Statutory guidance

Serious violence reduction orders: draft statutory guidance (Welsh accessible)

Updated 30 March 2023

Papur i’w gyflwyno ger bron y ddau Dŷ Seneddol am gyfnod o 40 diwrnod. Gall y naill Dŷ neu’r llall benderfynu yn ystod y cyfnod hwnnw na ddylid cymeradwyo’r Canllawiau Drafft.

Cyflwynir i’r Senedd yn unol ag Adran 342K Deddf Dedfrydu 2020

Hydref 2022

Crynodeb

Ynglŷn â’r canllawiau hyn

1. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 14 Medi ac 8 Tachwedd 2020,[footnote 1] cyflwynwyd Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol (SVRO) yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022[footnote 2] (“Deddf PCSC 2022”) a chawsant eu mewnosod i’r Cod Dedfrydu[footnote 3].

2. Mae adran 342J(1) o’r Cod Dedfrydu (fel y’i mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi y gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi canllawiau i gwnstabliaid, prif swyddogion yr heddlu a Phrif Gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ynghylch arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag SVROs.

3. Mae adran 342J(4) o’r Cod Dedfrydu (fel y’i mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi bod yn rhaid i’r heddlu ystyried canllawiau o’r fath wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag SVROs.

4. Mae’r canllawiau hyn yn nodi cefndir SVROs, prosesau’r heddlu, ystyriaethau tystiolaethol, gweithdrefnau’r llysoedd a gwybodaeth am ddefnyddio SVROs ochr yn ochr â gorchmynion ac ymyriadau eraill.

Terminoleg

5. Defnyddir y derminoleg ganlynol drwy’r canllawiau hyn:

  • SVRO – Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol.

  • Erlyniad – Yr awdurdod sy’n gwneud cais am y SVRO, sef Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS). Dim ond yr erlyniad all wneud ceisiadau am SVRO. Gall y troseddwr neu brif swyddog heddluoedd penodedig neu mewn rhai achosion penodol, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP) wneud ceisiadau i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu.

  • Troseddwr – Yr unigolyn y gwnaed SVRO mewn perthynas ag ef neu y gwnaed cais am SVRO mewn perthynas ag ef. Dim ond i unigolion 18 oed neu’n hŷn y gellir cyflwyno SVRO.

  • Eitem â llafn[footnote 4] – eitem y mae adran 139 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 yn gymwys iddi.

  • Niwed – yn cynnwys niwed corfforol a seicolegol.

  • Arf Ymosodol [footnote 5]– yr un ystyr ag a roddir yn adran 1(4) o Ddeddf Atal Troseddau 1953.

  • Man cyhoeddus – unrhyw fan y mae gan y cyhoedd neu unrhyw adran o’r cyhoedd fynediad iddi, drwy dâl neu fel arall, fel hawl neu drwy rinwedd caniatâd datganedig neu oblygedig, neu unrhyw fan arall y mae gan bobl fynediad parod ati ond nad yw’n annedd.

Pennod 1: Beth yw Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol?

Trosolwg

Diben

Mae SVRO yn orchymyn sifil a wneir mewn perthynas â throseddwr a gaiff ei euogfarnu o drosedd sy’n ymwneud ag eitem â llafn neu arf ymosodol. Mae’r gorchymyn yn rhoi’r pŵer i’r heddlu chwilio person sy’n destun SVRO er mwyn canfod a oes ganddo eitem â llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant, a’i gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.

Ymgeiswyr

Yr erlyniad yn unig, naill ai’n dilyn penderfyniad ganddo’i hun neu’n dilyn cais gan yr heddlu.

Prawf

  • Rhaid i’r llys fod yn fodlon, yn ôl pwysau tebygolrwydd, bod y troseddwr wedi defnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol wrth gyflawni’r drosedd neu fod eitem â llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant ar y pryd; neu fod person arall a gyflawnodd y drosedd wedi defnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol wrth gyflawni’r drosedd neu fod eitem â llafn neu arf ymosodol ym meddiant y person hwnnw a bod y troseddwr yn gwybod mai dyna fyddai’r achos neu y dylai fod wedi gwybod hynny.

  • Rhaid i’r llys fod o’r farn bod angen iddo wneud gorchymyn er mwyn diogelu’r cyhoedd neu ddiogelu unrhyw aelodau penodol o’r cyhoedd (gan gynnwys y troseddwr) yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed yn deillio o eitem â llafn neu arf ymosodol neu er mwyn atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd gan ddefnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol.

Manylion

  • Ar gael i unigolion 18 oed a throsodd.

  • Gall y llys ei gyflwyno os caiff yr amodau uchod eu bodloni.

  • Mae’r gorchymyn yn rhoi’r pŵer i’r heddlu chwilio person sy’n destun SVRO er mwyn canfod a oes ganddo arf neu eitem â llafn yn ei feddiant, a’i gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.

  • Yn para rhwng chwe mis a dwy flynedd – os caiff y troseddwr ei garcharu, gall y llys orchymyn na fydd y gorchymyn yn weithredol hyd nes y caiff ei ryddhau o’r ddalfa.

Cosb am Dorri Gorchymyn

  • Bydd y troseddwr yn cyflawni trosedd os bydd yn methu, heb esgus rhesymol, â gwneud unrhyw beth sy’n ofynnol iddo ei wneud gan y gorchymyn neu os bydd yn gwneud unrhyw beth y mae’r gorchymyn yn ei wahardd rhag gwneud; os bydd yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth ffug i’r heddlu gan honni ei fod yn cydymffurfio â’r gorchymyn; os bydd yn dweud wrth gwnstabl nad yw’n destun gorchymyn, neu os bydd yn fwriadol yn atal cwnstabl rhag arfer pŵer stopio a chwilio.

  • Ar hyn o bryd, y gosb am gyflawni trosedd o’r fath yn dilyn euogfarn ddiannod yw cyfnod o garchar hyd at ddeuddeg mis neu ddirwy (diderfyn) neu’r ddau.

  • Y gosb yn dilyn euogfarn ar dditiad yw cyfnod o garchar hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy (diderfyn) neu’r ddau.

Diddymu, Amrywio ac Adnewyddu

  • O dan adran 342H, gellir gwneud cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO. Rhaid gwneud cais o’r fath i’r llys priodol.

Apêl

  • Gall y troseddwr apelio yn erbyn penderfyniad i wneud gorchymyn fel petai’r gorchymyn yn ddedfryd a wnaed mewn perthynas â’r troseddwr am drosedd.

  • Gellir cyflwyno apeliadau mewn perthynas â chais am orchymyn i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO i’r Llys Apêl os cyflwynwyd y cais hwnnw i Lys y Goron neu yn unrhyw achos arall, caiff apeliadau am orchymyn i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO eu cyflwyno i Lys y Goron.

Y Ddeddfwriaeth

  • Adran 342A i 342K o’r Cod Dedfrydu (fel y’i mewnosodwyd gan Adran 165 o Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd).

Cefndir

Pam cafodd Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol eu cyflwyno?

6. Mae trais difrifol yn cael effaith ddinistriol ar ddioddefwyr a’u teuluoedd, yn codi ofn o fewn cymunedau ac yn gostus iawn i gymdeithas. Mae nifer yr achosion o droseddau cyllyll a gofnodwyd wedi cynyddu dros gyfnod o sawl blwyddyn.

