Canllawiau

Nodyn ymarfer y Gwarcheidwad Cyhoeddus (PN7): Gwneud rhoddion (fersiwn y we)

Diweddarwyd 18 January 2018

Applies to England and Wales

Crynodeb

Mae’r nodyn ymarfer hwn yn rhoi canllaw manwl ar sut y dylai dirprwyon ac atwrneiod fynd ati i wneud rhodd ar ran y person maent yn gweithredu drosto (y cyfeirir ato’n aml yn y nodyn ymarfer hwn fel ‘y person’).

Mae’r nodyn hwn yn esbonio’r fframwaith cyfreithiol ynghlwm wrth roi rhodd a’r dull y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ei ddilyn pan fo dirprwyon neu atwrneiod yn mynd y tu hwnt i’w hawdurdod i wneud rhodd.

Cwmpas y nodyn ymarfer hwn

Mae’r nodyn ymarfer hwn yn berthnasol i bob atwrnai a benodir o dan atwrneiaeth arhosol (LPA) ar gyfer eiddo a materion neu o dan atwrneiaeth barhaus (EPA). Mae hefyd yn berthnasol i ddirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod i reoli eiddo a materion rhywun nad oes ganddo alluedd i wneud penderfyniadau.

Egwyddorion gwneud rhoddion

Mae penderfynu a ddylid gwneud rhodd yn rhan bwysig o fod yn ddirprwy neu’n atwrnai. Gall rhoddion helpu i gadw cydberthynasau gyda theulu a ffrindiau’r person yr ydych chi’n helpu i ofalu am ei gyllid.

Fodd bynnag, mae angen i ddirprwyon ac atwrneiod fod yn ymwybodol o’r rheolau llym ynghylch gwneud rhodd. Fel dirprwy neu atwrnai, mae gennych chi bwerau cyfyngedig i wneud rhoddion ar ran y person ac efallai y bydd angen i chi geisio awdurdod y Llys Gwarchod pan fyddwch yn eu gwneud.

Mae gan atwrneiod sy’n gweithredu o dan LPA a dirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod ddyletswyddau eithaf tebyg wrth wneud penderfyniadau am wneud rhoddion, naill ai o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (‘y ddeddf’) neu eu gorchymyn dirprwyaeth, neu’r ddau. Mae gan atwrneiod sy’n gweithredu o dan EPA ddyletswyddau tebyg ond nid union yr un fath.

Cyn gwneud rhodd, mae’n rhaid i chi ystyried pa un a yw’r person:

  • yn meddu ar y galluedd meddyliol i ddeall y penderfyniad i wneud rhodd
  • yn gallu cymryd rhan yn y penderfyniad

Nid oes yr un dull unigol o wneud rhoddion sy’n berthnasol i bob dirprwy ac atwrnai. Mae’n rhaid i atwrneiod a dirprwyon wneud bob penderfyniad gan ystyried ei gyd-destun a’i amseriad ei hun. Fel sy’n wir gyda phob penderfyniad a wneir gan ddirprwy neu atwrnai, y prif brawf yw pa un a yw er lles y person ai peidio.

Mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i chi weithredu er lles y person. Rydych chi’n rhoi sylw i les y person ym mhob achos, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol. Yn benodol, mae’n rhaid i chi ddilyn y camau sydd wedi’u hamlinellu yn adran 4 y ddeddf

Mae’n rhaid i atwrneiod ddilyn telerau (cyfarwyddiadau) yr EPA neu’r LPA penodol y maent yn gweithredu oddi tano.

Beth y mae rhodd yn ei olygu yn y gyfraith?

Ar gyfer dirprwy neu atwrnai, rhodd yw pan fyddwch yn symud arian, eiddo neu feddiannau o fod ym mherchnogaeth y person yr ydych yn rheoli ei faterion i fod yn eich perchnogaeth chi eich hun neu ym mherchnogaeth pobl eraill, heb daliad llawn yn gyfnewid.

