Cais am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer gwiriad hunaniaeth ar gyfer person sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA)
Cyflwyno cais am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer PRhA i gwrdd â gofynion gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau os ydych wedi derbyn 2 estyniad eisoes.
Dogfennau
Manylion
Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon os ydych eisoes wedi cael 2 estyniad gan ddefnyddio’r gwasanaeth Darparu manylion gwiriad hunaniaeth ar gyfer person sydd â rheolaeth arwyddocaol (PRhA).
Os oes angen i chi ofyn am estyniad ychwanegol, defnyddiwch y ffurflen hon i gyflwyno’ch cais cyn i’ch dyddiad cau’r gwiriad cyfredol y PRhA fynd heibio. Bydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth ategol.
Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, bydd arholwr yn ystyried y wybodaeth a’r dystiolaeth rydych chi’n eu darparu.
Os derbynnir eich cais, bydd eich dyddiad cau yn cael estyniad o 14 diwrnod. Rhaid i chi gydymffurfio â gofynion gwiriad hunaniaeth erbyn eich dyddiad cau newydd. Os gwrthodir y cais, rhaid i chi gydymffurfio â’ch dyddiad cau presennol.
Os nad ydych yn cydymffurfio ar amser, byddwch yn torri’r gyfraith a byddwn yn anfon llythyr diofyn atoch yn nodi’r troseddau sy’n ymwneud â gwiriad hunaniaeth.
Updates to this page
-
Guidance added to clarify that you should only use this form if you have already been given 2 extensions using the 'Provide identity verification details for a person with significant control' service.
-
Added Welsh translation.
-
Corrected length of PSC identity verification due date extension from 14 days to up to 14 days.
-
First published.