7. O ganlyniad, rydym wedi cyflwyno SVROs. Rydym yn gwybod bod yr heddlu o’r farn bod gweithdrefnau stopio a chwilio yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â throseddau treisgar a’r arfer o gario arfau sy’n amlwg ymhlith nifer o droseddwyr.

8. Bydd SVROs yn rhoi pwerau i’r heddlu weithredu mewn ffordd fwy pendant a rhagweithiol, gan roi hawl awtomatig iddynt chwilio’r troseddwyr hyn. Y bwriad yw cynyddu’r risg y cânt eu canfod ym meddwl yr unigolion hynny sy’n destun y gorchymyn, gan helpu i’w darbwyllo na ddylent gario arfau a rhoi sail gredadwy iddynt dros beidio â chario arfau neu droseddu fel arall.

9. Mae defnydd wedi’i dargedu o weithdrefnau stopio a chwilio, fel rhan o ddull gweithredu ehangach mewn perthynas ag ymyrryd a goruchwylio troseddwyr a’u hannog i beidio â throseddu, yn anelu at helpu i ddiogelu pobl yn y cymdogaethau hynny sy’n wynebu’r risg fwyaf.

Pwy all fod yn destun Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol?

10. Gall y llys wneud SVRO pan gaiff oedolyn (18 oed neu drosodd) ei euogfarnu o drosedd lle defnyddiwyd eitem â llafn neu arf ymosodol, hynny yw, unrhyw drosedd yr oedd eitem â llafn neu arf ymosodol yn gysylltiedig â’r drosedd honno. Gallai hyn gynnwys cario eitem â llafn neu arf ymosodol yn anghyfreithlon, cyflawni lladrad neu ymosod ar berson gan ddefnyddio neu fygwth arf, neu ag arf yn eich meddiant, er enghraifft.

11. Rhaid i’r euogfarn fod am drosedd a gyflawnwyd ar y diwrnod cyntaf a bennir gan reoliadau ar gyfer dechrau’r gorchmynion i unrhyw raddau, neu ar ôl y diwrnod hwnnw. Hynny yw, ar y diwrnod y dechreuwyd y cynllun peilot ar gyfer SVROs, neu ar ôl y diwrnod hwnnw. Nid yw’r ddeddfwriaeth yn ôl-weithredol, ni ellir gwneud SVRO mewn perthynas ag euogfarn am drosedd a gyflawnwyd cyn dechrau’r ddeddfwriaeth gyntaf.

Beth fydd y llys yn ei ystyried wrth roi Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol?

12. Rhaid i’r erlyniad wneud cais i’r llys er mwyn gwneud SVRO mewn perthynas â throseddwr, a bydd gan y llys ddisgresiwn llawn i wneud gorchymyn.

13. Dim ond os bydd y naill neu’r llall o’r ddau amod canlynol wedi’u bodloni y gall y llys wneud gorchymyn. Yr amod cyntaf yw bod yn rhaid i’r llys fod yn fodlon yn ôl pwysau tebygolrwydd:

i) bod y troseddwr wedi defnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol wrth gyflawni’r drosedd; neu

ii) bod eitem â llafn neu arf ymosodol ym meddiant y troseddwr pan gyflawnwyd y drosedd.

14. Yr ail amod yw bod yn rhaid i’r llys fod yn fodlon yn ôl pwysau tebygolrwydd:

iii) bod person arall wedi defnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol wrth gyflawni’r drosedd a bod y troseddwr yn gwybod mai dyna fyddai’r achos neu y dylai fod wedi gwybod hynny; neu

iv) bod eitem â llafn neu arf ymosodol ym meddiant person arall a gyflawnodd y drosedd pan gafodd y drosedd ei chyflawni a bod y troseddwr yn gwybod mai dyna fyddai’r achos neu y dylai fod wedi gwybod hynny.

15. Mae pwysau tebygolrwydd (safon sifil) yn golygu bod yn rhaid i lys fod yn fodlon ar sail y dystiolaeth ei bod yn fwy tebygol na pheidio bod yr amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r amod cyntaf neu’r ail amod wedi digwydd.

16. Mae’r ail amod yn caniatáu i SVROs gael eu gwneud lle caiff unigolyn na ddefnyddiodd arf neu nad oedd arf yn ei feddiant ei euogfarnu o drosedd lle roedd eitem â llafn neu arf ymosodol yn bresennol. Enghraifft o ymddygiad o’r fath yw lle caiff person ei euogfarnu o ladrad lle cafodd cyllell ei fygwth gan berson arall, ond bod y person a euogfarnwyd yn bresennol ac y gwnaeth helpu neu annog y troseddu.

17. Os caiff y naill neu’r llall o’r ddau amod cyntaf eu bodloni, rhaid i’r llys hefyd fod o’r farn bod angen gwneud SVRO mewn perthynas â’r troseddwr er mwyn:

i) diogelu’r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed (gan gynnwys niwed corfforol a seicolegol) yn deillio o eitem â llafn neu arf ymosodol,

ii) diogelu unrhyw aelodau penodol o’r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr (gan gynnwys y troseddwr) rhag risg o’r fath, neu

iii) atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd gan ddefnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol.

Pennod 2: Y Broses ar gyfer Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol

Nodi

  • Caiff trosedd ei chyflawni.

  • Bydd yr heddlu yn nodi a oes angen SVRO.

  • Bydd yr heddlu yn defnyddio gwybodaeth (gan gynnwys gan bartneriaethau lleol lle bo angen) a data er mwyn nodi risg, bygythiad neu niwed mewn perthynas â’r troseddwr.

Paratoi

  • Bydd angen i’r heddlu baratoi tystiolaeth berthnasol a phriodol ar gyfer SVRO a’i chyflwyno i’r erlyniad

Gwneud cais

  • Bydd yr erlyniad yn ystyried y dystiolaeth ac yn penderfynu a ddylid gwneud cais i’r llys

  • Rhaid cwblhau’r dogfennau perthnasol

  • Gall y llys ddyfarnu SVRO pan gaiff y troseddwr ei euogfarnu, os bydd yn fodlon yn ôl pwysau tebygolrwydd.

Stopio a Chwilio

  • Gall swyddog chwilio’r troseddwr at ddiben canfod a oes ganddo eitem â llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant.

Cofnodi a Monitro

  • Bydd yr heddlu yn gyfrifol am gofnodi cydymffurfiaeth y troseddwr â’r weithdrefn stopio a chwilio.

  • Dylid cofnodi data am y weithdrefn a chynnal proses graffu allanol ar y data hynny

Dulliau adnabod

18. Dylai heddluoedd helpu’r erlyniad i gyflwyno ceisiadau am SVROs mewn perthynas â’r troseddwyr hynny sy’n peri risg o niwed yn deillio o eitem â llafn neu arf ymosodol, neu risg o gyflawni trosedd bellach gan ddefnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol, yn eu cymunedau lleol.

19. Y bwriad yw y bydd SVRO yn atal unigolion rhag cario arfau drwy gynyddu’r risg y cânt eu canfod yn cario arfau. Mater i’r erlyniad fydd penderfynu a ddylid gwneud cais am SVRO, ac mae gan y llysoedd ddisgresiwn llawn i benderfynu a oes angen gwneud SVRO.

20. Dylai heddluoedd ystyried pob achos cymwys ar gyfer SVRO. Dylai’r penderfyniad i wneud cais am SVRO fod yn seiliedig ar wybodaeth sy’n hysbys am yr achos, y troseddwr, yr amgylchiadau ehangach a ffactorau risg a throseddu lleol.

