Canllawiau

Trosolwg o Gynllun Turing, 2026 i 2027

Cyhoeddwyd 20 Ionawr 2026

Mae Cynllun Turing yn cynnig cyfle i ddarparwyr addysg wneud cais am gyllid i gefnogi eu myfyrwyr gyda lleoliadau astudio a gwaith ledled y byd.

Mae cyllid ar gael i sefydliadau yn y DU a thiriogaethau tramor Prydain o bob rhan o’r sector addysg a hyfforddiant, gan gynnwys:

  • ysgolion
  • darparwyr addysg bellach (AB)
  • darparwyr addysg uwch (AU)

Mae Gwneud Cais am Gyllid Cynllun Turing yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y broses a dolen i wneud cais am gyllid.

Rhaid i fyfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn lleoliadau Cynllun Turing fod yn derbyn eu haddysg neu eu hyfforddiant gan sefydliad cymwys yn y DU neu diriogaethau tramor Prydain.

Nid oes angen i fyfyrwyr fod yn wladolion y DU i gymryd rhan. Rhaid iddynt fod wedi’u lleoli yn y DU neu diriogaeth dramor Brydeinig, ac yn astudio yn y sefydliad sy’n derbyn cyllid Cynllun Turing, neu’n astudio mewn sefydliad sy’n rhan o gais consortiwm.

Rheolir y cynllun gan yr Adran Addysg (DfE). Bydd sefydliad annibynnol yn asesu ceisiadau.

Diben ac amcanion

Mae Cynllun Turing yn ariannu darparwyr addysg i greu lleoliadau rhyngwladol. Mae’r lleoliadau hyn yn helpu myfyrwyr i ennill hyder, profiad byd-eang a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer bywyd a gyrfaoedd.

Dylai’r lleoliadau hyngefnogi astudiaethau a gyrfaoedd myfyrwyr yn y dyfodol drwy wella eu sgiliau trosglwyddadwy, gan ehangu cyfleoedd a sicrhau gwerth am arian ar yr un pryd.

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027, dylai prosiectau a ariennir gan y cynllun fodloni’r amcanion hyn:

  • gwella sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer bywyd a gyrfaoedd
  • ehangu cyfle
  • gyrru gwerth am arian

Gwella sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer bywyd a gyrfaoedd

Mae Cynllun Turing yn rhoi cyfle i fyfyrwyr a phrentisiaid feithrin y sgiliau, yr hyder a’r agwedd fyd-eang sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn astudiaethau, bywyd a gwaith.

Dylai lleoliadau helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau fel cyfathrebu, datrys problemau a gwaith tîm, ochr yn ochr â dealltwriaeth ryngddiwylliannol a, lle bo’n berthnasol, gwybodaeth am y pwnc.

Mae lleoliadau yn helpu dysgwyr i dyfu mewn annibyniaeth, gwydnwch a hunanymwybyddiaeth – gan ddarparu profiadau sy’n eu paratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.

Ehangu cyfle

Mae’r cynllun yn agor cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr a phrentisiaid na fyddent fel arall yn cymryd rhan, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig a thangynrychioledig, a’r rhai ag anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol ac anableddau (AAAA).

Dylai darparwyr nodi’r dysgwyr hyn a chael gwared ar rwystrau i fynediad, cyfranogiad a chwblhau lleoliadau.

Gyda chyllid ychwanegol a chymorth wedi’i deilwra ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig a dysgwyr ag AAAA, mae lleoliadau’n dod yn fwy cynhwysol a hygyrch – gan helpu mwy o ddysgwyr i gymryd rhan, llwyddo ac elwa.

Mae hyn yn helpu i ledaenu cyfleoedd yn deg ar draws y DU a thiriogaethau tramor Prydain a datgloi talent ym mhobman.

Gyrru gwerth am arian

Mae Cynllun Turing yn ariannu darparwyr i ddarparu lleoliadau diogel, cynhwysol ac o ansawdd uchel sy’n manteisio i’r eithaf ar gyllid cyhoeddus.

