Ymchwiliad COVID-19 y Deyrnas Unedig: cylch gorchwyl drafft (HTML)
Updated 15 March 2022
Bydd yr ymchwiliad yn archwilio, ystyried ac adrodd ar baratoadau a’r ymateb i’r pandemig yn Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon hyd at ac yn cynnwys dyddiad sefydlu’r Ymchwiliad yn ffurfiol. Wrth wneud hynny, bydd yn ystyried materion a gedwir yn ôl a materion datganoledig ledled y Deyrnas Unedig, yn ôl yr angen, ond bydd yn ceisio cael cyn lleied â phosibl o ddyblygu ymchwilio, casglu tystiolaeth ac adrodd gydag unrhyw ymchwiliad cyhoeddus arall a sefydlir gan y gweinyddiaethau datganoledig.
Nodau’r ymchwiliad ydy:
1. Archwilio’r ymateb i COVID-19 ac effaith y pandemig yn Lloegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, a pharatoi adroddiad naratif ffeithiol. Yn cynnwys:
- Mewn perthynas â gwneud penderfyniadau iechyd y cyhoedd yn ganolog, yn ddatganoledig ac yn lleol a chanlyniadau hynny:
    
- parodrwydd a chydnerthedd;
 - sut cafodd penderfyniadau eu gwneud, eu cyfathrebu a’u gweithredu;
 - gwneud penderfyniadau yn rhynglywodraethol;
 - argaeledd data a thystiolaeth, a’r defnydd ohonynt;
 - rheolaeth ddeddfwriaethol a rheoleiddiol;
 - gwarchod ac amddiffyn y rhai sydd yn agored i niwed yn glinigol;
 - y defnydd o gyfyngiadau symud ac ymyriadau ‘anfferyllol’ eraill megis cadw pellter cymdeithasol a’r defnydd o orchuddion wyneb;
 - profi ac olrhain cysylltiadau, ac ynysu;
 - cyfyngiadau ar fynychu lleoliadau addysg,
 - cau ac ailagor y sectorau lletygarwch, adwerthu, chwaraeon a hamdden, a sefydliadau diwylliannol;
 - tai a digartrefedd;
 - carchardai a lleoliadau cadw eraill;
 - y system gyfiawnder;
 - mewnfudo a lloches;
 - teithio a ffiniau; a
 - diogelu cyllid cyhoeddus a rheoli risg ariannol.
 
 - Ymateb y sector iechyd a gofal ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys:
    
- parodrwydd, capasiti cychwynnol a’r gallu i gynyddu capasiti, a chydnerthedd;
 - rheoli’r pandemig mewn ysbytai, gan gynnwys atal a rheoli heintiadau, brysbennu, capasiti gofal critigol, rhyddhau cleifion, y defnydd o benderfyniadau ‘Na cheisier dadebru cardio-anadlol’ (DNACPR), y dull o ddelio â gofal lliniarol, profi’r gweithlu, newidiadau i arolygiadau, a’r effaith ar staff a lefelau staffio;
 - rheoli’r pandemig mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal eraill, gan cynnwys atal a rheoli heintiadau, trosglwyddo trigolion i neu o gartrefi, triniaeth a gofal i drigolion, cyfyngiadau ar ymweld, a newidiadau i arolygiadau;
 - caffael a dosbarthu cyfarpar a chyflenwadau allweddol, yn cynnwys PPE a pheiriannau anadlu;
 - datblygu a chyflwyno ymyriadau therapiwtig a brechlynnau;
 - canlyniadau’r pandemig o safbwynt darpariaeth ar gyfer cyflyrau ac anghenion nad ydynt yn gysylltiedig â COVID; a
 - darpariaeth ar gyfer y rhai sy’n profi COVID hir.
 
 - Yr ymateb economaidd i’r pandemig a’i effaith, gan gynnwys ymyriadau llywodraeth ar ffurf:
    
- cefnogaeth i fusnesau a swyddi, gan gynnwys y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, cynlluniau benthyciadau, rhyddhad ardrethi busnes a grantiau;
 - cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus perthnasol; a
 - budd-daliadau a thâl salwch, a chefnogaeth i bobl agored i niwed.
 
 
2. Nodi’r gwersi i’w dysgu o’r uchod, a thrwy hynny, llywio paratoadau’r Deyrnas Unedig ar gyfer pandemigau yn y dyfodol.
Wrth gyflawni’r nodau hyn, bydd yr Ymchwiliad yn:
- gwrando ar brofiadau teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth a phobl eraill sydd wedi dioddef caledi neu golled o ganlyniad i’r pandemig. Er na fydd yr ymchwiliad yn ymchwilio’n fanwl i achosion unigol o niwed neu farwolaeth, bydd gwrando ar y straeon hyn yn cyfrannu at ei ddealltwriaeth o effaith y pandemig a’r ymateb, ac o’r gwersi sydd i’w dysgu;
 - tynnu sylw at sefyllfaoedd ble gallai’r gwersi a ddysgir o’r parodrwydd a’r ymateb i’r pandemig fod yn berthnasol i argyfyngau sifil eraill;
 - ystyried profiadau a’r effaith ar weithwyr y sector iechyd a gofal, a gweithwyr allweddol eraill yn ystod y pandemig;
 - ystyried unrhyw anghyfartaleddau a amlygir o safbwynt effaith y pandemig ac ymateb y wladwriaeth, gan gynnwys rhai sy’n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chategorïau cydraddoldeb dan Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998, fel y bo’n berthnasol;
 - rhoi sylw rhesymol i gymariaethau rhyngwladol perthnasol; a
 - paratoi ei adroddiadau (gan gynnwys adroddiadau dros dro) ac unrhyw argymhellion mewn modd amserol.