Papur polisi

Dyfodol Cyflawni Ymchwil Glinigol y DU: cynllun gweithredu 2022 i 2025

Mae'r cynllun gweithredu yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd yn ystod 2022 i 2025 i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer cyflawni ymchwil glinigol yn y dyfodol.

Dogfennau

Manylion

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd y llywodraeth Saving and Improving Lives: The Future of UK Clinical Research Delivery. Roedd hwn yn nodi ein gweledigaeth i ryddhau potensial llawn darpariaeth ymchwil glinigol y DU i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, cryfhau twf economaidd a gwella bywydau pobl ledled y DU. Dilynwyd hyn ym mis Mehefin 2021 gan gynllun gweithredu Dyfodol Ymchwil Glinigol y DU: 2021 i 2022, a oedd yn nodi’r camau a fyddai’n cael eu cymryd yn y flwyddyn gyntaf i gyflawni ein gweledigaeth.

Y cynllun gweithredu hwn ar gyfer 2022 i 2025 yw’r cam nesaf i wireddu ein gweledigaeth. Wedi’i ddatblygu gan Raglen RRG Ymchwil Glinigol traws-sector y DU mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid o bob rhan o’r ecosystem ymchwil glinigol, mae’n nodi:

  • ein dull o adfer gallu’r DU i gyflawni ymchwil drwy DHSC a rhaglen Ailosod Ymchwil GIG Lloegr
  • cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf o weithredu 2021 i 2022

y camau y byddwn yn eu cymryd dros y 3 blynedd nesaf i wireddu ein gweledigaeth.

Cyhoeddwyd ar 30 June 2022