Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Gorffennaf 2016
Cyhoeddwyd 13 Medi 2016
1. Prif ystadegau
Ar gyfer Gorffennaf 2016:
- pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £216,750
- y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.3%
- y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.4%
- y ffigur mynegai misol ar gyfer y DU oedd 113.7 (Ionawr 2015 = 100)
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.
2. Datganiad economaidd
Parhaodd y pwysau ar brisiau tai i dyfu yng Ngorffennaf, gan adlewyrchu cryfder y galw o’i gymharu â’r cyflenwad yn y farchnad dai. Fodd bynnag, cafwyd arwyddion bod y farchnad wedi oeri ychydig, gyda sawl dangosydd yn awgrymu bod y galw am dai a’r cyflenwad tai wedi gwanhau dros y misoedd diwethaf.
O ran y galw am dai, gostyngodd nifer y cymeradwyaethau rhoi benthyg ar gyfer prynu tai gan 5.1% yng Ngorffennaf 2016 o’i gymharu â’r mis blaenorol, gan barhau â’r duedd am i lawr ers dechrau’r flwyddyn. Felly, mae cymeradwyaethau misol yn parhau i fod yn is na’r lefelau a welwyd yn y 10 mis cyn y newidiadau i’r doll stampiau yn Ebrill 2016. Cwympodd gwerthiannau tai y DU gan 0.9% yng Ngorffennaf 2016 o’i gymharu â’r mis blaenorol, sy’n golygu bod gwerthiannau tai misol yn parhau i fod yn is na’r lefelau a welwyd yn 2014 a 2015 a chyn y newidiadau i’r doll stampiau yn gynnar yn 2016. Ar ben hynny, nododd arolwg o’r farchnad Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Gorffennaf fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi cwympo am y pedwerydd mis yn olynol, gan effeithio ar bob rhanbarth yn y DU.
O ran y cyflenwad tai, nododd RICS fod rhestriadau gwerthiannau newydd ar y farchnad wedi gostwng ar y gyfradd fisol gyflymaf erioed ar gyfer pob un o’r tri mis diwethaf. Nododd cyhoeddiad diweddaraf Allbwn yn y Diwydiant Adeiladu yr ONS (sy’n cwmpasu cyfnod byr iawn ar ôl y refferendwm yn unig) fod y farchnad wedi arafu’n gymedrol, gydag allbwn tai a adeiledir o’r newydd yn gostwng gan 0.4% ym Mehefin o’i gymharu â Mai. Fodd bynnag, parhaodd allbwn tai a adeiledir o’r newydd yn 3.5% yn uwch nag ym Mehefin 2015. Nododd Crynodeb Asiantau Banc Lloegr (diweddariad Awst) y rhagwelir i weithgarwch y farchnad dai leihau, ond nid oedd yn glir a oedd hyn oherwydd ansicrwydd ynghylch y refferendwm neu ffactorau tymhorol a llai o alw gan landlordiaid prynu i osod.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

Welsh Annual price change for UK by country over the past five years
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
| Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Cymru | £144,828 | -1.8% | 4.0% |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2016) | £123,241 | 3.8% | 7.8% |
| Lloegr | £232,885 | 0.5% | 9.1% |
| Yr Alban | £143,711 | 1.3% | 3.4% |
| De Ddwyrain Lloegr | £313,315 | 0.6% | 11.9% |
| De Orllewin Lloegr | £237,291 | -0.3% | 7.8% |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £173,783 | 0.5% | 7.8% |
| Dwyrain Lloegr | £273,806 | 0.6% | 13.2% |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | £176,598 | -0.8% | 6.4% |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | £129,750 | 2.3% | 5.8% |
| Gogledd Orllewin Lloegr | £150,082 | 0.8% | 6.1% |
| Llundain | £484,716 | 1.0% | 12.3% |
| Swydd Gaerefrog a’r Humber | £151,581 | 0.2% | 4.7% |
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Monthly price changes by country and government office region
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
| Math o eiddo | Gorffennaf 2016 | Gorffennaf 2015 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £325,943 | £300,451 | 8.5% |
| Tŷ pâr | £203,734 | £187,831 | 8.5% |
| Tŷ teras | £176,013 | £162,773 | 8.1% |
| Fflat neu fflat deulawr | £195,178 | £180,567 | 8.1% |
| Holl | £216,750 | £200,141 | 8.3% |
4. Nifer y gwerthiannau
Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer y gwerthiannau ar gyfer y ddau fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
4.1 Nifer y gwerthiannau: Mai 2016
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
| Gwlad | Mai 2016 | Mai 2015 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Cymru | 2,596 | 3,685 | -29.6% |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 - 2016) | 4,075 | 5,200 | -21.6% |
| Lloegr | 49,795 | 74,897 | -33.5% |
| Yr Alban | 7,131 | 8,569 | -16.8% |
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2012 i 2016 yn ôl gwlad: Mai 2016

Welsh Sales volumes for 2012 to 2016 by country
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
| Statws eiddo | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £273,072 | -2.1% | 15.6% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £212,941 | 0.6% | 7.8% |
Sylwer: mae’r amcangyfrif cyntaf ar gyfer tai a adeiledir o’r newydd yn seiliedig ar sampl fach a all achosi anwadalrwydd yn yr amcangyfrif cychwynnol hwn.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
| Math o brynwr | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £182,756 | 0.3% | 8.1% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £251,443 | 0.5% | 8.6% |
7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.
| Statws ariannu | Pris cyfartalog | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £205,876 | 0.3% | 7.7% |
| Morgais | £226,406 | 0.5% | 8.7% |
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan y Gofrestrfa Tir, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
9. Mynediad i’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
10. Cysylltu
Lorna Jordan, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir
Ebost lorna.jordan@landregistry.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol 0300 0068084
Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost rhys.lewis@ons.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau data 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau Gogledd Iwerddon 028 90 336035