21. Dylai heddluoedd ystyried gwybodaeth a data sy’n bodoli eisoes am droseddwyr. Dim ond ar ôl euogfarn y mae SVROs ar gael gan mai dim ond ar ôl cyflawni trosedd y dylid gwneud ystyriaethau o’r fath.

22. Mae’n bosibl y bydd yr heddlu am drafod â phartneriaethau amlasiantaeth lleol (fel y rheini â chynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y gwasanaeth prawf, gwasanaethau cymdeithasol; ac ati) yr unigolion hynny sy’n cyflwyno’r risg fwyaf a pha becyn ymyriadau ehangach sydd fwyaf perthnasol a phriodol ar gyfer troseddwr, ochr yn ochr â SVRO – gallai hyn fod ar ffurf gorchymyn arall gan y llys fel Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll, Gwaharddeb Gangiau neu ymyriadau gwirfoddol eraill.

23. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i amgylchiadau unigol pob achos, a dylid teilwra unrhyw ymyriadau a gaiff eu hystyried ochr yn ochr â’r SVRO at yr achos unigol.

Trefniadau’r heddlu ar gyfer paratoi tystiolaeth i’r erlyniad

24. Dylai’r heddlu baratoi’r dystiolaeth i’w chyflwyno i’r erlyniad er mwyn gwneud cais am SVRO.

25. Dylai’r heddlu sicrhau bod y dystiolaeth hon wedi’i chynnwys gyda’r ffeil a gaiff ei hanfon at yr erlyniad ar gyfer y gwrandawiad cyntaf. Lle gwneir cais am SVRO ar gyfer achos a gyflwynwyd i’r erlyniad am awdurdodiad cyn-cyhuddo (PCA), dylai’r heddlu nodi ar y cais am PCA y bydd yn gwneud cais am y gorchymyn ac y bydd y dystiolaeth yn y ffeil.

26. Wrth baratoi’r achos, dylid sicrhau bod y dystiolaeth a gyflwynir yn berthnasol ac yn briodol. Gall hyn gynnwys:

  • Gwybodaeth yn crynhoi hanes troseddu’r troseddwr a gwybodaeth gefndir a gynhwyswyd fel rhan o ffeil yr achos

  • Adroddiadau gan dimau rheoli troseddwyr lleol ac asiantaethau perthnasol eraill (e.e. gwasanaethau cymdeithasol, partneriaethau diogelwch cymunedol ac ati)

  • Amrywiaeth o dystiolaeth ategol (a gasglwyd yn ystod y cam adnabod) yn esbonio pam mae angen y SVRO er mwyn diogelu’r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed yn deillio o eitem â llafn neu arf ymosodol, amddiffyn unrhyw aelodau penodol o’r cyhoedd (gan gynnwys y troseddwr) rhag risg o’r fath, neu atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd arall gan ddefnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol

27. Bydd angen sicrhau bod dogfennau perthnasol hefyd ar gael. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Ffurflen gais gan gynnwys crynodeb o hanes troseddu’r troseddwr a gwybodaeth gefndir

Gofynion hysbysu a rhyngweithio gan yr heddlu

28. Lle caiff gorchymyn ei gyflwyno, dylid hysbysu’r heddlu drwy’r canlyniad llys a diweddaru’r dudalen wybodaeth gorchmynion a gweithredu ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (PNC).

29. Mae’n bosibl y bydd yr heddlu am fanteisio ar y cyfle hwn i ymgysylltu â’r troseddwr ac egluro effeithiau SVRO, hynny yw, esbonio gofynion ac effeithiau SVRO a pha drosedd y gallai fod yn eu cyflawni os bydd yn torri’r gorchymyn i’r troseddwr mewn iaith gyffredin. Bydd y troseddwr yn cyflawni trosedd os bydd yn fwriadol yn rhoi gwybodaeth ffug i’r heddlu gan honni ei fod yn cydymffurfio â’r gorchymyn (gweler yr adran ar Torri SVRO i gael rhagor o fanylion).

30. Rhaid i’r troseddwr roi’r wybodaeth ganlynol i’r heddlu o fewn tri diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y daw’r gorchymyn yn weithredol;

i) Ei enw, neu enwau, ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad ac os yw’r troseddwr yn defnyddio un neu fwy o enwau eraill ar y diwrnod hwnnw, pob un o’r enwau hynny;

ii) Ei gyfeiriad cartref ar y diwrnod hwnnw ac unrhyw gyfeiriad arall lle mae’n preswylio neu’n aros yn rheolaidd, ar y diwrnod hwnnw.

31. Lle nad oes ffotograff o’r troseddwr yn bodoli eisoes, lle na chymerwyd ffotograff o’r troseddwr ers iddo gael ei euogfarnu neu lle nad yw’r ffotograff o’r troseddwr yn ddigonol, h.y. mae’n aneglur, yn anghyflawn neu nid yw’n cynnig cynrychiolaeth gywir o’r person mwyach, mae’n bosibl y bydd yr heddlu am ystyried cymryd ffotograff cyfredol o’r troseddwr er mwyn helpu i atal neu ganfod troseddau. Gellid ei ddefnyddio, ochr yn ochr â disgrifiad cyfredol, er mwyn helpu i’w adnabod yn y dyfodol wrth ymgymryd â gweithdrefnau stopio a chwilio. Rhaid cael awdurdod gan arolygydd i gymryd ffotograff cyfredol. Gweler adran 64A o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984.

32. Rhaid i’r troseddwr hefyd hysbysu’r heddlu os bydd yn defnyddio enw na roddwyd gwybod i’r heddlu amdano yn flaenorol, os bydd yn newid ei gyfeiriad cartref neu os bydd yn penderfynu byw am gyfnod o fis neu fwy mewn cyfeiriad na roddwyd gwybod i’r heddlu amdano yn flaenorol. Rhaid rhoi’r wybodaeth hon i’r heddlu o fewn tri diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y defnyddiwyd yr enw hwnnw, y newidiwyd cyfeiriad cartref neu y penderfynwyd byw yn yr eiddo hwnnw.

33. Rhaid i’r troseddwr roi’r wybodaeth sydd ei hangen yn bersonol drwy fynd i orsaf yr heddlu yn ardal yr heddlu y mae’r troseddwr yn byw ynddi a thrwy roi hysbysiad llafar i un o swyddogion yr heddlu, neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan y swyddog sy’n gyfrifol am yr orsaf.

34. Bydd yr heddlu lle y rhoddir yr hysbysiad neu lle y bydd y troseddwr yn rhoi gwybod am newid enw neu gyfeiriad yn gyfrifol am gofnodi’r wybodaeth hon ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu ac am ychwanegu marciwr gwybodaeth gweithredol.

35. Pan fydd troseddwr yn symud allan o ardal un heddlu i ardal heddlu arall, dylai’r heddlu ystyried rhannu gwybodaeth berthnasol am y SVRO â’r heddlu yn yr ardal breswylio newydd. Dylai’r heddlu hefyd ystyried rhannu gwybodaeth am unigolion sy’n destun SVRO â rhanddeiliaid plismona allweddol gan gynnwys lluoedd tiriogaethol ac arbennig eraill, lle ceir risg o droseddoldeb teithiol.