Rhaid i ddarparwyr gynllunio a rhedeg prosiectau trefnus gyda goruchwyliaeth, diogelu a rheoli risg cryf. 

Rhaid i gyrchfannau arwain at ganlyniadau cryf a chryfhau partneriaethau rhyngwladol. Rhaid i ddarparwyr hefyd ystyried yr effaith amgylcheddol a chynnig gwerth cryf am y gost.

Rhaid defnyddio cyllid yn effeithlon, heb beryglu diogelwch, lles na chynhwysiant.

Rhaid mesur yr effaith ar fyfyrwyr yn effeithiol, gan gynnwys ar gyfer grwpiau blaenoriaeth, a’i rhannu i wella’r ddarpariaeth a llywio dysgu yn y sector ehangach.

Cefnogi blaenoriaethau eraill y llywodraeth

Mae Cynllun Turing yn rhan o’n huchelgais hirdymor i gefnogi symudedd rhyngwladol myfyrwyr.

Dylai prosiectau a ariennir gan y cynllun:

  • annog ymgysylltiad rhyngwladol a chysylltiadau newydd
  • gwella partneriaethau presennol
  • helpu i feithrin perthnasoedd newydd ar gyfer y DU

Darparwyr cymwys

Mae ysgolion, darparwyr AB ac AU yn gymwys i wneud cais am gyllid Cynllun Turing os ydynt:

  • wedi’u cofrestru neu wedi’u cydnabod yn y DU neu diriogaethau tramor Prydain
  • yn gyfrifol am ddarparu addysg neu hyfforddiant i’r myfyrwyr sy’n mynd ar leoliadau

Yn unol â chanllawiau Trysorlys EF ar reoli arian cyhoeddus a Safon Swyddogaethol y Llywodraeth ar gyfer grantiau, rhaid i ymgeiswyr fod yn hyfyw yn ariannol a bod â’r gallu cyflawni i gael eu cymeradwyo ar gyfer arian Cynllun Turing.

Ni ellir defnyddio cyllid Cynllun Turing tuag at weithgareddau Sefydliadau Confucius.

Gall myfyrwyr sydd â statws ffioedd tramor yn y sector AU fynd ar leoliadau Cynllun Turing. Lle mae myfyrwyr sydd â statws ffioedd tramor yn bwriadu mynd ar leoliadau yn y wlad lle maent fel arfer yn byw, dylai darparwyr sicrhau bod hyn yn cael ei gyfiawnhau gan ganlyniadau’r lleoliad, yn hytrach nag unrhyw gyrchfan arall.

Myfyrwyr sydd â statws ffioedd tramor yw’r rhai sy’n talu ffioedd tramor yn hytrach na ffioedd cartref at ddibenion dysgu o dan y rheolau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Partneriaethau consortiwm

Gall ysgolion a darparwyr AB bartneru â darparwyr eraill o’u sector a gwneud cais am gyllid fel consortiwm. Gall nifer gyfyngedig o fathau eraill o sefydliadau ymuno â’r consortiwm os ydynt yn gweithredu yn y rôl gydlynu.

Mae rhagor o wybodaeth am rôl consortia ar gyfer ysgolion a darparwyr AB.

Cyllid sydd ar gael

Mae cyllid Cynllun Turing yn gyfraniad tuag at gostau lleoliadau addysgol rhyngwladol. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe’i darperir fesul myfyriwr.

Mae cyllid ar gael ar gyfer:

  • costau teithio ar gyfer un daith ddychwelyd rhwng y DU neu diriogaeth dramor Prydain y mae’r darparwr ynddi a’r gyrchfan lle mae’r lleoliad yn digwydd, gan gynnwys trosglwyddiadau
  • cyfraniadau at gostau byw
  • cymorth sefydliadol
  • pasbortau, ffioedd ymgeisio am fisa, brechlynnau, tystysgrifau meddygol ac yswiriant teithio ar gyfer myfyrwyr dan anfantais (a elwir yn gyllid parodrwydd i deithio)
  • dysgu ieithoedd ar gyfer myfyrwyr ar leoliadau AB
  • cymorth arbenigol i fyfyrwyr ag AAAA – gan gynnwys myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru ac anghenion cymorth ychwanegol (ASN) yn yr Alban
  • staff sy’n mynd gyda myfyrwyr ar leoliadau ysgol ac AB

