Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mai 2017

Cyhoeddwyd 18 July 2017

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2017

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£220,713

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

4.7%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.5%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

115.8

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 4.7% yn y flwyddyn hyd at Fai 2017, 0.6 pwynt canran yn is nag yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2017. Er bod y gyfradd twf flynyddol wedi arafu ers canol 2016 mae wedi parhau tua 5% yn ystod 2017.

O ran y galw am dai, nododd arolwg o’r farchnad breswyl Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mai 2017 fod disgwyliadau pris yn parhau’n weddol gadarnhaol tra bo ymholiadau gan brynwyr newydd wedi lleihau dros y mis.

Dangosodd ystadegau Trafodion Eiddo y DU fod nifer y trafodion eiddo wedi’u haddasu’n dymhorol yn y DU gyda gwerth o £40,000 neu ragor wedi cynyddu gan 13.4% ym Mai 2017 o’i gymharu â Mai 2016. Roedd y lefel anarferol o isel o drafodion ym Mai 2016 yn gysylltiedig â chyflwyno’r cyfraddau treth uwch ar eiddo ychwanegol o 1 Ebrill 2016. Wrth gymharu Mai 2017 ag Ebrill 2017, cwympodd trafodion eiddo gan 3.3%.

Gan edrych yn fanylach ar lefel ranbarthol y DU, gwelwyd y twf blynyddol mwyaf yn Nwyrain Lloegr gyda phrisiau yn cynyddu gan 7.5% yn y flwyddyn hyd at Fai 2017. Dilynwyd hyn gan Ddwyrain Canolbarth Lloegr ar 7.2%. Roedd y twf blynyddol lleiaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 1.6% dros y flwyddyn, wedi’i ddilyn gan Lundain ar 3.0%.

Yn ôl crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer ail chwarter 2017, roedd gweithgarwch yn dawel yn y farchnad dai yn y rhan fwyaf o’r Deyrnas Unedig wrth i’r galw leihau o’i gymharu â’r cyflenwad.

Ar yr ochr gyflenwi nododd RICS fod cyfarwyddiadau gwerthu newydd wedi parhau’n negyddol am y pymthegfed mis yn olynol. Nodwyd hefyd bod lefelau stoc asiantau tai cyfartalog yn parhau ar eu lefelau isaf erioed gyda diffyg cyflenwad yn parhau i gynnal prisiau.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

welsh Annual price change for UK by country over the past five years

Mae prisiau tai cyfartalog yn y DU wedi cynyddu o 4.7% yn y flwyddyn hyd at Fai 2017 (i lawr o 5.3% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2017).

Daeth y prif gyfraniad at y cynnydd mewn prisiau tai yn y DU o Loegr, lle cynyddodd prisiau tai 5.0% dros y flwyddyn hyd at Fai 2017.

Gwelodd Cymru gynnydd o 3.8% mewn prisiau tai dros y 12 mis diwethaf.

Yn yr Alban, cynyddodd y pris cyfartalog o 3.5% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon 4.3% dros y flwyddyn i Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2017.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £149,817 0.6% 3.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2017) £124,007 -0.8% 4.3%
Lloegr £237,662 0.5% 5.0%
Yr Alban £143,106 0.7% 3.5%
De Ddwyrain Lloegr £315,807 -0.3% 4.8%
De Orllewin Lloegr £243,969 0.4% 5.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £180,903 1.3% 7.2%
Dwyrain Lloegr £284,097 0.7% 7.5%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £183,942 0.8% 5.3%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £126,738 1.8% 1.6%
Gogledd Orllewin Lloegr £153,297 0.7% 3.8%
Llundain £481,345 -0.3% 3.0%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £155,268 1.1% 4.4%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

welsh Price changes by country and government office region

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mai 2017 Mai 2016 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £328,998 £312,710 5.2%
Tŷ pâr £207,769 £197,445 5.2%
Tŷ teras £178,091 £172,087 3.5%
Fflat neu fflat deulawr £202,267 £192,743 4.9%
Holl £220,713 £210,872 4.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

4.1 Nifer y gwerthiannau: Mawrth 2017

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mawrth 2017 Mawrth 2016 Gwahaniaeth
Lloegr 62,342 111,901 -44.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2017) 4,379 6,127 -28.5%
Yr Alban 9,144 11,017 -17.0%
Cymru 3,451 5,354 -35.5%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2013 i 2017 yn ôl gwlad: Mawrth 2017

welsh Sales volumes for 2013 to 2017 by country

Ym Mawrth 2017, gostyngodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU o 41% o’i gymharu â Mawrth 2016. Roedd y lefel anarferol o uchel o drafodion ym Mawrth 2016 yn gysylltiedig â chyflwyno’r cyfraddau treth uwch ar eiddo ychwanegol o 1 Ebrill 2016.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.

Statws eiddo Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £286,271 -0.1% 9.1%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £216,401 0.6% 4.4%

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £187,238 1.2% 4.6%
Cyn berchen-feddiannydd £255,254 0.0% 4.9%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £210,552 0.7% 5.0%
Morgais £230,428 0.5% 4.8%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am Fynegai Prisiau Tai y DU 0300 0068084

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost ailsa.robertson@ros.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau’r Alban 44 (0)131 659 6111 Est. 6387