Gall rhodd gynnwys:

  • gwneud benthyciad di-log o gronfeydd y person, gan fod y llog a hepgorir yn cyfrif fel rhodd
  • creu ymddiriedolaeth o eiddo’r person
  • gwerthu eiddo am lai na’i werth
  • newid ewyllys rhywun sydd wedi marw gan ddefnyddio gweithred amrywio i ailgyfeirio neu ailddosbarthu cyfran y person yn yr ystâd (sy’n golygu eiddo ac arian rhywun)

Mae angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod cyn ichi fwrw ymlaen ag unrhyw un o’r camau hyn. Mae gan y Llys Gwarchod y pŵer i naill ai gymeradwyo neu wrthod eich cais.

Os nad yw’r llys wedi awdurdodi taliadau o ystâd y person am ofal y mae rhywun yn ei roi iddo, gellir cyfrif y taliadau hynny fel rhodd hefyd.

Galluedd i wneud rhodd

Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch gwneud rhodd, mae’n rhaid i chi geisio canfod a oes gan y person y galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad ei hun. Os oes gan y person y galluedd i wneud rhodd, yna fel arfer dylai wneud y rhodd ei hun, yn hytrach na dweud wrthych chi i’w wneud ar ei ran.

Mae hyn oherwydd:

  • fel dirprwy, caiff eich awdurdod ei gyfyngu i wneud penderfyniadau nad oes gan y person y galluedd i’w gwneud
  • fel atwrnai, caiff eich awdurdod i wneud rhodd ei gyfyngu gan gyfyngiadau cyfreithiol, hyd yn oed os yw’n ymddangos bod gan y person y galluedd a’i fod wedi eich cyfarwyddo chi i wneud rhodd ar ei ran

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi sut i asesu galluedd, sy’n broses ag iddi sawl cam. I fod â’r galluedd i wneud penderfyniad, mae adran 3 y ddeddf yn nodi angen i’r person allu:

  • deall y wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad
  • cadw’r wybodaeth honno (ei chadw yn ei gof)
  • pwyso a mesur y wybodaeth honno a’i defnyddio
  • cyfathrebu ei benderfyniad

Mae gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn a allai ddigwydd pa un a ydynt yn gwneud y penderfyniad ai peidio.

Gallai barn feddygol am alluedd y person fod yn ddefnyddiol pan ydych chi neu eraill yn ansicr.

Gallwch ddod o hyd i ragor o ganllawiau ar asesu galluedd ym mhennod 4 Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol

Os ystyriwch fod gan y person alluedd i wneud penderfyniad ynghylch gwneud rhodd, dylech gadw cofnod o’r camau a gymerwyd gennych i wneud yn siŵr ei fod wedi gwneud hynny. Gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus ofyn i chi esbonio eich penderfyniad, neu gallai eraill eich herio yn ddiweddarach.

Hyd yn oed os oes gan y person y galluedd iwneud rhodd, mae dal rhaid i chi fod yn ofalus pan fo’n mynegi awydd i wneud hynny. Os yw’r rhodd dan sylw yn un sylweddol, efallai y bydd angen i chi geisio cyngor neu drefnu asesiad galluedd meddyliol, neu’r ddau.

Cynnwys y person yn y penderfyniad

Mewn achosion lle nad oes gan y person y galluoedd i benderfynu ynghylch gwneud rhodd, mae’n rhaid i chi naill ai ymgynghori ag ef neu ei annog i gymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau – neu’r ddau – fel ffordd o ddeall ei ddymuniadau neu ei deimladau am y rhodd.

Hyd yn oed os nad oes gan y person y galluedd i wneud y penderfyniad, gall fod ganddo farn ynghylch y penderfyniad a’i fod yn ffafrio un dewis yn hytrach nag un arall. Gall cynnwys y person helpu i ganfod beth sydd orau iddo.

Fodd bynnag, gall fod yn rhesymol rhoi llai o ystyriaeth i ddymuniadau a theimladau’r person os nad ydyw er ei fudd ef i wneud hynny. Mae’n llwyr ddibynnu ar y penderfyniad dan sylw.

Mae Cod Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn nodi mewn mwy o fanylder ym mharagraffau 5.23-5.24 sut i gynnwys rhywun nad oes ganddo’r galluedd, yn y broses o wneud penderfyniadau.

Derbyn rhodd eich hun

Byddwch yn arbennig o ofalus os ydych yn ystyried derbyn rhodd i chi eich hun o ystâd y person. Ni chewch fanteisio ar eich swydd fel dirprwy neu atwrnai er budd eich hun.

