Sut i gwblhau’r datganiad statudol ar gyfer gweithred newid enw i blentyn
Diweddarwyd 20 Awst 2025
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Cyn i chi ddechrau
Cyn i chi wneud cais dylech yn gyntaf ddarllen y prif gyfarwyddyd ar newid eich enw chi neu enw plentyn trwy weithred newid enw. Mae’n cynnwys gwybodaeth am:
- pa bryd rydych a pha bryd nad ydych angen gweithred newid enw
- sut i wneud gweithred newid enw eich hun
- y dogfennau y mae’n rhaid i chi gynnwys pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru gweithred newid enw
- y ffi i gofrestru gweithred newid enw
- ble i anfon eich ffurflenni ar ôl eu llenwi os ydych yn gwneud cais drwy’r post
- sut i wneud cais ar-lein os byddai’n well gennych wneud hynny
Os cafodd y plentyn ei eni yn yr Alban, dylech ddilyn y rheolau a’r cyfarwyddyd ar gyfer newid enw plentyn yn yr Alban.
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi:
- ffurflen gweithred newid enw i blentyn os ydych yn gwneud cais drwy’r post (nid oes ei hangen ar gyfer ceisiadau ar-lein)
- affidafid (datganiad) o fudd gorau
- llungopïau o ddogfennau penodol - dyma fydd eich ‘arddangosion’. Gweler y prif gyfarwyddyd i gael gwybodaeth am y dogfennau y mae’n rhaid i chi gynnwys
- dalen flaen ar gyfer pob arddangosyn – gallwch ddefnyddio ein templed dalen flaen arddangosyn
Os ydych chi’n penderfynu gwneud cais ar-lein yna nid oes angen i chi lawrlwytho’r datganiad statudol. Bydd yn cael ei anfon atoch drwy e-bost i’w argraffu a’i lofnodi ar ôl i chi wneud cais.
Cwblhau’r datganiad statudol ar gyfer gweithred newid enw
Mae’n rhaid i unigolyn sy’n eich adnabod chi a’r plentyn gwblhau’r datganiad hwn. Fe’u gelwir yn ‘datganydd’. Rhaid iddynt ddatgan mai chi yw’r sawl a enwir yn y cais.
Mae’n rhaid i’r datganydd:
- fod wedi eich adnabod am 10 mlynedd neu fwy
- fod yn ddinesydd Prydeinig neu’r Gymanwlad – darllenwch fwy am y gofynion dinasyddiaeth ar gyfer y plentyn a’ch datganydd
- fod yn ddeiliad tŷ yn y DU (rhywun sy’n berchen ar eu cartref neu sy’n rhentu eu cartref yn y DU neu sy’n gyfrifol am dalu biliau a chostau’r cartref hwnnw)
Ni all y datganydd:
- fod yn ŵr neu’n wraig i chi
- fod yn bartner sifil i chi
- fod yn perthyn i chi mewn rhyw ffordd arall (trwy enedigaeth neu briodas)
Fodd bynnag, gallant fod yn ffrind neu’n gydweithiwr i chi, er enghraifft.
Os nad ydych wedi adnabod unrhyw un ers 10 mlynedd neu fwy, rhaid i chi gynnwys datganiad tyst sy’n esbonio pam. Rhaid i’r datganiad gynnwys y geiriad canlynol:
‘Credaf fod y ffeithiau a roddir yn y datganiad tyst hwn yn wir. Deallaf y gellir dwyn achos dirmyg llys yn erbyn unrhyw un sy’n gwneud datganiad anwir, neu sy’n achosi i ddatganiad anwir gael ei wneud mewn dogfen a ddilysir gan ddatganiad gwirionedd heb gredu’n onest ei fod yn wir.’
Bydd barnwr yn penderfynu os gellir cofrestru gweithred newid enw’r plentyn. Os ydych wedi adnabod eich datganydd ers llai na 10 mlynedd, rhaid iddynt dal lenwi’r ffurflen datganiad statudol.
Gall y datganydd hefyd lofnodi’r ffurflen gweithred newid enw (LOC022) fel un o’r tystion.
Tyngu i wirionedd y datganiad statudol
Unwaith y bydd y datganydd wedi cwblhau’r datganiad statudol, rhaid iddynt dyngu ei fod yn wir ym mhresenoldeb unigolyn sydd wedi’i awdurdodi i fod yn dyst i ddogfennau cyfreithiol pwysig yn cael eu llofnodi. Gallai hyn fod yn:
- gyfreithiwr
- comisiynydd llwon
- swyddog y llys
Os ydych chi eisiau i swyddog y llys fod yn dyst, rhaid i chi ffonio’r swyddfa gweithred newid enw i drefnu apwyntiad yn y Llysoedd Barn Brenhinol.
Os byddai’n well gennych ddefnyddio cyfreithiwr neu gomisiynydd llwon, mae yna gyfarwyddyd ar gael cyngor cyfreithiol a gwybodaeth.
Pan fydd y datganydd yn tyngu bod y datganiad yn wir, rhaid iddynt wneud hynny naill ai trwy dyngu llw ar lyfr sanctaidd neu drwy roi cadarnhad, a dyna lle darllenir y datganiad gwirionedd.
Rhaid i’r cyfreithiwr, comisiynydd llwon neu swyddog y llys hefyd argraffu a llofnodi’r ffurflen datganiad statudol.
Codir ffi arnoch pan fydd y datganydd yn tyngu llw neu’n cadarnhau. Os gwneir y llw neu’r cadarnhad yn y llys, y ffi yw £14. Gall y ffi fod yn wahanol os yw’r llw neu’r cadarnhad yn cael ei wneud ym mhresenoldeb cyfreithiwr neu gomisiynydd llwon.
Mae’n rhaid i’r datganiad statudol gael ei argraffu ar un ochr y papur.
Cael help gyda gweithred newid enw
Os oes arnoch angen gofyn cwestiwn am y weithred o newid enw’r plentyn, cysylltwch â’r Tîm Gweithred Newid Enw yn Adran Mainc y Brenin.
Tîm Gweithred Newid Enw
Adran Mainc y Brenin
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL
Rhif ffôn: 020 3936 8957 (opsiwn 6)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: kbdeedspoll@justice.gov.uk
Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Mae’r cyfeiriad e-bost uchod ar gyfer ymholiadau yn unig. Ni ddylech gyflwyno’r ffurflenni gweithred newid enw trwy e-bost.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Tîm Gweithred Newid Enw os oes gennych ymholiad am weithred newid enw bresennol sy’n 5 oed neu lai.
Os oes gennych ymholiad am weithred newid enw sy’n hŷn na 5 oed, cysylltwch â’r Archifau Cenedlaethol.