Ystadegau Swyddogol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Ebrill 2018

Cyhoeddwyd 13 June 2018

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2018

pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd

£226,906

y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

3.9%

y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd

1.2%

y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd

119.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau adolygu.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mai 2018 am 9.30am ddydd Mercher 18 Gorffennaf 2018. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Tyfodd prisiau tai y DU gan 3.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018, i lawr o 4.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2018.

Wrth edrych ar y galw am dai, dangosodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Ebrill 2018 fod y gyfres ymholiadau gan brynwyr newydd fwy neu lai yn ddigyfnewid yn ystod Ebrill.

Ar yr ochr gyflenwi, nododd RICS fod eu cyfarwyddiadau newydd yn parhau i ostwng. Mae stociau cyfartalog fesul asiant tai sy’n ymateb wedi aros yn agos i’r lefel isaf erioed. Mae disgwyliadau o ran gwerthiannau a phrisiau yn parhau i fod yn wastad yn y tymor byr, fodd bynnag ceir mwy o optimistiaeth yn y rhagolygon tymor hwy, yn enwedig o ran prisiau.

Yng Nghrynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr am y cyfnod yn cwmpasu diwedd Chwefror hyd at ganol mis Ebrill, adroddodd Asiantau fod gweithgarwch marchnad wedi tawelu’n gyffredinol. Roedd y galw a’r cyflenwad yn wan yn y farchnad ar gyfer eiddo presennol, tra bod y galw am adeiladau newydd wedi bod yn gadarn, gyda chymorth Cymorth i Brynu. Cafwyd rhywfaint o gyflenwad gormodol yn y de a galw gormodol yn y gogledd, gan arwain at gyflenwad cymedrol dros ben yn gyffredinol.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mawrth 2018 ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafwyd 100,190 o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy. Mae hyn 2.7% yn is o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. Rhwng Mawrth ac Ebrill 2018, cynyddodd trafodion gan 3.5%.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr, ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, y cafodd 62,455 o forgeisiau eu cymeradwyo yn Ebrill 2018. Mae hyn yn lleihad o 347 ers y mis blaenorol ac yn is na’r cyfartaledd 6 mis o 63,968. Ystyrir bod nifer y morgeisiau a gafodd eu cymeradwyo yn brif ddangosydd nifer y trafodion.

Wrth edrych ar lefel gwlad a rhanbarth yn Lloegr, dangosodd De Orllewin Lloegr y twf blynyddol cyflymaf gyda thwf blynyddol o 6.1%, i fyny o 5.3% ar y mis blynyddol. Dilynwyd hyn yn agos gan Orllewin Canolbarth Lloegr ar 5.9%. Llundain oedd y rhanbarth arafaf i dyfu ar 1%, i fyny o -0.5% ar y mis blynyddol. Dyma’r 6ed mis olynol i Lundain gael y twf blynyddol isaf o fewn unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig neu ranbarth yn Lloegr.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y pum mlynedd diwethaf

welsh Annual price change for UK by country over the past 5 years

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.9% yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2018 (i lawr o 4.2 ym Mawrth 2018).

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau yn yr Alban, lle y cynyddodd prisiau tai gan 5.6% dros y flwyddyn hyd at Ebrill 2018.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 4.4% dros y 12 mis diwethaf.

Yn Lloegr, cynyddodd y pris cyfartalog gan 3.7% dros y flwyddyn.

Cynyddodd y pris cyfartalog yng Ngogledd Iwerddon gan 4.2% dros y flwyddyn i chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2018.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £156,495 1.6% 4.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) £130,026 0.3% 4.2%
Lloegr £243,639 1.1% 3.7%
Yr Alban £148,952 2.5% 5.6%
De Ddwyrain Lloegr £324,530 0.9% 3.5%
De Orllewin Lloegr £255,207 1.8% 6.1%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £186,480 1.3% 4.8%
Dwyrain Lloegr £286,447 -0.8% 2.5%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £192,090 0.8% 5.9%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £130,489 4.2% 4.5%
Gogledd Orllewin Lloegr £155,868 0.0% 2.4%
Llundain £484,584 2.4% 1.0%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £158,545 1.4% 3.5%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Price changes by country and government office region welsh

Ar sail wedi’i haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2018, o’i gymharu â chynnydd o 0.5% mewn prisiau cyfartalog yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach.

Sylwer bod ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o dri mis ac na ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Ebrill 2018 Ebrill 2017 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £342,154 £329,648 3.8%
Tŷ pâr £214,717 £203,912 5.3%
Tŷ teras £184,304 £176,044 4.7%
Fflat neu fflat deulawr £202,052 £199,983 1.0%
Holl £226,906 £218,481 3.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Oherwydd bod cyfnod o 2 i 8 wythnos rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw’r ffigurau ar gyfer nifer y gwerthiannau am y ddau fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllid (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Chwefror 2018 Chwefror 2017 Gwahaniaeth
Lloegr 51,340 60,662 -15.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 - 2018) 4,545 5,187 -12.4%
Yr Alban 5,288 5,816 -9.1%
Cymru 2,947 3,225 -8.6%

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y pum mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2014 i 2018 yn ôl gwlad: Chwefror

Sales volumes for 2014 to 2018 by country: welsh

Yn Chwefror 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 16.8% o’i gymharu â Chwefror 2017. O’i gymharu ag Ionawr 2018, lleihaodd nifer y trafodion eiddo a gwblhawyd yn y DU gan 4.9%.

Mae’r amcangyfrif ar gyfer Chwefror 2018 wedi’i gyfrifo ar sail oddeutu 90% o’r trafodion cofrestredig terfynol. Mae nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2018 yn debygol o gynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai.

Gweler ein polisi diwygiadau am ragor o wybodaeth.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2018 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £297,238 6.4% 11.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £220,551 0.0% 4.1%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn methods used to produce the UK HPI.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2018 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £191,646 1.4% 3.8%
Cyn berchen-feddiannydd £263,098 1.0% 3.9%

7. Statws ariannu ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws ariannu.

Statws ariannu Pris cyfartalog Ebrill 2018 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £216,066 1.1% 3.6%
Morgais £236,928 1.3% 4.0%

8. Mynediad i’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu gael mynediad iddo gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Rhys Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
rhys.lewis@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Ailsa Robertson, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
ailsa.robertson@ros.gov.uk

Ffôn
(0)131 659 6111 Est. 6387