Os byddwch yn derbyn rhodd i chi eich hun, gall y Llys Gwarchod ystyried yn ofalus pa un a oedd gan y person alluedd a gall benderfynu eich bod wedi mynd y tu hwnt i’ch awdurdod.

Yn achos PG v DH [2014] EWCOP 15 (15 Gorffennaf 2014), penderfynodd yr Uwch Farnwr Lush fod y ffeithiau’n dangos nad oedd gan ‘roddwr’ atwrneiaeth (term cyfreithiol am y person a’i rhoddodd alluedd i gytuno i fenthyciad a gymerwyd gan ei mab ar ei heiddo. Yn yr achos hwn, cafodd benthyciad y rhoddwr ei gyfrif fel rhodd i’w mab.

Nododd yr Uwch Farnwr Lush:

… hyd yn oed pe byddai gan VH y galluedd i wneud y rhodd, nid oedd yn briodol ei fod [yr atwrnai] wedi’i derbyn… ac mae’n dangos, wrth iddo wynebu gwrthdaro rhwng ei fuddiannau ef a rhai ei fam, y byddai’n blaenoriaethu ei fuddiannau ef.

Y rheolau cyffredinol am wneud rhoddion

Mae’r rheol gyffredinol ar gyfer dirprwyon ac atwrneiod ynghylch gwneud rhodd yn syml: ar wahân i ambell eithriad, noda’r gyfraith na chewch wneud rhoddion gan ddefnyddio ystâd y person.

I atwrneiod sy’n gweithredu o dan LPA eiddo cofrestredig a materion ariannol, nodir yr eithriadau hyn yn adran 12(2) y ddeddf. I gyfrif fel eithriad, mae’n rhaid i’r rhodd fodloni bob un o’r tri phwynt isod. Mae’n rhaid:

  1. gwneud rhodd ar achlysur arferol ar gyfer gwneud rhoddion o fewn teuluoedd neu ymhlith ffrindiau a chydnabod (er enghraifft, genedigaethau, penblwyddi, priodasau neu bartneriaethau sifil, y Nadolig, Eid, Diwali, Hanukkah a’r flwyddyn newydd Tsieineaidd)
  2. i rywun sy’n perthyn i’r person neu sy’n gysylltiedig ag ef neu (os nad yw’n berson) i elusen a gefnogwyd gan y person neu y gallai’r person fod wedi’i chefnogi
  3. o werth rhesymol, gan gymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau ym mhob achos ac, yn benodol, maint ystâd y person

I atwrneiod yn gweithredu o dan EPA, nodir yr eithriadau ym mharagraff 3(3) atodlen 4 y ddeddf. Maent yn debyg i’r eithriadau ar gyfer LPA ond maent ychydig yn fwy cyfyng o ran yr hyn y maent yn ei ganiatáu. Ar gyfer atwrneiod EPA, mae’n rhaid bod rhodd dderbyniol yn bodloni bob un o’r tri phwynt isod. Mae’n rhaid:

  1. o natur dymhorol (er enghraifft, anrheg Nadolig) neu’n rhodd a wneir ar benblwydd genedigaeth, pen-blwydd priodas neu ben-blwydd partneriaeth sifil
  2. i rywun (gan gynnwys yr atwrnai) sy’n perthyn i’r person neu’n gysylltiedig ag ef neu i elusen a gefnogwyd gan y person neu y gallai’r person fod wedi’i chefnogi
  3. o werth nad yw’n afresymol, gan ystyried yr holl amgylchiadau ac, yn benodol, maint ystâd y person

Mae’r cyfyngiadau ar roddion hefyd yn berthnasol i roddion a wneir gan atwrneiod yn gweithredu o dan EPA heb ei gofrestru, os oes gan y person alluedd o hyd i wneud penderfyniadau a’i fod wedi cytuno i’r atwrnai ddefnyddio’r EPA. Byddwch yn torri eich awdurdod pe byddech chi’n gweithredu yn erbyn dymuniadau rhoddwr sydd â galluedd meddyliol.

Mae’n rhaid i atwrneiod hefyd ddilyn unrhyw gyfyngiadau neu amodau a nodir yn yr EPA neu’r LPA ynghylch rhoddion. Noder y gall rhoddwr EPA neu LPA ond cyfyngu’r pwerau a roddir i atwrneiod – ni all y rhoddwr ehangu’r pwerau hynny.

