Nodweddion mewnol ar gyfer carafannau modur
Diweddarwyd 21 Hydref 2019
Er mwyn i gerbyd gael ei gydnabod fel un sydd wedi’i drosi yn garafán modur, rhaid iddo fodloni pob un o’r 4 categori a ddangosir isod. Er mwyn i DVLA newid y math corff, rhaid i’r cerbyd gael y nodweddion parhaol allanol a ddisgrifir yng nghanllawiau DVLA ar gyfer trosi cerbyd yn garafán modur.
Categori 1: Seddi a bwrdd (1 enghraifft ar gyfer y ddau)
Rhaid i’r seddi a’r bwrdd gael y nodweddion canlynol:
-
rhaid iddynt fod yn rhan annatod o ardal llety byw’r cerbyd, ac wedi’u gosod yn annibynnol ar eitemau eraill
-
rhaid gosod y trefniant ar gyfer gosod y bwrdd yn barhaol, er y gellir tynnu pen y bwrdd
-
rhaid i seddi sydd wedi’u sicrhau’n barhaol fod wedi’u gosod i’r llawr neu i’r wal ochr, a bod ar gael i’w defnyddio wrth y bwrdd
Categori 2: Llety cysgu
O ran y llety cysgu:
-
rhaid iddo fod yn rhan annatod o ardal llety byw y cerbyd
-
gall fod yn welyau, neu’n welyau a ffurfiwyd drwy drosi seddi
-
rhaid iddo fod wedi’i sicrhau fel nodwedd barhaol, naill ai i strwythur sylfaen llawr y cerbyd neu i’r wal ochr, oni bai bod y llety cysgu wedi’i ddarparu uwchben caban y gyrrwr
Categori 3: Cyfleusterau coginio
Rhaid i’ch trosiad gynnwys o leiaf gyfleuster coginio ag un cylch neu ficrodon, a rhaid iddo gael ei osod yn uniongyrchol ar lawr neu wal ochr y cerbyd fel nodwedd barhaol.
Os yw’r cyfleuster coginio’n cael ei danio gan gyflenwad nwy ar y cerbyd:
- rhaid gosod y cynhwysydd tanwydd yn ddiogel mewn cwpwrdd storio, neu rhaid gosod y cynhwysydd yn ddiogel wrth strwythur y cerbyd
Os yw’r cyfleuster coginio’n cael ei danio gan nwy o gyflenwad tanwydd o bell:
- rhaid gosod y bibell gyflenwi tanwydd yn barhaol wrth strwythur y cerbyd
Categori 4: Cyfleusterau storio
O ran y cyfleusterau storio:
-
gallant fod yn gwpwrdd neu gwpwrdd clo
-
rhaid iddynt ffurfio rhan annatod o lety byw’r cerbyd, wedi’u gosod yn annibynnol ar eitemau eraill, oni bai eu bod wedi’i ymgorffori o dan y sedd, y llety cysgu neu’r popty
-
rhaid iddynt gael eu gosod yn barhaol ar lawr neu wal ochr y cerbyd, ac eithrio pan fo’r cyfleuster storio uwchben caban y gyrrwr
Gwybodaeth gyfreithiol
Mae’r canllawiau hyn yn dod o dan y telerau ac amodau sy’n berthnasol i holl gynnwys GOV.UK.