Trefniadau’r heddlu ar gyfer cyfathrebu â chymunedau lleol

36. Fel sy’n ofynnol gan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) Cod A, mae’n ofynnol i gynrychiolwyr cymunedol graffu ar gofnodion stopio a chwilio heddluoedd ac iddynt allu esbonio’r defnydd o’u pwerau yn lleol.

37. Dylai’r heddlu gyfleu’r ffaith eu bod yn defnyddio SVROs yn yr ardal leol neu eu bod yn bwriadu eu defnyddio, a pham hynny. Gall cyfleu’r wybodaeth hon gynyddu hyder y cyhoedd bod gweithdrefnau stopio a chwilio yn cael eu defnyddio mewn ffordd deg ac effeithiol o fewn cymunedau ac yn yr ymateb lleol i drais difrifol a throseddau cyllyll. Gall hefyd atal person rhag dewis cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol o’r fath.

38. Dylid cyfleu’r defnydd o SVROs a’r meini prawf a ystyrir gan y llys wrth benderfynu pwy sy’n destun gorchymyn drwy grwpiau cymunedol, fforymau ffydd, grwpiau addysgol, Paneli Cynghori Annibynnol neu unrhyw gyfrwng priodol arall.

39. Cyfeiriwch at Ganllawiau’r Coleg Plismona ar Ymgysylltu â Chymunedau. Transparent (college.police.uk)

Defnydd yr heddlu o’r pŵer stopio a chwilio

40. Mae Adran 342E o’r Cod Dedfrydu (fel y’i mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn rhoi’r pŵer i’r heddlu chwilio person sy’n destun SVRO, a’i gadw at ddiben cynnal y chwiliad hwnnw, ar yr amod bod y person hwnnw mewn man cyhoeddus.

41. Diben y pŵer hwn yw cadarnhau a oes gan y person eitem â llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant. Rhaid cynnal chwiliadau mewn man cyhoeddus. Nid yw’r pŵer yn rhoi unrhyw sail i swyddogion dros chwilio unrhyw un arall sydd yng nghwmni’r person hwnnw. Nid yw’r pŵer yn rhoi’r sail i swyddogion chwilio cerbydau. Ni ddylid chwilio person sydd yng nghwmni unigolyn sy’n destun SVRO oni fydd gan gwnstabl sail resymol berthnasol dros amheuaeth.

42. Ni fydd SVROs yn disodli pwerau stopio a chwilio presennol, ond yn hytrach, byddant yn adeiladu arnynt. Bwriedir iddynt ei gwneud hi’n haws i’r heddlu chwilio’r rhai hynny a euogfarnwyd o drosedd yn defnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol gyda’r nod o atal y rhai hynny sy’n destun gorchymyn rhag parhau i droseddu.

43. Gellir defnyddio pwerau SVRO yn ychwanegol at bwerau stopio a chwilio eraill megis adran 1 o PACE ac eraill a restrir yn Atodiad A o God A PACE (Stopio a Chwilio). Er enghraifft, gellid chwilio cerbydau gan ddefnyddio adran 1 o PACE, os caiff yr amodau gofynnol ar gyfer arfer y pŵer hwnnw eu bodloni.

44. Bydd yr heddlu wedi cael manylion y troseddwr yn ystod y cam hysbysu (gweler yr adran ar gofynion hysbysu a rhyngweithio gan yr heddlu) a dylent sicrhau mai dim ond at droseddwyr sy’n destun SVRO y caiff unrhyw weithdrefnau stopio a chwilio o dan y pŵer eu hanelu. Dylid cofnodi manylion troseddwyr sy’n destun SVRO ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.

45. Yn y rhan fwyaf o achosion, disgwylir y bydd troseddwyr sy’n destun SVRO yn hysbys i’r heddlu a bydd swyddogion yn gallu adnabod y troseddwr cyn cynnal chwiliad.

46. Os bydd swyddog yn ansicr pwy yw troseddwr, dylai geisio cadarnhau pwy ydyw ac a yw’n destun SVRO. Efallai y bydd swyddogion am gadarnhau bod y gorchymyn ar waith drwy Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.

47. Mae hyn yn golygu, oni all swyddogion gadarnhau bod yr unigolyn yn destun SVRO, na ellir defnyddio’r pŵer a byddai’n anghyfreithlon chwilio unigolyn heb SVRO, onid oes pwerau stopio a chwilio eraill yn gymwys.

48. Mae’n drosedd i droseddwr ddweud wrth un o gwnstabliaid yr heddlu nad yw’n destun SVRO os ydyw. Gweler yr adran ar Torri SVRO.

49. Gall swyddog yr heddlu atafaelu, yn unol â Rheoliadau Cod Dedfrydu 2020 (Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol) (Cadw a Gwaredu Eitemau a Atafaelwyd) 2022, eitemau a ganfyddir wrth gynnal y chwiliad y mae’n amau’n rhesymol eu bod yn eitemau â llafn neu’n arfau ymosodol, a’u cadw.

50. Wrth arfer y pŵer stopio a chwilio, bydd darpariaethau adran 2 a 3 o PACE yn gymwys wrth gynnal a chofnodi’r chwiliad. Cânt eu hadlewyrchu yng Nghod A PACE, sef y cod ymarfer statudol sy’n llywodraethu’r defnydd o bwerau stopio a chwilio.

51. Gallai methu â chydymffurfio â’r Cod arwain at sefyllfa lle bydd tystiolaeth a geir yn ystod y chwiliad yn cael ei heithrio o achosion troseddol dilynol yn deillio o’r chwiliad. Gallai hefyd gefnogi achosion troseddol a/neu sifil eraill yn erbyn yr heddlu am ymosod ar unigolyn/cadw unigolyn yn anghyfreithlon.

52. Mae Cod A PACE hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i bwerau stopio a chwilio gael eu defnyddio’n deg ac yn gyfrifol, gan barchu’r bobl sy’n cael eu chwilio a heb wahaniaethu’n anghyfreithlon. Dim ond pan fetho popeth arall y gellir defnyddio grym i gynnal chwiliad neu gadw person. Rhaid i swyddogion gynnal y safonau ymddygiad proffesiynol uchaf ac mae’n rhaid bod sail wrthrychol a rhesymol dros stopio a chwilio bob amser. Yn yr amgylchiadau hyn, mae hyn yn seiliedig ar y ffaith bod SVRO mewn grym. Gweler: Cod Moeseg - Coleg Plismona.

53. Fodd bynnag, mae defnyddio’r pŵer stopio a chwilio o dan SVRO hefyd yn ddewisol, a disgwylir i swyddogion yr heddlu arfer eu barn broffesiynol wrth benderfynu ym mha amgylchiadau a sawl gwaith y dylid stopio a chwilio unigolyn sy’n destun SVRO. Felly dylai swyddogion ystyried yr holl amgylchiadau sy’n ymddangos yn berthnasol i’r penderfyniad hwnnw gan fod swyddogion yn parhau’n atebol am ddefnyddio’r pŵer. Er enghraifft, y lleoliad penodol mewn man cyhoeddus, pa mor agos yw’r lleoliad hwnnw at gartref y troseddwr ac aelodau eraill o’r teulu, yn ogystal â lleoliadau ac unigolion eraill y gwyddys eu bod yn gysylltiedig â’i hanes troseddu.