Os yw atwrnai eisiau gwneud rhodd sydd y tu allan i’r cyfyngiadau yn y gyfraith neu yn y EPA na’r LPA, mae’n rhaid iddo wneud cais i’r Llys Gwarchod i’w gymeradwyo.

Ar gyfer dirprwyon a benodir gan y llys, caiff y pŵer i wneud rhoddion ei nodi yn eu gorchymyn dirprwyaeth. Mae hyn fel arfer yn debyg i awdurdod statudol (cyfreithiol) atwrnai.

Fel dirprwy neu atwrnai, nid oes raid i chi wneud unrhyw roddion ac mae’n rhaid i chi beidio â gadael i eraill roi pwysau arnoch i’w gwneud.

Beth yw rhodd resymol?

Nid yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn diffinio beth sy’n rhodd ‘resymol’ nac yn rhodd ‘afresymol’ wrth asesu pa un a yw rhodd arfaethedig o fewn awdurdod atwrnai i’w gwneud. Disgwylir i chi benderfynu faint sy’n rhesymol. Ni all Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus roi canllawiau na ffigurau union.

I bennu pa un a yw rhodd yn rhesymol ai peidio, mae’n rhaid i chi ystyried:

  1. Effaith y rhodd ar sefyllfa ariannol y person. Nid yn unig y mae’n rhaid i chi ystyried ei incwm, ei asedau, ei gyfalaf a’i arbedion presennol ac yn y dyfodol, ond mae’n rhaid i chi hefyd ystyried ei anghenion presennol ac yn y dyfodol. Ystyriwch pa un a yw ei incwm yn cwmpasu ei wariant arferol ac a fydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol – a pha un a fyddai’r rhodd yn effeithio ar hynny.
  2. Pa un a fyddai gwneud rhodd er lles y person.

Nid yw penderfyniad er lles yr un fath â gofyn beth fyddai’n person yn ei benderfynu pe byddai ganddo’r galluedd. Mae’n rhaid i chi ystyried:

  • pa un a oedd y person yn arfer gwneud rhoddion neu roi benthyciadau o faint penodol cyn iddo golli galluedd
  • disgwyliad oes y person
  • y posibilrwydd y bydd yn rhaid i’r person dalu am gostau gofal neu ffioedd cartref gofal yn y dyfodol (er enghraifft, pa un a adolygir ei hawl i gael cyllid gofal parhaus y GIG ac a ellid dileu’r hawl os yw eu cyflwr yn debygol o wella)
  • swm y rhodd – dylai fod yn fforddiadwy ac yn ddim mwy nag a fyddai’n normal ar achlysur arferol neu ar gyfer rhodd elusennol
  • y graddfa y gallai unrhyw roddion ymyrryd ag etifeddiaeth ystâd y person o dan ei (h)ewyllys, neu heb ewyllys os oes rhaid creu un
  • effaith treth etifeddiant ar farwolaeth y person

Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn – gallai fod pethau eraill i’w hystyried sy’n berthnasol i amgylchiadau’r person.

Rhoddion sy’n eiddo

Mae unrhyw eiddo gwirioneddol a roddir neu a drosglwyddir (er enghraifft, tir neu dŷ) – naill ai yr eiddo i gyd neu ran a rennir – bron yn sicr y tu allan i’ch pwerau chi fel dirprwy neu atwrnai, er gwaethaf yr hyn a allai’r person fod wedi’i ddweud pan oedd ganddo alluedd meddyliol. I wneud rhodd o’r fath, mae’n debygol y bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod am ganiatâd.

Efallai y byddwch yn dewis rhoi eiddo neu ddodrefn o werth sentimental yn rhodd i aelodau’r teulu – er enghraifft, wrth gael gwared ar gynnwys tŷ’r person.

Ni ddylech roi eitemau drudfawr, oni bai y cewch eich awdurdodi gan y Llys Gwarchod i wneud hynny.

I bwy mae’r rhoddion?

