Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mai 2018

Cyhoeddwyd 18 July 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£226,351

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

3.0%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.1%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

118.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2018 am 9.30am ddydd Mercher 15 Awst 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cododd prisiau tai y DU gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018, i lawr o 3.5% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018. Dyma gyfradd flynyddol isaf y DU er Awst 2013 pan roedd yn 3.0% hefyd.

Wrth edrych ar y galw am dai, dangosodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mai 2018 fod ei gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd wedi parhau â’i duedd am i lawr.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod ei gyfres cyfarwyddiadau newydd wedi dangos cydbwysedd cadarnhaol am y tro cyntaf er 27 mis. Mae lefelau stoc cyfartalog ar gyfer asiantau tai yn parhau’n agos i’r lefel isaf erioed. Mae’r disgwyliadau o ran gwerthiannau yn fflat yn y tymor byr ond ychydig yn fwy optimistaidd yn y tymor hir. Mae’r disgwyliadau o ran prisiau yn awgrymu ychydig bach o ostyngiad yn y dyfodol agos, er bod hyn wedi’i ysgogi’n bennaf gan ragolygon negyddol yn ne Lloegr. Mae’r rhagolygon yn y tymor hwy o ran prisiau yn gadarnhaol.

Yng nghrynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer y cyfnod yn cwmpasu diwedd Mawrth 2018 hyd at ddiwedd Mai 2018, nododd yr Asiantau fod cydbwysedd ar y cyfan rhwng cyflenwad a galw ar draws y farchnad gyfan. Roedd y farchnad ar gyfer adeiladau newydd yn llawer cryfach na’r farchnad ar gyfer eiddo sy’n bodoli. Fodd bynnag, cafwyd rhai adroddiadau a awgrymai fod adeiladau newydd yn fwy anodd i’w gwerthu o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Disgwylir i weithgarwch barhau’n dawel ac i chwyddiant prisiau tai barhau’n gymedrol.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mai 2018, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, mai nifer y trafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 99,590. Mae hyn yn 0.5% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Ebrill a Mai 2018, cynyddodd trafodion gan 0.8%.

Dangosodd ystadegau Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Mai 2018, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafodd 64,526 o forgeisiau eu cymeradwyo ym Mai 2018. Mae hyn yn lleihad o 2.1% o’i gymharu â blwyddyn yn ôl, a chynnydd o 2.5% er Ebrill 2018. Ystyrir bod nifer y morgeisiau a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

Gan edrych ar lefel ranbarthol, Dwyrain Canolbarth Lloegr oedd yr ardal a dyfodd yn gyflymaf gyda chyfradd twf mewn prisiau tai blynyddol o 6.3%, i fyny o 5.1% yn y mis blaenorol. Llundain oedd yr ardal a dyfodd yn fwyaf araf, gan ddisgyn 0.4% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018, i lawr o’r 0.3% negyddol yn y mis blaenorol. Dyma’r 4ydd mis yn olynol i brisiau tai ostwng yn Llundain dros y flwyddyn.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

welsh price change 3.1

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018 (i lawr o 3.5% yn Ebrill 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 4.9% dros y flwyddyn hyd at Fai 2018.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 1.0% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 2.9% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.2% dros y flwyddyn i chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £148,894 -3.0% 1.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) £130,026 0.3% 4.2%
Lloegr £243,583 0.3% 2.9%
Yr Alban £149,004 0.1% 4.9%
De Ddwyrain Lloegr £322,096 0.0% 2.2%
De Orllewin Lloegr £251,877 0.1% 3.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £190,216 1.7% 6.3%
Dwyrain Lloegr £288,808 0.2% 2.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £192,322 0.2% 5.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £128,680 -0.5% 1.3%
Gogledd Orllewin Lloegr £157,531 0.1% 2.9%
Llundain £478,853 0.1% -0.4%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £158,966 1.0% 2.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.2% rhwng Ebrill 2018 a Mai 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.4% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill 2017 a Mai 2017). Yn y tri mis hyd at Fai 2018 cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 0.2% o’i gymharu â’r tri mis yn diweddu Chwefror 2018.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mai 2018 Mai 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £343,823 £328,607 4.6%
Tŷ pâr £213,606 £205,953 3.7%
Tŷ teras £182,373 £176,879 3.1%
Fflat neu fflat deulawr £202,696 £202,652 0.0%
Holl £226,351 £219,792 3.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mawrth 2018 Mawrth 2017 Gwahaniaeth
Lloegr 58,203 74,386 -21.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) 4,545 5,187 -12.4%
Yr Alban 7,861 9,364 -16.1%
Cymru 3,368 3,909 -13.8%

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mawrth 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2018 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Mawrth

Sales volumes for 2014 to 2018 by country: February welsh

Ym Mawrth 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 20.3% o’i gymharu â Mawrth 2017. O’i gymharu â Chwefror 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 9.3%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Mawrth 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2018 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gweler ein polisi diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mawrth 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £285,072 -2.1% 7.0%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £219,932 -0.2% 4.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Mai 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £190,743 0.0% 2.4%
Cyn berchen-feddiannydd £262,996 0.3% 3.5%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Mai 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £215,765 0.2% 2.8%
Morgais £236,212 0.1% 3.1%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk

Ffôn
(0)131 659 6111 Est. 6387