Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mehefin 2018

Cyhoeddwyd 15 August 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Mehefin 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£228,384

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

3.0%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

0.4%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

119.8

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Gorffennaf 2018 am 9.30am ddydd Mercher 19 Medi 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cododd prisiau tai y DU gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018, i lawr o 3.5% yn y flwyddyn hyd at Fai 2018. Dyma’r gyfradd flynyddol isaf yn y DU er Awst 2013 pan oedd yn 3.0% hefyd.

Wrth edrych ar y galw am dai, dangosodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Mehefin 2018 fod ei gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd yn wastad, ar ôl bod yn negyddol ers dechrau 2017.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod ei gyfres cyfarwyddiadau gan werthwyr newydd wedi cofnodi cydbwysedd cadarnhaol am ddau fis yn olynol, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers dechrau 2016. Mae’r stoc gyfartalog fesul asiant tai wedi bod yn codi fymryn yn ystod y misoedd diwethaf.

Bu cynnydd yn yr amser a gymerir i gwblhau gwerthu eiddo o 16 wythnos y llynedd i 18 wythnos ar gyfartaledd ar hyn o bryd. Mae’r gyfres disgwyliadau gwerthiannau deuddeg mis wedi gostwng i sero. Mae disgwyliadau pris yn parhau’n gadarnhaol am y deuddeg mis nesaf, er yn llai felly nag yn y gorffennol.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mehefin 2018 mai 96,340 oedd nifer y trafodion wedi’u haddasu’n dymhorol ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 5.7% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Mai a Mehefin 2018, lleihaodd trafodion gan 3.0%.

Dangosodd ystadegau Arian a Chredyd Banc Lloegr ar gyfer Mehefin 2018, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafodd 65,619 o forgeisiau eu cymeradwyo ym Mehefin 2018. Mae hwn yn gynnydd o 1.4% ers y mis blaenorol ac yn uwch na’r cyfartaledd 6 mis o 63,858. Ystyrir bod nifer y morgeisiau a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

Gorllewin Canolbarth Lloegr yw’r ardal sy’n tyfu’n gyflymaf gyda chyfradd twf blynyddol o 5.8%, i fyny o 5.0% yn y mis blaenorol. Llundain oedd yr ardal a dyfodd yn fwyaf araf, gan ddisgyn 0.7% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018, i lawr o’r 0.2% negyddol yn y mis blaenorol.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.0% yn y flwyddyn hyd at Fehefin 2018 (i lawr o 3.5% ym Mai 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 4.8% dros y flwyddyn hyd at Fehefin 2018.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 4.3% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 2.7% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.4% dros y flwyddyn i chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £156,886 1.7% 4.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2018) £132,795 -1.0% 4.4%
Lloegr £245,076 0.3% 2.7%
Yr Alban £150,472 0.8% 4.8%
De Ddwyrain Lloegr £325,107 0.6% 2.1%
De Orllewin Lloegr £252,558 -0.5% 3.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £187,553 -0.5% 4.1%
Dwyrain Lloegr £292,632 1.0% 3.3%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £196,015 1.9% 5.8%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £127,271 -1.9% -0.6%
Gogledd Orllewin Lloegr £159,801 0.5% 3.1%
Llundain £476,752 -0.6% -0.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £160,727 0.9% 3.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region (Welsh)

Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, roedd prisiau tai cyfartalog yn y DU yn ddigyfnewid (0.0%) rhwng Mai 2018 a Mehefin 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mai 2017 a Mehefin 2017). Yn y tri mis hyd at Fehefin 2018 cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 0.6% o’i gymharu â’r tri mis yn diweddu Mawrth 2018.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mehefin 2018 Mehefin 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £342,739 £332,061 3.2%
Tŷ pâr £216,218 £207,131 4.4%
Tŷ teras £185,623 £179,251 3.6%
Fflat neu fflat deulawr £204,247 £203,268 0.5%
Holl £228,384 £221,670 3.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng pythefnos a dau fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ebrill 2018 Ebrill 2017 Gwahaniaeth
Lloegr 50,308 62,318 -19.3%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2018) 5,308 6,099 -13.0%
Yr Alban 7,371 8,139 -9.4%
Cymru 3,005 3,490 -13.9%

Sylwer: Bydd y ganran newid blynyddol yn y golofn ‘Gwahaniaeth’ yn cael ei dylanwadu’n bennaf gan lefel cyflawnrwydd data’r mis diweddaraf a adroddwyd, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu’r tueddiadau gwirioneddol.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ebrill 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion wedi lleihau gan 4.4% yn Lloegr, 6.2% yn yr Alban a 3.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Ebrill

Sales volumes for 2014 to 2018 by country: April (Welsh)

Yn Ebrill 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 17.5% o’i gymharu ag Ebrill 2017. O’i gymharu â Mawrth 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 16.4%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Ebrill 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 85% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ebrill 2018 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gweler ein polisi diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn), yn adrodd ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 4.8% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ebrill 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £294,070 3.8% 9.6%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £222,087 0.9% 3.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Mehefin 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £193,006 0.7% 2.8%
Cyn berchen-feddiannydd £264,498 0.2% 3.1%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Mehefin 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £217,306 0.2% 2.7%
Morgais £238,438 0.5% 3.2%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk

Ffôn
(0)131 659 6111 Est. 6387