Mae symiau ariannu gwahanol ar gael yn dibynnu ar:

  • a yw myfyriwr yn yr ysgol, mewn AB neu AU
  • a yw myfyriwr o gefndir difreintiedig, neu a oes ganddo anghenion addysgol arbennig neu ychwanegol neu anabledd
  • ble mae’r myfyriwr yn bwriadu teithio
  • pa mor hir y disgwylir i’r lleoliad barhau

Darperir cyllid teithio ar gyfradd sefydlog ar gyfer pob gwlad neu diriogaeth cyrchfan.

Lle mae costau teithio gwirioneddol yn is na’r gyfradd a awgrymir, gall darparwyr ddefnyddio’r gwahaniaeth i dalu am gostau teithio mewn lleoliadau eraill.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyllid sydd ar gael i ysgoliondarparwyr AB a darparwyr AU.

Sut y gellir defnyddio cyllid Cynllun Turing

Mae cyllid Cynllun Turing yn gyfraniad tuag at rai costau lleoliadau rhyngwladol. Mae gan bob grantelfennau gwahanol, pob un â’i rheolau a’i gyfraddau ariannu ei hun sydd wedi’u nodi ar dudalennau canllawiau’r sector. Dim ond o fewn y rheolau a nodir yn y canllawiau hyn y gallwch chi ddefnyddio cyllid Cynllun Turing.

Gan fod cyllid Cynllun Turing wedi’i fwriadu i fod yn gyfraniad tuag at gost lleoliadau, gallwch chi hefyd roi cyllid ychwanegol i fyfyrwyr o ffynonellau eraill ar gyfer costau nad ydynt yn cael eu talu gan y cynllun. Ni fydd angen i chi roi gwybod am y cyllid hwn i’r Adran Addysg.

Ni ddylid defnyddio cyllid Cynllun Turing ar gyfer gweithgareddau sydd eisoes wedi’u hariannu gan ffynhonnell arall, megis gan awdurdod lleol, cyllid myfyrwyr neu lywodraeth ddatganoledig.

Dim ond o fewn y flwyddyn academaidd honno y gellir defnyddio cyllid a ddyfarnwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2026 i 2027 a rhaid i chi ddychwelyd unrhyw gyllid nas defnyddiwyd i’r Adran Addysg. Ni ellir trosglwyddo cyllid i’r flwyddyn academaidd nesaf.

Rhaid i chi:

  • adrodd yn rheolaidd faint o’r cyllid hwn rydych chi’n ei wario
  • cadw tystiolaeth o wariant
  • bod yn barod i ddarparu dadansoddiad manwl o hyn ar gais

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd angen i chi gyflwyno cynllun manwl cyn y gallwch dderbyn cyllid. Rhaid i’r cynllun gynnwys:

  • sut rydych chi’n bwriadu ei ddefnyddio
  • y dyddiad y mae angen i chi fod wedi cyflwyno’r lleoliadau yn llwyddiannus yn ei erbyn

Byddwch chi’n cael eich monitro yn erbyn y cynllun hwn.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn canllawiau manwl ar sut y gallant ddefnyddio eu cyllid, a pha dystiolaeth y bydd angen iddynt ei chasglu.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y gall ysgoliondarparwyr AB a darparwyr AU ddefnyddio cyllid.

Cwynion

Gall darparwyr addysg, cydlynwyr consortiwm, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd sydd wedi rhyngweithio â ni wneud cwynion.

Gallwch gyflwyno cwynion ffurfiol i’r Adran Addysg ar unrhyw adeg mewn perthynas ag unrhyw gam o gylchred oes y cais neu’r prosiect drwy gysylltu â ni.