Wrth benderfynu a yw’r rhoddion yn rhesymol, dylech hefyd ystyried pa un a:

  • ydych chi’n trin aelodau’r teulu’n gyfartal – os nad ydych, a oes rheswm da?
  • ydych chi’n manteisio ar eich safle drwy wneud rhoddion i chi eich hun neu i’ch teulu yn unig ac yn peidio ag ystyried gwneud rhoddion i eraill
  • yw rhodd arfaethedig ar gyfer rhywun nad yw’n berthynas i’r person nac â chysylltiad agos ato – os nad ydyw, gall y rhodd fod y tu hwnt i’ch awdurdod
  • wnaeth y person roddion i rywun cyn iddo golli galluedd, ac felly a fyddai’n rhesymol gwneud rhodd iddynt nawr?

Ewyllys y person

Gallwch ystyried cynnwys ewyllys y person wrth ddod i benderfyniadau ynghylch gwneud rhoddion, gan ei fod yn arwydd o ddymuniadau’r person. Ym marn yr Uwch Farnwr Lush ar ‘Parthed y diweddar Joan Treadwell [2013] COPLR 587’, gwnaeth sylw ar baragraff 88:

Yng nghyd-destun eiddo a materion ariannol rhywun, ni allaf feddwl am unrhyw ddatganiad ysgrifenedig sy’n fwy perthnasol neu sy’n bwysicach nag ewyllys.

Fodd bynnag, nid yw ystyried yr ewyllys yn golygu y gallwch roi asedau person yn rhoddion yn y modd y noda’r ewyllys yn ystod ei oes.

Gwneud cais i’r Llys Gwarchod

Os ydych chi eisiau gwneud rhodd nad oes gennych chi’r awdurdod i’w gwneud dan eich gorchymyn dirprwyaeth neu eich atwrneiaeth, bydd angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod. Ni chaiff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gymeradwyo rhodd na benthyciad – dim ond y llys gaiff wneud hynny.

Fodd bynnag, mae’r Llys Gwarchod wedi cydnabod bod eithriadau i’r rheol hon. Yr eithriadau hynny yw pryd y byddech chi’n mynd y tu hwnt i’ch awdurdod i wneud rhodd mewn ffordd mor fach fel nad yw’n cyfiawnhau cais llys – cyn belled â bod ystâd y person werth mwy na £325,000. Gelwir yr eithriadau hyn yn aml yn ‘eithriadau de minimis’.

Yn achos MJ a JM a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus [2013] EWCOP 2966, dywedodd yr Uwch Farnwr Lush y gellir ystyried yr eithriadau fel cyflenwi’r eithriad Treth Etifeddiant flynyddol gwerth £3,000 a’r eithriad rhoddion bychain flynyddol gwerth £250 fesul person, hyd at uchafswm o 10 person er enghraifft, pan fo:

a) disgwyliad oes y person yn llai na 5 mlynedd b) ei ystâd werth mwy na’r band cyfradd sero at ddibenion Treth Etifeddiant (sef £325,000 ar hyn o bryd) c) y rhoddion yn fforddiadwy, gan ystyried costau gofal y person, ac ni fydd yn effeithio (yn negyddol) ar safon ei ofal nac ansawdd ei fywyd ch) dim tystiolaeth y byddai’r person yn gwrthwynebu gwneud rhoddion o’r gwerth hwn ar ei ran

Nid yw’r gallu i wneud rhodd ar ffurf symiau bach hyd at yr eithriad Treth Etifeddiant heb ganiatâd y llys yn golygu y gallwch gynllunio ar gyfer treth etifeddiant heb ganiatâd y llys.

Nac ychwaith y gallwch ddibynnu ar eithriadau cyfreithiol eraill y dreth etifeddiant i osgoi gwneud cais i’r llys am ganiatâd i wneud rhodd.

Yn achos Parthed PC: Y Gwarcheidwad Cyhoeddus v AC ac Anor [2014] EWCOP 41 (05 Tachwedd 2015), nododd yr Uwch Farnwr Lush y dylai atwrneiod sydd eisiau gwneud rhoddion mwy o faint at ddibenion cynllunio ar gyfer treth etifeddiant – megis sefydlu archebion sefydlog misol i’w hunain – wneud cais i’r Llys Gwarchod am orchymyn o dan adran 23(4) y ddeddf.