54. Ar ôl stopio a chwilio unigolyn, rhaid i’r heddlu gofnodi’r chwiliad a rhoi copi o’r cofnod i’r troseddwr yn unol ag adran 4 o God A PACE. Lle bo hynny ar gael, dylai’r swyddog sy’n chwilio ddefnyddio camera wedi’i wisgo ar y corff wrth gynnal gweithdrefn stopio a chwilio o dan SVRO, yn unol â chanllawiau gweithredol y prif swyddog.

55. Cyfeiriwch at Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar Stopio a Chwilio. [footnote 6]

Hyd SVRO

56. Daw’r SVRO yn weithredol ar y diwrnod y caiff ei wneud. Mae adran 342D(3) a (4) o’r Cod Dedfrydu (fel y’u mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi pan fydd troseddwr wedi’i gadw yn y ddalfa neu wedi’i anfon i’r ddalfa neu pan fydd dedfryd o garchar wedi’i rhoi, neu fod y troseddwr yn bwrw dedfryd o’r fath neu’n destun dedfryd o’r fath fel arall, y gall y llys benderfynu na fydd y gorchymyn yn dod yn weithredol hyd nes y caiff y troseddwr ei ryddhau o’r ddalfa neu na fydd yn destun dedfryd o garchar mwyach.

57. Rhaid i SVRO gynnwys dyddiad dechrau a bydd am gyfnod penodol o chwe mis o leiaf hyd at uchafswm o ddwy flynedd, gyda’r llys yn penderfynu ar y cyfnod o fewn yr ystod hwn.

58. Pan gaiff cais ei wneud, mae’n bosibl y bydd yr heddlu am roi gwybodaeth berthnasol er mwyn helpu’r erlyniad wrth wneud argymhellion ar hyd SVRO i’r llys. Y llys fydd yn penderfynu ar hyd terfynol y gorchymyn.

Torri SVRO

59. Os canfyddir bod gan berson sy’n destun SVRO eitem â llafn neu arf ymosodol yn ei feddiant, gellir ystyried troseddau sy’n bodoli eisoes mewn perthynas â meddu ar eitem â llafn neu arf ymosodol. Lle caiff y troseddwr ei euogfarnu o drosedd a ailadroddir am feddu ar eitem â llafn neu arf ymosodol o dan y ddeddfwriaeth “dau gyfle” bresennol yn adran 315 o’r Cod Dedfrydu, gallai ddisgwyl cael dedfryd o garchar.

60. Yn ogystal, mae adran 342G(1) o’r Cod Dedfrydu (fel y’i mewnosodwyd gan Ddeddf PCSC 2022) yn nodi bod person sy’n destun SVRO yn cyflawni trosedd os bydd yn gwneud y canlynol:

  • Methu, heb esgus rhesymol, â gwneud unrhyw beth y mae’n ofynnol iddo ei wneud gan y gorchymyn;

  • Heb esgus rhesymol, gwneud unrhyw beth y mae wedi’i wahardd rhag gwneud gan y gorchymyn;

  • Hysbysu’r heddlu, gan honni ei fod yn cydymffurfio â’r gorchymyn, am unrhyw wybodaeth y mae’n gwybod ei bod yn ffug;

  • Dweud wrth un o gwnstabliaid yr heddlu nad yw’n destun SVRO; neu

  • Atal un o gwnstabliaid yr heddlu, yn fwriadol, rhag arfer unrhyw bŵer a roddwyd o dan adran 342E.

61. Bydd yr heddlu yn gyfrifol am unrhyw waith monitro ac unrhyw gamau i’w cymryd os caiff trosedd ei chyflawni.

62. Y gosb am dorri gorchymyn yn dilyn euogfarn ddiannod yw cyfnod o garchar hyd at ddeuddeg mis neu ddirwy (diderfyn) neu’r ddau.

63. Y gosb yn dilyn euogfarn ar dditiad yw cyfnod o garchar hyd at ddwy flynedd, neu ddirwy (diderfyn) neu’r ddau.

Sut y gellir monitro SVROs, casglu data amdanynt a chraffu arnynt yn effeithiol?

Monitro’r pŵer stopio a chwilio

64. Rhaid monitro’r pŵer i stopio a chwilio o dan SVRO, a rhaid i swyddogion yr heddlu ystyried Cod A PACE, sef y cod ymarfer statudol sy’n llywodraethu’r defnydd o bwerau stopio a chwilio.

65. Rhaid i swyddogion yr heddlu gofnodi’r chwiliad yn unol ag adran 4 o God A PACE, gan nodi ei fod wedi’i gynnal o dan bŵer SVRO, drwy gofnodi’r dyddiad y gwnaed y SVRO ac y daeth yn weithredol a’r llys a wnaeth y gorchymyn. Wedyn, caiff y data hyn eu rhannu â’r Swyddfa Gartref a’u cyhoeddi drwy’r Gofyniad Data Blynyddol, ochr yn ochr â data eraill ar stopio a chwilio.

66. Fel sy’n ofynnol gan God A PACE, rhaid i’r cofnod o chwiliad bob amser gynnwys y wybodaeth ganlynol: (a) Nodyn o ethnigrwydd hunan-ddiffiniedig y person a chwiliwyd ac, os yw’n wahanol, canfyddiad y swyddog a gynhaliodd y chwiliad o’i ethnigrwydd; (b) Y dyddiad a’r amser y cafodd y person ei chwilio a’r lleoliad; (c) Gwrthrych y chwiliad yn nhermau’r eitem neu’r eitemau y mae pŵer i chwilio amdani/amdanynt. Yn achos SVRO, eitem â llafn neu arf ymosodol fydd yr eitem hon.

67. Er mwyn hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y defnydd o bwerau SVRO, rhaid i heddluoedd, gan ymgynghori â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, wneud trefniadau i gynrychiolwyr o’r gymuned graffu ar y cofnodion a gwybodaeth a data cysylltiedig, yn enwedig y rhai hynny yr ystyrir bod y defnydd o bwerau’r heddlu wedi cael effaith anghymesur arnynt neu lle y digwyddodd hynny, ac egluro’r defnydd o’r pwerau ar lefel leol, er enghraifft drwy baneli craffu cymunedol.

68. Mae angen trefniadau craffu effeithiol er mwyn sicrhau bod cymunedau yn deall bod yr heddlu yn defnyddio pwerau SVRO yn briodol. Gall proses graffu gymunedol gadarn rymuso a rhoi hyder i’r heddlu fynd i’r afael â throseddau yn fwy effeithiol, rhoi sicrwydd a deall y cymunedau a wasanaethir ganddynt yn well, a galluogi’r heddlu i ganolbwyntio eu hymdrechion mewn ffordd gyfreithlon a chymesur wedi’i thargedu’n briodol.

69. Mae adran 5 o God A PACE hefyd yn nodi bod yn rhaid i uwch-swyddogion â chyfrifoldebau am ardal neu heddlu cyfan fonitro’r defnydd ehangach o bwerau stopio a chwilio a, lle y bo angen, gymryd camau ar y lefel berthnasol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys defnyddio pwerau stopio a chwilio o dan SVROs.

