2016.
| Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu |
|---|---|
| Cymru | 66 |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084.