Nid yw’r eithriadau ‘de minimis’ ychwaith yn berthnasol dan amgylchiadau a nodir yn achos Y Gwarcheidwad Cyhoeddus v C [2013] EWCOP 2965 (22 Ionawr 2013). Mae’r rhain yn cynnwys:

  • lbenthyciadau i’r atwrnai neu i aelodau o’i deulu
  • buddsoddiadau ym musnes yr atwrnai ei hun
  • gwerthiannau neu bryniannau llai na’r gwerth
  • unrhyw drafodion eraill lle y mae gwrthdaro rhwng buddiannau’r person ei hun a buddiannau’r atwrnai ei hun

Yn yr achos hwn, dywedodd yr Uwch Farnwr Lush y dylai atwrneiod fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol ac nad oedd anwybodaeth yn esgus.

Er bod achos Y Gwarcheidwad Cyhoeddus v C yn cynnwys dyfarniad a roddwyd drwy atwrneiaeth arhosol, cymhwysodd yr uwch farnwr yr un egwyddorion a gymhwyswyd yn achos MJ a JM a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a oedd yn cynnwys dirprwyon.

Ni chaiff y Llys Gwarchod roi cyngor answyddogol ar ba un a all dirprwy neu atwrnai wneud rhodd ai peidio. Mae’n rhaid i chi gyflwyno cais ffurfiol i’r llys bob amser.

Lawrlwythwch ffurflenni cais i’r llys.Neu gallwch ffonio’r llys ar 0300 456 4600.

Mae’r Llys Gwarchod yn cyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer sy’n ychwanegu at Reolau’r Llys Gwarchod 2017.

Mae’r rheolau’n nodi’r hyn y gall y llys ei wneud.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 9A yn esbonio’r broses o wneud cais i’r llys er mwyn gwneud rhodd.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 9D yn nodi gweithdrefn fer ar gyfer ceisiadau arferol a syml gan ddirprwyon ac atwrneiod presennol. Mae hefyd yn rhestru’r sefyllfaoedd lle y byddai’r weithdrefn fer hon yn briodol.

Yn y rhan fwyaf o geisiadau am awdurdod i wneud rhoddion, bydd y person yr ydych yn rheoli ei arian yn cael ei ychwanegu fel parti (wedi’i gynnwys yn swyddogol yn yr achos). Caiff y Cyfreithiwr Swyddogol (rhywun sy’n cynrychioli pobl nad oes ganddynt alluedd meddyliol) ei benodi i weithredu fel ‘cyfaill cyfreitha’ y person er mwyn gwneud penderfyniadau am y cais ar ei gyfer.

Bydd y Cyfreithiwr Swyddogol yn ystyried y dystiolaeth ac yn cynnal ei ymchwiliadau ei hun i benderfynu a yw’r rhodd arfaethedig er lles y person. Gall ei ymchwiliad gynnwys trefnu i gwrdd â’r person i drafod ei farn am y rhodd.

Darparu ar gyfer anghenion pobl eraill

Gall y rhan fwyaf o orchmynion dirprwyaeth alluogi dirprwy i ofalu am ‘anghenion’ unrhyw un sy’n perthyn i’r person neu sy’n gysylltiedig ag ef. Yn yr un modd, mae paragraff 3(2) atodlen 4 y ddeddf yn caniatáu i atwrneiod EPA elwa eu hunain neu eraill i elwa os gallai’r person fod wedi darparu ar gyfer yr anghenion hynny ei hun.

Nid yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn nodi’n uniongyrchol y gall atwrnai LPA elwa ei hun neu y gall pobl eraill elwa drwy ddarparu ar gyfer ei anghenion. Fodd bynnag, mae’r Llys Gwarchod wedi cadarnhau y gall atwrnai LPA mewn rhai achosion ddarparu ar gyfer anghenion aelodau’r teulu os yw’n gyfreithiol ofynnol i’r person eu cynnal – er enghraifft, yn achos gŵr neu wraig, partner sifil neu blentyn dibynnol y person. Gall hyn gynnwys yr atwrnai ei hun, os yw’n ddibynnol.

Yn achos Ceisiadau Gwahanu Y Gwarcheidwad Cyhoeddus (Diwygiedg1) [2016] EWHC COP 10 (19 Mehefin 2017), ystyriodd y Barnwr Rhanbarth y gwahaniaeth rhwng rhodd a thaliad i fodloni anghenion person. Daeth i’r casgliad yn achos PG (a adroddwyd ym mharagraffau 126-154) y gallai rhoddwr LPA ei gwneud hi’n ofynnol yn gyfreithiol i’w hatwrnai fodloni anghenion ei merch anabl o’i hystâd heb geisio awdurdod gan y llys, gan fod hyn yn bodloni angen yn hytrach na gwneud rhoddion.

