Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Tachwedd 2016

Cyhoeddwyd 17 January 2017

1. Prif ystadegau

Ar gyfer Tachwedd 2016:

  • pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £217,928
  • y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 6.7%
  • y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.1%
  • y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 114.3 (Ionawr 2015 = 100)

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Awgrymodd dangosyddion y farchnad dai ar gyfer Tachwedd iddo fod yn gyfnod o alw cynyddol cymharol fach a thwf cyson mewn lefelau prisiau. Tyfodd prisiau tai gan 6.7% yn y flwyddyn hyd at Dachwedd, sef 0.3 pwynt canran yn uwch nag yn Hydref. Yn ôl crynodeb Asiantau Banc Lloegr o amodau busnes, ar gyfer chwarter olaf 2016 (Hydref i Ragfyr), mae gweithgarwch wedi adfer yn y farchnad dai yn dilyn cyfnod o wendid ar ôl refferendwm yr UE a newidiadau i’r doll stamp, ond mae’n parhau i fod yn wan yng nghanol Llundain.

Rhwng 2012 a dechrau 2016, twf prisiau tai blynyddol yn Llundain oedd y cyflymaf o’r holl ardaloedd yn y DU yn gyffredinol. Erbyn hyn mae twf prisiau tai blynyddol yn Nwyrain a De-ddwyrain Lloegr wedi bod yn fwy nag yn Llundain am y pedwerydd mis yn olynol.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) gynnydd cymharol fach yn yr ymholiadau gan brynwyr newydd ar gyfer Tachwedd. Yn ôl Banc Lloegr cynyddodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai (wedi’i addasu’n dymhorol) gan 0.2% o Hydref i Dachwedd 2016, sef 3.7% yn is nag yn Nhachwedd 2015. Cynyddodd nifer y gwerthiannau tai yn y DU (wedi’i addasu’n dymhorol) gan 0.8% rhwng Hydref a Thachwedd 2016 yn ôl ystadegau Trafodion Eiddo y DU, sef 7.3% yn is nag yn Nhachwedd 2015.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS na fu unrhyw newid yn rhestriadau gwerthiannau newydd yn Nhachwedd 2016 o’i gymharu â Hydref 2016. Nododd adroddiad Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn Hydref 2016 fod cyfanswm y tai newydd 12.6% yn uwch nag yn Hydref 2015.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Annual price change for UK by country over the past five years Welsh

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £146,742 -0.2% 4.1%
Gogledd Iwerddon (Cwarter 3 - 2016) £124,093 0.8% 5.4%
Lloegr £234,278 1.1% 7.2%
Yr Alban £143,033 1.5% 3.3%
De Ddwyrain Lloegr £313,334 0.3% 8.6%
De Orllewin Lloegr £239,371 0.5% 5.7%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £176,524 1.7% 7.3%
Dwyrain Lloegr £278,349 0.9% 10.5%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £181,372 2.2% 7.4%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £126,989 1.3% 3.2%
Gogledd Orllewin Lloegr £150,249 1.1% 5.2%
Llundain £481,648 1.8% 8.1%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £152,418 1.1% 5.1%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region Welsh

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Tachwedd 2016 Tachwedd 2015 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £331,359 £308,063 7.6%
Tŷ pâr £204,033 £191,453 6.6%
Tŷ teras £175,034 £165,656 5.7%
Fflat neu fflat deulawr £182,404 £184,150 -0.9%
Holl £217,928 £204,222 6.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Medi 2016

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Medi 2016 Medi 2015 Gwahaniaeth
Lloegr 64,311 82,452 -22.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2016) 5,200 5,820 -10.7%
Yr Alban 9,352 8,618 8.5%
Cymru 3,492 3,896 -10.4%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Medi 2016

Sales volumes for 2012 to 2016 by country: August 2016 Welsh

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £305,121 10.4% 27.0%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £212,383 0.4% 5.3%

Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £183,482 1.1% 6.6%
Cyn berchen-feddiannydd £253,087 1.1% 6.9%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £207,528 1.1% 6.4%
Morgais £227,358 1.1% 6.9%

8. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035