70. Mae unrhyw gamddefnydd o bwerau stopio a chwilio yn debygol o fod yn niweidiol i blismona ac arwain at ddiffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu ymhlith y gymuned leol a’r cyhoedd yn gyffredinol. Lle ceir cwynion am y ffordd y defnyddiodd swyddog bŵer stopio a chwilio o dan SVRO, dylid dilyn yr arferion perthnasol ar gyfer cofnodi achosion o’r fath ac ymdrin â nhw. Mae’n bwysig bod swyddogion yn cymryd camau amserol a phriodol i ymdrin â chwynion. Cyfeiriwch at y Canllaw Statudol ynglŷn â system gwynion yr heddlu. (policeconduct.gov.uk) (PDF, 1 MB)

Goruchwylio unigolion sy’n destun SVRO

71. Dylid sicrhau bod troseddwyr yn ymwybodol y caiff eu cydymffurfiaeth â’r gorchymyn ei monitro (e.e. drwy ofynion adrodd) ac y bydd yr heddlu yn gyfrifol am unrhyw gamau i’w cymryd os byddant yn torri’r gorchymyn.

72. Bydd yr heddlu yn defnyddio pŵer SVRO i reoli’r risg sy’n gysylltiedig â’r troseddwr, a gall hyn fwydo i mewn i strategaethau ehangach ar gyfer rheoli troseddwyr.

73. Dylai swyddogion sy’n rhyngweithio â throseddwyr sy’n destun SVRO eu hannog i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth ychwanegol – fel addysg, cyflogaeth a thriniaeth am broblemau cyffuriau – fel y bo’n briodol.

Pennod 3: Ystyriaethau Tystiolaethol

Rheolau tystiolaeth sifil

74. Gwneir ceisiadau am SVROs o dan y rheolau tystiolaeth sifil. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae’r rheolau tystiolaeth yr un peth â’r rheolau ar gyfer llysoedd troseddol. Fodd bynnag, y prawf yw’r safon prawf sifil, yn ôl pwysau tebygolrwydd. Yn arbennig, mae’r rheolau ar gyfer tystiolaeth achlust yn wahanol.

Tystiolaeth achlust

75. Caiff tystiolaeth achlust ei llywodraethu gan Ddeddf Tystiolaeth Sifil 1995 (CEA) a Rheolau Llysoedd Ynadon (Tystiolaeth Achlust mewn Achosion Sifil) 1999.

76. Ystyr achlust yw “a statement made otherwise than by a person while giving oral evidence in the proceedings which is tendered as evidence of the matters stated” (adran 1(2) Deddf Tystiolaeth Sifil 1995). [footnote 7]

77. Lle bynnag y bo’n bosibl, dylid cyflwyno’r hysbysiad achlust ar yr un pryd â’r hysbysiad o fwriad i wneud cais am SVRO, ac yn unrhyw achos o leiaf 21 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad. Rhaid i ffurf yr hysbysiad achlust gydymffurfio â Rheol 2 o’r Rheolau Achlust. Gall y diffynnydd wneud cais am i’r person a wnaeth y datganiad gael ei alw i roi tystiolaeth yn bersonol.

78. Os caiff tystiolaeth achlust ei chyflwyno’n hwyr i’r diffyniad (h.y. o leiaf 21 diwrnod cyn y gwrandawiad), mae perygl na wnaiff y llys ganiatáu i’r dystiolaeth gael ei chyflwyno. Mae gan y llys y pŵer i lacio’r terfyn amser, ond dim ond lle na fyddai hynny’n rhagfarnu’r diffynnydd. Os bydd y llys yn gwrthod llacio’r terfyn amser, gall wrando’r cais ond wrthod derbyn y dystiolaeth o gwbl. Fel arall, gall ohirio’r gwrandawiad er mwyn rhoi mwy o amser i’r diffynnydd ystyried y dystiolaeth. Mewn achos o’r fath, gall orchymyn y ceisydd i dalu’r costau a fydd yn gysylltiedig â gohirio’r achos. Felly, mae bob amser yn well cyflwyno’r dystiolaeth gyda’r cais.

79. Lle na chaiff euogfarnau blaenorol eu derbyn (h.y. ar ôl ystyried yr argraffiad o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu), gellir eu profi drwy gyflwyno rhan o gofrestr y llys (bydd ffi yn daladwy) o dan adran 73 o PACE 1984.

Pennod 4: Gweithdrefn y Llys

Cyfrifoldebau’r Llys

80. Gall unrhyw lys sy’n ymdrin â’r troseddwr (e.e. Llys y Goron, neu Lys yr Ynadon) wneud SVRO.

81. Dim ond fel rhan o’r ymarfer dedfrydu yn dilyn euogfarn ar gais yr erlyniad y gellir gwneud SVRO. Fodd bynnag, gall y llys ohirio’r cais am SVRO hyd yn oed ar ôl dedfrydu’r troseddwr. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd pan fydd y diffynnydd yn gwrthwynebu gwneud y gorchymyn, gan olygu bod angen mwy o amser i’r llys.

82. Gall y llys glywed tystiolaeth gan y troseddwr a’r erlyniad wrth ystyried a ddylid gwneud SVRO.

83. Gall y llys ystyried tystiolaeth (mewn perthynas â ph’un a ddylid gwneud SVRO ai peidio) na fyddai wedi gallu ei derbyn fel rhan o’r achos lle cafodd y troseddwr ei euogfarnu.

84. Rhaid i’r llys benderfynu yn gyntaf a oes sail dros wneud y gorchymyn. Os bydd y llys yn fodlon bod yr erlyniad, yn ôl pwysau tebygolrwydd, wedi profi bod yr amodau wedi’u bodloni a bod angen y gorchymyn, bydd yn penderfynu a ddylid gwneud gorchymyn. Os gwneir gorchymyn, rhaid esbonio ei ffeithiau mewn iaith gyffredin.

85. Gweler pennod 1 am fanylion ar ystyriaethau’r llys cyn gwneud gorchymyn.

Amrywio, adnewyddu a diddymu

86. O dan adran 342H, gellir gwneud cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu SVRO. Rhaid gwneud cais o’r fath i’r llys priodol naill ai gan:

(i) y troseddwr;

(ii) prif swyddog heddlu ar gyfer yr ardal heddlu y mae’r troseddwr yn byw ynddi;

(iii) prif swyddog heddlu ar gyfer yr ardal heddlu lle cyflawnodd y troseddwr y drosedd y gwnaed SVRO mewn perthynas â hi;

(iv) prif swyddog heddlu sydd o’r farn bod y troseddwr yn ardal y prif swyddog neu ei fod yn bwriadu dod i’r ardal honno; neu

(v) prif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig lle mae’r drosedd y gwnaed SVRO mewn perthynas â hi yn drosedd a gyflawnwyd mewn man, neu mewn perthynas â man o fewn adran 31(1)(a) i (f) o Ddeddf Diogelwch Rheilffyrdd a Thrafnidiaeth 2002 (awdurdodaeth yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig) neu’n gysylltiedig fel arall â rheilffordd o fewn yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992 neu dramffordd o fewn ystyr yr adran honno.

87. Rhaid gwneud y cais yn uniongyrchol i’r llys priodol yn hytrach nag i’r erlyniad.

88. Ystyr y llys priodol yw:

(i) Llys y Goron lle gwnaed y SVRO yn Llys y Goron neu’r Llys Apêl;

(ii) lle gwnaed y SVRO gan lys ynadon ac y caiff y cais i amrywio, adnewyddu neu ryddhau ei wneud gan y troseddwr neu brif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, y llys ynadon hwnnw, neu lys ynadon ar gyfer yr ardal y mae’r troseddwr yn byw ynddi;

(iii) lle gwnaed y SVRO gan lys ynadon ac y caiff y cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu ei wneud gan brif swyddog yr heddlu, y llys ynadon hwnnw, llys ynadon ar gyfer yr ardal y mae’r troseddwr yn byw ynddi, neu lys ynadon sy’n gweithredu ar gyfer ardal cyfiawnder leol sy’n cynnwys unrhyw ran o ardal heddlu’r prif swyddog.