Fodd bynnag, cynghorodd y barnwr (ym mharagraff 152g):

Er mwyn peidio â chaniatáu unrhyw amheuaeth o gwbl, efallai y bydd rhoddwr gochelgar yn dymuno gwneud y mater yn gwbl glir drwy gynnwys amod neu ddatganiad yn ei LPA am ddarpariaeth yn y dyfodol ar gyfer anghenion personau penodedig [gofalu amdanynt yn y dyfodol].

Efallai y byddwch fel arfer yn dibynnu ar y ddarpariaeth hon dim ond os yw un o’r pwyntiau hyn yn berthnasol:

  • mae’r person wedi darparu ar gyfer yr anghenion hynny yn y gorffennol
  • mae’n rhesymol dod i’r casgliad y byddai’r person wedi darparu ar gyfer yr anghenion hynny

Ni ddiffinnir ‘anghenion’ yn y ddeddf ond fe’u bwriedir yn gyffredinol i gwmpasu:

  • sefyllfaoedd megis cynnal gwŷr neu wragedd priod neu berthnasau dibynnol
  • oamgylchiadau eraill lle y mae tystiolaeth fod y person wedi sicrhau darpariaeth ariannol ar gyfer eraill am resymau penodol yn y gorffennol ac y byddent yn debygol o wneud hynny eto yn y dyfodol

Dylech wneud cais i’r llys os oes unrhyw amheuaeth a allwch chi ddibynnu ar y ddarpariaeth hon i wneud taliadau i rywun sy’n ariannol ddibynnol ar y person.

Beth sy’n digwydd os byddwch yn gwneud rhoddion anawdurdodedig?

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ofyn am eglurhad ac ymchwilio i unrhyw roddion neu drafodion ariannol yr ydych chi’n eu gwneud ar gyfer y person fel dirprwy neu atwrnai.

Dylech sicrhau eich bod chi’n cadw arian ac eiddo’r person ar wahân i’ch rhai chi neu rai unrhyw un arall, oni bai bod gennych gyfrifon ar y cyd ers amser hir. Cadwch gofnod o’r trafodion a wnewch ar ei ran, yn enwedig os ydych yn byw gyda nhw ac yn rhannu unrhyw gostau neu filiau.

Dylech gadw cofnod o roddion a’r sefyllfaoedd yr ydych yn eu gwneud, fel y gallwch egluro’r rhoddion os bydd angen. Dylai dirprwyon gynnwys manylion am roddion yn eu hadroddiad blynyddol a gyflwynir ganddynt i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Mae Adran 58(a)(h) y ddeddf a Rheoliad 41 Rheoliadau LPA, EPA a Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007 yn rhoi pŵer i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymchwilio i gwynion a phryderon am y ffordd y mae dirprwy neu atwrnai yn cyflawni eu dyletswyddau. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei gwneud hi’n ofynnol i ddirprwy neu atwrnai roi gwybodaeth a dogfennau.

Os ydych yn gwneud rhoddion sy’n mynd y tu hwnt i’ch awdurdod heb gael cymeradwyaeth gan y Llys Gwarchod ymlaen llaw, gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus:

  • wneud cais i’r llys i’ch diswyddo o’ch rôl fel dirprwy neu atwrnai (ac, os yw’n briodol, gofyn i’r llys benodi dirprwy newydd)
  • gwneud cais i’r llys i’ch atal dros dro rhag cyflawni eich rôl fel dirprwy neu atwrnai a rhewi cyfrifon y person i’w amddiffyn
  • gwneud cais i’r llys i alw bond diogelwch dirprwy (math o yswiriant) i mewn – byddai darparwr y bond wedyn yn ceisio ad-daliad gennych chi’n bersonol
  • eich cyfarwyddo i wneud cais i’r llys am gymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer y rhodd (cymeradwyaeth ar ôl i chi ei rhoi) – mae hyn fel arfer dim ond dan amgylchiadau lle y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried y byddai gan gais o’r fath siawns resymol o lwyddo
  • gofyn i chi ddychwelyd y rhoddion neu geisio dychwelyd y rhoddion a wnaed i eraill
  • cyfeirio’r mater at yr heddlu neu sefydliadau eraill â phwerau cyfreithiol

Gall y llys drefnu gwrandawiad o flaen barnwr, lle y bydd disgwyl i chi egluro eich gweithredoedd. Gellir adrodd y dyfarniad ac, mewn rhai achosion, efallai na fyddwch yn anhysbys mwyach (sy’n golygu y gallwch gael eich enwi’n gyhoeddus).

