ABPR07 Cyfleuster prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid: cais am gymeradwyaeth
Ffurflen i wneud cais am gymeradwyaeth i brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn eich cyfleuster prosesu.
Dogfennau
Manylion
Mae’r ffurflen hon yn rhan o’r canllaw ar ddilysu eich cyfleuster prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Rhaid i chi gwblhau’r ffurflen hon i wneud cais am gymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Ar ôl i chi wneud cais am gymeradwyaeth, gallwch ddechrau’r broses ddilysu, lle bydd angen i chi ddangos i APHA y gallwch drin sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn effeithiol.
Mae prosesu yn cynnwys trin sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn ‘cwcer’ ar dymheredd uchel, weithiau dan wasgedd, i gael gwared â dŵr a gwahanu braster anifeiliaid (gwêr) oddi wrth y deunydd.
Dylai cwsmeriaid yn Lloegr ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i APHA Customer Service Centre Worcester.
Dylai cwsmeriaid yng Nghymru ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i swyddfa APHA yng Nghaernarfon.
Dylai cwsmeriaid yn yr Alban ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i’w Swyddfa Gwasanaeth Maes APHA leol