89. Gall y llys amrywio, adnewyddu neu ddiddymu gorchymyn fel y gwêl yn briodol. Gall y llys adnewyddu gorchymyn, neu amrywio gorchymyn er mwyn cynyddu hyd y gorchymyn at yr uchafswm cyfnod o ddwy flynedd, dim ond os bydd o’r farn bod angen gwneud hynny er mwyn diogelu’r cyhoedd neu unrhyw aelod penodol o’r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr rhag y risg o niwed yn deillio o eitem â llafn neu arf ymosodol, neu er mwyn atal y troseddwr rhag cyflawni trosedd gan ddefnyddio eitem â llafn neu arf ymosodol.

90. Gall fod amgylchiadau lle y byddai angen adnewyddu’r SVRO am gyfnod arall o rhwng 6 mis a 2 flynedd. Dylai’r heddlu ystyried amgylchiadau unigol yn ofalus, gan gynnwys a gafodd gorchymyn ei adnewyddu eisoes, wrth benderfynu gwneud cais i’r llys. Bydd y llys yn penderfynu a fyddai adnewyddu’r gorchymyn yn gymesur ac yn angenrheidiol.

91. Rhaid i’r llys esbonio effaith amrywio neu adnewyddu’r gorchymyn a’r pwerau sydd gan gwnstabliaid yr heddlu o dan y pŵer stopio a chwilio yn adran 342E o’r Cod Dedfrydu i’r troseddwr mewn iaith gyffredin.

Apeliadau

92. Lle gwneir SVRO, gall y troseddwr apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud y gorchymyn fel petai’r gorchymyn yn ddedfryd a wnaed mewn perthynas â’r troseddwr am y drosedd.

93. Lle gwneir cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu gorchymyn:

(i) Gall y person a wnaeth y cais apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod gwneud gorchymyn;

(ii) Gall y troseddwr apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud gorchymyn a wnaed yn dilyn cais gan un o brif swyddogion yr heddlu neu brif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig;

(iii) gall un o brif swyddogion yr heddlu apelio yn erbyn penderfyniad i wneud gorchymyn a wnaed ar gais y troseddwr; neu

(iv) lle mae’r drosedd y gwnaed y gorchymyn mewn perthynas â hi yn drosedd a gyflawnwyd mewn man neu mewn perthynas â man o dan awdurdodaeth yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig neu lle bo’r drosedd yn ymwneud fel arall â rheilffordd neu dramffordd, gall prif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud gorchymyn a wnaed ar gais y troseddwr.

94. Gellir apelio yn erbyn penderfyniad i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu gorchymyn, neu benderfyniad i wrthod gwneud hynny, i’r Llys Apêl lle gwnaed y cais i amrywio, adnewyddu neu ddiddymu i Lys y Goron, neu i Lys y Goron mewn unrhyw achos arall (h.y. lle mai llys ynadon glywodd yr achos).

95. Wrth wneud penderfyniad ar apêl, gall Llys y Goron wneud y cyfryw orchmynion ag sydd eu hangen i roi ei benderfyniad ar yr apêl ar waith a’r cyfryw orchmynion cysylltiedig a chanlyniadol ag yr ymddengys eu bod yn briodol.

Pennod 5: Rhyngweithio â gorchmynion ac ymyriadau eraill

A ellir defnyddio Gorchymyn Lleihau Trais Difrifol ochr yn ochr â gorchymyn arall?

96. Dylid defnyddio SVROs fel rhan o ddull ehangach ar gyfer atal troseddau er mwyn ymyrryd â gweithgarwch troseddwyr a’u goruchwylio, i’w hannog i beidio â throseddu.

97. Er mwyn helpu’r erlyniad i wneud cais am SVRO, mae’n bosibl y bydd yr heddlu am drafod â’r erlyniad p’un a fyddai’n briodol gwneud cais hefyd am orchymyn arall, ochr yn ochr â SVRO, ar gyfer yr un troseddwr.

98. Gallai SVRO ategu gorchymyn arall gan lys lle y bo’n berthnasol ac yn angenrheidiol a byddai gan y llys yr hawl i benderfynu gwneud SVRO a gorchymyn arall, er enghraifft, Gorchymyn Atal Troseddau Cyllyll (KCPO), Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) neu Waharddeb Gangiau, ar gyfer yr un unigolyn (gweler rhagor o fanylion am orchmynion ychwanegol yn Atodiad A).

99. Byddai angen i’r llys fod yn fodlon bod hyn yn briodol ac yn angenrheidiol o dan yr holl amgylchiadau ac nad yw’r amrywiol ofynion yn gwrthdaro â’i gilydd.

100. Mae’n bosibl y bydd yr heddlu am ymgynghori â phartneriaid ehangach yn lleol ar ymyriadau ychwanegol i hwyluso’r broses o oruchwylio troseddwyr a’u hannog i beidio â throseddu.

Pennod 6: Cynllun Peilot

101. Mae adran 141 o Ddeddf PCSC 2022 yn nodi dau amod y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gellir gweithredu’r darpariaethau sy’n gysylltiedig â SVROs ledled Cymru a Lloegr gyfan at bob diben.

102. Yn gyntaf, rhaid cynnal cynllun peilot mewn un ardal neu fwy yng Nghymru a Lloegr at un diben penodedig neu fwy; ac yn ail, rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyflwyno adroddiad ger bron Senedd y DU ar weithrediad y cynllun peilot. Cynhelir cynlluniau peilot o SVROs yn ardaloedd heddlu Glannau Mersi, Thames Valley, Sussex a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

103. Dim ond yn y pedair ardal heddlu beilot y gellir gwneud SVROs; fodd bynnag, gall cwnstabliaid yr heddlu ddefnyddio pwerau stopio a chwilio ledled Cymru a Lloegr. Y nod yw cefnogi ymateb gweithredol ar draws awdurdodaethau, gan alluogi cwnstabliaid o heddluoedd nad ydynt yn rhan o’r cynllun peilot stopio a chwilio unigolion sy’n destun SVRO.

104. Diben cynnal cynllun peilot o SVROs yw meithrin dealltwriaeth o’u heffaith a’u heffeithiolrwydd, a phrofi a llywio’r prosesau ar gyfer eu cyflwyno ar sail ehangach.

105. Bydd y cynllun peilot yn profi effaith SVROs, ymatebion cymunedau i SVROs, gan gynnwys unrhyw faterion o ran anghymesuredd, a’r canlyniadau i droseddwyr sy’n destun SVRO. Er mwyn llywio’r asesiad hwn, caiff data eu casglu am nifer o fesurau, gan gynnwys oedran, rhyw ac ethnigrwydd pobl sy’n destun SVRO.

106. Pan ddaw’r cynllun peilot i ben, caiff adroddiad ei lunio a’i gyflwyno ger bron Senedd y DU.

107. Caiff y canllawiau hyn eu hadolygu yn sgil canfyddiadau’r cynllun peilot a’r gwersi a ddysgir, a’u diweddaru cyn cyflwyno SVROs ledled Cymru a Lloegr.