Gellir awdurdodi dirprwy neu atwrnai newydd i gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn i adennill yr arian a wariwyd gennych ar roddion neu’r rhoddion eu hunain.

Amddifadu asedau

Os yw eich awdurdod lleol yn trefnu i’r person fynd i gartref gofal yn barhaol, bydd yn asesu ei incwm, ei gynilion a’i gyfalaf (mathau eraill o gyfoeth, megis eiddo a chyfrannau) i weld a ddylai gyfrannu tuag at gost ei ofal.

Nid yw trosglwyddo ased o enw’r person o reidrwydd yn ei ddileu o’r asesiad hwn. Wrth asesu pa un a yw preswylydd yn gymwys i gael cymorth, gall yr awdurdod lleol chwilio am dystiolaeth o’r hyn a elwir yn amddifadu bwriadol o gyfalaf ac asedau.

Yn achos Yule v Cyngor De Swydd Lanark [2001 SC 203; 2001 SCLR 26], trosglwyddodd mam yr ymgeisydd ei thŷ, ei hunig ased cyfalaf (sy’n golygu eitem sylweddol o eiddo), i’w hwyres heb daliad. Yn dilyn damwain 16 mis yn ddiweddarach, aeth hi i gartref nyrsio preswyl a gwneud cais am gyllid cyhoeddus ar gyfer y ffioedd llety, a wrthodwyd.

Dywedodd y llys fod yr awdurdod lleol yn iawn i ddod i’r casgliad, o’r wybodaeth a gafodd, fod cyfalaf wedi’i waredu’n fwriadol.

Mae’r egwyddorion uchod hefyd yn berthnasol pan fo rhywun yn defnyddio amddifadu asedau i hawlio budd-dalidau prawf modd.

Dirprwyon a bondiau diogelwch

Mae’r rhan fwyaf o orchmynion dirprwyaeth yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r dirprwy gael bond diogelwch. Mae’r bond yn fath o yswiriant sy’n amddiffyn ystâd y person yn erbyn camreoli ariannol gan y dirprwy.

Os byddwch yn gwneud rhoddion anawdurdodedig sy’n cynnwys arian ac eiddo, gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus – neu unrhyw un arall sydd â diddordeb perthnasol yn yr achos – wneud cais i’r Llys Gwarchod am orchymyn yn gorfodi’r bond er mwyn gwneud iawn am yr hyn yr ydych wedi’i wario.

Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn o’r fath, bydd y cwmni yswiriant yn ad-dalu’r person ond bydd yn ceisio cael arian yn ôl gennych chi’n bersonol fel y dirprwy neu’r cyn-ddirprwy. Gall y cwmni yswiriant gymryd camau pellach yn eich erbyn chi mewn llys sifil er mwyn cyflawni hyn.

TY gyfraith droseddol

Pan fo dirprwy neu atwrnai wedi gwneud rhoddion anawdurdodedig mawr, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried gofyn i’r heddlu ymchwilio.

Mae twyll drwy gamddefnyddio swydd yn drosedd o dan adran 4 Deddf Twyll 2006. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw un sy’n dal swydd lle y mae disgwyl iddynt ofalu am fuddiannau ariannol person arall ac nid gweithredu yn eu herbyn. Mae dirprwyon ac atwrneiod yn y swydd hon.

Mae’r ddeddf yn ei gwneud hi’n drosedd camddefnyddio’r swydd honno’n anonest, pan ydych yn bwriadu gwneud elw i chi eich hun neu i eraill, achosi colled i’r person neu wneud y person yn agored i risg o golled.

I gael cyngor pellach

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham
B2 2WH

E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn: 0300 456 0300
Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian.cy