Pennod 7: Ystyriaethau eraill

Cwmpas tiriogaethol

108. Cwmpas tiriogaethol SVROs yng Nghymru a Lloegr.

109. Bydd y SVRO yn parhau’n weithredol am y cyfnod a ddynodir yn y gorchymyn ac os bydd y troseddwr wedi symud y tu allan i Gymru a Lloegr, bydd yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofynion a’r gwaharddiadau sy’n gysylltiedig â’r gorchymyn, os bydd y person hwnnw yn dychwelyd i Gymru neu Loegr o rywle arall.

Ystyried dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a hawliau dynol

110. Wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â SVROs, mae’n ofynnol i gwnstabliaid, prif swyddogion yr heddlu a phrif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yn unol ag adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, roi ystyriaeth briodol i’r angen i ddileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu neu erledigaeth, ac annog cyfle cyfartal ni waeth unrhyw ffactorau fel oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae hefyd yn ofynnol i gwnstabliaid, prif swyddogion yr heddlu a phrif gwnstabl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, yn ôl adran 6 o Ddeddf Hawliau Dynol 1998, weithredu mewn ffordd sy’n gydnaws â hawliau’r Confensiwn fel y’u nodir yn Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

Canllawiau ac Adnoddau Defnyddiol

111. Mae’n bosibl y bydd yr heddlu hefyd am gyfeirio at y dogfennau canllaw a’r adnoddau canlynol:

Atodiad A

Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs)

Cyflwynwyd Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs) o dan Ddeddf Arfau Ymosodol 2019. Mae’r gorchmynion sifil ataliol newydd hyn yn adnodd ychwanegol y bydd yr heddlu yn gallu eu defnyddio i weithio gyda phobl ifanc ac eraill er mwyn helpu i’w hatal rhag cyflawni troseddau cyllyll a thrais difrifol gan ddefnyddio gofynion cadarnhaol i ymdrin â ffactorau yn eu bywydau a all gynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn troseddu, ochr yn ochr â mesurau i wahardd rhai gweithgareddau penodol er mwyn helpu i’w hatal rhag troseddu yn y dyfodol.

Gellir gwneud KCPOs naill ai pan geir euogfarn, neu fel arall.

KCPO a wneir pan geir euogfarn

Gall unrhyw lys sy’n ymdrin â’r diffynnydd (e.e. Llys y Goron, llys ynadon neu lys ieuenctid) wneud KCPO pan geir euogfarn.

Mae adran 19 o Ddeddf Arfau Ymosodol 2019 yn nodi’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i’r llys wneud KCPO pan geir euogfarn.

KCPO a wneir fel arall

Mae gan y llysoedd hefyd y pŵer i wneud KCPOs yn dilyn cwyn gan yr heddlu. Gellir gwneud KCPO mewn perthynas ag unrhyw berson dros 12 oed.

Mae adran 14 o Ddeddf Arfau Ymosodol 2019 yn nodi’r amodau y gellir gwneud KCPO oddi tanynt yn dilyn cais gan yr heddlu.

Pwy all fod yn destun KCPO?

Gellir gwneud cais am KCPO ar gyfer unrhyw unigolyn 12 oed neu drosodd. Y nod yn hyn o beth yw atal yr unigolion hynny sy’n wynebu’r risg fwyaf neu sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys, lle y bo’n briodol, plant rhag meddu ar gyllyll a rhag dod yn gysylltiedig â throseddau cyllyll.

Mae torri KCPO heb esgus rhesymol yn drosedd y gellir ei rhoi ar brawf naill ai mewn llys ynadon neu yn Llys y Goron. Mewn llys ynadon, yr uchafswm dedfryd ar hyn o bryd yw 6 mis o garchar a/neu ddirwy; yn Llys y Goron, yr uchafswm dedfryd ar hyn o bryd yw 2 flynedd o garchar a/neu ddirwy.

Cynhelir cynllun peilot o KCPOs ar hyn o bryd yn ardal yr Heddlu Metropolitanaidd. I gael rhagor o wybodaeth am Orchmynion Atal Troseddau Cyllyll, gweler: Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll (KCPOs) – GOV.UK (www.gov.uk)

Gorchmynion Ymddygiad Troseddol (CBO)

Gellir gwneud Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) pan gaiff unigolyn ei euogfarnu am unrhyw drosedd mewn unrhyw lys troseddol. Gall y llys wneud CBO ar yr amod y bydd y llys yn pennu dedfryd mewn perthynas â’r drosedd neu’n rhyddhau’r troseddwr ag amodau i’w bodloni. Er mwyn gwneud CBO, rhaid i’r llys fod yn fodlon bod y troseddwr wedi ymddwyn mewn ffordd a achosodd, neu a oedd yn debygol o achosi, achos o aflonyddu, braw neu drallod i unrhyw berson ac y bydd gwneud y gorchymyn yn helpu i atal y troseddwr rhag ymddwyn yn y fath fodd. Mae’r gorchymyn yn anelu at fynd i’r afael â’r troseddwyr mwyaf difrifol a rheolaidd pan fydd eu hymddygiad wedi eu dwyn ger bron llys troseddol.

Dim ond yn dilyn cais gan yr erlyniad y gall y llys wneud CBO. Gall yr erlyniad wneud cais o’r fath naill ai’n dilyn penderfyniad ganddo’i hun neu’n dilyn cais gan gyngor neu’r heddlu. Bydd gwrandawiad y CBO yn digwydd ar ôl y gwrandawiad dedfrydu ar gyfer yr euogfarn droseddol, neu ar yr un pryd â’r gwrandawiad hwnnw.

Gellir defnyddio’r CBO i ymdrin ag amrywiaeth eang o fathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ôl i unigolyn gael ei euogfarnu am drosedd; er enghraifft, bygwth eraill yn y gymuned, bod yn feddw ac yn ymosodol yn rheolaidd yn gyhoeddus, neu er mwyn ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig ag euogfarn fwy difrifol, ar gyfer bwrgleriaeth neu ladrad ar y stryd, er enghraifft. Gellir defnyddio’r CBO i ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan aelodau o gangiau, er enghraifft i’w hatal rhag ymwneud ag unigolion penodol neu i’w gwneud yn ofynnol iddynt fynychu cwrs parodrwydd i weithio i’w helpu i ddod o hyd i swydd.

Rhaid i delerau’r CBO gynnwys hyd y gorchymyn. Ar gyfer oedolion, isafswm o ddwy flynedd hyd at gyfnod amhenodol. Ar gyfer unigolion o dan 18 oed, rhaid i’r gorchymyn fod am gyfnod o rhwng blwyddyn a thair blynedd.

Mae’n drosedd i droseddwr fethu â chydymffurfio naill ai â gofynion neu waharddiadau’r CBO heb esgus rhesymol. Dylid rhoi gwybod i’r heddlu am achos o fethu â chydymffurfio â gwaharddiad neu ofyniad. Mae gan y llys y pŵer i orfodi cosbau difrifol pan gaiff unigolyn ei euogfarnu, gan gynnwys: yn dilyn euogfarn ddiannod yn y llys ynadon: uchafswm o chwe mis o garchar neu ddirwy neu’r ddau; yn dilyn euogfarn ar dditiad yn Llys y Goron: uchafswm o bum mlynedd o garchar neu ddirwy neu’r ddau.

I gael rhagor o wybodaeth am Orchmynion Ymddygiad Troseddol, gweler: Pwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol: Canllawiau statudol ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen